- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.
(3) Rhaid i dderbynnydd—
(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 10(4)(a), 11(5) neu 12(6)—
(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a
(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer paratoi’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.
(5) Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael cais am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel cais am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: