Search Legislation

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 476 (Cy. 99)

Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017

Gwnaed

24 Mawrth 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Mawrth 2017

Coming into force

5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodir, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol a grybwyllir yn adran 42(1)(2) o’r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau yr aed iddynt gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(4); ac a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cymwys gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5), sef pwerau sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(6), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)ymchwiliad lleol; a

(b)unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i’r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(7); ac

ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru yr hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau)(8) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys

2.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol ac adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys—

(a)sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018 yw £508;

(b)sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019 yw £513; ac

(c)sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny yw £518.

Darpariaethau dirymu ac arbed

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011(9) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag ymchwiliad lleol neu weithdrefn gymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo neu iddi ac a agorodd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac sy’n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2017

Rheoliad 3

YR ATODLENYr Offerynnau Statudol a ddirymir i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru

Y Rheoliadau a ddirymirCyfeirnod
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 19941994/642
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 19961996/24
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 1998 1998/2864
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 19991999/327
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 20112011/2415 (Cy. 261)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill costau a ysgwyddwyd ganddynt mewn cysylltiad ag—

(a)ymchwiliadau y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas â hwy o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol y cymhwysir yr adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”); a

(b)gweithdrefnau cymwys fel y’u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyried gwrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r swm dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru ei adennill am bob diwrnod, neu ran o ddiwrnod—

(a)y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad lleol fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwnnw; neu

(b)y bydd y person a benodir i gynnal gweithdrefn gymwys wrthi’n cynnal y weithdrefn gymwys, neu fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn honno.

Y swm dyddiol safonol yw £508 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018. Y swm yw £513 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019, a £518 ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny. Mae’r symiau hyn yn disodli’r swm o £742 mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol a’r swm o £679 mewn perthynas â gweithdrefnau cymwys a ragnodwyd yn Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”). Darperir manylion pellach ynghylch sut y cyfrifwyd y symiau dyddiol safonol hyn a sut y mae Gweinidogion Cymru i adennill costau yn y Memorandwm Esboniadol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r offerynnau a nodir yn yr Atodlen, gan gynnwys Rheoliadau 2011.

Ceir darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(2)

Diddymwyd adran 42(1)(b) gan adran 3(1) o Ddeddf Crynhoi Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p. 60) a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi. Diddymwyd adran 42(1)(d) gan adran 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi. Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27), y cyfeirir ati yn adran 42(1)(c), gan adran 49(2) o Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p. 12) ac Atodlen 3 iddi.

(3)

Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p. 59) (“Deddf 1991”) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (“Deddf 1986”) yn gymwys pan fo’r naill neu’r llall o “the Ministers” wedi ei awdurdodi gan adran 69(5) o Ddeddf 1991 i adennill costau yr aed iddynt gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad fel y mae’n gymwys pan fo Gweinidog wedi ei awdurdodi yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am ddiffiniad o “the Ministers” h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 1999”) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Mae erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy. 5) ac Atodlen 1 iddo, yn darparu i’r swyddogaethau o dan adran 42 o Ddeddf 1986 fod yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron y maent yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 303A yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) gan adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p. 49) a diddymwyd y Ddeddf honno gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12). Diwygiwyd adran 303A(5) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi. Gweler adran 336 o Ddeddf 1990 i gael ystyr “prescribed”.

(6)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi.

(8)

1972 p. 70. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 1999 ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources