Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 35

ATODLEN 1LL+C

RHAN 1LL+CGwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys(2) a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys(3) a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â’r wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal a chymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu gofal a chymorth ar eu cyfer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—LL+C

(a)os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 34(3) neu (6), a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 59

ATODLEN 2LL+CCofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig

RHAN 1LL+CCofnodion sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion—LL+C

(a)o bob asesiad perthnasol;

(b)o gynlluniau personol;

(c)o adolygiadau o gynlluniau personol;

(d)o gynlluniau gofal a chymorth;

(e)o adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth;

(f)o’r gofal a ddarperir; gan gynnwys cofnodion dyddiol neu gofnodion o ymyriadau gofal penodol;

(g)o ohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â chymorth ychwanegol a ddarperir gan wasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau perthynol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am y ddarpariaeth o ofal a chymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Cofnod o’r holl feddyginiaethau a gedwir yn y gwasanaeth ar gyfer pob unigolyn a’r dyddiad a’r amser y rhoddwyd y meddyginiaethau hynny i’r unigolyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Cofnod o’r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a roddwyd gan yr unigolyn i’w cadw’n ddiogel neu a gafwyd ar ran yr unigolyn, y mae rhaid iddo gynnwys cofnod o’r canlynol—LL+C

(a)y dyddiad pan roddwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr i’w cadw neu pan gafwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(b)y dyddiad pan gafodd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr—

(i)eu dychwelyd at yr unigolyn, neu

(ii)eu defnyddio, ar gais yr unigolyn, ar ei ran;

(c)pan fo’n gymwys, at ba ddiben y defnyddiwyd yr arian neu’r pethau gwerthfawr;

(d)cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu’r pethau gwerthfawr wedi eu dychwelyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Cofnod o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—LL+C

(a)unrhyw ddamwain [F1neu anaf] difrifol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar lesiant unigolyn;

(b)achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth;

(c)unrhyw achos o ddwyn neu fwrgleriaeth;

(d)unrhyw atgyfeiriad diogelu a wneir mewn cysylltiad ag unigolyn;

(e)achosion o gwympo a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(f)achosion o [F2niwed] pwyso a thriniaeth ganlyniadol a ddarperir i unigolyn;

(g)dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheolaeth, atal neu ddisgyblu a ddefnyddir ar unigolyn.

6.  Cofnod o bob ymarfer tân, dril tân neu brawf cyfarpar tân (gan gynnwys cyfarpar larwm tân) a gynhelir yn y gwasanaeth ac o unrhyw gamau gweithredu a gymerir i unioni diffygion yn y cyfarpar tân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C

(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person;

(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;

(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;

(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau gweithio ac yn peidio â bod wedi ei gyflogi felly;

(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’n ei wneud a nifer yr oriau y mae wedi ei gyflogi bob wythnos;

(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;

(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Copi o restr ddyletswyddau’r personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a chofnod o ran a oedd y rhestr yn gweithio yn ôl yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCofnodion ychwanegol sydd i gael eu cadw mewn cysylltiad â gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

10.  Cofnod o unrhyw ddodrefn y mae unigolyn yn dod â hwy i’r ystafell y mae’n ei meddiannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

11.  Cofnod o unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau a ganlyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth—LL+C

(a)unrhyw dân;

(b)absenoldeb heb esboniad neu absenoldeb anawdurdodedig;

(c)marwolaeth unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

12.  Cofnod o’r holl ymwelwyr â’r gwasanaeth, gan gynnwys enwau ymwelwyr a’r personau y maent yn ymweld â hwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 60

ATODLEN 3LL+CHysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1LL+CHysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau mewn cysylltiad â phob gwasanaeth

1.  Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F33.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—LL+C

(a)cyfarwyddwyr,

(b)ymddiriedolwyr, neu

(c)aelodau pwyllgor rheoli,

y corff corfforaethol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F33A.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.]LL+C

4.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r [F4corff corfforaethol] hwnnw neu’r bartneriaeth honno.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

9.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

10.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

11.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol..LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

12.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

13.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff [F5a/neu wirfoddolwr] .LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

14.  Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

15.  Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

16.  Unrhyw [F6niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

17.  Bod unigolyn yn cael damwain [F7neu anaf] difrifol.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

18.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

19.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

20.  Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

21.  Pan fo llety wedi ei ddarparu, marwolaeth unigolyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

22.  Unrhyw gais i gorff goruchwylio mewn perthynas â chymhwyso’r mesurau diogelwch amddifadu o ryddid (DOLS).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

23.  Bod y fangre yn cael ei newid neu ei hestyn yn sylweddol neu bwriedir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

24.  Bod mangre ychwanegol yn cael ei chaffael neu bwriedir gwneud hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

25.  Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F825A.  Unrhyw newid i rif ffôn neu gyfeiriad post electronig y gwasanaeth.]LL+C

RHAN 2LL+CHysbysiadau ychwanegol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau pan fo gofal a chymorth yn cael eu darparu i blant

26.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

27.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(4), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

28.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

29.  Unrhyw honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

30.  [F9Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

31.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleoli pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

32.  Unrhyw gamdriniaeth neu honiad o gamdriniaeth mewn perthynas â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth sy’n ymwneud â’r darparwr neu aelod o staff.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

33.  Bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth yn cael damwain [F10neu anaf] difrifol.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

34.  Unrhyw [F11niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

35.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

36.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

37.  Marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

38.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

39.  Honiad bod plentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

40.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

41.  Cychwyn a chanlyniad dilynol unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael ei letya gan y gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

42.  [F12Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 3 para. 42 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CHysbysiadau i’r awdurdod lleol y mae’r cartref yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

43.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 3 para. 43 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

[F1344.   Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 3 para. 44 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

45.  Unrhyw achos pan fo plentyn sy’n cael ei letya yn mynd ar goll neu’n absennol heb esboniad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 3 para. 45 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CHysbysiadau i’r swyddog heddlu priodol pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

46.  [F14Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 3 para. 46 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CHysbysiadau i’r bwrdd iechyd y mae’r cartref wedi ei leoli yn ei ardal pan fo gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu i blant

47.  Achos o unrhyw glefyd heintus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 3 para. 47 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

48.  Marwolaeth plentyn a’r amgylchiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 3 para. 48 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Rheoliad 84

ATODLEN 4LL+CHysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 7(1)).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

6.  Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

7.  Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

(2)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

(3)

I gael ystyr “dilys”, gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources