- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
4 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
28 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)(1), 16(1)(2), 17(1)(3), 26(1) a (3)(4), 31(5) a 48(1)(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(7) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(8).
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth i’r cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(9).
Cafwyd ymgynghoriad yn ystod llunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd(10).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(11) ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn gyfleus i gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i Offerynnau’r UE a restrir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Tachwedd 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr “Cyfarwyddeb 98/83” (“Directive 98/83”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(12);
ystyr “Cyfarwyddeb 2003/40” (“Directive 2003/40”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy’n sefydlu’r rhestr, y cyfyngiadau crynodiad a’r gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a’r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogir ag osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(13);
ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54” (“Directive 2009/54”) yw Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol(14);
ystyr “Cyfarwyddeb 2013/51” (“Directive 2013/51”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/EURATOM sy’n gosod gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(15);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—
sy’n iachus yn ficrobiolegol o fewn ystyr Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2009/54,
sy’n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy’n dod allan o ffynnon a dapiwyd mewn un neu fwy o allanfeydd naturiol neu sydd wedi’u tyllu;
y gellir ei wahaniaethu’n amlwg oddi wrth ddŵr yfed oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw’n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr, sydd wedi ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—
ei natur a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, phan fo’n briodol, gan effeithiau penodol, a
yn ei burdeb gwreiddiol, a
sydd am y tro yn cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;
ystyr “dŵr mwynol naturiol eferw” (“effervescent natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol sydd, yn ei ffynhonnell neu ar ôl ei botelu, yn gollwng carbon deuocsid yn ddigymell ac mewn dull a welir yn eglur o dan amodau tymheredd a phwysedd arferol;
ystyr “dŵr yfed” (“drinking water”) yw dŵr y bwriedir ei werthu i’w yfed gan bobl ar wahân i—
dŵr mwynol naturiol, neu
dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys bod gennych rywbeth yn eich meddiant i’w werthu a’i gynnig, ei arddangos neu ei hysbysebu i’w werthu, ac mae “gwerthiant” (“sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “hysbyseb” (“advertisement”) yw cynrychiolaeth ar unrhyw ffurf mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo cyflenwad nwyddau, ac mae “hysbysebu” (“advertise”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “label” (“label”) yw unrhyw dag, brand, marc, deunydd darluniadol neu ddisgrifiadol arall, sydd wedi ei ysgrifennu, printio, stensilio, marcio, boglynnu, neu ei argraffu ar botel o ddŵr, neu sydd ynghlwm wrth botel o ddŵr, ac mae “wedi’i labelu” (“labelled”) a “labelu” (“labelling”) i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yn yr ail golofn o unrhyw Dabl yn Rhan 2, Rhan 3 neu Ran 4 o Atodlen 7;
ystyr yr enw “potel” (“bottle”) yw cynhwysydd caeedig o unrhyw fath y gwerthir dŵr ynddo i’w yfed gan bobl, neu y ceir dŵr ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl ohono, ac mae’r ferf “potelu” (“bottle”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy’n gosod yr amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(16);
ystyr “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yw—
triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag aer a gyfoethogir ag osôn, neu
yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno; ac
ystyr “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yw—
triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid, neu
yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010.
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yng Nghyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 neu Gyfarwyddeb 2013/51 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau hynny neu’r Rheoliad hwnnw.
(3) Mae cyfeiriadau at yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2003/40, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 a Chyfarwyddeb 2013/51 yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at labelu potel yn cynnwys labelu a wneir cyn potelu unrhyw ddŵr a labelu ar ôl potelu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr—
(a)sy’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2001/83 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar god y Gymuned sy’n ymwneud â chynnyrch meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl(17);
(b)sy’n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei ffynhonnell at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;
(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl; neu
(d)sy’n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd y bwriedir eu defnyddio i oeri bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Dim ond os caiff ei gydnabod yn unol â pharagraff (2) y caniateir gwerthu dŵr mwynol naturiol fel dŵr mwynol naturiol.
(2) Cydnabyddir bod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—
(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear yng Nghymru, pan roddir cydnabyddiaeth gan awdurdod bwyd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1;
(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol y rhan honno o’r Deyrnas Unedig;
(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol o’r Wladwriaeth AEE honno;
(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—
(i)pan gydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1; neu
(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol—
(aa)rhan arall o’r Deyrnas Unedig; neu
(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig.
(3) Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn yr Undeb Ewropeaidd at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54 yn dystiolaeth derfynol bod dŵr yn cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio pan roddir y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Pan ganfyddir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan reoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i)—
(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1, na fodlonir gofynion paragraff 10(a) o’r Rhan honno;
(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu
(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 1(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 5(c) o Ran 2 o Atodlen 1,
caniateir i’r awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.
(2) Pan fydd yr awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi cydnabyddiaeth i ddŵr neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, caniateir i’r person sy’n datblygu neu’n dymuno datblygu’r ffynnon y mae’r dŵr hwnnw yn dod ohoni, neu, os yn wahanol, y person sy’n berchen y tir y mae’r ffynnon honno ynddo, apelio yn erbyn y penderfyniad i berson a benodwyd at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.
(3) Rhaid i’r person a benodwyd ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, ac adrodd yn ysgrifenedig i’r Asiantaeth o fewn 3 mis gan argymell camau gweithredu.
(4) Rhaid i’r Asiantaeth un ai—
(a)cadarnhau’r penderfyniad, ynghyd â’r rhesymau; neu
(b)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer cydnabyddiaeth i’r dŵr dan sylw, neu ei adfer ei hun, fel y bo’n briodol.
(5) Pan gyfarwyddir awdurdod bwyd gan yr Asiantaeth i roi neu adfer cydnabyddiaeth o dan baragraff (4)(b), rhaid iddo gydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Caiff person sy’n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr a gydnabyddir fel dŵr mwynol naturiol ohoni yn unol â rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i), wneud cais i’r awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, i dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith—
(a)os bydd yn rhoi neu’n adfer cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl; neu
(b)os caiff ei hysbysu o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnwyd dŵr mwynol naturiol ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata’r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—
(a)bod y dŵr a echdynnwyd o’r ffynnon honno’n ddŵr mwynol naturiol;
(b)bod awdurdod bwyd yr ardal lle mae’r ffynnon wedi ei lleoli wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon honno gael ei datblygu; ac
(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.
(2) Pan ganfyddir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth ei ffynhonnell—
(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw am—
(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;
(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;
(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu
(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3;
(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw; neu
(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1)(b), ychwanegu elfennau bacteriostatig neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol—
(a)oni bai bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni;
(b)mewn cynhwysydd heblaw cynhwysydd sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi; ac
(c)sydd, ar adeg ei botelu, yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
(2) Rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 gydymffurfio â’r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu â’r canlynol—
(a)disgrifiad masnachol sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;
(b)disgrifiad masnachol sy’n wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;
(c)unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i ddatblygu’r ffynnon, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;
(d)unrhyw fynegiad heblaw’r rhai a bennir yn is-baragraffau (f) a (g), sy’n priodoli i’r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;
(e)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 6, ac eithrio pan fo’r dŵr mwynol naturiol yn bodloni’r maen prawf a restrir felly sy’n cyfateb i’r mynegiad hwnnw;
(f)y mynegiad “may be diuretic”, “gall fod yn ddiwretig”, neu “may be laxative”, “gall fod yn garthydd”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo’n briodol; neu
(g)y mynegiad “stimulates digestion”, “mae’n ysgogi treuliad”, neu “may facilitate the hepato-biliary functions”, “gall hyrwyddo’r swyddogaethau hepato-bustlog”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â’r dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol a chlinigol.
(2) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu gyda disgrifiad gwerthu heblaw—
(a)“natural mineral water”; neu
(b)yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o’r canlynol, fel y bo’n briodol—
(i)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r ffynnon ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fo’n briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion sy’n cyfateb i’r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i’r goddefiannau technegol arferol;
(ii)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell; neu
(iii)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw’r lefel trwythiad neu’r dyddodion y daw’r dŵr ohono;
(c)nid oes dim yn is-baragraff (a) yn atal person rhag defnyddio’r geiriau “dŵr mwynol naturiol” yn ogystal â’r geiriau “natural mineral water”;
(d)nid oes dim yn is-baragraff (b) sy’n atal y defnydd o’r geiriau “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio’n naturiol” yn ogystal â “naturally carbonated natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i gryfhau â nwy o’r ffynnon” yn ogystal â “natural mineral water fortified with gas from the spring”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio” yn ogystal â “carbonated natural mineral water”; ac
(e)nid oes dim yn is-baragraffau (a), (b), (c) na (d) sy’n atal y defnydd o eiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
(3) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol oni bai bod y botel wedi’i labelu â’r canlynol—
(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy’n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;
(b)enw’r lle y datblygir y ffynnon ac enw’r ffynnon;
(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo’n briodol;
(d)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos i gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol;
(e)pan fo crynodiad fflworid y dŵr yn fwy na 1.5 mg/l—
(i)rhaid i’r geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, ymddangos yn agos iawn at yr enw masnachol ac mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir; a
(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran cyfansoddiad ffisigo-cemegol, y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a);
(f)nid oes dim yn is-baragraff (c) sy’n atal defnyddio’r mynegiad “cwbl ddad-garbonedig” yn ogystal â “fully de-carbonated”, neu “rhannol ddad-garbonedig” yn ogystal â “partially de-carbonated”;
(g)nid oes dim yn is-baragraff (d) sy’n atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”;
(h)nid oes dim yn is-baragraff (e)(i) sy’n atal defnyddio’r geiriau “yn cynnwys mwy na 1.5 mg/l o fflworid; nid yw’n addas i’w yfed yn rheolaidd gan blant bach a phlant o dan 7 oed” yn ogystal â “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”; ac
(i)nid oes dim yn is-baragraffau (c), (d), (e)(i), (f), (g) a (h) sy’n atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Pan fo’n ofynnol i botel sy’n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 11(1)(b)—
(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a
(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.
(2) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (1).
(3) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, nod masnach, enw brand, llun nac unrhyw arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i’w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu a’i labelu’n “natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr hwnnw yn ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn unol â rheoliad 4(2).
(2) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu os yw’r dŵr hwnnw—
(a)wedi’i echdynnu o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 8;
(b)wedi cael unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9;
(c)wedi’i botelu yn groes i reoliad 10;
(d)wedi’i labelu yn groes i reoliad 11; neu
(e)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 12.
(3) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu—
(a)sy’n cynnwys—
(i)parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig;
(ii)Escherichia coli neu golifformau eraill a streptococi ysgarthol mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
(iii)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; neu
(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;
(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw y gellir ei adfywio yn fwy na’r hyn fyddai canlyniad cynnydd arferol yn y cyfrif cynnwys bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu
(d)pan fo’r dŵr hwnnw’n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.
(4) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol o’r un ffynnon o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—
(a)bod y dŵr wedi ei echdynnu o ffynnon a’i botelu wrth y ffynhonnell;
(b)bod y dŵr wedi ei fwriadu i’w yfed gan bobl yn ei gyflwr naturiol;
(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni; a
(d)bod y dŵr yn bodloni gofynion Atodlen 7.
(2) Pan ganfyddir yn ystod datblygu bod dŵr o ffynnon wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
15. Ni chaiff neb roi dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn ei gyflwr yn ei ffynhonnell, trwy—
(a)unrhyw driniaeth heblaw—
(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;
(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;
(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu
(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3; neu
(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid; neu
(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr a gynhwysir ynddi—
(a)yn bodloni gofynion rheoliad 14(1); a
(b)os yw’r dŵr wedi ei drin, ei fod wedi cael triniaeth neu ychwanegiad a ganiateir o dan reoliad 15.
(2) Os yw potel o ddŵr wedi’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ni chaiff neb labelu’r botel honno gyda disgrifiad masnachol—
(a)sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu
(b)yn wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.
(3) Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y botel hefyd wedi’i labelu â’r canlynol—
(a)enw’r lle y datblygir y ffynnon;
(b)enw’r ffynnon;
(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth ag aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b);
(d)nid oes dim yn is-baragraff (c) yn atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”; ac
(e)nid oes dim yn is-baragraffau (c) neu (d) yn atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Pan fo’n ofynnol i botel o ddŵr gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 16(2)(b), yn ogystal â disgrifiad masnachol—
(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr hwnnw; a
(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.
(2) Ni chaiff neb hysbysebu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn groes i baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu neu ei labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, os yw’r dŵr hwnnw—
(a)wedi’i botelu yn groes i reoliad 14(1);
(b)wedi cael triniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15;
(c)wedi’i labelu yn groes i reoliad 16; neu
(d)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 17.
(2) Ni chaiff neb werthu dŵr o’r un ffynnon fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
19. Ni chaiff neb botelu dŵr yfed oni bai bod y dŵr hwnnw yn bodloni gofynion Atodlen 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
20. Ni chaiff neb botelu dŵr yfed a’i labelu gyda—
(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr yfed a dŵr mwynol naturiol, neu
(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
21. Ni chaiff neb hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu o dan—
(a)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu
(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
22. Ni chaiff neb werthu dŵr yfed wedi’i botelu—
(a)sydd wedi’i botelu yn groes i reoliad 19;
(b)sydd wedi’i labelu yn groes i reoliad 20; neu
(c)sy’n cael ei hysbysebu yn groes i reoliad 21.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
23. Yn achos dŵr mwynol naturiol, rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol i sicrhau—
(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau’n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol;
(b)heb leihau effaith paragraff (a), nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif;
(c)bod y cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i’r dŵr gael unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i’r dŵr a pha un a yw’n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 1; a
(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Yn achos dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ansawdd y dŵr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr—
(a)ei fod yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol â’r gwerthoedd paramedrig a osodir yn unol ag Atodlen 7; a
(b)pan fo diheintiad yn ffurfio rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr yfed wedi’i botelu, bod y driniaeth ddiheintio a ddefnyddir yn effeithlon a bod unrhyw halogiad o sgil-gynhyrchion diheintio yn cael ei gadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio.
(2) Er mwyn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—
(a)monitro yn unol ag Atodlen 8 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)monitro yn unol ag Atodlen 9 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni monitro ychwanegol, yn ôl bob achos yn unigol, mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb ar wahân i baramedr a bennir yn Atodlen 7, os oes gan yr awdurdod bwyd reswm i amau y gallai fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy’n golygu perygl posibl i iechyd pobl.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) At ddiben monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—
(a)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 10 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 11 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig ar gyfer y dogn dangosiadol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd gymryd samplau ar yr adeg y potelir y dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
26.—(1) Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—
(a)ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;
(b)asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;
(c)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;
(d)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac
(e)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.
(2) Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—
(a)atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a
(b)hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.
(3) Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaethau tynnu fflworid a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 3 o Atodlen 2 yn parhau i gael eu bodloni.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 4 o Atodlen 3 yn parhau i gael eu bodloni.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
28. Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cynrychioli ansawdd y dŵr dan sylw a yfir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y sampl ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o’r Ddeddf ac y mae’n ofynnol iddo roi rhan o’r sampl hwnnw i’r perchennog yn unol â rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(18) fynd â’r sampl hwnnw—
(a)yn uniongyrchol i’r perchennog neu asiant y perchennog; neu
(b)drwy bost cofrestredig neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig.
(2) Os na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio’n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y perchennog, caiff y swyddog awdurdodedig ddal gafael ar y sampl.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “perchennog” yr un ystyr ag a roddir iddo yn y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl dŵr o dan adran 29 o’r Ddeddf at y diben o’i ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) os ymddengys bod y dŵr wedi ei ddatblygu neu ei botelu gan berson (ar wahân i’r perchennog) y mae ei enw a’i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig wedi eu harddangos ar y botel.
(2) Rhaid i’r swyddog awdurdodedig anfon yr hysbysiad i’r person hwnnw o fewn 3 diwrnod i gaffael y sampl, sy’n ei hysbysu—
(a)bod y sampl wedi ei gaffael gan y swyddog; a
(b)ymhle y cafodd y sampl ei gymryd neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y’i prynwyd.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu peidio â chael dadansoddiad o’r sampl.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan fo rhan o sampl a gafodd ei gaffael o dan adran 29 o’r Ddeddf wedi ei chyflwyno i gael ei dadansoddi a bod rhan arall o’r sampl wedi ei chadw yn unol â rheoliad 7(3)(e) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a—
(a)bod hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno i berson o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir gan reoliad 33, fel y’i darllenir gydag Atodlen 12, am dorri darpariaeth y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r sampl hwnnw;
(b)bod apêl yn erbyn yr hysbysiad gwella hwnnw wedi ei gwneud gan y person hwnnw i lys yr ynadon; ac
(c)bod y swyddog awdurdodedig yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd uchod fel tystiolaeth.
(2) Caiff swyddog awdurdodedig anfon y rhan o’r sampl a gedwir i Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi ond rhaid ei anfon—
(a)os gofynnir hynny gan lys yr ynadon; neu
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os gofynnir hynny gan dderbynnydd yr hysbysiad gwella.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan o’r sampl a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i’r swyddog awdurdodedig.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir cynnal y dadansoddiad gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy’n llofnodi’r dystysgrif.
(5) Ar ôl derbyn y dystysgrif, a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r swyddog awdurdodedig roi copi ohoni i lys yr ynadon ac i dderbynnydd yr hysbysiad gwella.
(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b), caiff y swyddog awdurdodedig ofyn i dderbynnydd yr hysbysiad gwella dalu ffi a bennir yn ysgrifenedig i dalu rhai o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni’r swyddogaethau o dan baragraff (3), neu’r holl gostau.
(7) Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (6) a derbynnydd yr hysbysiad gwella yn gwrthod talu’r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
32. Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Mae darpariaethau adran 10 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o Atodlen 12 yn gymwys at ddiben y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â rheoliadau 8 i 22 o’r Rheoliadau hyn neu un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o Dabl 1 o Atodlen 12.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 10 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
(3) Ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—
(a)os byddai’r hysbysiad gwella yn gysylltiedig â dŵr a gafodd ei botelu a’i labelu cyn 28 Tachwedd 2015; a
(b)os na fyddai’r materion sy’n peri’r tramgwydd honedig yn cyfrif fel trosedd o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37.
(4) Os nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn bodloni gofynion paragraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 7, ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—
(a)os cafodd y dŵr dan sylw ei botelu neu ei werthu mewn Gwladwriaeth AEE ar wahân i’r Deyrnas Unedig; a
(b)os oedd y dŵr yn cydymffurfio â’r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—
(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;
(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac
(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.
(2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
35. Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Bydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddwyd o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu 1999, neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 ac sy’n bodoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2)(a); a
(b)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i).
(2) Nid yw dirymiad y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth na hysbysiad a wnaed neu a roddwyd gan yr Asiantaeth neu’r awdurdod bwyd fel yr awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hynny, ac mae unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth neu hysbysiad o’r fath yn parhau i gael effaith.
(3) Pan fo cais wedi ei wneud o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 i awdurdod bwyd am gydnabyddiaeth i ddŵr fel dŵr mwynol naturiol, mae’r cais i’w drin fel pe byddai wedi ei wneud o dan Rannau 1 neu 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
37. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007(19);
(b)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009(20);
(c)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010(21);
(d)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) 2011(22).
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
38. Mae Atodlen 13 (diwygiadau i ddeddfwriaeth arall) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Vaughan Gething
Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2015
Rheoliad 4(2)(a) a 4(2)(d)(i)
1. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal, gan roi’r wybodaeth a ganlyn—LL+C
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 1(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Pan fydd gwybodaeth a ofynnir gan baragraff 1 wedi’i rhoi, rhaid i’r awdurdod bwyd ei hasesu a chydnabod y dŵr y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn ddŵr mwynol naturiol os yw wedi’i fodloni—LL+C
(a)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(b)bod nodweddion y dŵr wedi eu hasesu yn unol â’r canlynol—
(i)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon, a
(iii)dulliau gwyddonol cydnabyddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i’r awdurdod bwyd, wrth roi cydnabyddiaeth i ddŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 3, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath a’r rhesymau dros ei roi yn y London Gazette.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Rhaid i berson sy’n ceisio cael cydnabyddiaeth ar gyfer dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE yn ddŵr mwynol naturiol at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54 wneud cais ysgrifenedig i’r Asiantaeth, gan roi’r wybodaeth ganlynol—LL+C
(a)y manylion a bennir ym mharagraff 10(a) o Ran 3;
(b)y wybodaeth a geir o ganlyniad i’r arolygon a’r dadansoddiad y gofynnir amdanynt o dan baragraff 10(b) ac (c), fel y’i darllenir gyda pharagraff 11, o Ran 3; ac
(c)tystiolaeth i ddangos nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fydd yn ofynnol rhoi gwybodaeth ar yr anionau, catïonau, cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio ac yr elfennau hybrin yn unol â pharagraff 5(b), rhaid mynegi crynodiad bob anion, catïon, cyfansoddyn sydd heb ei ïoneiddio ac elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf y tablau yn Rhan 4 o’r Atodlen hon yn yr uned fesur a bennir yn ail golofn y tablau yn Rhan 4.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Rhaid i’r Asiantaeth gydnabod y cyfryw ddŵr os bydd yr awdurdod cyfrifol yn y wlad yr echdynnir y dŵr ohoni wedi ardystio—LL+C
(a)ei fod wedi’i fodloni—
(i)bod y gofynion ym mharagraffau 10(b) ac (c) o Ran 3 wedi’u sefydlu;
(ii)gyda’r dystiolaeth a roddir yn unol â pharagraff 5(c); a
(b)bod archwiliadau cyfnodol wedi cael eu gwneud i ganfod—
(i)bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol sy’n cydymffurfio â pharagraff 3 o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(ii)bod nodweddion y dŵr wedi’u hasesu yn unol â’r canlynol—
(aa)y pwyntiau a rifir 1 i 4 ym mharagraff 2(a) o Adran I o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/54;
(bb)y manylion a’r meini prawf a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen hon; ac
(cc)dulliau gwyddonol cydnabyddedig; a
(iii)bod darpariaethau Atodlen 4 yn cael eu cymhwyso gan y person sy’n datblygu’r ffynnon.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Bydd cydnabyddiaeth o’r cyfryw ddŵr yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o bum mlynedd oni fydd awdurdod cyfrifol y wlad yr echdynnwyd y dŵr ohoni wedi adnewyddu’r ardystiad sy’n ofynnol gan baragraff 7.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9. Rhaid i’r Asiantaeth, pan fydd yn cydnabod dŵr yn unol â’r Rhan hon, gyhoeddi datganiad o gydnabyddiaeth o’r fath yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10. Rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal—LL+C
(a)arolygon daearegol a hydroddaearegol sy’n cynnwys y manylion canlynol—
(i)union safle’r dalgylch gan ddangos ei uchder ar fap â graddfa heb fod yn fwy na 1:1,000;
(ii)adroddiad daearegol manwl ar darddiad a natur y tir;
(iii)stratigraffeg yr haen hydroddaearegol;
(iv)disgrifiad o weithrediadau’r dalgylch; a
(v)darnodi’r ardal neu fanylion o fesurau eraill sy’n diogelu’r ffynnon rhag llygredd.
(b)arolygon ffisegol, cemegol a ffisigo-cemegol y mae’n rhaid iddynt sefydlu—
(i)cyfradd llif y ffynnon;
(ii)tymheredd y dŵr yn ei ffynhonnell a thymheredd yr awyrgylch;
(iii)y berthynas rhwng natur y tir a natur a math y mwynau yn y dŵr;
(iv)y gweddillion sych ar 180ºC a 260ºC;
(v)y dargludedd neu wrthedd trydanol, gan bennu mesur y tymheredd;
(vi)y crynodiad ïonau hydrogen (pH);
(vii)yr anionau a’r catïonau;
(viii)yr elfennau sydd heb eu hïoneiddio;
(ix)yr elfennau hybrin;
(x)y priodweddau radio-actinolegol yn y ffynhonnell;
(xi)pan fydd yn briodol, lefelau isotop perthnasol elfennau ansoddol y dŵr, ocsigen (16O–18O) a hydrogen (protiwm, dewteriwm, tritiwm); a
(xii)gwenwyndra rhai elfennau ansoddol y dŵr, gan gymryd i ystyriaeth y terfynau a osodir ar gyfer pob un ohonynt;
(c)dadansoddiad microbiolegol yn y ffynhonnell y mae’n rhaid iddo ddangos—
(i)absenoldeb parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
(ii)penderfyniad meintiol cyfrif cytref y gellir ei adfywio sy’n dangos halogi ysgarthol, ac sy’n dangos absenoldeb—
(aa)Escherichia coli a cholifformau eraill mewn 250ml ar 37ºC a 44.5ºC,
(bb)streptococi ysgarthol mewn 250ml,
(cc)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn 50ml, a
(dd)Pseudomonas aeruginosa mewn 250ml; a
(iii)cyfanswm cyfrif cytref y gellir ei adfywio fesul ml o ddŵr—
(aa)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin, a
(bb)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i berson sy’n ceisio cael dŵr wedi’i gydnabod fel dŵr mwynol naturiol yn unol â pharagraff 1 o Ran 1 neu baragraff 5 o Ran 2 o’r Atodlen hon gynnal dadansoddiad clinigol a ffarmacolegol yn unol â dulliau gwyddonol cydnabyddedig a ddylai weddu i nodweddion arbennig y dŵr mwynol naturiol a’i effaith ar y corff dynol, megis troethlif, swyddogaethau gastrig a choluddol, a gwneud iawn am ddiffygion mwynol.LL+C
(2) Caniateir i ddadansoddiadau clinigol, mewn achosion priodol, gael eu cynnal yn lle’r dadansoddiadau ffarmacolegol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), ar yr amod bod cysondeb a chytundeb nifer sylweddol o arsylliadau clinigol yn galluogi bod modd cael yr un canlyniadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Anionau | Uned fesur |
---|---|
Borad BO3 - | mg/l |
Carbonad CO32- | mg/l |
Clorid Cl- | mg/l |
Fflworid F - | mg/l |
Hydrogen Carbonad HCO3- | mg/l |
Nitrad NO3 - | mg/l |
Nitrid NO2 - | mg/l |
Ffosffad PO BO4 3- | mg/l |
Silicad SiO2 2- | mg/l |
Sylffad SO4 2- | mg/l |
Sylffid S2- | mg/l |
Catïonau | Uned fesur |
---|---|
Alwminiwm Al | mg/l |
Amoniwm NH4 + | mg/l |
Calsiwm Ca | mg/l |
Magnesiwm Mg | mg/l |
Potasiwm K | mg/l |
Sodiwm Na | mg/l |
Cyfansoddion sydd heb eu hïoneiddio | Uned fesur |
---|---|
Cyfanswm carbon organig C | mg/l |
Carbon deuocsid rhydd CO2 | mg/l |
Silica SiO2 | mg/l |
Elfennau hybrin | Uned fesur |
---|---|
Bariwm Ba | mg/l |
Bromin (cyfanswm) Br | mg/l |
Cobalt Co | mg/l |
Copr Cu | mg/l |
Ïodin (cyfanswm) I | mg/l |
Haearn Fe | mg/l |
Lithiwm Li | mg/l |
Manganîs Mn | mg/l |
Molybdenwm Mo | mg/l |
Strontiwm Sr | mg/l |
Zinc Zn | mg/l |
Rheoliadau 9(1)(a)(iii) a 15(a)(iii)
1. Ni chaiff neb roi triniaeth tynnu fflworid ar ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y driniaeth honno wedi ei hawdurdodi gan yr awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid—LL+C
(a)gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;
(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac
(c)darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth tynnu fflworid os yw’n fodlon—LL+C
(a)bod y driniaeth yn cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010; a
(b)na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu gwrthod awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn unol â pharagraff 3, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fydd triniaeth tynnu fflworid wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 3, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 3 yn parhau i gael eu bodloni—LL+C
(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a
(b)darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth tynnu fflworid yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 3 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rhesymau dros dynnu’n ôl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth tynnu fflworid o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 3, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 7, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9. Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 8, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—LL+C
(a)ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;
(b)ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac
(c)un ai—
(i)cadarnhau’r penderfyniad; neu
(ii)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth tynnu fflworid fel y bo’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10. Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 9(c)(ii) ar unwaith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Rheoliadau 9(1)(a)(iv) a 15(a)(iv)
1. Ni chaiff neb roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn i ddŵr mwynol naturiol na dŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—LL+C
(a)ei fod at ddibenion gwahanu cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig o ddŵr lle y maent yn digwydd yn naturiol yn y ffynhonnell;
(b)bod gofynion paragraffau 3, 4 a 5 o Atodlen 4 yn cael eu bodloni cyn y driniaeth; ac
(c)na fydd i’r driniaeth gamau diheintio.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn beidio â gwneud y canlynol—LL+C
(a)addasu cyfansoddiad ffisigo-cemegol y dŵr o ran ei ansoddau nodweddiadol; neu
(b)gadael gweddillion yn y dŵr a allai fod yn risg i iechyd cyhoeddus, neu, yn achos y sylweddau a restrir isod, yn uwch na’r lefelau penodedig.
Gweddillion y driniaeth | Terfyn uchaf ug/l |
---|---|
Osôn toddedig | 50 |
Bromad | 3 |
Bromofform | 1 |
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i berson sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn—LL+C
(a)gwneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd y mae’r dŵr a echdynnir yn ei ardal;
(b)caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio’r dull o drin arfaethedig a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; ac
(c)darparu’r wybodaeth honno i gefnogi’r cais fel y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i’r awdurdod bwyd asesu’r cais ac unrhyw wybodaeth gefnogol a rhaid iddo awdurdodi’r driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn os yw’n fodlon—LL+C
(a)bod cyfiawnhad i broses y driniaeth oherwydd cyfansoddiad y dŵr yn ei ffynhonnell o ran cyfansoddion haearn, manganîs, sylffwr ac arsenig;
(b)bod y person sy’n gwneud y driniaeth yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel; ac
(c)bod y driniaeth fel arall yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn penderfynu awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd o’r driniaeth yn effeithiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn gwrthod awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn unol â pharagraff 4, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei resymau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Pan fydd triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn wedi cael ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 4, rhaid i’r person sy’n cyflawni’r driniaeth, er mwyn galluogi’r awdurdod bwyd i asesu p’un a yw’r amodau ym mharagraff 4(a) a (b) yn parhau i gael eu bodloni—LL+C
(a)caniatáu cynrychiolwyr yr awdurdod i archwilio dull y driniaeth a lle’r driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi; a
(b)darparu’r wybodaeth honno ynghylch y driniaeth y bydd yr awdurdod bwyd yn gofyn amdani.
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Caiff yr awdurdod bwyd dynnu awdurdodiad triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn ôl os yw’n cael ei fodloni nad yw’r amodau a bennir ym mharagraff 4 yn cael eu bodloni mwyach, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n gweithredu’r driniaeth gan ddatgan y rheswm dros dynnu’n ôl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9. Pan fydd yr awdurdod bwyd yn hysbysu person sy’n ceisio cael awdurdodiad i roi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn o benderfyniad yr awdurdod i wrthod awdurdodi triniaeth o dan baragraff 4, neu’n hysbysu’r person sy’n gweithredu triniaeth o’i benderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff 8, caiff y person hwnnw wneud cais i’r Asiantaeth am adolygiad o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10. Rhaid i’r Asiantaeth, ar ôl cael cais o dan baragraff 9, wneud y canlynol o fewn 3 mis i ddyddiad y cais hwnnw—LL+C
(a)ymchwilio i’r mater fel y mae’r Asiantaeth yn ystyried sy’n briodol;
(b)ystyried canlyniadau’r ymchwiliadau hynny ac unrhyw ffeithiau perthnasol eraill; ac
(c)un ai—
(i)cadarnhau’r penderfyniad; neu
(ii)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer awdurdodiad o driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn fel y bo’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11. Rhaid i’r awdurdod bwyd gydymffurfio â chyfarwyddyd yr Asiantaeth o dan baragraff 10(c)(ii) ar unwaith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Rheoliadau 8, 10, 13 a 14
1. Rhaid i gyfarpar ar gyfer datblygu’r dŵr gael ei osod mewn modd sy’n osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogi ac i ddiogelu’r priodweddau sy’n cyfateb i’r rheini a briodolir iddo sydd gan y dŵr yn ei ffynhonnell.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid amddiffyn y ffynnon neu’r allanfa rhag risg llygredd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i’r dalgylch, y pibellau a’r cronfeydd fod o ddeunyddiau sy’n addas ar gyfer dŵr ac o wneuthuriad sy’n rhwystro unrhyw newid cemegol, ffisigo-cemegol neu ficrobiolegol i’r dŵr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i’r amodau ar gyfer y datblygu, yn enwedig yr offer golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid, yn cynnwys, yn benodol, bod rhaid i’r cynwysyddion fod wedi’u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy’n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dŵr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), rhaid peidio â chludo dŵr mewn cynwysyddion heblaw’r rhai a awdurdodwyd ar gyfer dosbarthu i’r defnyddiwr olaf.LL+C
(2) Caniateir cludo dŵr mwynol naturiol o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd cyn 17 Gorffennaf 1980.
(3) Caniateir cludo dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o’r ffynnon i’r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i’r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o’r ffynnon honno yn y fath fodd ar neu cyn 13 Rhagfyr 1996.
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Rhaid i gyfanswm cyfrif cytref y dŵr y gellir ei adfywio yn ei ffynhonnell, a benderfynir yn unol ag is-baragraff (2), gydymffurfio â chyfrif cytref hyfyw arferol y dŵr hwnnw a rhaid iddo beidio â dangos bod ffynhonnell y dŵr hwnnw’n halogedigLL+C
(2) Y cyfrif cytref yw hwnnw a benderfynwyd fesul ml o ddŵr—
(a)ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
(b)ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Ar ôl potelu, ni chaiff cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn ei ffynhonnell fod yn fwy na—LL+C
(a)100 fesul ml ar 20 i 22ºC mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin; a
(b)20 fesul ml ar 37ºC mewn 24 awr ar agar-agar.
(2) Rhaid mesur cyfanswm cyfrif cytref y dŵr o fewn y cyfnod o 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r dŵr ar 4ºC +/- 1ºC yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Rhaid bod y dŵr yn rhydd o—LL+C
(a)parasitiaid a micro-organebau pathogenig;
(b)Escherichia coli a cholifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
(c)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; a
(d)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir.
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 10
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 5 Rhn. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Ansoddau(1) | Terfynau uchaf (mg/l) |
---|---|
(1) Mae’r ansoddau a ddisgrifir uchod yn cyfeirio at ansoddau sy’n bresennol yn naturiol yn y dŵr yn ei ffynhonnell ac nid at sylweddau sy’n bresennol o ganlyniad i halogi. | |
Antimoni | 0.0050 |
Arsenig | 0.010 (fel cyfanswm) |
Bariwm | 1.0 |
Cadmiwm | 0.003 |
Cromiwm | 0.050 |
Copr | 1.0 |
Cyanid | 0.070 |
Fflworid | 5.0 |
Plwm | 0.010 |
Manganîs | 0.50 |
Mercwri | 0.0010 |
Nicel | 0.020 |
Nitrad | 50 |
Nitrid | 0.1 |
Seleniwm | 0.010 |
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 5 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Ansoddy(1) | Cywirdeb y gwerth paramedrig mewn %(2) | Trachywiredd y gwerth paramedrig (3) | Terfyn canfod y gwerth paramedrig mewn % (4) |
---|---|---|---|
(1) Rhaid bod y dull dadansoddi a ddefnyddir i fesur crynodiad yr ansoddau yn Rhan 1 yn gallu mesur crynodiadau sy’n hafal i’r gwerthoedd paramedrig gyda’r cywirdeb penodedig, a’r terfynau trachywiredd a chanfod. Bid a fo am sensitifrwydd y dull dadansoddi, rhaid mynegi’r canlyniad i o leiaf yr un nifer o leoedd degol â’r terfyn uchaf a osodir yn Rhan 1 ar gyfer yr ansoddyn penodol sy’n cael ei ddadansoddi. | |||
(2) Cywirdeb yw’r gwall systematig ac mae’n cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng y gwerth cyfartalog o nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth. | |||
(3) Mae trachywiredd yn cynrychioli’r gwall ar hap a mynegir ef yn gyffredinol fel y gwyriad safonol (mewn swp a rhwng sypiau) o sampl o ganlyniadau o’r cyfartaledd. Mae trachywiredd derbyniol yn hafal i ddwywaith y gwyriad safonol perthynol. | |||
(4) O ran y terfyn canfod— | |||
(a) mae’n dair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r ansoddyn; neu | |||
(b) mae’n bum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o’r newydd. | |||
(5) Dylai’r dull ei gwneud yn bosibl canfod cyanid ar ei holl ffurfiau. | |||
Antimoni | 25 | 25 | 25 |
Arsenig | 10 | 10 | 10 |
Bariwm | 25 | 25 | 25 |
Cadmiwm | 10 | 10 | 10 |
Cromiwm | 10 | 10 | 10 |
Copr | 10 | 10 | 10 |
Cyanid(5) | 10 | 10 | 10 |
Fflworid | 10 | 10 | 10 |
Plwm | 10 | 10 | 10 |
Manganîs | 10 | 10 | 10 |
Mercwri | 20 | 10 | 20 |
Nicel | 10 | 10 | 10 |
Nitrad | 10 | 10 | 10 |
Nitrid | 10 | 10 | 10 |
Seleniwm | 10 | 10 | 10 |
Rheoliad 11(1)(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Mynegiad | Meini prawf |
---|---|
Cynnwys isel o fwynau | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 500 mg/l |
Cynnwys isel iawn o fwynau | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, dim mwy na 50 mg/l |
Cyfoethog mewn halwynau mwynol | Cynnwys halwyn mwynol, wedi’i gyfrifo fel gweddill penodol, mwy na 1500 mg/l |
Yn cynnwys bicarbonad | Cynnwys bicarbonad sy’n fwy na 600 mg/l |
Yn cynnwys sylffad | Cynnwys sylffad sy’n fwy na 200 mg/l |
Yn cynnwys clorid | Cynnwys clorid sy’n fwy na 200 mg/l |
Yn cynnwys calsiwm | Cynnwys calsiwm sy’n fwy na 150 mg/l |
Yn cynnwys magnesiwm | Cynnwys magnesiwm sy’n fwy na 50 mg/l |
Yn cynnwys fflworid | Cynnwys fflworid sy’n fwy na 1 mg/l |
Yn cynnwys haearn | Cynnwys deufalent haearn sy’n fwy na 1 mg/l |
Asidig | Cynnwys carbon deuocsid rhydd sy’n fwy na 250 mg/l |
Yn cynnwys sodiwm | Cynnwys sodiwm sy’n fwy na 200 mg/l |
Addas ar gyfer deiet isel mewn sodiwm | Cynnwys sodiwm sy’n llai na 20 mg/l |
Rheoliadau 14(1)(d) a 19
1. Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon—LL+C
(a)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr) mewn crynodiad neu werth a fyddai’n golygu perygl posibl i iechyd dynol;
(b)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae’n eu cynnwys (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio), yn golygu perygl posibl i iechyd dynol; ac
(c)os nad yw’r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o’r paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon yn fwy na’r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid darllen crynodiadau neu werthoedd y paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon ar y cyd â’r nodiadau ar y tablau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 7 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Dylid mesur y cyfanswm cyfrif cytref hyfyw o fewn 12 awr ar ôl potelu, gan gadw’r sampl dŵr ar dymheredd cyson yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 awr. Ni ddylai unrhyw gynnydd yng nghyfanswm cyfrif cytref hyfyw’r dŵr rhwng y 12 awr ar ôl ei botelu ac adeg y gwerthu fod yn fwy na’r hyn a ddisgwylir yn arferol. | |||
(2) Mewn 72 awr ar agar-agar neu gymysgedd o agar-gelatin. | |||
(3) Mewn 24 awr ar agar-agar. | |||
1. | Escherichia coli (E coli) | nifer/250 ml | 0/250 ml |
2. | Enterococi | nifer/250 ml | 0/250 ml |
3. | Pseudomonas aeruginosa | nifer/250ml | 0/250 ml |
4. | Cyfrif cytref 22ºC | nifer/ml | 100/ml (1) (2) |
5. | Cyfrif cytref 37ºC | nifer/ml | 20/ml(1) (3) |
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Mae’r gwerth paramedrig yn cyfeirio at y crynodiad monomer gweddilliol yn y dŵr fel y’i cyfrifir yn unol â manylebau mwyafswm y gollyngiad o’r polymer cyfatebol sydd mewn cyffyrddiad â’r dŵr. | |||
(2) Rhaid i grynodiad (mg/l) nitrad wedi’i rannu â 50 a ychwanegir i grynodiad (mg/l) o nitrid wedi’i rannu â 3 beidio â bod yn fwy nag 1. | |||
(3) Ystyr “Plaleiddiad” yw: | |||
– pryfleiddiad organig, | |||
– chwynleiddiad organig, | |||
– ffyngleiddiad organig, | |||
– nematoleiddiad organig, | |||
– gwiddonleiddiaid organig, | |||
– algaleiddiaid organig, | |||
– llygodleiddiaid organig, | |||
– llysnafeddleiddiaid organig, a | |||
– cynhyrchion perthynol (inter alia, rheoleiddwyr tyfiant) a’u metabolion, eu cynnyrch diraddio ac adweithio perthnasol. | |||
Dim ond y plaleiddiaid hynny sy’n debygol o fod yn bresennol mewn dŵr penodol sydd angen eu monitro. | |||
(4) Mae mwyafswm crynodiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol. Yn achos aldrin, deueldrin, heptaclor a heptaclor epocsid mwyafswm y crynodiad yw 0.030 μg/l. | |||
(5) Mae mwyafswm y crynodiad ar gyfer “cyfanswm y sylweddau” yn cyfeirio at swm y crynodiadau o bob plaleiddiad unigol a ganfyddir ac a feintolir yn y weithdrefn fonitro. | |||
(6) Y cyfansoddion penodedig yw benso(b)fflworanthen, benso(k)fflworanthen, benso(ghi)perylen, indeno(1.2,3-cd) pyren. | |||
(7) Mae’r crynodiad mwyaf a bennir yn gymwys i swm crynodiadau’r paramedrau penodedig. | |||
1. | Acrylamid | µg/l | 0.10 (1) |
2. | Antimoni | µg Sb/l | 5 |
3. | Arsenig | µg As/l | 10 |
4. | Bensen | µg/l | 1.0 |
5. | Benso (a) pyren | µg/l | 0.010 |
6. | Boron | mg/l | 1.0 |
7. | Bromad | µg/l BrO3/l | 10 |
8. | Cadmiwm | µg Cd/l | 5 |
9. | Cromiwm | µg Cr/l | 50 |
10. | Copr | mg Cu/l | 2 |
11. | Cyanid | µg CN/l | 50 |
12. | 1,2-dicloroethan | µg/l | 3.0 |
13. | Epicolorohydrin | µg/l | 0.10 (1) |
14. | Fflworid | mg F/l | 1.5 |
15. | Plwm | µg Pb/l | 10 |
16. | Mercwri | µg Hg/l | 1 |
17. | Nicel | µg Ni/l | 20 |
18. | Nitrad | mg NO3/l | 50 (2) |
19. | Nitrid | mg NO2/l | 0.5 (2) |
20. | Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol: | ||
- sylweddau unigol | µg/l | 0.10 (3) (4) | |
- cyfanswm y sylweddau | µg/l | 0.50 (3) (5) | |
21. | Hydrocarbonau aromatig polysyclig | µg/l | 0.1 swm crynodiadau cyfansoddion penodedig (6) |
22. | Seleniwm | µg Se/l | 10 |
23. | Tetracloroethen a Thricloroethen | µg/l | 10 (7) |
24. | Tricloromethen, Dicolrorbromomethan, Dibromocolromethan a Thribromomethan | µg/l | 100 (7) |
25. | Finyl clorid | µg/l | 0.50 (1) |
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 7 Rhn. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Unedau Mesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Rhaid i’r dŵr beidio bod yn ffyrnig. | |||
(2) Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. | |||
(3) Nid oes angen mesur y paramedr hwn os yw Cyfanswm Carbon Organig y paramedr yn cael ei ddadansoddi. | |||
(4) Nid oes angen mesur y paramedr hwn ar gyfer cyflenwadau o lai na 10,000m3 y dydd. | |||
1. | Alwminiwm | µg/l | 200 |
2. | Amoniwm | mg/l | 0.50 |
3. | Clorid | mg/l | 250 (1) |
4. | Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | nifer/100ml | 0 (2) |
5. | Lliw | graddfa Mg/1 Pt/Co | 20 |
6. | Dargludedd | µS cm-1 ar 20°C | 2500 (1) |
7. | Crynodiad ïonau hydrogen | unedau pH | 4.5 (lleiaf) 9.5 (mwyaf) (1) |
8. | Haearn | µg/l | 200 |
9. | Manganîs | µg/l | 50 |
10. | Arogl | Rhif gwanediad | 3 at 25°C |
11. | Ocsidioldeb | mg/l O2 | 5 (3) |
12. | Sylffad | mg/l | 250 (1) |
13. | Sodiwm | mg/l | 200 |
14. | Blas | Rhif gwanediad | 3 ar 25°C |
15. | Cyfrif cytref 22°C | Dim newid annormal | |
16. | Bacteria Colifform | nifer/250ml | 0 |
17. | Cyfanswm Carbon Organig | Dim newid annormal | (4) |
18. | Cymylogrwydd | Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal |
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 7 Rhn. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Eitem | Paramedr | Uned Fesur | Crynodiad neu Werth Mwyaf |
---|---|---|---|
(1) Bernir bod cyfiawnhad i gamau adferol ar sail diogelwch radiolegol, heb ystyriaeth bellach, pan fo crynodiadau radon yn fwy na 1000 Bq/l. | |||
(2) Gallai lefelau ymgodol o dritiwm ddangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill. Os bydd y crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig, bydd dadansoddiad o bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill yn ofynnol. | |||
1. | Radon | Bq/l | 100 (1) |
2. | Tritiwm | Bq/l | 100 (2) |
3. | Dogn Dangosiadol | mSv | 0.10 |
Rheoliad 24(2)(a)
1. Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Ystyr gwirio yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer bob paramedr a restrir yn Nhabl 1 yn yr amgylchiadau a restrir yn y tabl hwnnw er mwyn—
(a)penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd parametrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7;
(b)darparu gwybodaeth ar ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c)sefydlu effeithiolrwydd y driniaeth, gan gynnwys diheintiad.
Paramedr | Amgylchiadau |
---|---|
Alwminiwm | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Amoniwm | Ym mhob cyflenwad |
Lliw | Ym mhob cyflenwad |
Dargludedd | Ym mhob cyflenwad |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborynau) | Dim ond yn angenrheidiol os yw’r dŵr yn deillio o ddŵr arwyneb neu’n cael ei ddylanwadu gan ddŵr arwyneb. |
Escherichia coli (E. Coli) | Ym mhob cyflenwad |
Crynodiad ïonau hydrogen | Ym mhob cyflenwad |
Haearn | Angenrheidiol pan y’i defnyddir fel clystyrdd yn unig. |
Nitrad | Angenrheidiol pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio. |
Arogl | Ym mhob cyflenwad |
Pseudomonas aeruginosa | Ym mhob cyflenwad |
Blas | Ym mhob cyflenwad |
Cyfrif cytref 22ºC a 37ºC | Ym mhob cyflenwad |
Bacteria colifform | Ym mhob cyflenwad |
Cymylogrwydd | Ym mhob cyflenwad |
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 2.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. | |
≤ 10 | 1 |
> 10 ≤ 60 | 12 |
> 60 | 1 am bob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro archwiliadau yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Ystyr monitro archwiliad yw samplu dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed mewn potel, ar gyfer bob paramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7 (heblaw paramedrau sy’n cael eu samplu’n barod drwy wiriadau) er mwyn—
(a)darparu’r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn penderfynu a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a
(b)gwneud yn siŵr bod unrhyw sgil-gynhyrchion diheintio yn cael eu cadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio, os defnyddir diheintiad yn achos dŵr yfed wedi’i botelu.
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn Nhabl 3.
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i’w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod (m3)(1) | Nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|
(1) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaledd dros flwyddyn galendr. | |
≤ 10 | 1 |
> 10 ≥ 60 | 1 |
> 60 | 1 am bob 100 m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 24(2)(b)
1. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm a dogn dangosiadol yn unol â’r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal arolygon cynrychioliadol er mwyn penderfynu ar raddfa a natur cysylltiad tebygol â radon o wahanol fathau o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn gwahanol ardaloedd daearegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid i’r arolygon cynrychioliadol gael eu cynllunio mewn modd sy’n golygu bod modd adnabod paramedrau gwaelodol, gan gynnwys daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y graig neu’r pridd a math y ffynnon a’u defnyddio i gyfeirio camau pellach i ardaloedd lle mae cyswllt uchel yn debygol.
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer radon os oes rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, y gallai gwerth paramedrig y radon fod yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer tritiwm os oes ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclid artiffisial arall yn bresennol o fewn y dalgylch ac ni ellir ei ddangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth nac ymchwiliadau eraill bod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8. Rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ar gyfer dogn dangosiadol os oes ffynhonnell o ymbelydredd artiffisial neu ymbelydredd naturiol uchel yn bresennol ac na ellir dangos ar sail rhaglenni monitro cynrychioliadol nac ymchwiliadau eraill bod lefel y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9. Rhaid cyflawni’r samplu ar yr amlderau a bennir yn y Tabl yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10. Caiff yr awdurdod bwyd ddefnyddio amrywiol strategaethau sgrinio dibynadwy er mwyn monitro gwerth dangosydd paramedrig y dogn dangosiadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11. Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am radioniwclid unigol neu radioniwclidau penodol ac—
(a)mae un o’r crynodiadau gweithgaredd yn uwch na 20% o’r gwerth deilliadol cyfatebol a bennir yn Nhabl 1 yn Rhan 2 o Atodlen 11; neu
(b)pan fo’n briodol, mae crynodiad y tritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill, fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Os yw’r awdurdod bwyd yn sgrinio am weithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros ac—
(a)mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd alffa gros yn uwch na 0.1 Bq/l; neu
(b)mae’r lefel sgrinio ar gyfer gweithgaredd beta gros yn uwch na 1.0 Bq/l,
rhaid i’r awdurdod bwyd ymchwilio i bresenoldeb radioniwclidau eraill fel y penderfynir gan yr awdurdod bwyd, gan roi ystyriaeth i bob gwybodaeth berthnasol arall ynghylch ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
(2) Caiff yr awdurdod bwyd osod lefelau sgrinio amgen ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros os gall ddangos bod y lefelau amgen yn cydymffurfio â dogn dangosiadol o 0.1mSv.
(3) Os canfyddir lefelau uwch o dritiwm sy’n dangos presenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill, rhaid mesur tritiwm, gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yn yr un sampl.
(4) Os yw’r gweithgaredd alffa gros a’r gweithgaredd beta gros yn llai na 0.1 Bq/l ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn, caiff yr awdurdod bwyd dybio bod y dogn dangosiadol yn is na’r gwerth paramedrig o 0.1 mSv ac os digwydd hynny nid oes angen ymchwiliad radiolegol pellach oni bai ei bod yn hysbys o ffynonellau gwybodaeth eraill bod radioniwclidau penodol yn bresennol yn y dŵr sy’n dueddol i achosi dos dangosiadol sy’n uwch na 0.1 mSv.
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 9 para. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
13. Nid yw’n ofynnol i awdurdod bwyd fonitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, na dŵr yfed wedi’i botelu, ar gyfer radon, tritiwm na dogn dangosiadol—
(a)os yw’n fodlon ar sail arolygon cynrychioladol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall, y bydd y paramedr dan sylw yn aros islaw’r priod werth paramedrig a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7 am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf; a
(b)os yw’n hysbysu’r Asiantaeth o’r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi copi o’r arolygon cynrychioliadol, y data monitro neu’r wybodaeth ddibynadwy arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’r Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 9 para. 13 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
14. Pan fo dŵr yfed wedi’i botelu wedi ei drin er mwyn gostwng lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod bwyd fonitro ar yr amlderau a ddynodir yn y Tabl yn Rhan 2 er mwyn sicrhau bod y driniaeth honno yn parhau i fod yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 9 para. 14 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
15. Os bydd y gwerth paramedrig mewn sampl o ddŵr yn uwch na’r gwerth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd gymryd mwy o samplau fel y bo’n briodol, gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan yr Asiantaeth, er mwyn sicrhau bod y gwerthoedd a fesurwyd yn cynrychioli crynodiad gweithgaredd cyfartalog blwyddyn gyfan.
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 9 para. 15 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 9 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir bob dydd o fewn parth cyflenwi (1) (2) m3 | Nifer y samplau y flwyddyn (3) |
---|---|
(1) Parth cyflenwi yw ardal ddaearyddol ddiffiniedig y daw dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl o un ffynhonnell neu fwy ohoni ac y gellid ystyried bod ansawdd y dŵr oddi mewn iddi yn weddol unffurf. | |
(2) Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr. | |
(3) Dylai nifer y samplau gael eu dosbarthu’n gyfartal o ran amser a lleoliad cyn belled ag y bo’n bosibl. | |
cyfaint ≤ 100 | 1 |
100 < cyfaint ≤ 100 | 1 |
1,000 < cyfaint ≤ 10,000 | 1 +1 am bob 3,300m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
10, 000 < cyfaint ≤ 100,000 | 3 +1 am bob 10,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
cyfaint > 100,000 | 10 +1 am bob 25,000 m3/d a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
Rheoliad 25(1)(a)
1.—(1) Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod bob sampl yn cael ei ddadansoddi’n unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 98/83 a’r Atodlen hon.
(2) Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir y dull dadansoddi yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw.
(3) Am bob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi yn un sy’n gallu—
(a)mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r cywirdeb a’r trachywiredd a bennir yn ail a thrydedd golofn y tabl hwnnw; a
(b)canfod paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.
(4) Ar gyfer ionau hydrogen, rhaid i’r dull dadansoddi allu mesur gwerth gyda chywirdeb o 0.2pH uned a thrachywiredd o 0.2pH uned.
(5) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer paramedrau aroglau a blas allu mesur gwerthoedd cyfartal i’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanhad o 25ºC.
(6) At ddibenion y paragraff hwn—
“cywirdeb” (“trueness”) (y gwall systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedr y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r union werth;
“terfyn canfod” (“limit of detection”) yw—
tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad is o’r paramedr; neu
pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp o sampl gwag;
“trachywiredd” (“precision”) (y gwall ar hap) yw ddwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) o wasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr.
Gwybodaeth Cychwyn
I110Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi dull sy’n wahanol i’r un a nodir yn Rhan 2 yr Atodlen hon os yw’n fodlon ei fod o leiaf mor ddibynadwy.
(2) Caniateir bod cyfyngiad amser ar awdurdodiad a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Caiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb er mwyn i unrhyw berson gymryd a dadansoddi samplau ar ei ran.
(2) Ni chaiff awdurdod bwyd ymrwymo i gytundeb o dan is-baragraff (1) oni bai—
(a)ei fod yn fodlon y bydd y dasg yn cael ei chynnal yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w pherfformio; a
(b)ei fod wedi gwneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw achos o dorri’r Rheoliadau hyn yn cael ei gyfathrebu iddo ar unwaith, a bod unrhyw ganlyniad arall yn cael ei gyfathrebu iddo o fewn 28 diwrnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I112Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 10 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Paramedr | Dull |
---|---|
(1) Defnyddiwch y dull canlynol i wneud m-CP agar: | |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | Hidlo drwy bilen ac yna deor y bilen yn anerobig ar m-CP agar(1) ar 44 ±1ºC am 21± 3 awr. Cyfrif y cytrefi melyn di-draidd sy’n troi’n binc neu’n goch ar ôl cyswllt ag anweddau amoniwm hydrocsid am 20 i 30 eiliad. |
Bacteria colifform | BS-EN ISO 9308-1 |
Cyfrif cytref 22ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwy | BS-EN ISO 6222 |
Cyfrif cytref 37ºC – cyfrif o’r micro-organebau meithrinadwy | BS-EN ISO 6222 |
Enterococi | BS-EN ISO 7899-2 |
Escherichia coli (E. Coli) | BS-EN ISO 9308-1 |
Pseudomonas aeruginosa | BS-EN ISO 12780 |
Gwnewch gyfrwng gwaelodol sy’n cynnwys— | |
Tryptose | 30.0g |
Rhin Burum | 20.0g |
Swcros | 5.0g |
L-cystein hydroclorid | 1.0g |
MgSO4.7H2O | 0.1g |
Bromocresol porffor | 40.0mg |
Agar | 15.0g |
Dŵr | 1,000.0ml |
Toddwch y cynhwysion o gyfrwng gwaelodol, addasu’r pH i 7.6 ac awtoclafio ar 121ºC am 15 munud. Gadewch i’r cyfrwng oeri. | Toddwch— |
D-cycloserin | 400.0mg |
Polymyxine-B sylffad | 25.0mg |
Indoxl-β-D-glwcosid | 60.0mg |
i 8ml o ddŵr diheintiedig a’i ychwanegu i’r cyfrwng. | |
Hydoddiant ffenolffthalein diffosohad 0.5% wedi ei sterileiddio â hidlen | 20.0ml |
4.5% FeCl3.6H2O wedi ei stereleiddio â hidlen | 2.0ml |
Nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi
Paramedrau | % Cywirdeb y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd | % Trachywiredd y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd | % Terfyn canfod y crynodiad neu’r gwerth neu’r fanyleb a ragnodwyd |
---|---|---|---|
(1) Dylai’r dull dadansoddi benderfynu cyfanswm y cyanid ar bob ffurf. | |||
(2) Dylai ocsideiddio gael ei gynnal am 10 munud ar 100°C o dan amodau asid gan ddefnyddio permanganad. | |||
(3) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i bob plaleiddiad unigol a bydd yn ddibynnol ar y plaleiddiad dan sylw. | |||
(4) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylweddau unigol y pennir ei fod yn 25% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7. | |||
(5) Mae’r nodweddion perfformiad yn gymwys i’r sylwedd unigol y pennir ei fod yn 50% o’r gwerth paramedrig yn Nhabl B yn Rhan 2, Atodlen 7. | |||
Alwminiwm | 10 | 10 | 10 |
Amoniwm | 10 | 10 | 10 |
Antimoni | 25 | 25 | 25 |
Arsenig | 10 | 10 | 10 |
Bensen | 25 | 25 | 25 |
Benso(a)pyren | 25 | 25 | 25 |
Boron | 10 | 10 | 10 |
Bromad | 25 | 25 | 25 |
Cadmiwm | 10 | 10 | 10 |
Clorid | 10 | 10 | 10 |
Cromiwm | 10 | 10 | 10 |
Dargludedd | 10 | 10 | 10 |
Copr | 10 | 10 | 10 |
Cyanid(1) | 10 | 10 | 10 |
1,2-dicloroethan | 25 | 25 | 10 |
Fflworid | 10 | 10 | 10 |
Haearn | 10 | 10 | 10 |
Plwm | 10 | 10 | 10 |
Manganîs | 10 | 10 | 10 |
Mercwri | 20 | 10 | 20 |
Nicel | 10 | 10 | 10 |
Nitrad | 10 | 10 | 10 |
Nitrid | 10 | 10 | 10 |
Ocsidioldeb(2) | 25 | 25 | 10 |
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol(3) | 25 | 25 | 25 |
Hydrocarbonau aromatig polysyclig(4) | 25 | 25 | 25 |
Seleniwm | 10 | 10 | 10 |
Sodiwm | 10 | 10 | 10 |
Sylffad | 10 | 10 | 10 |
Tetracloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Tricloroethen(5) | 25 | 25 | 10 |
Trihalomethanau(4) | 25 | 25 | 10 |
Rheoliad 25(1)(b)
1. Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cael ei ddadansoddi ar gyfer dogn dangosiadol yn unol ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 2013/51 a’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Ar gyfer bob paramedr a radioniwclid a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, pennir cyfeirnod y crynodiad a’r dogn deilliadol ar gyfer cyfrifo’r dogn dangosiadol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, rhaid i’r dull dadansoddi fod yn un sy’n gallu canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir yn ail golofn y tabl hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Os bodlonir y fformiwla ganlynol, ystyrir y bydd y dogn dangosiadol yn llai na gwerth paramedrig 0.1 mSv ac nid oes angen mwy o ymchwil—
pan fo
Ci(obs) = crynodiad radioniwclid a arsylwyd i
Ci(der) = crynodiad radioniwclid deilliadol i
n = nifer y radioniwclidau a ganfuwyd
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 11 Rhn. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Tarddiad | Niwclid | Crynodiad deilliadol |
---|---|---|
(1) Mae’r tabl hwn yn caniatáu ar gyfer nodweddion radiolegol wraniwm yn unig, nid ei wenwyndra cemegol. | ||
Naturiol | U-238(1) | 3.0 Bq/l |
U-234(1) | 2.8 Bq/l | |
Ra-226 | 0.5 Bq/l | |
Ra-228 | 0.2 Bq/l | |
Pb-210 | 0.2 Bq/l | |
Po-210 | 0.1 Bq/l | |
Artiffisial | C-14 | 240 Bq/l |
Sr-90 | 4.9 Bq/l | |
Pu-239/Pu-240 | 0.6 Bq/l | |
Am-241 | 0.7 Bq/l | |
Co-60 | 40 Bq/l | |
Cs-134 | 7.2 Bq/l | |
Cs-137 | 11 Bq/l | |
I-131 | 6.2 Bq/l |
Paramedrau a radioniwclidau | Terfyn canfod (1) (2) |
---|---|
(1) Cyfrifir y terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Penderfynu ar derfynau’r nodweddion (trothwy penderfynu, terfyn canfod a therfynau’r cyfnod hyder) ar gyfer mesuriadau ymbelydredd ïoneiddio - Sylfeini a chymhwysiad, gyda thebygolrwydd o wallau o’r math 1af a’r 2ail o 0.05 yr un. | |
(2) Cyfrifir ansicrwydd yn y mesuriadau a’u hadrodd fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd safonol | |
ehangedig gyda ffactor ehangiad o 1.96, yn ôl Canllaw ISO ar gyfer Mynegiant o Ansicrwydd mewn Mesuriadau. | |
(3) Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/l. | |
(4) Y terfyn canfod ar gyfer gweithgaredd alffa gros a gweithgaredd beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0.1 ac 1.0 Bq/l yn ôl eu trefn. | |
(5) Mae’r cyfyngiad canfod yn gymwys i sgrinio cychwynnol ar gyfer dogn dangosiadol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd yn unig. Os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod Ra-228 yn uwch na 20% o’r crynodiad deilliadol, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0.08 Bq/l ar gyfer mesuriadau niwclid Ra-228 benodol arferol, hyd nes bod angen ail-wiriad dilynol. | |
Tritiwm | 10 Bq/l (3) |
Radon | 10 Bq/l (3) |
gweithgaredd alffa gros gweithgaredd beta gros | 0.04 Bq/l (4) 0.4 Bq/l (4) |
U-238 | 0.02 Bq/l |
U-234 | 0.02 Bq/l |
Ra-226 | 0.04 Bq/l |
Ra-228 | 0.02 Bq/l (5) |
Pb-210 | 0.02 Bq/l |
Po-210 | 0.01 Bq/l |
C-14 | 20 Bq/l |
Sr-90 | 0.4 Bq/l |
Pu-239/Pu-240 | 0.04 Bq/l |
Am-241 | 0.06 Bq/l |
Co-60 | 0.5 Bq/l |
Cs-134 | 0.5 Bq/l |
Cs-137 | 0.5 Bq/l |
I-131 | 0.5 Bq/l |
Rheoliadau 33, 34 a 35
Gwybodaeth Cychwyn
I119Atod. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella) | (1) Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in sub-section (1A) or is carrying out either a fluoride removal treatment or an ozone-enriched air treatment that has a disinfectant action, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)— (a)state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision; (b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply; (c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and (d)require the person to take those measures or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice. (1A) The provisions referred to in sub-section (1) are— (e)any of regulations 8 to 22 of the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015; and (f)any of the following provisions of Commission Regulation (EU) No 115/2010 laying down the conditions for use of activated alumina for the removal of fluoride from natural mineral waters and spring waters(23)— (i)Article 1.2 (requirement that any fluoride removal treatment be performed in accordance with the technical requirements set out in the Annex); (ii)the first sentence of Article 2 (requirement that the release of residues into natural mineral water or spring water as a result of any fluoride removal treatment be as low as technically feasible according to the best practices and not pose a risk to public health); (iii)the second sentence of Article 2 (requirement to ensure compliance with the first sentence of Article 2, operators implement and monitor the critical processing steps set out in the Annex); (iv)Article 3.1 (requirement that the application of any fluoride removal treatment be notified to the competent authorities at least three months prior to use); and (v)Article 4 (requirement that the label on natural mineral water or spring water subjected to any fluoride removal treatment include specified information in proximity to the statement of the analytical composition).” |
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 32(1) i (7) (pwerau mynediad) | Yn is-adran (1), yn lle paragraffau (a) i (c) rhodder— “(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there is or has been on the premises a contravention of any of the following provisions of Commission Regulation (EU) No 115/2010 laying down the conditions for use of activated alumina for the removal of fluoride from natural mineral waters and spring waters— (vi)Article 1.2 (requirement that any fluoride removal treatment be performed in accordance with the technical requirements set out in the Annex); (vii)the first sentence of Article 2 (requirement that the release of residues into natural mineral water or spring water as a result of any fluoride removal treatment be as low as technically feasible according to the best practices and not pose a risk to public health); (viii)the second sentence of Article 2 (requirement to ensure compliance with the first sentence of Article 2, operators implement and monitor the critical processing steps set out in the Annex); (ix)Article 3.1 (requirement that the application of any fluoride removal treatment be notified to the competent authorities at least three months prior to use); and (x)Article 4 (requirement that the label on natural mineral water or spring water subjected to any fluoride removal treatment include specified information in proximity to the statement of the analytical composition); and (b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention within that area of the provisions set out in paragraph (a); ”. |
Darpariaethau’r Ddeddf | Addasiadau |
---|---|
Adran 2(24)(ystyr estynedig “sale” etc.) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. Yn is-adran (2), yn lle “This Act” rhodder “The Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi’i fwriadu i bobl ei fwyta) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 21(1) a (5)(25) (amddiffyn diwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 29 (caffael samplau) | Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “as applied by regulation 34 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 30(6) a (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd) | Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 35(1)(26) a (2) (cosbi troseddau) | Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. Ar ôl is-adran (1), mewnosoder— “(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.” Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 35 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015,”. |
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 36A(27) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) | Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Adran 37(1) a (6) (apelau) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 33 of, and Schedule 12 to, the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015, may appeal to a magistrates’ court.” Yn is-adran (6)— yn lle “(3) and (4)” rhodder “(1)”; ac ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”. |
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 33 of, and Schedule 12 to the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.”. Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”. |
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Wales) Regulations 2015”. |
Rheoliad 38
1. Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 13 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
2. Yn rheoliad 3(a), yn lle “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007” rhodder “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2015”.
Gwybodaeth Cychwyn
I121Atod. 13 para. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
3. Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(29) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 13 para. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
4. Yn Atodlen 1, hepgorer y cyfeiriad at “Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed Wedi’i Botelu (Cymru) 2007”.
Gwybodaeth Cychwyn
I123Atod. 13 para. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5. Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(30) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I124Atod. 13 para. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Yn Atodlen 7, hepgorer paragraffau 49 a 50.
Gwybodaeth Cychwyn
I125Atod. 13 para. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys yng Nghymru, yn gweithredu ac yn gorfodi’r offerynnau Ewropeaidd a ganlyn—
(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC mewn perthynas ag ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 330, 3.11.1998, t 32), i’r graddau y mae’n ymwneud a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu;
(b)Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (OJ Rhif L 164, 26.6.2009, t 45);
(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy’n sefydlu’r rhestr, cyfyngiadau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a’r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogir ag osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon (OJ Rhif L 126, 22.5.2003, t 34);
(d)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy’n gosod yr amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon (OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13); ac
(e)Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/Euratom sy’n gosod y gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â sylweddau ymbelydrol mewn dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t 12), i’r graddau y mae’n ymwneud a dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu.
Mae’r Rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr wedi’i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy. 276)) a’r offerynnau diwygio.
Mae Rhan 1 yn rhagarweiniol ac yn cynnwys diffiniadau perthnasol.
Mae Rhan 2 yn rhagnodi’r amodau ar gyfer cydnabod dŵr mwynol naturiol. Mae rheoliad 5 yn galluogi awdurdod bwyd i wrthod rhoi cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu i dynnu’r gydnabyddiaeth yn ôl ac mae’n darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad o’r fath. Mae Rhan 2 hefyd yn gosod cyfyngiadau ar ddatblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiol ac ar drin, potelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr mwynol naturiol.
Mae Rhan 3 yn gosod cyfyngiadau ar ddatblygu ffynhonnau a thrin, potelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”.
Mae Rhan 4 yn gosod cyfyngiadau ar botelu, labelu, hysbysebu a gwerthu dŵr yfed wedi’i botelu.
Mae Rhan 5 yn rhagnodi’r gofynion ar gyfer monitro dŵr mwynol naturiol, dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu at ddiben sicrhau bod gofynion y Rheoliadau hyn yn cael eu bodloni.
Mae rheoliad 26 yn rhagnodi’r camau adferol y mae’n rhaid i awdurdod bwyd eu cymryd mewn perthynas â dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu mewn achos o beidio â chydymffurfio â’r gwerthoedd parametrig ar gyfer y paramedrau a nodir yn Atodlen 7.
Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer gorfodi, darpariaethau trosiannol, dirymiadau a diwygiadau i ddeddfwriaeth arall. Mae rheoliad 32 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i weithredu a gorfodi’r Rheoliadau.
Mae rheoliadau 33 i 35 ac Atodlen 12 yn cymhwyso darpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16), gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), gan alluogi cyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig o’r Rheoliadau. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri bod methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.
Mae rheoliad 38 ac Atodlen 13 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010, Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth, www.food.gov.uk/wales.
Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, adran 40(1) a (4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac O.S. 2002/794.
Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 17(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i’r Deddf honno, ac O.S. 2011/1043.
Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf 1999, ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 31 gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 8 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 21 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).
Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
OJ Rhif L 330, 5.12.1998 t 32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) Rhif 2015/1787 (OJ Rhif L 260 7.10.2015, t 6).
OJ Rhif L 126, 22.5.2003, t 34.
OJ Rhif L 164, 26.6.2009, t 45.
OJ Rhif L 296, 7.11.2013, t 12.
OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13.
OJ Rhif 311, 28.11.2001 t 67, diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/26/EU (OJ Rhif L 299, 27.10.2012, t 1).
O.S. 2013/479 (Cy. 55), diwygiwyd gan O.S. 2013/2493 (Cy. 242).
O.S. 2007/3165 (Cy. 276), diwygiwyd gan O.S. 2009/1897 (Cy. 170), 2010/748 (Cy. 76), 2011/400 (Cy. 57).
OJ Rhif L 37, 10.2.2010, t 13.
Diwygiwyd adran 2(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.
Mae adran 35(1) i gael ei diwygio gan adran 280(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) a pharagraff 42 o Atodlen 26 iddi, o ddyddiad sydd i’w bennu.
Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraff 16 o Atodlen 5 iddi
O.S. 2013/479 (Cy. 55), diwygiwyd gan O.S. 2013/2493 (Cy. 242).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: