Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 4

ATODLEN 1Disgrifiadau neilltuedig

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cig wedi ei halltu” (“cured meat”) yw bwyd sy’n cynnwys cig a halen halltu, pa un a yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion eraill hefyd ai peidio;

ystyr “halen halltu” (“curing salt”) yw—

(a)

sodiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;

(b)

potasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;

(c)

cyfuniad o unrhyw rai o sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrid, potasiwm nitrid a sodiwm nitrid sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd(1), ac eithrio cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid; neu

(d)

cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y bwyd.

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Enw’r bwydGofynion cynnwys cig neu gig wedi ei halltuGofynion ychwanegol
Rhaid i’r bwyd gynnwys dim llai na’r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy’n gig yn cynnwys y canlynol:
Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o foch yn unigCig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o adar yn unig, cwningod yn unig neu gyfuniad o adar a chwningod yn unigCig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig

1. Byrgyr neu eidionyn

pa un a yw’n rhan o air arall ai peidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy’n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o’r tabl hwn.

67%55%62%

1. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

2. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

2. Byrgyr rhad neu eidionyn rhad

pa un a yw “byrgyr” neu “eidionyn” yn ffurfio rhan o air arall ai peidio.

50%41%47%

1. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

2. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

3. Hambyrgyr - pa un a yw’n ffurfio rhan o air arall ai peidio.67%Ddim yn gymwys62%

1. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o’r ddau.

2. Os goleddfir yr enw “hambyrgyr” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

4. X a dorrwyd yn fân, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu, pa un a gynhwysir yr enw ar y math o gig ai peidio.75%62%70%Dim gofynion ychwanegol.
5. X a gyffeithiwyd neu gorn X, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy’n cynnwys enw bwyd heblaw cig.120%120%120%

1. Rhaid i’r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig.

2. Os bydd enw’r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod o’r math a enwir yn unig.

3. Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%.

6. Torth gig neu dorth X, os rhoddir yn lle’r “X” enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu.67%55%62%Dim gofynion ychwanegol.

7. Pastai gig, pei cig neu bwdin cig

Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu oni oleddfir ef hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu—

Dim gofynion ychwanegol.

(a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio,

12.5%12.5%12.5%

(b) ond os yw’r bwyd yn pwyso—

(i) dim mwy na 200g a dim llai na 100g; neu11%11%11%
(ii) llai na 100g.10%10%10%

Pastai helgig neu bei helgig—

(a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio,

(b) ond os yw’r bwyd yn pwyso—

12.5%12.5%12.5%
(i) dim mwy na 200 g a dim llai na 100 g; neu11%11%11%
(ii)_llai na 100 g.10%10%10%

8. Pastai Albanaidd neu bei Albanaidd

Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio.

10%10%10%Dim gofynion ychwanegol.
9. Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan y geiriau “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu ac wedi ei oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu—Dim gofynion ychwanegol.
(a) pan fo’r goleddfiad cyntaf (sy’n ymwneud â’r cig) yn dod o flaen yr olaf7%7%7%
(b) pan fo’r goleddfiad olaf (nad yw’n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf. Yn seiliedig, yn y ddau achos, ar bwysau’r cynhwysion pan fydd y bwyd heb ei goginio.6%6%6%

10. Pasti, Bridie rhôl selsig neu

sosej rôl

Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio.

6%6%6%Dim gofynion ychwanegol.
11. Selsigen neu sosej (heb gynnwys yr enw “selsigen” neu “sosej” pan oleddfir ef gan y geiriau “afu/iau” neu “tafod” neu’r ddau), dolen, tsipolata neu gig selsig neu gig sosejysDim gofynion ychwanegol.
(a) os goleddfir yr enw gan yr enw “porc” ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig; neu42%Ddim yn gymwysDdim yn gymwys
(b) ym mhob achos arall.32%26%30%

Nodiadau:

1 Mewn perthynas ag eitemau 4, 5 a 6, seilir y canrannau yng ngholofn 2 ar bwysau’r cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd (“y cynhwysyn cig amrwd”) fel canran o bwysau’r cynnyrch gorffenedig wedi ei goginio. Mewn perthynas â’r eitemau eraill, seilir y canrannau ar bwysau’r cynhwysyn cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd fel canran o gyfanswm pwysau’r holl gynhwysion a ddefnyddir i wneud y bwyd (gan gynnwys y cynhwysyn cig amrwd) ar adeg eu defnyddio fel cynhwysyn.

2 Mae swm y cig a bennir yn y tabl i’w ganfod gan ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC, gan gynnwys unrhyw addasiadau angenrheidiol ar i lawr mewn achos pan fo cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y cynnyrch rheoleiddiedig yn fwy na’r gwerthoedd a ddynodir yn y tabl ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC.

Rheoliad 7

ATODLEN 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill y Ddeddf

Colofn 1

Darpariaethau’r Ddeddf

Colofn 2

Addasiadau

Adran 2(2) (ystyr estynedig “sale” etc.)

Yn lle “this Act” (yn y ddau fan lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.
Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddwr neu archwiliwr bwyd)

Yn lle “this Act” rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.
Adran 35(1)(3) a (2) (cosbau am droseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 7(5) of, and Schedule 2 to, the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder yr is-adran ganlynol—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.

Yn is-adran (2)—

(a) yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 7(5) of, and Schedule 2 to, the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”; a,

(b) ym mharagraff (b), yn lle “the relevant amount” rhodder “the statutory maximum”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.
Adran 36A(4) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

Rheoliad 9

ATODLEN 3Diwygiadau canlyniadol

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

1.  Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cynnyrch cig” (“meat product”);

(b)yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Cynhyrchion Cig” (“Meat Products Regulations”) rhodder—

ystyr “Rheoliadau Cynhyrchion Cig” (“Meat Products Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014;;

(c)ar ôl y diffiniad o “cinio ysgol” (“school lunch”), mewnosoder—

mae gan “cynnyrch sy’n cynnwys cig” (“product containing meat”) yr un ystyr â “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014;.

3.  Yn Atodlen 3, ym mharagraff 8—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle “gynnyrch cig” rhodder, “gynnyrch sy’n cynnwys cig”;

(b)yn is-baragraff (2) yn lle “gynhyrchion cig” rhodder, “gynhyrchion sy’n cynnwys cig”;

(c)yn is-baragraff (3) yn lle “cynnyrch cig” rhodder, “cynnyrch sy’n cynnwys cig”;

(d)yn is-baragraff (4)—

(i)yn lle “gynhyrchion cig” rhodder, “gynhyrchion sy’n cynnwys cig”; a

(ii)yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”.

(e)yn is-baragraff (5)—

(i)yn lle “gynnyrch cig” rhodder, “gynnyrch sy’n cynnwys cig”;

(ii)yn lle “rheoliad 6(2)” rhodder, “rheoliad 5(2)”; a

(iii)yn lle “rheoliad 6(3)” rhodder, “rheoliad 5(3)”.

(f)yn is-baragraff (6) yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”; ac

(g)yn is-baragraff (7) yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”.

(1)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1084/2014 (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 8).

(2)

Diwygiwyd adran 2 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(3)

Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w bennu.

(4)

Mewnosodwyd adran 36A gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(5)

Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1984 (Cy. 194)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources