Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau mamalaidd ac adarol ynghyd â meinwe glynol neu feinwe a gynhwysir yn naturiol y cydnabyddir eu bod yn ffit i’w bwyta gan bobl ond nid yw’n cynnwys cig a wahanwyd yn fecanyddol fel y’i diffinnir ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(1);

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o FIC;

ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw bwyd sy’n cynnwys un o’r canlynol fel cynhwysyn (pa un a yw’r bwyd hefyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall ai peidio)—

(a)

cig;

(b)

cig wedi ei wahanu’n fecanyddol fel y’i diffinnir ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

(c)

calon, tafod, cyhyrau’r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws neu gynffon unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i’w fwyta gan bobl;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(2);

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi ar ddangos i’w werthu ac mae’n cynnwys meddu ar rywbeth i’w werthu;

ystyr “heb ei goginio” (“uncooked”), mewn perthynas â bwyd, yw bwyd na fu drwy broses goginio drwy’r bwyd cyfan fel bod y bwyd yn cael ei werthu ar y sail y bydd angen ei goginio ymhellach cyn ei fwyta.

Cwmpas

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy’n barod i’w gyflenwi i’r defnyddiwr olaf neu i arlwywr mawr.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd—

(a)nas bwriedir i’w werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu

(b)y mae Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004(3) yn gymwys iddo.

(3Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig, o un o Wladwriaethau’r AEE (ac eithrio’r Deyrnas Unedig), o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio’r Deyrnas Unedig) neu o Weriniaeth Twrci lle y cafodd ei farchnata’n gyfreithlon.

(4Yn y rheoliad hwn—

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) o FIC; ac

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol

4.—(1Ni chaiff neb werthu na hysbysebu cynnyrch rheoleiddiedig gan ddefnyddio enw sy’n ymddangos yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 fel enw’r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill ai peidio, oni bai bod y bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl hwnnw.

(2Ni chaiff neb werthu na hysbysebu bwyd gan ddefnyddio enw sy’n ymddangos yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill ai peidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai’n ddatganedig neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd a bod y cynnyrch hwnnw yn cydymffurfio â’r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl yn Atodlen 1 ar yr adeg y cafodd ei ddefnyddio fel cynhwysyn i baratoi bwyd.

Rhannau o’r carcas mewn cynhyrchion rheoleiddiedig heb eu coginio

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch rheoleiddiedig heb ei goginio os defnyddiwyd unrhyw ran o’r carcas a bennir ym mharagraff (2) fel cynhwysyn wrth baratoi’r cynnyrch hwnnw.

(2Dyma’r rhannau a bennir o’r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, coluddyn bach, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair/pwrs i unrhyw rywogaeth famalaidd.

(3Nid yw’r gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio’r coluddyn mamalaidd mawr neu fach fel croen selsig yn unig.

(4Yn y rheoliad hwn mae’r gair “selsig” (“sausage”) yn cynnwys tsipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.

Gorfodi

6.  Dyletswydd awdurdod bwyd yn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd yn ei ardal yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

7.—(1Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with regulations 4(1) or (2) or 5(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

(3Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 7 of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, may appeal to the magistrates’ court.; a

(b)yn is-adran (6)—

(i)yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”; a

(ii)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

(4Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 7 of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice, and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.; a

(b)yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

(5Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

Dirymiadau

8.—(1Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004(4); a

(b)Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008(5).

(2Mae’r eitem sy’n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 yn y tabl yn Rhan 4 o’r Atodlen i Orchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg neu Rifo) 2012(6) wedi ei dirymu.

Diwygiadau canlyniadol

9.  Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources