- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, Adran 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
3.—(1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—
(a)y ddarpariaeth o gymorth yn unig;
(b)y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;
(c)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—
(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
(d)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;
(e)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(1)), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;
(f)trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;
(g)y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall[F1;]
[F2(h)y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;
(i)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsio[F3.]]
F4(j). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
(3) Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—
(a)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(2)) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
(b)unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
(c)grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;
(d)ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.
(4) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 3(1)(g): semicolon wedi ei amnewid ar gyfer full stop (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 5(a)
F2Rhl. 3(1)(h)(i) wedi ei fewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 5(b)
F3Rhl. 3(1)(i) wedi ei amnewid (1.11.2022) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (O.S. 2022/1074), rhlau. 1(2), 5(a)
F4Rhl. 3(1)(j) ac geiriau wedi eu hepgor (1.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (O.S. 2022/1074), rhlau. 1(2), 5(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: