- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Rhaid i geisydd sy’n gwneud cais AEA i’r awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno datganiad hefyd, y bwriedir iddo fod yn ddatganiad amgylcheddol, a rhaid darparu un copi ychwanegol o’r datganiad i’r awdurdod i’w drosglwyddo i Weinidogion Cymru.
(2) Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—
(a)cyflwyno copi o’r cais i’r corff ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);
(b)hysbysu’r corff y caniateir gwneud sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)hysbysu’r awdurdod o enw pob corff y cyflwynwyd iddo felly a dyddiad y cyflwyno.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—
(a)anfon un copi o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad;
(b)hysbysu’r ceisydd o nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);
(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen i unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;
(d)pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, anfon hysbysiad i berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 17(2)(b) i (j) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(5) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.
(6) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 21 diwrnod o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: