Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi gyda diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(1) (“Rheoliadau 1999”) a’r offerynnau diwygio dilynol. Roedd Rheoliadau 1999 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1985 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(2).

Mae Cyfarwyddeb 1985 wedi ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(3). Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb yr UE 2014/52/EU(4).

Y prif newidiadau i Reoliadau 1999 yw:

Mae rheoliad 4(5) a (7) yn cyflwyno gofyniad i’r rhesymau dros benderfyniadau sgrinio negyddol gael eu darparu a’u rhoi ar Ran 1 o’r gofrestr, fel eu bod ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

Mae rheoliad 4(8) yn egluro y caiff unrhyw berson ofyn i Weinidogion Cymru arfer pŵer cyfarwyddo.

Mae rheoliad 8 yn cyfyngu’r gofyniad bod ceisiadau dilynol yn ddarostyngedig i’r broses sgrinio i’r achosion pan fo’r datblygiad dan sylw yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd nas canfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio cychwynnol.

Mae rheoliadau 27 i 36(2) yn ddarpariaethau sy’n ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 38 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu gwneud gorchymyn datblygu lleol benderfynu a yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA; ac os ydyw, i gymryd camau penodol i’w alluogi i gymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth cyn gwneud y gorchymyn.

Mae rheoliad 39 yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu un ai gwneud gorchymyn adran 97 o dan adran 97 neu 100 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu orchymyn o dan adran 102 neu 104 o’r Ddeddf honno.

Mae paragraff 21 o Atodlen 1 yn cynnwys safleoedd ar gyfer storio carbon deuocsid yn ddaearegol. Cynhwysir gweithfeydd ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol er mwyn gweithredu’r gofynion yn y Gyfarwyddeb ynglŷn â Storio Carbon Deuocsid yn Ddaearegol (Cyfarwyddeb 2009/31/EC)(5).

Mae’r Rheoliadau hyn yn codi ac yn diwygio’r trothwyon yn Atodlen 2 lle bydd angen sgrinio mathau penodol o brosiectau datblygu er mwyn penderfynu a yw asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol o dan y Gyfarwyddeb. Gwneir y newidiadau hyn ar ôl ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU, fel y’i mabwysiadwyd gan Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar 13 Rhagfyr 2011.

Codir y trothwy ar gyfer prosiectau datblygu ystadau diwydiannol o ardaloedd mwy na 0.5 hectar i ardaloedd mwy na 5 hectar (ym mharagraff 10(a) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).

Yn achos prosiectau datblygu trefol, codir y trothwy presennol o 0.5 hectar a’i ddiwygio fel bod angen sgrinio prosiect—

  • os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad nad yw’n ddatblygiad tŷ annedd; neu

  • os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu

  • os yw ardal y datblygiad yn fwy na 5 hectar (gweler paragraff 10(b) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).

Mewnosodir diffiniad o “tŷ annedd” yn rheoliad 2(1) er mwyn ei egluro yn y cyd-destun hwn.

Mae paragraff 13 o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2 yn cynnwys diwygiad i’r darpariaethau sy’n ymwneud â newidiadau neu estyniadau i ddatblygiad presennol, fel bod effeithiau’r datblygiad yn ei gyfanrwydd ar ôl ei addasu yn cael eu hystyried.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.wales.gov.uk.

(2)

O.J. Rhif L175, 5.7.1985, t. 40. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, O.J. Rhif L 73, 14.3.1997, t. 5; Cyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L156, 25.6.2003, t. 17; a Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114. Cafodd Cyfarwyddeb 1985 a darpariaethau diwygio y Gyfarwyddeb ddilynol eu codeiddio yng Nghyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, O.J. Rhif L26 28.1.2012, t. 1.

(3)

O.J. Rhif L26, 28.1.2012, t. 1.

(4)

O.J. Rhif L124, 25.4.2014, t. 1.

(5)

Cyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC, Cyfarwyddebau 2000/60/EC, 2001/80/EC, 2004/35/EC, 2006/12/EC, 2008/1/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources