- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag—
(a)y ceisiadau a restrir ym mharagraff (2) a wnaed ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; a
(b)yr apelau a restrir ym mharagraff (2) pan fo—
(i)y cais sy’n destun yr apêl yn cael ei wneud ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; neu
(ii)yr hysbysiad gorfodi sy’n destun yr apêl wedi ei ddyroddi ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.
(2) Y ceisiadau a’r apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)cais am ganiatâd cynllunio a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);
(b)apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) neu apêl o dan yr adran honno—
(i)fel y’i cymhwysir gan adran 198(3)(c) a (4) o’r Ddeddf honno (gorchmynion cadw coed); a
(ii)fel y’i cymhwysir gan reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio (rheoliadau sy’n rheoli arddangos hysbysebion);
(c)apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 16 o Reoliadau 2015(1) (apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus) a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;
(d)apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig, neu fethiant i roi penderfyniad ar gais o’r fath);
(e)apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed);
(f)apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal tir);
(g)cais am ganiatâd adeilad rhestredig a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12, neu gais i amrywio neu ryddhau amodau a atgyfeirir atynt o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 19, neu apêl iddynt o dan adran 20, o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
(h)cais am ganiatâd ardal gadwraeth a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 (gan gynnwys cais y cymhwysir yr adran honno iddo gan adran 19), neu apêl iddynt o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel y cymhwysir yr adrannau hynny gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;
(i)apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi adeiladau rhestredig) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth);
(j)cais am ganiatâd sylweddau peryglus a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);
(k)apêl o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “achosion cyfunol” (“combined proceedings”) yw achosion sy’n cyfuno dau neu ragor o’r canlynol—
sylwadau ysgrifenedig;
gwrandawiad;
ymchwiliad;
ystyr “apêl” (“appeal”) yw—
penderfynu ar gais atgyfeiriedig; a
apêl a wneir o dan adrannau 78, 174, 195, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;
ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
ystyr “apêl gorfodi” (“enforcement appeal”) yw apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi;
ystyr “apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb” (“advertisment consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf Gynllunio (fel y’i cymhwysir drwy reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio) mewn perthynas â chais i arddangos hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;
ystyr “apelydd” (“appellant”), yn achos—
cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person a gyflwynodd y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;
apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person y gwrthodwyd ei gais, y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb, apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach) neu’r person nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol;
apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person y gwrthodwyd ei gais o dan adran 191 o’r Ddeddf honno;
apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;
ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), mewn perthynas ag—
cais atgyfeiriedig, yw’r corff a fyddai wedi ymdrin â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru;
apêl o dan adrannau 78 neu 195 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais sy’n achosi’r apêl;
apêl o dan adrannau 174, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad sy’n achosi’r apêl;
ystyr “cais atgyfeiriedig” (“referred application”), mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru, ond nid yw’n cynnwys cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012(2);
ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais ar gyfer—
caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu tŷ annedd, gwella tŷ annedd neu newid arall i dŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd,
at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—
unrhyw gais arall am newid defnydd,
cais i godi tŷ annedd, neu
cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
ystyr “cais i arddangos hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(3);
ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu wneud newid arall i adeilad presennol sydd ag arwynebedd llawr gros allanol ar lefel y llawr daear nad yw’n fwy na 250 metr sgwâr, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n gais ar gyfer—
newid defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn naill ai paragraff 2 neu baragraff 3 o’r Atodlen honno;
newid defnydd o unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
gwneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4);
y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 6 wythnos sy’n cychwyn â’r dyddiad dechrau;
mae i “datganiad achos llawn” (“full statement of case”)—
mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi, yr ystyr a roddir yn—
erthygl 2 o Orchymyn 2012;
rheoliad 2 o Reoliadau 2012;
rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan III o Atodlen 4 iddynt;
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan V o Atodlen 4 iddynt;
adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan erthygl 7 o’r Atodlen (Ffurf Gorchymyn Cadw Coed) i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(5) a Rhan I o Atodlen 2 i’r Atodlen honno;
mewn perthynas ag apelau gorfodi—
yn achos apêl yn erbyn hysbysiad o dan adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yr ystyr a roddir yn adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’i haddaswyd gan reoliad 16 o Reoliadau 2015, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;
ym mhob achos arall, yr ystyr a ganlyn, sef y datganiad achos llawn a gyflwynir gan yr apelydd o dan reoliadau 8, 9 neu 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017(6);
yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—
datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;
yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—
datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys—
ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd;
mynegiad ynghylch pa un a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon rhoi—
caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio;
caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu’r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn ymwneud ag ef, yn ôl y digwydd;
caniatâd sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faint o sylweddau peryglus ar y tir, dros y tir neu o dan y tir y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef;
manylion yr amodau, os oes rhai, y byddent yn dymuno eu gosod ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad y byddent yn fodlon ei roi;
manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a
copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015(7);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 15 (hysbysu ynghylch cael apêl);
ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(8);
ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben unrhyw achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn, tybir bod ffurf wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol—
bod y ffurf wedi ei chyhoeddi ar y wefan;
am gyfeiriad y wefan; ac
ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurf a sut y gellir cael mynediad ati;
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—
adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu hysbysiad o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;
adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;
adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio;
ystyr “hysbysiad peidio â pharhau” (“discontinuance notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl neu i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru(9);
ystyr “personau â buddiant” (“interested persons”)—
mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—
yw unrhyw berson a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef yn unol â’r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y Ddeddf Sylweddau Peryglus, gorchymyn neu reoliadau datblygu, yn ôl y digwydd, ynghylch y cais; a
unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y cais hwnnw;
mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, yw meddianwyr eiddo yn ardal leol y safle y mae’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad peidio â pharhau yn ymwneud ag ef; ac
mewn perthynas ag apelau gorfodi ac eithrio apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed, yw unrhyw berson (ac eithrio’r sawl y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi iddo) sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, yn cael ei effeithio gan y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(10);
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(11);
mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau;
mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol;
ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 7, unrhyw derfyn amser diweddarach; a
nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi ei gynnwys o fewn adeilad o’r fath.
(2) Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—
(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;
(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y fath ddogfennau, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.
4.—(1) Mae paragraffau (2) i (7) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu i anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.
(2) Ystyrir y bydd y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(4) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i’w oriau busnes, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(5) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
(6) Pan fo apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir eu bod wedi cytuno—
(a)i’r defnydd o’r fath gyfathrebiadau at bob diben sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;
(b)mai eu cyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad a ymgorfforir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen, neu, fel arall, y cyfeiriad a gysylltir yn rhesymegol â’r hysbysiad neu’r ddogfen;
(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu’r parti â buddiant o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant, yn ôl y digwydd, roi hysbysiad yn unol â rheoliad 6 o ddymuniad i ddirymu’r cytundeb.
(7) Pan ystyrir bod apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant wedi cytuno i’r defnydd o gyfathrebiadau electronig o dan baragraff (6), ystyrir hefyd eu bod wedi cytuno bod dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen yn cael ei darparu ar wefan.
(8) Cydymffurfir â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall ar ffurf electronig.
5. Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy’r post;
(b)drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro; neu
(c)drwy ddarparu dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.
6.—(1) Pan na fo person yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig mwyach at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.
(2) Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cael effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—
(a)y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu
(b)pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.
7. Caiff Gweinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnal arolygiad o dan baragraff (1), cânt hysbysu’r apelydd ac unrhyw berson arall ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad.
(3) Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ohirio arolygiad pan na fo unrhyw berson (gan gynnwys yr apelydd) yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am sylwadau pellach gan—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson â buddiant a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â’r apêl o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.
(2) Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn yn ysgrifenedig—
(a)gan y person sy’n cyflwyno unrhyw sylw, am nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;
(b)am ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw sylw.
(3) Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir ar ôl gofyn amdano beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno o fewn y cyfnod amser a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn y dull a bennir ganddynt hwy.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—
(a)a geir ar ôl y cyfnod amser neu a geir mewn dull ac eithrio’r dull a bennir;
(b)sy’n fwy na 3,000 o eiriau;
(c)y maent yn ystyried ei fod yn flinderus neu’n wacsaw; neu
(d)sy’n ymwneud â rhagoriaethau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed gan Weinidogion Cymru neu a gyhoeddir ganddynt hwy.
(5) Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw i’r person sy’n ei gyflwyno gan ofyn bod y sylw yn cael ei ailgyflwyno heb fod yn fwy na 3,000 o eiriau ac o fewn y fath derfyn amser ag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth ddychwelyd y sylw.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu nifer y geiriau ym mharagraff (3) mewn unrhyw achos penodol, ac yn unol â hynny mae’r cyfeiriadau at uchafswm nifer o eiriau yn gyfeiriadau at y fath nifer uwch.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu disgresiwn o dan baragraff (6) rhaid i’r sylw ysgrifenedig ddod gyda chrynodeb ysgrifenedig sy’n cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod yr holl sylwadau ysgrifenedig, a’r ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau, a geir ganddynt ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
10.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi i unrhyw berson sy’n gwneud y fath gais gyfle rhesymol i weld unrhyw ddogfen a anfonir iddo neu ganddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, a, phan fo’n ymarferol, wneud copïau o’r dogfennau hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyrir bod cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person yn cael ei hysbysu—
(a)bod y dogfennau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cyhoeddi ar wefan;
(b)ynghylch cyfeiriad y wefan;
(c)ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y dogfennau a sut y gellir cael mynediad atynt.
11.—(1) Ni chaiff yr apelydd godi unrhyw fater nad oedd gerbron yr awdurdod cynllunio lleol ar yr adeg a bennir ym mharagraff (2) oni bai y gall yr apelydd ddangos—
(a)na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno, neu
(b)na chodwyd y mater cyn yr adeg honno o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol.
(2) Yr adeg a bennir at ddibenion paragraff (1) yw—
(a)pan wnaed y penderfyniad sy’n destun yr apêl; neu
(b)pan roddwyd hysbysiad o apêl mewn perthynas â methiant yr awdurdod cynllunio lleol i—
(i)rhoi hysbysiad i’r apelydd am ei benderfyniad ar y cais;
(ii)rhoi hysbysiad i’r apelydd ei fod wedi arfer ei bŵer o dan adran 70A neu 70C o’r Ddeddf Gynllunio i wrthod penderfynu ar y cais; neu
(iii)rhoi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw ofyniad neu hawlogaeth i roi sylw i—
(a)darpariaethau’r cynllun datblygu, neu
(b)unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.
12. Wrth benderfynu ar apêl caiff Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig, yn ôl y digwydd, ddiystyru unrhyw sylwadau, dogfennau, tystiolaeth neu wybodaeth a geir ar ôl y terfynau amser perthnasol.
13. At ddibenion adran 319B o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 21B o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus y cyfnod rhagnodedig yw 6 wythnos o’r dyddiad dechrau.
14.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt bennu’r weithdrefn o dan adrannau 319B(1) neu 217(7)(c) o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21B(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, nodi pa faterion, os oes rhai, sydd i’w hystyried mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan adrannau 319B(5), 88E(5) neu 21B(5)—
(a)nodi’r materion, os oes rhai, sydd i’w penderfynu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad;
(b)nodi materion y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am sylwadau pellach arnynt;
(c)datgan pa un a yw’r fath sylwadau pellach i’w rhoi’n ysgrifenedig neu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad; neu
(d)cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu penderfynu ar y cais ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau ynghylch y weithdrefn a bennir ganddynt o dan adran 217(7)(c), a rhaid i’r hysbysiad hwnnw nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a) i (d).
(4) Mae darpariaethau rheoliad 9 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am unrhyw sylwadau pellach.
15.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael yr holl ddogfennau sy’n ofynnol ganddynt i’w galluogi i ystyried apêl;
(b)pan fo’r ffi angenrheidiol (lle y bo’n gymwys) wedi ei thalu mewn cysylltiad â’r apêl; ac
(c)yn achos cais atgyfeiriedig, pan fo naill ai’r datganiad achos llawn a ffeil y cais wedi eu cael, neu pan fo’r cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad atgyfeirio(12) wedi dod i ben.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gynghori’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig ynghylch y materion a ganlyn—
(a)y dyddiad dechrau;
(b)y rhif cyfeirnod a ddyrennir i’r apêl;
(c)y cyfeiriad y mae cyfathrebiadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynghylch yr apêl i’w hanfon iddo; a
(d)yn achos apelau gorfodi, ar ba sail y gwneir yr apêl.
(3) Yn achos apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr apêl, anfon i’r awdurdod cynllunio lleol gopi o’r hysbysiad o apêl a’r datganiad achos llawn.
16.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon y canlynol at Weinidogion Cymru, ac anfon copi ohonynt at yr apelydd, fel y byddant yn eu cael o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad dechrau—
(a)holiadur wedi ei gwblhau;
(b)copi o bob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo; ac
(c)yn achos apelau gorfodi, copi o’r hysbysiad gorfodi.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geisiadau atgyfeiriedig.
17.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i bersonau â buddiant, fel bo’r personau hynny yn ei gael o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad dechrau.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)datgan enw’r apelydd a chyfeiriad y safle y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(b)disgrifio testun yr apêl;
(c)nodi’r materion yr hysbyswyd yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn eu cylch o dan reoliad 15(2);
(d)datgan y bydd copïau o unrhyw sylwadau a gyflwynir i’r awdurdod cynllunio lleol gan bersonau â buddiant yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru a’r apelydd;
(e)datgan y bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru wrth iddynt benderfynu ar yr apêl oni chânt eu tynnu’n ôl o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau;
(f)datgan mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau deiliad tŷ, apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb ac apelau masnachol bach y caniateir anfon sylwadau pellach at Weinidogion Cymru fel eu bod yn dod i law o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau, a rhaid anfon dau gopi o unrhyw sylwadau.
18. Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys—
(a)pan wneir apêl deiliad tŷ, apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb neu apêl fasnachol fach mewn perthynas â chais; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai mater ydyw sydd i’w ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.
19.—(1) Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl (ac eithrio cais atgyfeiriedig) yn cynnwys yr hysbysiad o apêl a’r dogfennau sy’n dod gyda’r hysbysiad.
(2) Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â chais atgyfeiriedig yn cynnwys y cais a’i ddogfennau ategol.
(3) Bernir bod sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl yn cynnwys yr holiadur wedi ei gwblhau a’r dogfennau sy’n dod gyda’r holiadur.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o’r sylwadau a gyflwynir gan yr awdurdod cynllunio lleol at yr apelydd, a rhaid iddynt anfon copi o’r sylwadau a gyflwynir gan yr apelydd i’r awdurdod cynllunio lleol.
20.—(1) Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.
(2) Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—
(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau; a
(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn neu drwy wrandawiad, ymchwiliad neu achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.
21.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad, ymchwiliad neu achosion cyfunol; neu
(c)pan fo’r apêl wedi ei throsglwyddo o Ran 3.
(2) Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad, a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,
i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.
22.—(1) Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl (ac eithrio cais atgyfeiriedig) yn cynnwys yr hysbysiad o apêl, ei ddogfennau ategol (lle y bo’n gymwys) a’r datganiad achos llawn.
(2) Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â chais atgyfeiriedig yn cynnwys y cais, ei ddogfennau ategol ac, os yw’r apelydd yn dewis hynny, ddatganiad achos llawn.
(3) Mewn perthynas ag apelau, ac eithrio ceisiadau atgyfeiriedig ac apelau gorfodi, caiff yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)dewis trin yr holiadur, a’r dogfennau sy’n mynd gyda’r holiadur, fel ei sylwadau mewn perthynas â’r apêl, a phan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a’r apelydd am hynny pan fo’n anfon yr holiadur at Weinidogion Cymru, a chopi o’r holiadur at yr apelydd, yn unol â rheoliad 16; neu
(b)cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru y bernir ei fod, ynghyd â’r holiadur a’i ddogfennau ategol, yn ffurfio sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl.
(4) Mewn perthynas â chais atgyfeiriedig, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.
(5) Mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru y bernir ei fod, ynghyd â’r holiadur a’i ddogfennau ategol (lle y bo’n gymwys), yn ffurfio sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl.
(6) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon dau gopi o’i ddatganiad achos llawn o dan baragraffau (3)(b), (4) a (5) at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn dod i law o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o ddatganiad achos llawn yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)at yr apelydd; a
(b)yn achos apêl gorfodi, at unrhyw berson y cyflwynir copi o’r hysbysiad gorfodi iddo.
23.—(1) Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 17 anfon sylwadau at Weinidogion Cymru gan sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn eu cael o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.
(2) Rhaid i bersonau â buddiant anfon tri chopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw sylwadau a geir oddi wrth bersonau â buddiant at yr apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol.
24.—(1) Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, a phersonau â buddiant anfon sylwadaethau ysgrifenedig ar sylwadau ei gilydd at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.
(2) Rhaid i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol anfon dau gopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.
(3) Rhaid i bersonau â buddiant anfon tri chopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o sylwadaethau ysgrifenedig pob parti at bob un o’r partïon eraill.
25.—(1) Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.
(2) Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol, i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.
26.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried, yn llwyr neu’n rhannol, ar sail gwrandawiad.
(2) Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail gwrandawiad;
i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.
27.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall yn lle’r person a benodwyd yn flaenorol ac nad yw’n ymarferol rhoi hysbysiad ynghylch y penodiad cyn y cynhelir y gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal y gwrandawiad, ar gychwyn y gwrandawiad hwnnw, gyhoeddi ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.
28. Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 6 o Atodlen 6 i’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6 o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad ynghylch enw’r asesydd ac ynghylch y materion y mae’r asesydd i gynghori’r person penodedig yn eu cylch.
29.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu dyddiad y gwrandawiad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod yn ddim hwyrach na 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), rhaid i ddyddiad y gwrandawiad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, gan roi sylw i natur yr apêl, ei bod yn rhesymol gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd y cynhelir rhannau gwahanol o’r gwrandawiad mewn lleoliadau gwahanol.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw i—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (4) nodi’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad ac enw’r person penodedig.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, pa un a yw’r dyddiad fel y’i hamrywir o fewn y cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1) ai peidio, ac mae paragraff (4) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad fel y mae’n gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio amser neu leoliad y gwrandawiad a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad o unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
(8) Pan dynnir apêl yn ôl ar ôl rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, rhaid i Weinidogion Cymru roi’r fath hysbysiad ynghylch canslo’r gwrandawiad fel yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
30.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn——
(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gosod hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—
(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.
(2) Pan fo cyfarwyddyd o dan reoliad 29(3) wedi ei roi, mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—
(a)yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, gyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a
(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl sydd i fod yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.
(4) Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn y gwrandawiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.
(5) Rhaid i hysbysiad ynghylch gwrandawiad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;
(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;
(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a
(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir gan yr awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.
31.—(1) Y personau a gaiff gymryd rhan mewn gwrandawiad yw—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.
(3) Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
32.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, nid yw’n ofynnol rhoi unrhyw hysbysiad pellach.
33.—(1) Y person penodedig sy’n llywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo bennu’r weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.
(2) Mae gwrandawiad i fod ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, ac ni chaniateir croesholi.
(3) Pan fo’r person penodedig yn ystyried bod croesholi yn ofynnol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r apelydd) pa un a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn lle hynny.
(4) Ar ddechrau’r gwrandawiad rhaid i’r person penodedig nodi’r materion y mae’r person penodedig yn gofyn am sylwadau arnynt yn y gwrandawiad.
(5) Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn gwrandawiad alw am dystiolaeth.
(6) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw am dystiolaeth.
(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth neu gyflwyno tystiolaeth neu wrthod caniatáu cyflwyno unrhyw fater arall y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(8) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(9) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad neu sy’n bresennol yno ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)dim ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig.
(10) Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ymadael â gwrandawiad gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(11) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a ddaw i law’r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau’r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.
(12) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i wneud cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(13) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau llafar yn y gwrandawiad.
(14) Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i wneud sylwadau llafar neu y caniateir iddo wneud sylwadau llafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan berson arall.
34.—(1) Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.
(2) Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—
(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau hyn; a
(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.
35.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried yn llwyr neu’n rhannol ar sail ymchwiliad.
(2) Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail ymchwiliad,
i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.
36.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall yn lle’r person a benodwyd yn flaenorol ac nad yw’n ymarferol rhoi hysbysiad ynghylch y penodiad cyn y cynhelir yr ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal yr ymchwiliad, ar gychwyn yr ymchwiliad hwnnw, gyhoeddi ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.
37. Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 6 o Atodlen 6 i’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6 o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ynghylch enw’r asesydd ac ynghylch y materion y mae’r asesydd i gynghori’r person penodedig yn eu cylch.
38.—(1) Y personau a gaiff gymryd rhan mewn ymchwiliad yw—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.
(3) Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.
39.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw bersonau a wahoddir i gymryd rhan.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, nid yw’n ofynnol rhoi unrhyw hysbysiad pellach.
40.—(1) Caiff y person penodedig gynnal cyfarfod rhagymchwiliad cyn ymchwiliad i ystyried yr hyn y caniateir ei wneud gyda’r nod o sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn effeithlon ac yn hwylus.
(2) Rhaid i berson penodedig roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 2 wythnos ynghylch cyfarfod rhagymchwiliad y mae’r person penodedig yn bwriadu ei gynnal o dan baragraff (1) i—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y cyfarfod rhagymchwiliad.
(3) Pan fo cyfarfod rhagymchwiliad wedi ei gynnal o dan baragraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod rhagymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu i’r fath hysbysiad gael ei roi ynghylch cyfarfod rhagymchwiliad pellach ag yr ymddengys yn angenrheidiol.
(4) Y person penodedig—
(a)sydd i lywyddu mewn unrhyw gyfarfod rhagymchwiliad;
(b)sydd i benderfynu ar y materion sydd i’w trafod a phennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn;
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n bresennol mewn cyfarfod rhagymchwiliad ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael;
(d)caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fynychu unrhyw gyfarfod rhagymchwiliad pellach, neu
(e)caiff ganiatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fynychu o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig yn unig.
41.—(1) Caiff y person penodedig lunio amserlen ar gyfer yr achosion mewn cysylltiad ag ymchwiliadau a chaiff wneud hynny mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad.
(2) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, amrywio’r amserlen a drefnwyd o dan baragraff (1).
(3) Caiff y person penodedig bennu mewn amserlen a drefnwyd o dan y rheoliad hwn ddyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i unrhyw ddatganiad tystiolaeth a chrynodeb ysgrifenedig a anfonir yn unol â rheoliad 44 gael eu hanfon at Weinidogion Cymru.
42.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod yn ddim hwyrach na—
(a)12 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; neu
(b)(os yw’n hwyrach) mewn achos pan gynhelir cyfarfod rhagymchwiliad o dan reoliad 40(1), 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw (neu’r fath gyfnod byrrach ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw y caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r person penodedig gytuno arno).
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’n ymarferol cynnal yr ymchwiliad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), rhaid i ddyddiad yr ymchwiliad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, gan roi sylw i natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd bod rhannau gwahanol o ymchwiliad i’w cynnal mewn lleoliadau gwahanol.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 4 wythnos o hysbysiad ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt hwy ar gyfer yr ymchwiliad i—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (4) nodi’r materion sydd i’w penderfynu yn yr ymchwiliad ac enw’r person penodedig.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a yw’r dyddiad fel y’i hamrywir o fewn y cyfnod o 12 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1) ai peidio, ac mae paragraff (4) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad fel yr oedd yn gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad ynghylch unrhyw amrywiad ag yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
(8) Pan dynnir apêl yn ôl ar ôl rhoi hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad, rhaid i Weinidogion Cymru roi’r fath hysbysiad ynghylch canslo’r gwrandawiad ag yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.
43.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn—
(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, gosod hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—
(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;
(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.
(2) Pan roddir cyfarwyddyd o dan reoliad 42(3), mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—
(a)yn lle cyfeiriadau at yr ymchwiliad, gyfeiriadau at y rhan o’r ymchwiliad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a
(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl a fydd yn destun y rhan honno o’r ymchwiliad.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.
(4) Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn yr ymchwiliad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.
(5) Rhaid i hysbysiad ynghylch ymchwiliad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;
(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;
(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a
(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir i’r awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.
44.—(1) Os yw’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad ysgrifenedig, neu’n bwriadu galw person arall i roi tystiolaeth felly—
(a)rhaid i’r apelydd anfon un copi o’r datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, i’r awdurdod cynllunio lleol;
(b)rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon un copi o’r datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at yr apelydd;
(c)rhaid i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd anfon un copi o’u datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at Weinidogion Cymru;
(d)rhaid i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon un copi o’u datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael—
(a)anfon copi o ddatganiad tystiolaeth ysgrifenedig pob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, ynghyd ag unrhyw grynodeb, i’r awdurdod cynllunio lleol; a
(b)anfon copi o bob datganiad tystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw grynodeb, at bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.
(3) Nid yw’n ofynnol cyflwyno unrhyw grynodeb ysgrifenedig pan na fo’r datganiad tystiolaeth y bwriedir ei ddarllen yn cynnwys mwy na 1,500 o eiriau.
(4) Rhaid i’r datganiad tystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law Gweinidogion Cymru yn ddim hwyrach na—
(a)4 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad; neu
(b)pan fo amserlen wedi ei llunio o dan reoliad 41, y dyddiad a bennir yn yr amserlen honno.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, unrhyw ddatganiad tystiolaeth, ynghyd ag unrhyw grynodeb, a anfonir atynt yn unol â’r rheoliad hwn ac a geir ganddynt hwy o fewn y cyfnod perthnasol, os oes un, a bennir yn y rheoliad hwn.
(6) Pan ddarperir crynodeb ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), dim ond y crynodeb hwnnw sydd i’w ddarllen yn yr ymchwiliad oni bai bod y person penodedig yn caniatáu fel arall neu’n ei gwneud yn ofynnol fel arall.
(7) Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddo anfon copïau o ddatganiad tystiolaeth at Weinidogion Cymru eu hanfon gyda’r un nifer o gopïau o’r ddogfen gyfan y cyfeirir ati yn y datganiad, neu’r rhan berthnasol ohoni, oni bai bod copi o’r ddogfen neu’r rhan berthnasol o’r ddogfen dan sylw eisoes ar gael i’w gweld o dan reoliad 10.
45.—(1) Y person penodedig sy’n llywyddu yn yr ymchwiliad a rhaid iddo bennu’r weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.
(2) Ar ddechrau’r ymchwiliad rhaid i’r person penodedig nodi’r materion y mae’r person penodedig yn gofyn am sylwadau arnynt yn yr ymchwiliad.
(3) Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn ymchwiliad alw am dystiolaeth.
(4) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw am dystiolaeth.
(5) Mae’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw bersonau a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad i gael gwrandawiad yn y fath drefn a gaiff ei phennu gan y person penodedig.
(6) Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn ymchwiliad groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth ond, yn ddarostyngedig i’r uchod a pharagraffau (7) a (8), fel arall caniateir galw am dystiolaeth a chroesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth yn ôl disgresiwn y person penodedig.
(7) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—
(a)rhoi neu gyflwyno tystiolaeth,
(b)croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, neu
(c)cyflwyno unrhyw fater,
y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(8) Pan fo person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen crynodeb o’i ddatganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â rheoliad 44(6)—
(a)mae’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 44(1) i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno fel tystiolaeth oni bai bod y person y mae’n ofynnol iddo ddarparu’r crynodeb yn hysbysu’r person penodedig am ddymuniad i ddibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw yn unig; a
(b)mae’r person y mae ei dystiolaeth wedi ei chynnwys yn y datganiad ysgrifenedig i fod yn agored i’w groesholi ar y dystiolaeth honno i’r un graddau â phe bai’n dystiolaeth a roddwyd ar lafar.
(9) Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno’r dystiolaeth yn ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd yr ymchwiliad.
(10) Caiff y person penodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy’n bresennol yno ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c)dim ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig.
(11) Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ymadael ag ymchwiliad gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd yr ymchwiliad.
(12) Caiff y person penodedig roi cyfarwyddyd y darperir cyfleusterau i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad gymryd copïau o ddogfennau sydd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd neu gael copïau o’r dogfennau hynny.
(13) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir gan y person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau’r ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.
(14) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud sylwadau cloi.
(15) Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud sylwadau cloi ddarparu i’r person penodedig gopi ysgrifenedig o’r sylwadau hynny erbyn diwedd yr ymchwiliad.
46.—(1) Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.
(2) Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—
(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau hyn; a
(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.
47.—(1) Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig (“yr adroddiad ar benderfyniad y person penodedig”)—
(a)mewn perthynas ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, pan fydd y person penodedig wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig; neu
(b)ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol.
(2) Rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad y person penodedig gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i benderfyniad ar yr apêl.
(3) Pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r asesydd, ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol, lunio adroddiad ysgrifenedig mewn cysylltiad â‘r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori arnynt.
(4) Pan fo asesydd yn llunio adroddiad yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad y person penodedig ddatgan i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, rhaid iddo nodi’r rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.
(5) Wrth wneud y penderfyniad, caiff y person penodedig ddiystyru—
(a)mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, unrhyw sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law y tu allan i’r terfynau amser perthnasol;
(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall sy’n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad neu ymchwiliad.
(6) Mewn perthynas ag apêl neu ran o apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, os yw’r person penodedig, ar ôl y terfynau amser perthnasol, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) na chafodd ei chynnwys neu ei gynnwys yn y sylwadau ysgrifenedig ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i’r penderfyniad, rhaid i’r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf—
(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau â buddiant sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; a
(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith.
(7) Os yw’r person penodedig, ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) na chafodd ei chodi neu ei godi yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i’r penderfyniad, rhaid i’r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf—
(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad; a
(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith neu ofyn am ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.
(8) Rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig neu geisiadau i ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad a gyflwynir o dan baragraffau (6) a (7) yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraffau hynny.
(9) Caiff person penodedig, fel y gwêl y person penodedig orau, beri bod gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (7), ac o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).
(10) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor—
(a)rhaid i’r person penodedig anfon at yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy;
(b)rhaid i dystiolaeth bellach a gyflwynir ar ôl gofyn amdani beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei chyflwyno o fewn y cyfnod a bennir gan y person penodedig ac yn y dull a bennir ganddo; ac
(c)mae paragraffau (3) i (8) o reoliad 29, rheoliad 30, paragraffau (3) i (8) o reoliad 42 a rheoliad 43 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.
48.—(1) Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—
(a)mewn perthynas ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, pan fydd y person penodedig wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig; neu
(b)ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol.
(2) Rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau ac argymhellion y person penodedig (neu resymau’r person penodedig dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).
(3) Pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r asesydd, ar ôl diwedd yr achosion, lunio adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar y materion y penodwyd yr asesydd i gynghori yn eu cylch.
(4) Pan fo asesydd yn llunio adroddiad yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r person penodedig atodi’r adroddiad hwnnw i’w adroddiad ei hun, a rhaid iddo ddatgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, rhaid iddo nodi’r rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.
(5) Wrth wneud eu penderfyniad caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—
(a)mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, unrhyw sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law y tu allan i’r terfynau amser perthnasol;
(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall sy’n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan y person penodedig oherwydd eu bod—
(a)yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu fater o ffaith yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i’r casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig; neu
(b)yn bwriadu ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru).
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad a wnaed gan y person penodedig heb yn gyntaf—
(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau â buddiant sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; a
(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith.
(8) Mae paragraff (9) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan y person penodedig oherwydd eu bod—
(a)yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu fater o ffaith yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig; neu
(b)yn bwriadu ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru).
(9) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n anghytuno â’r argymhelliad a wnaed gan y person penodedig heb yn gyntaf—
(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad eu bod yn anghytuno, a’r rhesymau dros hynny; a
(b)rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith i Weinidogion Cymru neu ofyn am ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.
(10) Rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig neu geisiadau i ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad a gyflwynir o dan baragraffau (7) a (9) yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraffau hynny.
(11) Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol, beri bod gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor, a rhaid iddynt wneud hynny os gofynnir iddynt wneud hynny gan yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (9), ac o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (9).
(12) Pan ailagorir gwrandawiad neu ymchwiliad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy;
(b)rhaid i dystiolaeth bellach a gyflwynir ar ôl gofyn amdani beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei chyflwyno o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn y dull a bennir ganddynt hwy; ac
(c)mae paragraffau (3) i (8) o reoliad 29, rheoliad 30, paragraffau (3) i (8) o reoliad 42 a rheoliad 43 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.
49.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru neu’r person penodedig, yn ôl y digwydd, anfon y penderfyniad ar apêl, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig at—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)y personau a gymerodd ran yn yr achosion;
(d)unrhyw berson arall a ofynnodd i gael hysbysiad ynghylch y penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol ei hysbysu.
(2) Pan na fo copi o adroddiad y person penodedig yn cael ei anfon gyda’r hysbysiad am benderfyniad, rhaid i’r hysbysiad ddod gyda datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig, ac os nad yw person sydd â hawl i gael hysbysiad am y penderfyniad wedi cael copi o’r adroddiad hwnnw, rhaid cyflenwi copi o’r adroddiad hwnnw i’r person hwnnw ar gais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodir i’r adroddiad; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, o fewn 6 wythnos i ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru, am gyfle i weld unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (2) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cais o fewn 4 wythnos i benderfyniad Gweinidogion Cymru.
50.—(1) Pan fo penderfyniad Gweinidogion Cymru neu berson penodedig ar apêl yn cael ei ddiddymu mewn achosion gerbron unrhyw lys—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy at ddibenion rhoi ystyriaeth bellach i’r apêl;
(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r personau hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac
(c)caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol—
(i)peri i’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad i gael ei ailagor;
(ii)yn achos gwrandawiad, beri i ymchwiliad gael ei gynnal yn lle hynny (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol);
(iii)yn achos ymchwiliad, beri i wrandawiad gael ei gynnal yn lle hynny (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol);
(iv)peri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal (pan na fo un wedi ei gynnal yn flaenorol); neu
(v)penderfynu ar y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, mae rheoliadau 29 a 42 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.
(3) Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau sicrhau bod y fath sylwadau yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).
51. Mae’r addasiadau a nodir yn Atodlen 2 yn cael effaith pan roddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)adran 321(3)(13) o’r Ddeddf Gynllunio (ymchwiliadau cynllunio sydd i’w cynnal yn gyhoeddus yn ddarostyngedig i eithriadau penodol);
(b)paragraff 6(6) o Atodlen 3(14) i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (ymchwiliadau lleol a gwrandawiadau); neu
(c)paragraff 6(6) o’r Atodlen(15) i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (ymchwiliadau lleol a gwrandawiadau).
52. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 182 o’r Ddeddf Gynllunio ac i apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Atodlen 3.
53.—(1) Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i’r graddau a nodir yng ngholofn (3), yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).
(2) Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn parhau i fod yn gymwys i apelau, ac eithrio apelau gorfodi, pan wneir yr apêl mewn perthynas â chais a wnaed cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn parhau i fod yn gymwys i apelau gorfodi pan wneir yr apêl mewn perthynas â hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
54.—(1) Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, yn yr Hysbysiad o dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio, yn lle “Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015” rhodder “Rhan 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: