Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 13Amrywiol

Cais i’r Uchel Lys

55.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(1) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 41.

Gwastraff peryglus a newid defnydd sylweddol

56.  Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunio

57.—(1At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 10(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

(2Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai bob un o’r cyfeiriadau yn erthygl 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos.

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio

58.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(2) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso i’r Goron

59.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.

(2Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 11 (cais a atgyfeirir i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(3) neu ei”; a

(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; a

(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu ei”.

Dirymu offerynnau statudol a darpariaethau trosiannol

60.—(1Mae’r offerynnau statudol yn Atodlen 8 wedi eu dirymu i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

(2Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1) yn effeithio ar barhad cymhwysiad yr offerynnau a ddirymir gan y paragraff hwnnw, ac nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys, mewn perthynas ag—

(a)unrhyw gais a gofnodir neu a geir gan awdurdod cyn y dyddiad cychwyn,

(b)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae’r offerynnau hynny’n gymwys iddo yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009,

(c)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o dan is-baragraff (a) neu (b), neu

(d)unrhyw fater y mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi, cyn y dyddiad hwnnw, dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 52(1).

Diwygiadau canlyniadol

61.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

(1)

Diwygiwyd adran 288(1)(b) gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 27 ac Atodlen 4, paragraff 16.

(2)

Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) (“Deddf 2004”) a diwygiwyd yr adran gan adran 16 ac Atodlen 2, paragraffau 8 a 9 ac adran 27 a pharagraffau 1 ac 17(1) i (3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc. 4). Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod cyfeiriad yn Atodlen 1 Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) at ddeddfiad a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2004 yn gyfeiriad at y deddfiad fel y-I diwygiwyd felly.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources