- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)ymchwiliad lleol; a
(b)unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i’r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1); ac
ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru yr hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau)(2) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
2. Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol ac adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys—
(a)sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018 yw £508;
(b)sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019 yw £513; ac
(c)sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny yw £518.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011(3) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag ymchwiliad lleol neu weithdrefn gymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo neu iddi ac a agorodd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac sy’n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: