- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2. Yn y Rheolau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “achos” (“case”) yw trafodion sy’n ymwneud â chais i’r Tribiwnlys;
ystyr “cais” (“application”) yw—
apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 58, 95(2), 95(4) neu 99 o’r Mesur yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd, neu
cais i’r Tribiwnlys o dan adran 103 o’r Mesur i adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd;
ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw person sydd wedi cael ei benodi i gadeirio panel tribiwnlys o dan reol 9;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais i’r Tribiwnlys;
ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw Comisiynydd y Gymraeg;
ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol ei chadw o dan reol 58;
mae i “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”) yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 4;
ystyr “cyfeiriad e-bost” (“email address”) person yw cyfeiriad post electronig personol y person hwnnw;
ystyr “cyfnod datganiad achos” (“case statement period”) yw’r cyfnod sy’n cael ei bennu gan reol 18, 20 neu 21;
ystyr “datganiad achos” (“case statement”) yw datganiad sy’n cael ei gyflwyno’n unol â rheol 19, 20 neu 21;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—
dydd Sadwrn,
dydd Sul,
unrhyw ddiwrnod o 25 Rhagfyr i 1 Ionawr yn gynwysedig,
dydd Gwener y Groglith, neu
diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1):
ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw beth sydd â gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad wedi ei gofnodi ynddo;
ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad gerbron y Tribiwnlys at y diben o alluogi’r Llywydd, Cadeirydd neu banel tribiwnlys i gyrraedd penderfyniad ar gais neu ar unrhyw gwestiwn neu fater, lle mae hawl gan y partïon i fod yn bresennol a chael eu clywed; mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, ar y teleffon neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth;
ystyr “gwŷs tyst” (“witness summons”) yw dogfen sydd wedi ei dyroddi gan y Tribiwnlys sy’n ei gwneud yn ofynnol bod tyst yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth neu ddangos dogfennau mewn perthynas â chais i’r Tribiwnlys;
mae i “ieithoedd y Tribiwnlys” (“languages of the Tribunal”) yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 6;
mae i “hysbysiad cais” (“notice of application”) yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 10;
mae i “llofnod electronig” yr ystyr sy’n cael ei roi i “electronic signature” gan adran 7 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2):
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd y Tribiwnlys sydd wedi cael ei benodi o dan adran 120 o’r Mesur;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
ystyr “panel tribiwnlys” (“tribunal panel”) yw panel o aelodau’r Tribiwnlys sydd wedi cael ei benodi’n unol â rheol 9;
ystyr “parti” (“party”) yw’r ceisydd, y Comisiynydd neu barti sy’n cael ei ychwanegu o dan reol 35;
ystyr “penderfyniad sy’n cael ei herio” (“disputed decision”) yw’r penderfyniad, neu’r methiant i wneud penderfyniad, y mae’r cais wedi cael ei ddwyn mewn perthynas ag ef;
mae “sylwadau llafar” (“oral representations”) yn cynnwys tystiolaeth sy’n cael ei roi, oherwydd amhariad ar leferydd neu glyw, gan berson sy’n defnyddio iaith arwyddion;
ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw Tribiwnlys y Gymraeg neu unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau’r Tribiwnlys yn unol â’r Rheolau hyn;
mae “tystiolaeth” (“evidence”) yn cynnwys deunydd o unrhyw ddisgrifiad, sy’n cael ei gofnodi ar unrhyw ffurf;
mae cyfeiriadau, yn rheolau 51 a 52, at “yr Uchel Lys” (“the High Court”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw apeliadau pellach oddi wrth yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl, y Llys Apêl neu’r Goruchaf Lys, yn ôl y drefn;
ystyr “Ysgrifennydd y Tribiwnlys” (“Secretary of the Tribunal”) yw’r person sydd am y tro yn gweithredu fel Ysgrifennydd swyddfa’r Tribiwnlys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: