Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1835 (Cy. 189)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

Gwnaed

11 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym

4 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli’r cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Awst 2014.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cnydau âr” (“arable crops”) yw ydau, hadau llin, had olew, gwreiddgnydau, cnydau ffrwythau neu gnydau protein, gan gynnwys pys dringo;

ystyr “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) yw dyfarnu parsel cyfeirio yn rhan o ranbarth talu gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3 ac mae i “parsel cyfeirio” yr un ystyr a roddir i “reference parcel” yn Erthygl 2(25) o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(3);

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(4).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Rhanbarthau

3.—(1At ddibenion Erthygl 23 o Reoliad y Cyngor, mae tri rhanbarth talu yng Nghymru, sef—

(a)rhostir;

(b)yr ardal dan anfantais ddifrifol;

(c)pob tir arall.

(2At y dibenion hyn—

ystyr “rhostir” (“moorland”) yw unrhyw dir—

(a)

sydd wedi ei ddosbarthu gan Weinidogion Cymru fel rhostir ar Fap Rhostir Cymru 1992 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, a

(b)

y mae ganddo uchder o 400 o fetrau neu’n uwch, ac

(c)

y mae ganddo lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, neu sy’n cynnwys cerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn bennaf, a ddefnyddir yn anad dim ar gyfer pori garw, a

(d)

nid oes ganddo fwy na 40% o’r rhywogaethau amaethyddol wedi eu gwella hynny a restrir yn yr Atodlen, ac

(e)

nid oes cnydau âr yn tyfu arno;

ystyr “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”) yw tir—

(a)

sydd yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu da byw yn llai dwys ond, heb fod yn hanfodol addas ar gyfer cynhyrchu cnydau mewn niferoedd sydd yn sylweddol fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i fwydo’r cyfryw dda byw ag sy’n gallu cael eu cynnal ar dir o’r fath y mae ei gynhyrchiant amaethyddol wedi ei gyfyngu o ran ei ystod gan y pridd, y dirwedd, y wedd neu’r hinsawdd, neu gyfuniad ohonynt, a

(b)

sydd wedi ei nodi fel ardal dan anfantais ddifrifol ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “pob tir arall” (“all other land”) yw pob tir arall nad yw’n dod o fewn diffiniad o rostir neu ardal dan anfantais ddifrifol ac sydd wedi ei nodi felly ar Fap Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Cymru 2014 sydd wedi ei adneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(5) (darparu gweithdrefn apelio) yn gymwys i ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro fel pe bai’n ddyfarniad perthnasol.

Rebecca Evans

Y Diprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2014

Rheoliad 3(2)(d)

YR ATODLENRhywogaethau Amaethyddol Wedi eu Gwella

  • Rhygwellt Parhaol (Lolium perenne)

  • Rhygwellt yr Eidal (Lolium multiflorum)

  • Meillion Gwyn (Trifolium repens)

  • Meillion Coch (Trifolium pratense)

  • Rhonwellt (Phleum pratense)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 608), mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Maent yn gwneud trefniadau i Weinidogion Cymru hysbysu ffermwyr am ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro eu parseli caeau at ddibenion hawlio cymorth o dan y cynllun taliad sylfaenol.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod tri rhanbarth yng Nghymru at ddibenion y cynllun taliad sylfaenol ac mae’n darparu mecanwaith i ffermwyr apelio yn erbyn dyfarniad gan Weinidogion Cymru o ran dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau busnes, mewn perthynas â busnesau fferm yng Nghymru, wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(3)

OJ Rhif L 181, 20.6.2014, t 48.

(4)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 608.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources