Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2014.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cnydau âr” (“arable crops”) yw ydau, hadau llin, had olew, gwreiddgnydau, cnydau ffrwythau neu gnydau protein, gan gynnwys pys dringo;

ystyr “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) yw dyfarnu parsel cyfeirio yn rhan o ranbarth talu gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 ac mae i “parsel cyfeirio” yr un ystyr a roddir i “reference parcel” yn Erthygl 2(25) o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(1);

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(2).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Rhanbarthau

3.—(1At ddibenion Erthygl 23 o Reoliad y Cyngor, mae tri rhanbarth talu yng Nghymru, sef—

(a)rhostir;

(b)yr ardal dan anfantais ddifrifol;

(c)pob tir arall.

(2At y dibenion hyn—

ystyr “rhostir” (“moorland”) yw unrhyw dir—

(a)

sydd wedi ei ddosbarthu gan Weinidogion Cymru fel rhostir ar Fap Rhostir Cymru 1992 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, a

(b)

y mae ganddo uchder o 400 o fetrau neu’n uwch, ac

(c)

y mae ganddo lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, neu sy’n cynnwys cerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, a ddefnyddir yn anad dim ar gyfer pori garw, a

(d)

nid oes ganddo fwy na 40% o’r rhywogaethau amaethyddol wedi eu gwella hynny a restrir yn yr Atodlen, ac

(e)

nid oes cnydau âr yn tyfu arno;

ystyr “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”) yw tir—

(a)

sydd yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu da byw yn llai dwys ond, heb fod yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu cnydau mewn niferoedd sydd yn sylweddol fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i fwydo’r cyfryw dda byw ag sy’n gallu cael eu cynnal ar dir o’r fath y mae ei gynhyrchiant amaethyddol wedi ei gyfyngu o ran ei ystod gan y pridd, y dirwedd, y wedd neu’r hinsawdd, neu gyfuniad ohonynt, a

(b)

sydd wedi ei nodi fel ardal dan anfantais ddifrifol ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “pob tir arall” (“all other land”) yw pob tir arall nad yw’n dod o fewn diffiniad o rostir neu ardal dan anfantais ddifrifol ac sydd wedi ei nodi felly ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(3) (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys i ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro fel pe bai’n ddyfarniad perthnasol.

Rebecca Evans

Y Diprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources