- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Agraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
24 Hydref 2012
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 57(2) a 58(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Mai 2012 ar ei adolygiad o'r trefniadau etholiadol o fewn sir Ynys Môn, a'i gynigion ar gyfer eu newid(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym—
(a)at ddibenion trafodion sy'n rhagarweiniol i etholiad cynghorwyr neu sy'n ymwneud ag etholiad o'r fath, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn;
(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2013(4).
(3) Yn y Gorchymyn hwn mae i “diwrnod arferol ethol cynghorwyr” yr ystyr a roddir i “ordinary day of election for councillors” gan adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(5).
2.—(1) Mae adrannau etholiadol sir Ynys Môn wedi eu diddymu.
(2) Mae'r sir wedi ei rhannu'n un ar ddeg o adrannau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn enw a restrir yng ngholofn 1 y Tabl yn yr Atodlen ac mae pob un o'r adrannau etholiadol hynny wedi ei ffurfio o'r ardaloedd presennol a bennir mewn perthynas â'r adran etholiadol honno yng ngholofn 2 y Tabl.
(3) Y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r adran etholiadol honno yng ngholofn 3 y Tabl yn yr Atodlen.
3. Mae Gorchymyn Bwrdeistref Ynys Môn-Isle of Anglesey (Trefniadau Etholiadol) 1992(6) wedi ei ddirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2012
Erthygl 2
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) |
---|---|---|
Enw'r adran etholiadol | Ardal yr adran etholiadol | Nifer y cynghorwyr |
Aethwy | Cymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Porthaethwy a Phenmynydd | 3 |
Bro Aberffraw | Cymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr | 2 |
Bro Rhosyr | Cymunedau Llanidan, Llanfihangel Ysgeifiog, Llanddaniel-fab a Llangristiolus | 2 |
Caergybi | Yng Nghymuned Caergybi, wardiau'r Dref, Ffordd Llundain, Morawelon, Porthyfelin a Pharc a'r mynydd | 3 |
Canolbarth Môn | Cymunedau Bryngwran, Bodffordd, Llangefni a Threwalchmai; ac, yng Nghymuned Llanddyfnan, wardiau Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregaean | 3 |
Llifon | Cymunedau Llanfaelog, Llanfair-yn-neubwll a'r Fali | 2 |
Lligwy | Cymunedau Moelfre, Llaneugrad, Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth; ac, yng Nghymuned Llanddyfnan, ward Llanfihangel Tre'r-beirdd | 3 |
Seiriol | Cymunedau Biwmares, Cwm Cadnant, Llanddona a Llangoed | 3 |
Talybolion | Cymunedau Bodedern, Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachreth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw | 3 |
Twrcelyn | Cymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian a Rhos-y-bol | 3 |
Ynys Gybi | Cymunedau Trearddur a Rhoscolyn; ac yng Nghymuned Caergybi, wardiau Maeshyfryd a Kingsland | 3 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), a gyflwynodd adroddiad ym mis Mai 2012 (yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 58(3) o'r Ddeddf honno) ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ynys Môn. Roedd adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau maint Cyngor Sir Ynys Môn o 40 o gynghorwyr i 30 a gwneud newid i'r patrwm cyfredol o adrannau etholiadol sy'n cael eu cynrychioli gan aelod unigol i un lle y mae'r adrannau etholiadol yn rhai amlaelod.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
1972 p.70. Diwygiwyd adran 58 gan adran 40 o Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29); paragraff 11 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19); ac adran 168 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4).
Ym 1996 ac yn unol ag adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, newidiwyd enw'r sir o Sir Fôn i Sir Ynys Môn drwy benderfyniad y cyngor sir a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 74(6). Diddymwyd is-adran (6) gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2004 (p.14), Rhan 10 o Atodlen 1.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Gweler O.S 2012/686 (Cy.94) a oedd yn darparu y byddai etholiad cyffredin cynghorwyr i Gyngor Sir Ynys Môn yn cael ei gynnal yn 2013 yn lle 2012 ac y byddai etholiadau cyffredin dilynol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd ar ôl 2013.
1983 p.2. Diwygiwyd adran 37 gan adran 18(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), adran 17 o Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28).
O.S. 1992/2923. Daeth y Gorchymyn hwn i rym ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr ym 1995 a gwnaeth ddarpariaeth ar gyfer y trefniadau etholiadol ar gyfer y prif gyngor newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru)1994. Ym 1998 ni chynigiodd adroddiad y Comisiwn ar adolygu trefniadau etholiadol sir Ynys Môn unrhyw newidiadau i'r trefniadau etholiadol; ac ni wnaed unrhyw orchymyn o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gwnaethpwyd rhai newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol yn y sir gan O.S.2009/367(W.37).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: