- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
14.—(1) Rhaid i gais a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 13(7) gynnwys—
(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 13(1);
(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 13(3) ac o unrhyw ymateb;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y cais ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n mynd ynghyd â’r farn; a
(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y cais eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r person sy’n gwneud y cais a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r person sy’n gwneud y cais ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(7) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y materion a bennir yn rheoliad 13(6) i ystyriaeth.
(8) Nid oes unrhyw beth yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(9) Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: