- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
68.—(1) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni’r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion)(1).
(2) Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt.
(3) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o’r pwyllgor.
(4) Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion) mewn achos—
(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai’r disgybl hwnnw, o ganlyniad i’r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a
(b)pan fo’n ymddangos i’r cadeirydd na fyddai’n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o’r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o’r fath cyn y deuai’r amser i’r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.
Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, (O.S. 2003/3227 (Cy.308)) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 (O.S. 2004/1805 (Cy.193)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: