Rhagolygol
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi gyda diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999() (“Rheoliadau 1999”) a’r offerynnau diwygio dilynol. Roedd Rheoliadau 1999 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1985 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd().
Mae Cyfarwyddeb 1985 wedi ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(). Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb yr UE 2014/52/EU().
Y prif newidiadau i Reoliadau 1999 yw:
Mae rheoliad 4(5) a (7) yn cyflwyno gofyniad i’r rhesymau dros benderfyniadau sgrinio negyddol gael eu darparu a’u rhoi ar Ran 1 o’r gofrestr, fel eu bod ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.
Mae rheoliad 4(8) yn egluro y caiff unrhyw berson ofyn i Weinidogion Cymru arfer pŵer cyfarwyddo.
Mae rheoliad 8 yn cyfyngu’r gofyniad bod ceisiadau dilynol yn ddarostyngedig i’r broses sgrinio i’r achosion pan fo’r datblygiad dan sylw yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd nas canfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio cychwynnol.
Mae rheoliadau 27 i 36(2) yn ddarpariaethau sy’n ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 38 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu gwneud gorchymyn datblygu lleol benderfynu a yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA; ac os ydyw, i gymryd camau penodol i’w alluogi i gymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth cyn gwneud y gorchymyn.
Mae rheoliad 39 yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu un ai gwneud gorchymyn adran 97 o dan adran 97 neu 100 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu orchymyn o dan adran 102 neu 104 o’r Ddeddf honno.
Mae paragraff 21 o Atodlen 1 yn cynnwys safleoedd ar gyfer storio carbon deuocsid yn ddaearegol. Cynhwysir gweithfeydd ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol er mwyn gweithredu’r gofynion yn y Gyfarwyddeb ynglŷn â Storio Carbon Deuocsid yn Ddaearegol (Cyfarwyddeb 2009/31/EC)().
Mae’r Rheoliadau hyn yn codi ac yn diwygio’r trothwyon yn Atodlen 2 lle bydd angen sgrinio mathau penodol o brosiectau datblygu er mwyn penderfynu a yw asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol o dan y Gyfarwyddeb. Gwneir y newidiadau hyn ar ôl ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU, fel y’i mabwysiadwyd gan Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar 13 Rhagfyr 2011.
Codir y trothwy ar gyfer prosiectau datblygu ystadau diwydiannol o ardaloedd mwy na 0.5 hectar i ardaloedd mwy na 5 hectar (ym mharagraff 10(a) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).
Yn achos prosiectau datblygu trefol, codir y trothwy presennol o 0.5 hectar a’i ddiwygio fel bod angen sgrinio prosiect—
os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad nad yw’n ddatblygiad tŷ annedd; neu
os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu
os yw ardal y datblygiad yn fwy na 5 hectar (gweler paragraff 10(b) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).
Mewnosodir diffiniad o “tŷ annedd” yn rheoliad 2(1) er mwyn ei egluro yn y cyd-destun hwn.
Mae paragraff 13 o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2 yn cynnwys diwygiad i’r darpariaethau sy’n ymwneud â newidiadau neu estyniadau i ddatblygiad presennol, fel bod effeithiau’r datblygiad yn ei gyfanrwydd ar ôl ei addasu yn cael eu hystyried.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.wales.gov.uk.