Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 544 (Cy. 121)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

Gwnaed

5 Ebrill 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Ebrill 2017

Yn dod i rym

5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 217, 319B a 323A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), adran 88E o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(2) ac adran 21B o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag—

(a)y ceisiadau a restrir ym mharagraff (2) a wnaed ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; a

(b)yr apelau a restrir ym mharagraff (2) pan fo—

(i)y cais sy’n destun yr apêl yn cael ei wneud ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; neu

(ii)yr hysbysiad gorfodi sy’n destun yr apêl wedi ei ddyroddi ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.

(2Y ceisiadau a’r apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cais am ganiatâd cynllunio a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);

(b)apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) neu apêl o dan yr adran honno—

(i)fel y’i cymhwysir gan adran 198(3)(c) a (4) o’r Ddeddf honno (gorchmynion cadw coed); a

(ii)fel y’i cymhwysir gan reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio (rheoliadau sy’n rheoli arddangos hysbysebion);

(c)apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 16 o Reoliadau 2015(4) (apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus) a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;

(d)apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig, neu fethiant i roi penderfyniad ar gais o’r fath);

(e)apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed);

(f)apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal tir);

(g)cais am ganiatâd adeilad rhestredig a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12, neu gais i amrywio neu ryddhau amodau a atgyfeirir atynt o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 19, neu apêl iddynt o dan adran 20, o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

(h)cais am ganiatâd ardal gadwraeth a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 (gan gynnwys cais y cymhwysir yr adran honno iddo gan adran 19), neu apêl iddynt o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel y cymhwysir yr adrannau hynny gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;

(i)apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi adeiladau rhestredig) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth);

(j)cais am ganiatâd sylweddau peryglus a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);

(k)apêl o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus).

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achosion cyfunol” (“combined proceedings”) yw achosion sy’n cyfuno dau neu ragor o’r canlynol—

(a)

sylwadau ysgrifenedig;

(b)

gwrandawiad;

(c)

ymchwiliad;

ystyr “apêl” (“appeal”) yw—

(a)

penderfynu ar gais atgyfeiriedig; a

(b)

apêl a wneir o dan adrannau 78, 174, 195, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl gorfodi” (“enforcement appeal”) yw apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi;

ystyr “apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb” (“advertisment consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf Gynllunio (fel y’i cymhwysir drwy reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio) mewn perthynas â chais i arddangos hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;

ystyr “apelydd” (“appellant”), yn achos—

(a)

cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person a gyflwynodd y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;

(b)

apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person y gwrthodwyd ei gais, y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb, apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach) neu’r person nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)

apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(d)

apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person y gwrthodwyd ei gais o dan adran 191 o’r Ddeddf honno;

(e)

apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(f)

apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(g)

apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), mewn perthynas ag—

(a)

cais atgyfeiriedig, yw’r corff a fyddai wedi ymdrin â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru;

(b)

apêl o dan adrannau 78 neu 195 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais sy’n achosi’r apêl;

(c)

apêl o dan adrannau 174, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad sy’n achosi’r apêl;

ystyr “cais atgyfeiriedig” (“referred application”), mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru, ond nid yw’n cynnwys cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012(5);

ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais ar gyfer—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu tŷ annedd, gwella tŷ annedd neu newid arall i dŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais i godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

ystyr “cais i arddangos hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(6);

ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu wneud newid arall i adeilad presennol sydd ag arwynebedd llawr gros allanol ar lefel y llawr daear nad yw’n fwy na 250 metr sgwâr, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n gais ar gyfer—

(a)

newid defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn naill ai paragraff 2 neu baragraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid defnydd o unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu

(c)

gwneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7);

y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 6 wythnos sy’n cychwyn â’r dyddiad dechrau;

mae i “datganiad achos llawn” (“full statement of case”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi, yr ystyr a roddir yn—

(i)

erthygl 2 o Orchymyn 2012;

(ii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2012;

(iii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

(iv)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan III o Atodlen 4 iddynt;

(v)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan V o Atodlen 4 iddynt;

(vi)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan erthygl 7 o’r Atodlen (Ffurf Gorchymyn Cadw Coed) i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(8) a Rhan I o Atodlen 2 i’r Atodlen honno;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

yn achos apêl yn erbyn hysbysiad o dan adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yr ystyr a roddir yn adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’i haddaswyd gan reoliad 16 o Reoliadau 2015, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;

(ii)

ym mhob achos arall, yr ystyr a ganlyn, sef y datganiad achos llawn a gyflwynir gan yr apelydd o dan reoliadau 8, 9 neu 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017(9);

(c)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

(d)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys—

(aa)

ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd;

(bb)

mynegiad ynghylch pa un a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon rhoi—

(bba)

caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio;

(bbb)

caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu’r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn ymwneud ag ef, yn ôl y digwydd;

(bbc)

caniatâd sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faint o sylweddau peryglus ar y tir, dros y tir neu o dan y tir y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef;

(cc)

manylion yr amodau, os oes rhai, y byddent yn dymuno eu gosod ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad y byddent yn fodlon ei roi;

(dd)

manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015(10);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 15 (hysbysu ynghylch cael apêl);

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(11);

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben unrhyw achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn, tybir bod ffurf wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)

bod y ffurf wedi ei chyhoeddi ar y wefan;

(b)

am gyfeiriad y wefan; ac

(c)

ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurf a sut y gellir cael mynediad ati;

ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—

(a)

adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(b)

adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(c)

adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu hysbysiad o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;

(d)

adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

(e)

adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

(f)

adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(g)

adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

ystyr “hysbysiad peidio â pharhau” (“discontinuance notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl neu i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru(12);

ystyr “personau â buddiant” (“interested persons”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

yw unrhyw berson a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef yn unol â’r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y Ddeddf Sylweddau Peryglus, gorchymyn neu reoliadau datblygu, yn ôl y digwydd, ynghylch y cais; a

(ii)

unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y cais hwnnw;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, yw meddianwyr eiddo yn ardal leol y safle y mae’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad peidio â pharhau yn ymwneud ag ef; ac

(c)

mewn perthynas ag apelau gorfodi ac eithrio apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed, yw unrhyw berson (ac eithrio’r sawl y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi iddo) sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, yn cael ei effeithio gan y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi;

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(13);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(14);

mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau;

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol;

ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 7, unrhyw derfyn amser diweddarach; a

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi ei gynnwys o fewn adeilad o’r fath.

(2Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;

(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y fath ddogfennau, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

Defnyddio cyfathrebiadau electronig

4.—(1Mae paragraffau (2) i (7) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu i anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.

(2Ystyrir y bydd y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(4Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i’w oriau busnes, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(5Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Pan fo apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir eu bod wedi cytuno—

(a)i’r defnydd o’r fath gyfathrebiadau at bob diben sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;

(b)mai eu cyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad a ymgorfforir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen, neu, fel arall, y cyfeiriad a gysylltir yn rhesymegol â’r hysbysiad neu’r ddogfen;

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu’r parti â buddiant o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant, yn ôl y digwydd, roi hysbysiad yn unol â rheoliad 6 o ddymuniad i ddirymu’r cytundeb.

(7Pan ystyrir bod apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant wedi cytuno i’r defnydd o gyfathrebiadau electronig o dan baragraff (6), ystyrir hefyd eu bod wedi cytuno bod dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen yn cael ei darparu ar wefan.

(8Cydymffurfir â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall ar ffurf electronig.

Trosglwyddo dogfennau

5.  Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy’r post;

(b)drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro; neu

(c)drwy ddarparu dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.

Tynnu’n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig

6.—(1Pan na fo person yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig mwyach at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.

(2Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cael effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu

(b)pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.

Caniatáu rhagor o amser

7.  Caiff Gweinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Arolygu safleoedd

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnal arolygiad o dan baragraff (1), cânt hysbysu’r apelydd ac unrhyw berson arall ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad.

(3Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ohirio arolygiad pan na fo unrhyw berson (gan gynnwys yr apelydd) yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.

Gwybodaeth bellach

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am sylwadau pellach gan—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson â buddiant a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â’r apêl o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.

(2Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn yn ysgrifenedig—

(a)gan y person sy’n cyflwyno unrhyw sylw, am nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;

(b)am ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw sylw.

(3Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir ar ôl gofyn amdano beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno o fewn y cyfnod amser a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn y dull a bennir ganddynt hwy.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—

(a)a geir ar ôl y cyfnod amser neu a geir mewn dull ac eithrio’r dull a bennir;

(b)sy’n fwy na 3,000 o eiriau;

(c)y maent yn ystyried ei fod yn flinderus neu’n wacsaw; neu

(d)sy’n ymwneud â rhagoriaethau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed gan Weinidogion Cymru neu a gyhoeddir ganddynt hwy.

(5Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw i’r person sy’n ei gyflwyno gan ofyn bod y sylw yn cael ei ailgyflwyno heb fod yn fwy na 3,000 o eiriau ac o fewn y fath derfyn amser ag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth ddychwelyd y sylw.

(6Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu nifer y geiriau ym mharagraff (3) mewn unrhyw achos penodol, ac yn unol â hynny mae’r cyfeiriadau at uchafswm nifer o eiriau yn gyfeiriadau at y fath nifer uwch.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu disgresiwn o dan baragraff (6) rhaid i’r sylw ysgrifenedig ddod gyda chrynodeb ysgrifenedig sy’n cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod yr holl sylwadau ysgrifenedig, a’r ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau, a geir ganddynt ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gweld dogfennau

10.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi i unrhyw berson sy’n gwneud y fath gais gyfle rhesymol i weld unrhyw ddogfen a anfonir iddo neu ganddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, a, phan fo’n ymarferol, wneud copïau o’r dogfennau hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyrir bod cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person yn cael ei hysbysu—

(a)bod y dogfennau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cyhoeddi ar wefan;

(b)ynghylch cyfeiriad y wefan;

(c)ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y dogfennau a sut y gellir cael mynediad atynt.

Materion y caniateir eu codi mewn apêl yn erbyn penderfyniadau

11.—(1Ni chaiff yr apelydd godi unrhyw fater nad oedd gerbron yr awdurdod cynllunio lleol ar yr adeg a bennir ym mharagraff (2) oni bai y gall yr apelydd ddangos—

(a)na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno, neu

(b)na chodwyd y mater cyn yr adeg honno o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol.

(2Yr adeg a bennir at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)pan wnaed y penderfyniad sy’n destun yr apêl; neu

(b)pan roddwyd hysbysiad o apêl mewn perthynas â methiant yr awdurdod cynllunio lleol i—

(i)rhoi hysbysiad i’r apelydd am ei benderfyniad ar y cais;

(ii)rhoi hysbysiad i’r apelydd ei fod wedi arfer ei bŵer o dan adran 70A neu 70C o’r Ddeddf Gynllunio i wrthod penderfynu ar y cais; neu

(iii)rhoi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw ofyniad neu hawlogaeth i roi sylw i—

(a)darpariaethau’r cynllun datblygu, neu

(b)unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

Sylwadau sydd i’w hystyried

12.  Wrth benderfynu ar apêl caiff Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig, yn ôl y digwydd, ddiystyru unrhyw sylwadau, dogfennau, tystiolaeth neu wybodaeth a geir ar ôl y terfynau amser perthnasol.

Y cyfnod rhagnodedig

13.  At ddibenion adran 319B o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 21B o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus y cyfnod rhagnodedig yw 6 wythnos o’r dyddiad dechrau.

Pennu’r weithdrefn

14.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt bennu’r weithdrefn o dan adrannau 319B(1) neu 217(7)(c) o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21B(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, nodi pa faterion, os oes rhai, sydd i’w hystyried mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

(2Rhaid i hysbysiad o dan adrannau 319B(5), 88E(5) neu 21B(5)—

(a)nodi’r materion, os oes rhai, sydd i’w penderfynu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad;

(b)nodi materion y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am sylwadau pellach arnynt;

(c)datgan pa un a yw’r fath sylwadau pellach i’w rhoi’n ysgrifenedig neu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad; neu

(d)cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu penderfynu ar y cais ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau ynghylch y weithdrefn a bennir ganddynt o dan adran 217(7)(c), a rhaid i’r hysbysiad hwnnw nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a) i (d).

(4Mae darpariaethau rheoliad 9 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am unrhyw sylwadau pellach.

RHAN 2Y Weithdrefn Gychwynnol

Hysbysu ynghylch cael apêl

15.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael yr holl ddogfennau sy’n ofynnol ganddynt i’w galluogi i ystyried apêl;

(b)pan fo’r ffi angenrheidiol (lle y bo’n gymwys) wedi ei thalu mewn cysylltiad â’r apêl; ac

(c)yn achos cais atgyfeiriedig, pan fo naill ai’r datganiad achos llawn a ffeil y cais wedi eu cael, neu pan fo’r cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad atgyfeirio(15) wedi dod i ben.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gynghori’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig ynghylch y materion a ganlyn—

(a)y dyddiad dechrau;

(b)y rhif cyfeirnod a ddyrennir i’r apêl;

(c)y cyfeiriad y mae cyfathrebiadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynghylch yr apêl i’w hanfon iddo; a

(d)yn achos apelau gorfodi, ar ba sail y gwneir yr apêl.

(3Yn achos apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr apêl, anfon i’r awdurdod cynllunio lleol gopi o’r hysbysiad o apêl a’r datganiad achos llawn.

Holiadur

16.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon y canlynol at Weinidogion Cymru, ac anfon copi ohonynt at yr apelydd, fel y byddant yn eu cael o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad dechrau—

(a)holiadur wedi ei gwblhau;

(b)copi o bob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo; ac

(c)yn achos apelau gorfodi, copi o’r hysbysiad gorfodi.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geisiadau atgyfeiriedig.

Hysbysiad i bersonau â buddiant

17.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i bersonau â buddiant, fel bo’r personau hynny yn ei gael o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad dechrau.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)

(a)datgan enw’r apelydd a chyfeiriad y safle y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;

(b)disgrifio testun yr apêl;

(c)nodi’r materion yr hysbyswyd yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn eu cylch o dan reoliad 15(2);

(d)datgan y bydd copïau o unrhyw sylwadau a gyflwynir i’r awdurdod cynllunio lleol gan bersonau â buddiant yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru a’r apelydd;

(e)datgan y bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru wrth iddynt benderfynu ar yr apêl oni chânt eu tynnu’n ôl o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau;

(f)datgan mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau deiliad tŷ, apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb ac apelau masnachol bach y caniateir anfon sylwadau pellach at Weinidogion Cymru fel eu bod yn dod i law o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau, a rhaid anfon dau gopi o unrhyw sylwadau.

RHAN 3Y Weithdrefn ar gyfer Apelau Deiliad Tŷ, Apelau ynghylch Caniatâd i Arddangos Hysbyseb ac Apelau Masnachol Bach

Cymhwyso Rhan 3

18.  Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys—

(a)pan wneir apêl deiliad tŷ, apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb neu apêl fasnachol fach mewn perthynas â chais; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai mater ydyw sydd i’w ystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig yn unig.

Sylwadau

19.—(1Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl (ac eithrio cais atgyfeiriedig) yn cynnwys yr hysbysiad o apêl a’r dogfennau sy’n dod gyda’r hysbysiad.

(2Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â chais atgyfeiriedig yn cynnwys y cais a’i ddogfennau ategol.

(3Bernir bod sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl yn cynnwys yr holiadur wedi ei gwblhau a’r dogfennau sy’n dod gyda’r holiadur.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o’r sylwadau a gyflwynir gan yr awdurdod cynllunio lleol at yr apelydd, a rhaid iddynt anfon copi o’r sylwadau a gyflwynir gan yr apelydd i’r awdurdod cynllunio lleol.

Trosglwyddo apêl o Ran 3

20.—(1Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.

(2Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—

(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau; a

(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn neu drwy wrandawiad, ymchwiliad neu achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.

RHAN 4Sylwadau Ysgrifenedig

Cymhwyso Rhan 4

21.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys—

(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad, ymchwiliad neu achosion cyfunol; neu

(c)pan fo’r apêl wedi ei throsglwyddo o Ran 3.

(2Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad, a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig,

i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.

Sylwadau

22.—(1Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl (ac eithrio cais atgyfeiriedig) yn cynnwys yr hysbysiad o apêl, ei ddogfennau ategol (lle y bo’n gymwys) a’r datganiad achos llawn.

(2Bernir bod sylwadau’r apelydd mewn perthynas â chais atgyfeiriedig yn cynnwys y cais, ei ddogfennau ategol ac, os yw’r apelydd yn dewis hynny, ddatganiad achos llawn.

(3Mewn perthynas ag apelau, ac eithrio ceisiadau atgyfeiriedig ac apelau gorfodi, caiff yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)dewis trin yr holiadur, a’r dogfennau sy’n mynd gyda’r holiadur, fel ei sylwadau mewn perthynas â’r apêl, a phan fo’n gwneud hynny, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a’r apelydd am hynny pan fo’n anfon yr holiadur at Weinidogion Cymru, a chopi o’r holiadur at yr apelydd, yn unol â rheoliad 16; neu

(b)cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru y bernir ei fod, ynghyd â’r holiadur a’i ddogfennau ategol, yn ffurfio sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl.

(4Mewn perthynas â chais atgyfeiriedig, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.

(5Mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru y bernir ei fod, ynghyd â’r holiadur a’i ddogfennau ategol (lle y bo’n gymwys), yn ffurfio sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl.

(6Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon dau gopi o’i ddatganiad achos llawn o dan baragraffau (3)(b), (4) a (5) at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn dod i law o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o ddatganiad achos llawn yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)at yr apelydd; a

(b)yn achos apêl gorfodi, at unrhyw berson y cyflwynir copi o’r hysbysiad gorfodi iddo.

Sylwadau personau â buddiant

23.—(1Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 17 anfon sylwadau at Weinidogion Cymru gan sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn eu cael o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.

(2Rhaid i bersonau â buddiant anfon tri chopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw sylwadau a geir oddi wrth bersonau â buddiant at yr apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol.

Sylwadau pellach

24.—(1Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, a phersonau â buddiant anfon sylwadaethau ysgrifenedig ar sylwadau ei gilydd at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(2Rhaid i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol anfon dau gopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(3Rhaid i bersonau â buddiant anfon tri chopi o unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt at Weinidogion Cymru gan sicrhau eu bod yn eu cael o fewn y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o sylwadaethau ysgrifenedig pob parti at bob un o’r partïon eraill.

Sylwadau ysgrifenedig yn amhriodol

25.—(1Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.

(2Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol, i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.

RHAN 5Gwrandawiadau

Cymhwyso Rhan 5

26.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys—

(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried, yn llwyr neu’n rhannol, ar sail gwrandawiad.

(2Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu ymchwiliad; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail gwrandawiad;

i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.

Hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig

27.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall yn lle’r person a benodwyd yn flaenorol ac nad yw’n ymarferol rhoi hysbysiad ynghylch y penodiad cyn y cynhelir y gwrandawiad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal y gwrandawiad, ar gychwyn y gwrandawiad hwnnw, gyhoeddi ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.

Penodi asesydd

28.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 6 o Atodlen 6 i’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6 o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad ynghylch enw’r asesydd ac ynghylch y materion y mae’r asesydd i gynghori’r person penodedig yn eu cylch.

Dyddiad gwrandawiad, lleoliad gwrandawiad a hysbysiad ynghylch gwrandawiad

29.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru bennu dyddiad y gwrandawiad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod yn ddim hwyrach na 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn anymarferol cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), rhaid i ddyddiad y gwrandawiad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, gan roi sylw i natur yr apêl, ei bod yn rhesymol gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd y cynhelir rhannau gwahanol o’r gwrandawiad mewn lleoliadau gwahanol.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ar gyfer y gwrandawiad o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw i—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

(5Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (4) nodi’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad ac enw’r person penodedig.

(6Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, pa un a yw’r dyddiad fel y’i hamrywir o fewn y cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1) ai peidio, ac mae paragraff (4) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad fel y mae’n gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(7Caiff Gweinidogion Cymru amrywio amser neu leoliad y gwrandawiad a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad o unrhyw amrywiad yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.

(8Pan dynnir apêl yn ôl ar ôl rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, rhaid i Weinidogion Cymru roi’r fath hysbysiad ynghylch canslo’r gwrandawiad fel yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.

Hysbysiad cyhoeddus ynghylch gwrandawiad

30.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn——

(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, gosod hysbysiad ynghylch y gwrandawiad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—

(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;

(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.

(2Pan fo cyfarwyddyd o dan reoliad 29(3) wedi ei roi, mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—

(a)yn lle cyfeiriadau at y gwrandawiad, gyfeiriadau at y rhan o’r gwrandawiad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a

(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl sydd i fod yn destun y rhan honno o’r gwrandawiad.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.

(4Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn y gwrandawiad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.

(5Rhaid i hysbysiad ynghylch gwrandawiad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;

(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;

(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a

(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir gan yr awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad

31.—(1Y personau a gaiff gymryd rhan mewn gwrandawiad yw—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan gan Weinidogion Cymru.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn gwrandawiad.

(3Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Absenoldeb, gohirio etc.

32.—(1Caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan.

(2Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, nid yw’n ofynnol rhoi unrhyw hysbysiad pellach.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

33.—(1Y person penodedig sy’n llywyddu mewn unrhyw wrandawiad, a rhaid iddo bennu’r weithdrefn yn y gwrandawiad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2Mae gwrandawiad i fod ar ffurf trafodaeth a arweinir gan y person penodedig, ac ni chaniateir croesholi.

(3Pan fo’r person penodedig yn ystyried bod croesholi yn ofynnol, rhaid i’r person penodedig ystyried (ar ôl ymgynghori â’r apelydd) pa un a ddylid cau’r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn lle hynny.

(4Ar ddechrau’r gwrandawiad rhaid i’r person penodedig nodi’r materion y mae’r person penodedig yn gofyn am sylwadau arnynt yn y gwrandawiad.

(5Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn gwrandawiad alw am dystiolaeth.

(6Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw am dystiolaeth.

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth neu gyflwyno tystiolaeth neu wrthod caniatáu cyflwyno unrhyw fater arall y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(9Caiff y person penodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad neu sy’n bresennol yno ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)dim ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig.

(10Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ymadael â gwrandawiad gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(11Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a ddaw i law’r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau’r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.

(12Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad i wneud cyflwyniadau cloi, a rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud hynny ddarparu copi ysgrifenedig o’i gyflwyniadau cloi i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.

(13Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson wneud sylwadau llafar yn y gwrandawiad.

(14Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i wneud sylwadau llafar neu y caniateir iddo wneud sylwadau llafar mewn gwrandawiad wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan berson arall.

Gwrandawiad yn amhriodol

34.—(1Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.

(2Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—

(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau hyn; a

(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.

RHAN 6Ymchwiliadau

Cymhwyso Rhan 6

35.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys—

(a)pan fo hysbysiad o apêl wedi dod i law; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr apêl i’w hystyried yn llwyr neu’n rhannol ar sail ymchwiliad.

(2Mae’r Rhan hon hefyd yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod yr apêl gyfan, neu ran ohoni, i’w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi hynny yn amrywio’r penderfyniad hwnnw fel bod yr apêl, neu rannau ohoni, i’w hystyried ar sail ymchwiliad,

i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r apêl.

Hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig

36.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch enw’r person penodedig i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi person arall yn lle’r person a benodwyd yn flaenorol ac nad yw’n ymarferol rhoi hysbysiad ynghylch y penodiad cyn y cynhelir yr ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig sy’n cynnal yr ymchwiliad, ar gychwyn yr ymchwiliad hwnnw, gyhoeddi ei enw a’r ffaith ei fod wedi ei benodi.

Penodi asesydd

37.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi asesydd o dan baragraff 6 o Atodlen 6 i’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6 o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6 o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ynghylch enw’r asesydd ac ynghylch y materion y mae’r asesydd i gynghori’r person penodedig yn eu cylch.

Cymryd rhan mewn ymchwiliad

38.—(1Y personau a gaiff gymryd rhan mewn ymchwiliad yw—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan gan Weinidogion Cymru.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal Gweinidogion Cymru rhag caniatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.

(3Caiff unrhyw berson sy’n cymryd rhan wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Absenoldeb, gohirio etc.

39.—(1Caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw bersonau a wahoddir i gymryd rhan.

(2Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, nid yw’n ofynnol rhoi unrhyw hysbysiad pellach.

Cyfarfodydd rhagymchwiliad

40.—(1Caiff y person penodedig gynnal cyfarfod rhagymchwiliad cyn ymchwiliad i ystyried yr hyn y caniateir ei wneud gyda’r nod o sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad yn effeithlon ac yn hwylus.

(2Rhaid i berson penodedig roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 2 wythnos ynghylch cyfarfod rhagymchwiliad y mae’r person penodedig yn bwriadu ei gynnal o dan baragraff (1) i—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn y cyfarfod rhagymchwiliad.

(3Pan fo cyfarfod rhagymchwiliad wedi ei gynnal o dan baragraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod rhagymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu i’r fath hysbysiad gael ei roi ynghylch cyfarfod rhagymchwiliad pellach ag yr ymddengys yn angenrheidiol.

(4Y person penodedig—

(a)sydd i lywyddu mewn unrhyw gyfarfod rhagymchwiliad;

(b)sydd i benderfynu ar y materion sydd i’w trafod a phennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n bresennol mewn cyfarfod rhagymchwiliad ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael;

(d)caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fynychu unrhyw gyfarfod rhagymchwiliad pellach, neu

(e)caiff ganiatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fynychu o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig yn unig.

Amserlen ymchwiliad

41.—(1Caiff y person penodedig lunio amserlen ar gyfer yr achosion mewn cysylltiad ag ymchwiliadau a chaiff wneud hynny mewn ymchwiliad, neu mewn rhan o ymchwiliad.

(2Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, amrywio’r amserlen a drefnwyd o dan baragraff (1).

(3Caiff y person penodedig bennu mewn amserlen a drefnwyd o dan y rheoliad hwn ddyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i unrhyw ddatganiad tystiolaeth a chrynodeb ysgrifenedig a anfonir yn unol â rheoliad 44 gael eu hanfon at Weinidogion Cymru.

Dyddiad ymchwiliad, lleoliad ymchwiliad a hysbysiad ynghylch ymchwiliad

42.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod yn ddim hwyrach na—

(a)12 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; neu

(b)(os yw’n hwyrach) mewn achos pan gynhelir cyfarfod rhagymchwiliad o dan reoliad 40(1), 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw (neu’r fath gyfnod byrrach ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw y caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r person penodedig gytuno arno).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’n ymarferol cynnal yr ymchwiliad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (1), rhaid i ddyddiad yr ymchwiliad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, gan roi sylw i natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd bod rhannau gwahanol o ymchwiliad i’w cynnal mewn lleoliadau gwahanol.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 4 wythnos o hysbysiad ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt hwy ar gyfer yr ymchwiliad i—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(5Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (4) nodi’r materion sydd i’w penderfynu yn yr ymchwiliad ac enw’r person penodedig.

(6Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a yw’r dyddiad fel y’i hamrywir o fewn y cyfnod o 12 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1) ai peidio, ac mae paragraff (4) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad fel yr oedd yn gymwys i’r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(7Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad ynghylch unrhyw amrywiad ag yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.

(8Pan dynnir apêl yn ôl ar ôl rhoi hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad, rhaid i Weinidogion Cymru roi’r fath hysbysiad ynghylch canslo’r gwrandawiad ag yr ymddengys yn rhesymol iddynt hwy.

Hysbysiad cyhoeddus ynghylch ymchwiliad

43.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn—

(a)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, gosod hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad, a chynnal yr hysbysiad hwnnw—

(i)mewn man amlwg, neu mor agos ag y bo’n rhesymol ymarferol at y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;

(ii)mewn un neu ragor o fannau lle y gosodir hysbysiadau cyhoeddus fel arfer yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(b)dim llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad, cyhoeddi hysbysiad ynghylch yr ymchwiliad drwy hysbyseb leol yn yr ardal lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

(c)anfon hysbysiad ynghylch y gwrandawiad at y fath bersonau neu ddosbarthiadau o bersonau a bennir ganddynt, o fewn y fath gyfnod a bennir ganddynt.

(2Pan roddir cyfarwyddyd o dan reoliad 42(3), mae paragraff (1) yn cael effaith, gan roi—

(a)yn lle cyfeiriadau at yr ymchwiliad, gyfeiriadau at y rhan o’r ymchwiliad sydd i’w chynnal mewn man a bennir yn y cyfarwyddyd; a

(b)yn lle cyfeiriadau at yr apêl, gyfeiriadau at y rhan honno o’r apêl a fydd yn destun y rhan honno o’r ymchwiliad.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a osodir o dan baragraff (1)(a) fod yn weladwy yn rhwydd i’r cyhoedd, ac yn ddarllenadwy yn rhwydd ganddynt hwy.

(4Pan fo’r hysbysiad yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn cychwyn yr ymchwiliad, heb unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol neu heb unrhyw fwriad ganddynt hwy i wneud hynny, nid yw’r awdurdod cynllunio lleol am y rheswm hwnnw i’w drin fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (3) os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, a gosod un arall yn ei le os oes angen.

(5Rhaid i hysbysiad ynghylch ymchwiliad a osodir, a gyhoeddir neu a anfonir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lleoliad yr ymchwiliad ac o’r pwerau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu’r apêl;

(b)disgrifiad ysgrifenedig o’r tir sy’n ddigonol i nodi’n fras ei leoliad;

(c)disgrifiad cryno o destun yr apêl; a

(d)manylion ynghylch lle a phryd y gellir gweld copïau o’r cais sy’n destun yr apêl, yr holiadur a gwblhawyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a’r holl ddogfennau eraill a anfonir i’r awdurdod ac a gaiff eu copïo iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Datganiadau tystiolaeth ysgrifenedig

44.—(1Os yw’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad ysgrifenedig, neu’n bwriadu galw person arall i roi tystiolaeth felly—

(a)rhaid i’r apelydd anfon un copi o’r datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, i’r awdurdod cynllunio lleol;

(b)rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon un copi o’r datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at yr apelydd;

(c)rhaid i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd anfon un copi o’u datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon un copi o’u datganiad, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael—

(a)anfon copi o ddatganiad tystiolaeth ysgrifenedig pob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, ynghyd ag unrhyw grynodeb, i’r awdurdod cynllunio lleol; a

(b)anfon copi o bob datganiad tystiolaeth ysgrifenedig, ynghyd ag unrhyw grynodeb, at bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(3Nid yw’n ofynnol cyflwyno unrhyw grynodeb ysgrifenedig pan na fo’r datganiad tystiolaeth y bwriedir ei ddarllen yn cynnwys mwy na 1,500 o eiriau.

(4Rhaid i’r datganiad tystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law Gweinidogion Cymru yn ddim hwyrach na—

(a)4 wythnos cyn y dyddiad a bennir ar gyfer yr ymchwiliad; neu

(b)pan fo amserlen wedi ei llunio o dan reoliad 41, y dyddiad a bennir yn yr amserlen honno.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, unrhyw ddatganiad tystiolaeth, ynghyd ag unrhyw grynodeb, a anfonir atynt yn unol â’r rheoliad hwn ac a geir ganddynt hwy o fewn y cyfnod perthnasol, os oes un, a bennir yn y rheoliad hwn.

(6Pan ddarperir crynodeb ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), dim ond y crynodeb hwnnw sydd i’w ddarllen yn yr ymchwiliad oni bai bod y person penodedig yn caniatáu fel arall neu’n ei gwneud yn ofynnol fel arall.

(7Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddo anfon copïau o ddatganiad tystiolaeth at Weinidogion Cymru eu hanfon gyda’r un nifer o gopïau o’r ddogfen gyfan y cyfeirir ati yn y datganiad, neu’r rhan berthnasol ohoni, oni bai bod copi o’r ddogfen neu’r rhan berthnasol o’r ddogfen dan sylw eisoes ar gael i’w gweld o dan reoliad 10.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

45.—(1Y person penodedig sy’n llywyddu yn yr ymchwiliad a rhaid iddo bennu’r weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2Ar ddechrau’r ymchwiliad rhaid i’r person penodedig nodi’r materion y mae’r person penodedig yn gofyn am sylwadau arnynt yn yr ymchwiliad.

(3Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn ymchwiliad alw am dystiolaeth.

(4Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw am dystiolaeth.

(5Mae’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw bersonau a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad i gael gwrandawiad yn y fath drefn a gaiff ei phennu gan y person penodedig.

(6Caiff yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddir i gymryd rhan mewn ymchwiliad groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth ond, yn ddarostyngedig i’r uchod a pharagraffau (7) a (8), fel arall caniateir galw am dystiolaeth a chroesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth yn ôl disgresiwn y person penodedig.

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—

(a)rhoi neu gyflwyno tystiolaeth,

(b)croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, neu

(c)cyflwyno unrhyw fater,

y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8Pan fo person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen crynodeb o’i ddatganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â rheoliad 44(6)—

(a)mae’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 44(1) i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno fel tystiolaeth oni bai bod y person y mae’n ofynnol iddo ddarparu’r crynodeb yn hysbysu’r person penodedig am ddymuniad i ddibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw yn unig; a

(b)mae’r person y mae ei dystiolaeth wedi ei chynnwys yn y datganiad ysgrifenedig i fod yn agored i’w groesholi ar y dystiolaeth honno i’r un graddau â phe bai’n dystiolaeth a roddwyd ar lafar.

(9Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno’r dystiolaeth yn ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd yr ymchwiliad.

(10Caiff y person penodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy’n bresennol yno ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)dim ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig.

(11Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ymadael ag ymchwiliad gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd yr ymchwiliad.

(12Caiff y person penodedig roi cyfarwyddyd y darperir cyfleusterau i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad gymryd copïau o ddogfennau sydd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd neu gael copïau o’r dogfennau hynny.

(13Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir gan y person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau’r ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.

(14Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud sylwadau cloi.

(15Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud sylwadau cloi ddarparu i’r person penodedig gopi ysgrifenedig o’r sylwadau hynny erbyn diwedd yr ymchwiliad.

Ymchwiliad yn amhriodol

46.—(1Ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon yn addas ar gyfer yr apêl honno mwyach.

(2Pan wneir y fath benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—

(a)bod yr apêl i’w throsglwyddo o’r gweithdrefnau yn y Rhan hon o’r Rheoliadau hyn; a

(b)y bydd yr apêl yn mynd rhagddi yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn neu drwy achosion cyfunol i’r fath raddau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achosion hynny.

RHAN 7Y weithdrefn ar ôl sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau, ymchwiliadau neu achosion cyfunol

PENNOD 1Apelau a benderfynir gan Bersonau Penodedig yn dilyn sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau, ymchwiliadau neu achosion cyfunol

Y weithdrefn ar ôl achosion

47.—(1Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig (“yr adroddiad ar benderfyniad y person penodedig”)—

(a)mewn perthynas ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, pan fydd y person penodedig wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig; neu

(b)ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol.

(2Rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad y person penodedig gynnwys casgliadau’r person penodedig a’i benderfyniad ar yr apêl.

(3Pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r asesydd, ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol, lunio adroddiad ysgrifenedig mewn cysylltiad â‘r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori arnynt.

(4Pan fo asesydd yn llunio adroddiad yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad y person penodedig ddatgan i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, rhaid iddo nodi’r rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.

(5Wrth wneud y penderfyniad, caiff y person penodedig ddiystyru—

(a)mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, unrhyw sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law y tu allan i’r terfynau amser perthnasol;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall sy’n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad neu ymchwiliad.

(6Mewn perthynas ag apêl neu ran o apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, os yw’r person penodedig, ar ôl y terfynau amser perthnasol, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) na chafodd ei chynnwys neu ei gynnwys yn y sylwadau ysgrifenedig ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i’r penderfyniad, rhaid i’r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau â buddiant sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; a

(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith.

(7Os yw’r person penodedig, ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) na chafodd ei chodi neu ei godi yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ac y mae’r person penodedig yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i’r penderfyniad, rhaid i’r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad; a

(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith neu ofyn am ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.

(8Rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig neu geisiadau i ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad a gyflwynir o dan baragraffau (6) a (7) yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraffau hynny.

(9Caiff person penodedig, fel y gwêl y person penodedig orau, beri bod gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (7), ac o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (7).

(10Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor—

(a)rhaid i’r person penodedig anfon at yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy;

(b)rhaid i dystiolaeth bellach a gyflwynir ar ôl gofyn amdani beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei chyflwyno o fewn y cyfnod a bennir gan y person penodedig ac yn y dull a bennir ganddo; ac

(c)mae paragraffau (3) i (8) o reoliad 29, rheoliad 30, paragraffau (3) i (8) o reoliad 42 a rheoliad 43 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.

PENNOD 2Apelau a benderfynir gan Weinidogion Cymru yn dilyn sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau, ymchwiliadau neu achosion cyfunol

Y weithdrefn ar ôl achosion

48.—(1Rhaid i’r person penodedig lunio adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru—

(a)mewn perthynas ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, pan fydd y person penodedig wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig; neu

(b)ar ôl diwedd y gwrandawiad, yr ymchwiliad neu’r achosion cyfunol.

(2Rhaid i’r adroddiad gynnwys casgliadau ac argymhellion y person penodedig (neu resymau’r person penodedig dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

(3Pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r asesydd, ar ôl diwedd yr achosion, lunio adroddiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar y materion y penodwyd yr asesydd i gynghori yn eu cylch.

(4Pan fo asesydd yn llunio adroddiad yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r person penodedig atodi’r adroddiad hwnnw i’w adroddiad ei hun, a rhaid iddo ddatgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’r person penodedig yn cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r person penodedig yn anghytuno â’r asesydd, rhaid iddo nodi’r rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.

(5Wrth wneud eu penderfyniad caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, unrhyw sylwadau ysgrifenedig sy’n dod i law y tu allan i’r terfynau amser perthnasol;

(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall sy’n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas ag apêl, neu ran o apêl, yr ymdrinnir â hi drwy sylwadau ysgrifenedig, os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan y person penodedig oherwydd eu bod—

(a)yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu fater o ffaith yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i’r casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig; neu

(b)yn bwriadu ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru).

(7Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad a wnaed gan y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r personau â buddiant sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig; a

(b)rhoi cyfle i’r rheini a hysbysir o dan is-baragraff (a) gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith.

(8Mae paragraff (9) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl diwedd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan y person penodedig oherwydd eu bod—

(a)yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig, neu fater o ffaith yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig; neu

(b)yn bwriadu ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater newydd o ffaith (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad sy’n anghytuno â’r argymhelliad a wnaed gan y person penodedig heb yn gyntaf—

(a)hysbysu’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad eu bod yn anghytuno, a’r rhesymau dros hynny; a

(b)rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd neu’r mater newydd o ffaith i Weinidogion Cymru neu ofyn am ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad.

(10Rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig neu geisiadau i ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad a gyflwynir o dan baragraffau (7) a (9) yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraffau hynny.

(11Caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol, beri bod gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei ailagor, a rhaid iddynt wneud hynny os gofynnir iddynt wneud hynny gan yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (9), ac o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (9).

(12Pan ailagorir gwrandawiad neu ymchwiliad (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol, y personau â buddiant a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig a’r personau a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy;

(b)rhaid i dystiolaeth bellach a gyflwynir ar ôl gofyn amdani beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei chyflwyno o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn y dull a bennir ganddynt hwy; ac

(c)mae paragraffau (3) i (8) o reoliad 29, rheoliad 30, paragraffau (3) i (8) o reoliad 42 a rheoliad 43 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.

PENNOD 3

Hysbysiad am benderfyniad

49.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru neu’r person penodedig, yn ôl y digwydd, anfon y penderfyniad ar apêl, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig at—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)y personau a gymerodd ran yn yr achosion;

(d)unrhyw berson arall a ofynnodd i gael hysbysiad ynghylch y penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol ei hysbysu.

(2Pan na fo copi o adroddiad y person penodedig yn cael ei anfon gyda’r hysbysiad am benderfyniad, rhaid i’r hysbysiad ddod gyda datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig, ac os nad yw person sydd â hawl i gael hysbysiad am y penderfyniad wedi cael copi o’r adroddiad hwnnw, rhaid cyflenwi copi o’r adroddiad hwnnw i’r person hwnnw ar gais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(3Yn y rheoliad hwn nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodir i’r adroddiad; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, o fewn 6 wythnos i ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru, am gyfle i weld unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.

(4Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (2) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cais o fewn 4 wythnos i benderfyniad Gweinidogion Cymru.

RHAN 8Penderfyniadau a ddiddymir

Y weithdrefn yn dilyn diddymu penderfyniad

50.—(1Pan fo penderfyniad Gweinidogion Cymru neu berson penodedig ar apêl yn cael ei ddiddymu mewn achosion gerbron unrhyw lys—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig neu a gymerodd ran yn y gwrandawiad neu ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy at ddibenion rhoi ystyriaeth bellach i’r apêl;

(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r personau hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy mewn cysylltiad â’r materion hynny; ac

(c)caiff Gweinidogion Cymru, fel yr ystyriant yn briodol—

(i)peri i’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad i gael ei ailagor;

(ii)yn achos gwrandawiad, beri i ymchwiliad gael ei gynnal yn lle hynny (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol);

(iii)yn achos ymchwiliad, beri i wrandawiad gael ei gynnal yn lle hynny (pa un ai gan yr un person penodedig neu berson penodedig gwahanol);

(iv)peri i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal (pan na fo un wedi ei gynnal yn flaenorol); neu

(v)penderfynu ar y mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, mae rheoliadau 29 a 42 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad yn gyfeiriadau at wrandawiad neu ymchwiliad a ailagorir.

(3Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau sicrhau bod y fath sylwadau yn dod i law Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1)(a).

RHAN 9Cyfarwyddydau Diogelwch Gwladol

Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

51.  Mae’r addasiadau a nodir yn Atodlen 2 yn cael effaith pan roddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)adran 321(3)(16) o’r Ddeddf Gynllunio (ymchwiliadau cynllunio sydd i’w cynnal yn gyhoeddus yn ddarostyngedig i eithriadau penodol);

(b)paragraff 6(6) o Atodlen 3(17) i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (ymchwiliadau lleol a gwrandawiadau); neu

(c)paragraff 6(6) o’r Atodlen(18) i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (ymchwiliadau lleol a gwrandawiadau).

RHAN 10Hysbysiadau Gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru

Cymhwyso Rheoliadau i hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru

52.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 182 o’r Ddeddf Gynllunio ac i apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 46 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Atodlen 3.

RHAN 11Dirymu a diwygiad canlyniadol

Darpariaethau dirymu, darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed

53.—(1Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i’r graddau a nodir yng ngholofn (3), yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).

(2Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn parhau i fod yn gymwys i apelau, ac eithrio apelau gorfodi, pan wneir yr apêl mewn perthynas â chais a wnaed cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3Mae’r offerynnau a restrir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 yn parhau i fod yn gymwys i apelau gorfodi pan wneir yr apêl mewn perthynas â hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiad canlyniadol

54.—(1Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2, yn yr Hysbysiad o dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio, yn lle “Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015” rhodder “Rhan 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017”.

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

5 Ebrill 2017

Rheoliad 3

ATODLEN 1Defnyddiau datblygu masnachol bach

Siopau

1.  Defnydd ar gyfer yr holl ddibenion a ganlyn, neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

(b)fel swyddfa’r post,

(c)ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel swyddfa deithio,

(d)ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre honno,

(e)ar gyfer trin gwallt,

(f)ar gyfer trefnu angladdau,

(g)ar gyfer arddangos nwyddau i’w gwerthu,

(h)ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

(i)ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

(j)ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

2.  Defnydd ar gyfer darparu—

(a)gwasanaethau ariannol,

(b)gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

(c)unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diod

3.  Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.

Rheoliad 51

ATODLEN 2Addasiadau pan roddir cyfarwyddyd diogelwch gwladol

Dehongli

1.  Mae rheoliad 3 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lleoedd priodol—

ystyr “cyfarwyddyd diogelwch” (“security direction”) yw cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 321(3) o’r Ddeddf Gynllunio, paragraff 6(6) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu baragraff 6(6) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus,;

ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person a benodir o dan adran 321(5) neu (6) o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 22 a 40 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig a pharagraff 6A o Atodlen 3 iddi, ac adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus a pharagraff 6A o’r Atodlen iddi,;

ystyr “tystiolaeth gaeedig” (“closed evidence”) yw tystiolaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd diogelwch;.

Arolygu safleoedd

2.  Mae rheoliad 8 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ar ddiwedd paragraff (2), “a rhaid iddynt roi’r fath hysbysiad i unrhyw gynrychiolydd penodedig” wedi ei fewnosod;

(b)ar ôl paragraff (2), y canlynol wedi ei fewnosod—

(2A) Pan fo arolygu safle yn golygu arolygu tystiolaeth gaeedig, caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir yng nghwmni’r apelydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig.

Gwybodaeth bellach

3.  Mae rheoliad 9 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (8)—

(8A) Nid yw paragraff (8) yn gymwys pan fo’r sylwadau a’r ymatebion ysgrifenedig a geir gan Weinidogion Cymru (“sylwadau pellach”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(7B) Pan fo sylwadau pellach yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, anfon y sylwadau pellach at yr apelydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)sicrhau bod y sylwadau pellach (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Sylwadau

4.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (7)—

(7A) Nid yw paragraff (7) yn gymwys pan fo’r datganiad achos llawn a geir gan Weinidogion Cymru (“y datganiad achos llawn”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(7B) Pan fo’r datganiad achos llawn yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael, anfon y datganiad achos llawn at yr apelydd ac at unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)sicrhau bod y datganiad achos llawn (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Sylwadau personau â buddiant

5.  Mae rheoliad 23 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—

(3A) Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo’r sylwadau a geir gan Weinidogion Cymru oddi wrth bersonau â buddiant (“sylwadau personau â buddiant”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(3B) Pan fo sylwadau’r personau â buddiant yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, anfon sylwadau’r personau â buddiant at yr apelydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)sicrhau bod sylwadau’r personau â buddiant (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Sylwadau pellach

6.  Mae rheoliad 24 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—

(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan fo’r sylwadaethau ysgrifenedig a geir gan Weinidogion Cymru (“sylwadaethau ysgrifenedig”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(4B) Pan fo’r sylwadaethau ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, anfon y sylwadaethau ysgrifenedig at yr apelydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig; a

(b)sicrhau bod y sylwadaethau ysgrifenedig (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Penodi asesydd

7.  Mae rheoliadau 28 a 37 i’w darllen fel pe bai “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” wedi ei fewnosod ar ôl “yr awdurdod cynllunio lleol”.

Dyddiad gwrandawiad ac ymchwiliad, lleoliad gwrandawiad ac ymchwiliad a hysbysiad ynghylch gwrandawiad ac ymchwiliad

8.  Mae rheoliadau 29 a 42 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)(b)—

(ba)unrhyw gynrychiolydd penodedig;.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad, cymryd rhan mewn ymchwiliad

9.  Mae rheoliadau 31(1) a 38(1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

(ba)unrhyw gynrychiolydd penodedig;.

Absenoldeb, gohirio etc.

10.  Mae rheoliadau 32(1) a 39(1) i’w darllen fel pe bai “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” wedi ei fewnosod ar ôl “awdurdod cynllunio lleol”.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

11.  Mae rheoliad 33(5) i’w ddarllen fel pe bai “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” wedi ei fewnosod ar ôl “awdurdod cynllunio lleol”.

Cyfarfodydd rhagymchwiliad

12.  Mae rheoliad 40(2) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

(ba)unrhyw gynrychiolydd penodedig;.

Datganiadau tystiolaeth ysgrifenedig

13.  Mae rheoliad 44 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ar ôl paragraff (1), y canlynol wedi ei fewnosod—

(1A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(1B) Pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig—

(a)rhaid i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad sy’n bwriadu rhoi tystiolaeth, neu’n bwriadu galw person arall i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad ysgrifenedig, anfon at Weinidogion Cymru—

(i)un copi o’r datganiad ysgrifenedig gan gynnwys y dystiolaeth gaeedig, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig;

(ii)un copi o’r datganiad ysgrifenedig heb gynnwys y dystiolaeth gaeedig (“y datganiad agored”), ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig;

(b)rhaid i’r apelydd anfon un copi o’r datganiad agored, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, i’r awdurdod cynllunio lleol;

(c)rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon un copi o’r datganiad agored, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at yr apelydd.;

(b)ar ôl paragraff (2), y canlynol wedi ei fewnosod—

(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(2B) Pan fo’r datganiad tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael—

(a)anfon copi o ddatganiad agored pob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, ynghyd ag unrhyw grynodeb, i’r awdurdod cynllunio lleol; a

(b)anfon copi o bob datganiad agored, ynghyd ag unrhyw grynodeb, at bob person a wahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

14.  Mae rheoliad 45 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraffau (3), (5) a (6), “, unrhyw gynrychiolydd penodedig” wedi ei fewnosod ar ôl “awdurdod cynllunio lleol”;

(b)ar ôl paragraff (12), y canlynol wedi ei fewnosod—

(12A) Nid yw paragraff (12) yn gymwys os yw unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir gan y person penodedig (“gwybodaeth bellach”) yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig.

(12B) Pan fo’r wybodaeth bellach yn cynnwys tystiolaeth gaeedig neu’n cyfeirio at dystiolaeth gaeedig, rhaid i’r person penodedig—

(a)datgelu’r wybodaeth bellach i’r apelydd ac unrhyw gynrychiolydd penodedig;

(b)datgelu’r wybodaeth bellach (ac eithrio’r dystiolaeth gaeedig) i’r awdurdod cynllunio lleol a phob person sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Y weithdrefn ar ôl sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau, ymchwiliadau neu achosion cyfunol.

15.  Mae rheoliad 47 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—

(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig.

(4B) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig—

(a)rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân (“y rhan gaeedig”) o’u hadroddiadau unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a

(b)pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd i’r rhan gaeedig o adroddiad y person penodedig a rhaid iddo ddatgan yn y rhan gaeedig o’r adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’n cytuno neu’n anghytuno â’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd a, phan fo’n anghytuno â’r asesydd, y rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.

16.  Mae rheoliad 48 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (4)—

(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig.

(4B) Pan ystyriwyd tystiolaeth gaeedig—

(a)rhaid i’r person penodedig a’r asesydd, pan fo un wedi ei benodi, nodi mewn rhan ar wahân (“y rhan gaeedig”) o’u hadroddiadau unrhyw ddisgrifiad o’r dystiolaeth honno ynghyd ag unrhyw gasgliadau neu argymhellion mewn perthynas â’r dystiolaeth honno; a

(b)pan fo asesydd wedi ei benodi, rhaid i’r person penodedig atodi’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd i’r rhan gaeedig o adroddiad y person penodedig a rhaid iddo ddatgan yn y rhan gaeedig o’r adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’n cytuno neu’n anghytuno â’r rhan gaeedig o adroddiad yr asesydd a, phan fo’n anghytuno â’r asesydd, y rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ôl paragraff (9)—

(9A) Nid yw paragraff (9) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig mewn perthynas â mater y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig mewn cysylltiad ag ef, neu yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath.

(9B) Pan fo Gweinidogion Cymru yn anghytuno â’r person penodedig ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person penodedig mewn perthynas â mater y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig mewn cysylltiad ag ef, neu yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath, rhaid iddynt gynnwys rhesymau Gweinidogion Cymru dros anghytuno oni bai—

(a)bod yr hysbysiad wedi ei gyfeirio at berson nad yw’n gynrychiolydd penodedig nac yn unrhyw berson a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch, neu’n unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch; a

(b)y byddai cynnwys y rhesymau yn datgelu unrhyw ran o’r dystiolaeth gaeedig.

Hysbysiad ynghylch penderfyniad

17.  Mae rheoliad 49 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A)” wedi ei fewnosod cyn “Rhaid i Weinidogion Cymru,”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—

(1A) Pan fo rhesymau Gweinidogion Cymru dros benderfyniad yn ymwneud â materion y rhoddwyd tystiolaeth gaeedig mewn cysylltiad â hwy, nid oes dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch y rhesymau hynny i unrhyw berson ac eithrio—

(a)y cynrychiolydd penodedig; neu

(b)person a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch.;

(c)ym mharagraff (2), “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)” wedi ei fewnosod cyn “Pan na fo copi”;

(d)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—

(3A) Nid oes dim ym mharagraffau (2) neu (3) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu neu weld y rhan gaeedig o adroddiad y person penodedig, neu unrhyw ddogfennau sy’n ffurfio neu’n cynnwys tystiolaeth gaeedig a atodir i adroddiad y person penodedig, i unrhyw berson ac eithrio—

(a)y cynrychiolydd penodedig; neu

(b)person a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch.

Y weithdrefn yn dilyn diddymu penderfyniad

18.  Mae rheoliad 50(1) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (a)—

(aa)nid yw is-baragraff (a) yn gymwys pan fo’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn golygu ystyried tystiolaeth gaeedig;

(ab)pan fo’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn golygu ystyried tystiolaeth gaeedig, ni fydd Gweinidogion Cymru ond yn anfon y datganiad ysgrifenedig at—

(i)y cynrychiolydd penodedig; neu

(ii)person a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch;.

Peidio â datgelu tystiolaeth gaeedig

19.  Mae’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 51—

51A.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i’w gymryd fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu, neu’n caniatáu datgelu, tystiolaeth gaeedig i unrhyw berson ac eithrio—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y person penodedig; neu

(c)person a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch, neu berson o unrhyw ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd diogelwch.

Rheoliad 52

ATODLEN 3Addasiadau pan ddyroddir hysbysiadau gorfodi gan Weinidogion Cymru

Dehongli

1.  Mae rheoliad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yn y diffiniad o “datganiad achos llawn”, fod paragraff (d) yn darparu—

(d)yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)datganiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru sy’n cynnwys—

(aa)ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd; a

(bb)manylion llawn yr achos y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth.

Gwybodaeth bellach

2.  Mae rheoliad 9 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1)(b) wedi ei hepgor.

Gweld dogfennau

3.  Nid yw rheoliad 10 yn gymwys.

Pennu’r weithdrefn

4.  Mae rheoliad 14(3) i’w ddarllen fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Hysbysu ynghylch cael apêl

5.  Mae rheoliad 15(2) i’w ddarllen fel pe bai, “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Holiadur

6.  Nid yw rheoliad 16 yn gymwys.

Hysbysiad i bersonau â buddiant

7.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “i’r awdurdod cynllunio lleol” i’w ddarllen fel “i Weinidogion Cymru”;

(b)ym mharagraff (2)(c), “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Sylwadau

8.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (5) i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

(5) Mewn perthynas ag apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi, rhaid i Weinidogion Cymru anfon datganiad achos llawn at yr apelydd ac unrhyw berson y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo, fel ei fod yn dod i law o fewn 4 wythnos i’r dyddiad cychwyn. ;

(b)paragraffau (6) a (7) wedi eu hepgor.

Sylwadau personau â buddiant

9.  Mae rheoliad 23(3) i’w ddarllen fel pe bai “ac i’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Sylwadau pellach

10.  Mae rheoliad 24 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “, yr awdurdod cynllunio lleol,” wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (2), “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Sylwadau ysgrifenedig yn amhriodol

11.  Mae rheoliad 25(2) i’w ddarllen fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Penodi asesydd

12.  Mae rheoliadau 28 a 37 i’w darllen fel pe bai “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Dyddiad gwrandawiad, lleoliad gwrandawiad a hysbysiad ynghylch gwrandawiad

13.  Mae rheoliadau 29(4) a 42(4) i’w darllen fel pe bai is-baragraffau (b) wedi eu hepgor.

Hysbysiad cyhoeddus ynghylch gwrandawiad neu ymchwiliad

14.  Mae rheoliadau 30(5) a 43(5) i’w darllen fel pe bai is-baragraffau (d) wedi eu hepgor.

Cymryd rhan mewn gwrandawiad neu ymchwiliad

15.  Mae rheoliadau 31(1) a 38(1) i’w darllen fel pe bai is-baragraffau (b) wedi eu hepgor.

Absenoldeb a gohirio

16.  Mae rheoliadau 32(1) a 39(1) i’w darllen fel pe bai “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

17.  Mae rheoliad 33(5) i’w ddarllen fel pe bai “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Gwrandawiad yn amhriodol

18.  Mae rheoliad 34(2) i’w ddarllen fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Cyfarfodydd rhagymchwiliad

19.  Mae rheoliad 40(2) i’w ddarllen fel pe bai is-baragraff (b) wedi ei hepgor.

Datganiadau tystiolaeth ysgrifenedig

20.  Mae rheoliad 44 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor;

(b)paragraffau (1)(a) a (b) wedi eu hepgor;

(c)paragraff (1)(c) i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

(c)rhaid i’r apelydd anfon un copi o ddatganiad yr apelydd, ynghyd â chrynodeb ysgrifenedig, at Weinidogion Cymru;;

(d)paragraff (2)(a) wedi ei hepgor.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

21.  Mae rheoliad 45 i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraffau (3), (5) a (6) “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Ymchwiliad yn amhriodol

22.  Mae rheoliad 46(2) i’w ddarllen fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Y weithdrefn ar ôl achosion

23.  Mae rheoliad 47 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraffau (6)(a), (7)(a) ac (8), “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (9), “neu’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

24.  Mae rheoliad 48 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraffau (7)(a), (9)(a) a (10) “, yr awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (11), “neu’r awdurdod cynllunio lleol” wedi ei hepgor.

Hysbysiad am benderfyniad

25.  Mae rheoliad 49(1) i’w ddarllen fel pe bai is-baragraff (b) wedi ei hepgor.

Rheoliad 53

ATODLEN 4Offerynnau Statudol a Ddirymir i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru

Yr Offerynnau Statudol a ddirymirCyfeirnodauGraddau’r dirymu
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003O.S. 2003/395 (Cy. 54)Yr offeryn cyfan
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1266Yr offeryn cyfan
Rheolau Apelau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfyniadau gan Arolygwyr) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1267Yr offeryn cyfan
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1268Yr offeryn cyfan
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1269Yr offeryn cyfan
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Penderfyniadau gan Arolygwyr) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1270Yr offeryn cyfan
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003O.S. 2003/1271Yr offeryn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004O.S. 2004/3157 (Cy. 274)

Erthygl 2 ac Atodlen 1

Paragraff (2) o erthygl 3 ac Atodlen 3

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 3) 2004O.S. 2004/3172Yr offeryn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006O.S. 2006/1282Erthyglau 35 a 37 i 43
Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2007O.S. 2007/2285Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014O.S. 2014/2775 (Cy. 281)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014O.S. 2014/2776 (Cy. 282)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015O.S. 2015/1331 (Cy. 124)Yr offeryn cyfan
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015O.S. 2015/1597 (Cy. 196)Rheoliadau 14, 17(2) a (3)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn un o nifer o offerynnau statudol a wnaed ar yr un pryd sy’n sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer ceisiadau atgyfeiriedig ac apelau yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y weithdrefn mewn perthynas â:

  • ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth a chaniatâd sylweddau peryglus a atgyfeirir at Weinidogion Cymru i’w penderfynu (“ceisiadau atgyfeiriedig”).

  • apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chaniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth, caniatâd sylweddau peryglus, caniatâd i arddangos hysbyseb, tystysgrifau o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig, a chaniatadau o dan orchmynion cadw coed.

  • apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig, hysbysiadau gorfodi ardal gadwraeth, hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, hysbysiadau peidio â pharhau i arddangos hysbyseb, hysbysiadau ailblannu coed a hysbysiadau ynghylch cynnal tir (“apelau gorfodi”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn byrhau amserlenni’r broses apêl. Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:

  • mae’r offerynnau statudol a wnaed ar yr un pryd â’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd gyflwyno datganiad achos llawn gyda hysbysiad o apêl. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno datganiad achos llawn mewn perthynas ag apelau gorfodi, a chaiff ddewis gwneud hynny mewn perthynas ag apelau eraill. Rhaid i ddatganiad achos llawn yr awdurdod cynllunio lleol ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn 4 wythnos i hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl.

  • rhaid i ddyddiad y gwrandawiad fod yn ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl, a rhaid i ddyddiad yr ymchwiliad fod yn ddim hwyrach na 18 wythnos ar ôl yr hysbysiad hwnnw. Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n anymarferol, rhaid i ddyddiad y gwrandawiad neu’r ymchwiliad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer ymdrin â cheisiadau atgyfeiriedig ac apelau i Weinidogion Cymru drwy gyfuniad o weithdrefnau, yn hytrach na thrwy sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau neu ymchwiliadau yn unig, pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n briodol. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer ystyried achosion o fewn 6 wythnos i’r hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r offerynnau, neu rannau o’r offerynnau, a nodir yn Atodlen 4, ac maent yn disodli’r offerynnau hynny ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110)).

Ceir darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed ar gyfer apelau mewn perthynas â cheisiadau a wnaed cyn y daw’r Rheoliadau i rym, ac ar gyfer apelau gorfodi mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau a ddyroddir cyn y daw’r Rheoliadau i rym (rheoliad 53).

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r offeryn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 8. Diwygiwyd adran 217 gan adran 48(1) i (6) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 319B gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2773 (Cy. 280)). Mewnosodwyd adran 323A gan adran 50 o Ddeddf 2015. Cymhwyswyd adran 323A i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 ac i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 gan baragraff 25 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015.

(2)

1990 p. 9. Mewnosodwyd adran 88E gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280).

(3)

1990 p. 10. Mewnosodwyd adran 21B gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280).

(7)

2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.

(12)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1822 (Cy. 264)).

(15)

Gweler erthygl 13 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110)); rheoliad 11A o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/793 (Cy. 108)) a rheoliad 12 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 2015 (O.S. 2015/1597 (Cy. 196)).

(16)

Mewnosodwyd is-adrannau (5) i (12) o adran 321 gan adran 80(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”).

(17)

Mewnosodwyd paragraff 6A o Atodlen 3 gan adran 80(3) o Ddeddf 2004.

(18)

Mewnosodwyd paragraff 6A o’r Atodlen gan adran 80(3) o Ddeddf 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources