Search Legislation

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 565 (Cy. 134)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

Gwnaed

20 Ebrill 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ebrill 2017

Yn dod i rym

16 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â—

(a)y gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd yn sgil prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (2); a

(b)cadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Mai 2017.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr ag “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(4);

ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad a roddir o dan reoliad 15;

ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—

(a)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru; neu

(b)

unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, corff statudol neu sefydliad arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo unrhyw fuddiant yn y prosiect neu sy’n dal unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r prosiect;

ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad fel y’i disgrifir yn rheoliad 11;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol o dan reoliad 12(1);

ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(5);

ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(6);

ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi ei wneud, neu y bernir ei fod wedi ei wneud, gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(1) neu (7);

ystyr “prosiect” (“project”) yw—

(a)

cyflawni gwaith adeiladu neu waith gosod neu gynlluniau eraill; neu

(b)

ymyriadau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a’r tirlun;

ystyr “prosiect ailstrwythuro” (“restructuring project”) yw prosiect i ailstrwythuro daliadau tir gwledig;

ystyr “prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin” (“project on semi-natural and/or uncultivated land”) yw prosiect i gynyddu cynhyrchiant amaethyddol ardal o dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin ac mae’n cynnwys prosiectau i gynyddu cynhyrchiant amaethyddol tir o’r fath i lefel islaw’r norm;

ystyr “prosiect sylweddol” (“significant project”) yw prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, neu y bernir eu bod wedi penderfynu, ei fod yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn unol â rheoliad 7(1) neu (7);

ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro lle mae’r tir perthnasol wedi ei leoli’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;

ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitats Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(7);

ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), (b), (d) neu (e) o reoliad 8 o’r Rheoliadau Cynefinoedd;

ystyr “tir lled-naturiol” (“semi-natural land”) yw tir sy’n cynnwys llai na 25% o rywogaethau amaethyddol wedi eu gwella sy’n arwydd bod y tir yn cael ei drin;

ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw’r tir lle y mae’r prosiect i’w gyflawni (neu lle y’i cyflawnwyd).

(2Mae i’r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb AEA neu yn y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb berthnasol.

(3Rhaid gwneud neu gyflwyno pob cais, hysbysiad, sylw, ceisiad, cymeradwyaeth a chytundeb o dan y Rheoliadau hyn yn ysgrifenedig.

(4Mae “ysgrifenedig” ym mharagraff (3), ac eithrio pan fo’n gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 24 neu 26, yn cynnwys cyfathrebiad electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(8), ond caiff hysbysiadau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru eu cyflwyno i unrhyw berson ond gael eu cyflwyno drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig os yw’r derbynnydd arfaethedig—

(a)wedi defnyddio’r dull hwnnw o gyfathrebu electronig wrth gyfathrebu â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu

(b)wedi mynegi fel arall bod y dull hwnnw o gyfathrebu electronig yn fodd y gall personau ei ddefnyddio i gyfathrebu ag ef.

(5Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau, y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy’r post.

Cymhwyso’r Rheoliadau

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, oni bai ei fod yn esempt yn unol â pharagraff (2) neu (3).

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i brosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro os yw—

(a)yn brosiect a grybwyllir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999(9);

(b)yn ddatblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(10) yn gymwys iddo;

(c)yn cyflawni gwaith gwella gan gorff draenio o fewn ystyr Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999(11);

(d)yn brosiect perthnasol o fewn ystyr rheoliad 3(2) a (3) o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003(12);

(e)yn tynnu gwrych ymaith fel y caniateir gan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwrychoedd 1997(13); neu

(f)yn waith cyfyngedig, gan gynnwys codi unrhyw adeilad neu ffens, neu godi unrhyw waith arall, y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(14).

(3Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo, yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, ei fod yn esempt rhag rheoliadau 4 i 33 o’r Rheoliadau hyn.

(4Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu ei fod yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i’r graddau y sicrheir cydymffurfedd â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â’r prosiect y mae’r pŵer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.

(5Pa fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu dyroddi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—

(a)ystyried a fyddai unrhyw fath arall o asesiad o’r prosiect yn briodol; a

(b)tynnu sylw’r cyhoedd at—

(i)yr wybodaeth a ystyriwyd wrth ddyroddi’r cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud hynny, a

(ii)yr wybodaeth a gafwyd o unrhyw asesiad o’r prosiect o dan is-baragraff (a).

RHAN 2Sgrinio

Y gofyniad am benderfyniad sgrinio

4.—(1Ni chaiff person ddechrau neu gyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin oni bai ei fod yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy’n rhoi caniatâd i’r prosiect fynd yn ei flaen.

(2Ni chaiff person ddechrau neu gyflawni prosiect ailstrwythuro sydd o faint sy’n hafal i’r trothwy cymwys (a gyfrifir yn unol â rheoliad 5) neu’n uwch na hynny oni bai ei fod yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy’n rhoi caniatâd i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Trothwyon

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn darparu’r dull ar gyfer canfod a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i’r trothwy cymwys neu’n uwch na’r trothwy hwnnw.

(2Mae’r trothwy ar gyfer math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi ei nodi yng ngholofn 2 neu 3.

(3Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro ond yn cynnwys un o’r mathau o brosiectau ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 yn unig.

(4Pan fo prosiect ailstrwythuro i’w gyflawni yn gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy sy’n gymwys iddo yw’r trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 2.

(5Pan fo prosiect ailstrwythuro, neu unrhyw ran ohono, i’w gyflawni neu ei chyflawni mewn ardal sensitif, y trothwy sy’n gymwys iddo yw’r trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3.

(6Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi ei ffurfio o fwy nag un o’r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—

(a)rhaid i bob rhan berthnasol o’r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn canfod y trothwy sy’n gymwys i’r rhan honno, a

(b)os yw unrhyw ran berthnasol o’r prosiect ailstrwythuro yn hafal i’r trothwy sy’n gymwys i’r rhan honno neu’n uwch na’r trothwy hwnnw, yna mae’r prosiect ailstrwythuro cyfan i’w drin fel pe bai ei faint yn hafal i’r trothwy sy’n gymwys iddo neu’n uwch na’r trothwy hwnnw.

(7Yn y rheoliad hwn ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw—

(a)tir yr hysbysir o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(15) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig;

(b)eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn 1972 UNESCO er diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd(16);

(c)safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(17);

(d)ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd felly drwy Orchymyn a wnaed o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) ac a gadarnhawyd yn briodol gan Weinidogion Cymru o dan adran 83(3) o’r Ddeddf honno(18);

(e)Parc Cenedlaethol o fewn ystyr “National Park” yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(19);

(f)heneb gofrestredig o fewn ystyr “scheduled monument” yn Neddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979(20).

Cais am benderfyniad sgrinio

6.—(1Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio—

(a)cael ei wneud i Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys plan sy’n ddigonol i adnabod y tir perthnasol;

(c)cynnwys disgrifiad cryno o natur, maint a diben y prosiect a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;

(d)cynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y ceisydd ddymuno ei darparu neu unrhyw sylwadau eraill y gall ddymuno eu cyflwyno, megis disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y prosiect a/neu fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad sgrinio, cânt ofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol ganddynt.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd ynghylch y dyddiad y daw’r cais am benderfyniad sgrinio i’w llaw.

Y penderfyniad sgrinio

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2) a’r meini prawf dethol yn Atodlen 2, benderfynu a yw prosiect, neu ran ohono, yn brosiect sylweddol.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod prosiect, neu ran ohono, yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill, ac nad yw’r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle nac yn angenrheidiol i’w reoli, mae’r prosiect i gael ei drin fel pe bai’n brosiect sylweddol.

(3Cyn gwneud penderfyniad sgrinio, caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad sgrinio o fewn 35 o ddiwrnodau i—

(a)y dyddiad yn rheoliad 6(3); neu

(b)y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw wybodaeth ychwanegol y maent wedi gofyn amdani o dan reoliad 6(2),

p’un bynnag yw’r diweddaraf.

(5Caniateir estyn y cyfnod ym mharagraff (4) gyda chytundeb y ceisydd.

(6Ar ôl gwneud penderfyniad sgrinio, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r ceisydd ohono o fewn y cyfnod sy’n gymwys o dan baragraff (4), gan roi’r rhesymau;

(b)ei nodi mewn cofrestr, sef cofrestr y mae’n rhaid i’r cyhoedd gael mynediad iddi ar bob adeg resymol; ac

(c)hysbysu unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori y maent yn ystyried a all ddymuno cael gwybod am y penderfyniad sgrinio.

(7Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â gwneud penderfyniad sgrinio neu’n methu â chyflwyno hysbysiad amdano o fewn y cyfnod ym mharagraff (4), caiff y ceisydd hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol.

(8Pan fo’r ceisydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff (6), bernir bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod y prosiect yn brosiect sylweddol ar ddyddiad yr hysbysiad hwnnw.

(9Ar ôl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad, neu ar ôl y bernir eu bod wedi gwneud penderfyniad, fod y prosiect yn brosiect sylweddol—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau ychwanegol; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, o ganlyniad i’r wybodaeth neu’r sylwadau, nad yw’r prosiect yn brosiect sylweddol,

rhaid i Weinidogion Cymru gymryd yr holl gamau a restrir ym mharagraff (6) mewn cysylltiad â’r penderfyniad hwnnw.

(10Bydd y penderfyniad sgrinio yn peidio â chael effaith os nad yw’r prosiect y mae’n ymwneud ag ef yn dechrau o fewn cyfnod o 3 blynedd o’r dyddiad—

(a)yr hysbysir y ceisydd am y penderfyniad sgrinio; neu

(b)y bernir bod y penderfyniad sgrinio wedi ei wneud o dan baragraff (7).

RHAN 3Cydsyniad

Y gofyniad am gydsyniad

8.  Rhaid i berson gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn dechrau neu gyflawni prosiect sylweddol.

Barnau cwmpasu

9.—(1Ar ôl cael penderfyniad sgrinio bod prosiect yn brosiect sylweddol, ond cyn gwneud cais am gydsyniad, caiff y ceisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi eu barn ar ba wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2Os yw’r ceisydd yn gofyn am farn gwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ceisydd ac unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori sy’n briodol yn eu barn hwy, cyn rhoi eu barn.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i roi barn gwmpasu, cânt ofyn i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael y ceisiad am y farn gwmpasu.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r farn gwmpasu i’r ceisydd o fewn 5 wythnos—

(a)i’r dyddiad y cawsant y farn gwmpasu; neu

(b)pan fo’n gymwys, i’r dyddiad y cawsant yr wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3).

Darparu gwybodaeth

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â chorff ymgynghori o dan reoliad 9(2); neu

(b)os yw corff ymgynghori yn cael ceisiad am wybodaeth gan berson sy’n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r corff ymgynghori—

(a)penderfynu a oes ganddo yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu’r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu’r ceisiad, pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu’r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i’r ceisydd unrhyw wybodaeth—

(a)y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(21); neu

(b)y’i rhwystrir rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o’r Rheoliadau hynny.

(5Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai’n awdurdod cyhoeddus o’r fath.

Y cais am gydsyniad a’r datganiad amgylcheddol

11.—(1Rhaid i gais am gydsyniad—

(a)cynnwys datganiad amgylcheddol; a

(b)cael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2Mae datganiad amgylcheddol yn ddatganiad sy’n cynnwys o leiaf—

(a)disgrifiad o’r prosiect, sef gwybodaeth ynghylch y safle, y dyluniad, maint y prosiect a’i nodweddion perthnasol eraill;

(b)disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd;

(c)disgrifiad o nodweddion y prosiect a/neu fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl;

(d)disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan y ceisydd, sy’n berthnasol i’r prosiect a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan ystyried effeithiau sylweddol y prosiect ar yr amgylchedd;

(e)crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) i (d); ac

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i nodweddion penodol y prosiect penodol neu’r math o brosiect ac i’r nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3Rhaid i’r datganiad amgylcheddol—

(a)cael ei lunio ar ran y ceisydd gan bersonau sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn meddu ar arbenigedd digonol i sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn safonol;

(b)cynnwys datganiad gan neu ar ran y ceisydd neu’r apelydd sy’n disgrifio arbenigedd y person a luniodd y datganiad amgylcheddol;

(c)pan fo barn gwmpasu wedi ei dyroddi yn unol â rheoliad 9, fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf a ddyroddwyd (i’r graddau y mae’r prosiect yn parhau i fod yr un prosiect yn ei hanfod â’r prosiect a fu’n destun y farn honno);

(d)cynnwys yr wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y prosiect ar yr amgylchedd, gan roi sylw i’r wybodaeth gyfredol a’r dulliau asesu cyfredol; ac

(e)rhoi sylw i’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol perthnasol eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr UE neu unrhyw ddarpariaeth arall mewn deddfwriaeth ddomestig, gyda’r nod o osgoi dyblygu asesiadau.

(4Ar ôl cael y cais am gydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o’r cais i unrhyw un neu ragor o’r cyrff ymgynghori sy’n briodol yn eu barn hwy, a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 6 wythnos i’r dyddiad y cawsant y cais; a

(b)cyhoeddi, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol y tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cymru, hysbysiad—

(i)yn datgan bod y cais wedi ei wneud;

(ii)yn pennu cyfeiriad lle gellir gweld copïau o’r cais yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o’r cais gael eu gwneud (y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt), ar bob adeg resymol am 6 wythnos o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;

(iii)yn datgan y caiff sylwadau ar effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect eu cyflwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan baragraff (ii) am gyfnod o 6 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;

(iv)yn datgan, os rhoddir cydsyniad, y bydd yn ddarostyngedig i’r amodau yn rheoliad 17(2), ac i unrhyw amodau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru; a

(v)yn datgan, pan fo’n berthnasol, pa un o Wladwriaethau’r AEE, aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn y Wladwriaeth AEE honno, a’r cyrff ymgynghori yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â’r cais.

Gwybodaeth ychwanegol

12.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(4), yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy’n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol, gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am yr wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol, a rhaid i’r ceisydd ddarparu’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau o gael y fath hysbysiad (“gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol”).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i unrhyw rai o’r cyrff ymgynghori y maent yn ystyried sy’n briodol, a

(b)hysbysu’r cyrff ymgynghori y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daw’r wybodaeth ychwanegol i’w llaw.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal leol y tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cymru, hysbysiad—

(a)yn cyfeirio at y cais y mae’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn ymwneud ag ef a’r dyddiad y gwnaed y cais;

(b)yn datgan bod yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wedi dod i law;

(c)yn pennu cyfeiriad lle gellir gweld copïau o’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o’r cais gael eu gwneud (ac y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt) ar bob adeg resymol am 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad; a

(d)yn datgan y caniateir i sylwadau mewn perthynas â’r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan is-baragraff (c) am gyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall

13.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl cael cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r prosiect hwnnw hefyd yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol yn unol â pharagraff (1), neu os yw Gwladwriaeth AEE y mae’r prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol arni yn gofyn am hynny, rhaid i Weinidogion Cymru anfon i’r Wladwriaeth AEE honno—

(a)manylion natur a lleoliad y prosiect sylweddol;

(b)unrhyw wybodaeth sydd gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae’r prosiect yn debygol o gael ar y Wladwriaeth AEE honno;

(c)mynegiad ynghylch a yw Gweinidogion Cymru o blaid rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect a’r amodau tebygol y bydd y cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt; a

(d)ceisiad bod y Wladwriaeth AEE yn rhoi mynegiad, o fewn amserlen resymol a bennir gan Weinidogion Cymru, pa un a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(3Os yw Gwladwriaeth AEE yn mynegi ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno—

(a)copi o’r cais am gydsyniad, y datganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach y maent yn ystyried ei bod yn berthnasol i’r cais; a

(b)gwybodaeth am y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(4Yn unol ag Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)trefnu bod y dogfennau a’r wybodaeth ym mharagraffau (2) a (3) ar gael i’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb AEA ac aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE; a

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny ac aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn cael cyfle i anfon at Weinidogion Cymru eu barn ar yr wybodaeth a’r dogfennau a ddarparwyd, o fewn cyfnod rhesymol cyn gwneud penderfyniad ynghylch rhoi cydsyniad.

(5Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dechrau ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a’r mesurau a ragwelir i leihau neu ddileu’r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno gyda’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ar amserlen resymol ar gyfer yr ymgynghori hwnnw, y mae’n rhaid iddi gynnwys amser i ystyried unrhyw farnau sy’n dod i law o dan baragraff (4)(b).

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru

14.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn cael oddi wrth Wladwriaeth AEE arall wybodaeth a ryddhawyd yn unol ag Erthygl 7(1) o’r Gyfarwyddeb AEA mewn perthynas â phrosiect sylweddol yn y Wladwriaeth AEE honno, cyn y gwneir penderfyniad ar roi cydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)trefnu i’r wybodaeth honno gael ei rhyddhau, o fewn cyfnod rhesymol, i’r cyrff ymgynghori ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd y mae’r prosiect yn debygol o fod a wnelo â hwy;

(b)sicrhau bod y cyrff ymgynghori a’r aelodau o’r cyhoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael cyfle i anfon eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd o fewn y cyfnod y cytunir arno o dan baragraff (2)(b).

(2Yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dechrau ymgynghori â’r Wladwriaeth AEE y mae a wnelo’r cais â hi ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir i leihau neu ddileu’r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno gyda’r Wladwriaeth AEE, cyn y gwneir penderfyniad ynghylch cydsyniad, ar gyfnod rhesymol pryd y gellir anfon unrhyw farnau a geir o dan baragraff (1)(b) ymlaen at y Wladwriaeth AEE honno.

(3Os yw Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod cydsyniad a’i bod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddwyn at sylw’r cyhoedd yr wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Wladwriaeth AEE honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw.

Y penderfyniad cydsynio

15.—(1Wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y datganiad amgylcheddol;

(b)unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol;

(c)unrhyw sylwadau a ddaw i’w llaw o dan—

(i)rheoliad 11(4)(a);

(ii)rheoliad 12(2)(b) a (3)(d); neu

(iii)rheoliad 13(4)(b); a

(d)unrhyw effeithiau cymdeithasol neu economaidd a allai ddeillio o benderfyniad i wrthod cydsyniad ar gyfer y prosiect.

(2Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddod i benderfyniad o dan baragraff (1) tan y diweddaraf o’r canlynol—

(a)pan ddaw’r cyfnod yn yr hysbysiad o dan reoliad 11(4)(b)(iii) i ben;

(b)pan ddaw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol i’r cyrff ymgynghori yn unol â rheoliad 12(2)(b) i ben;

(c)pan ddaw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 12(3) i ben; a

(d)pan ddaw unrhyw gyfnod y cytunir arno gyda Gwladwriaeth AEE arall o dan reoliad 13(5)(b) i ben,

p’un bynnag yw’r diweddaraf.

Gofynion ychwanegol sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Cynefinoedd

16.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect a fyddai’n anghyfreithlon o dan reoliadau 41, 43 neu 45 o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

(2Ond nid yw hynny’n cynnwys unrhyw beth y rhoddwyd trwydded ar ei gyfer o dan reoliad 53 o’r Rheoliadau Cynefinoedd.

(3Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ar gyfer prosiect sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd, pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiect arall (y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny fel “y prosiect”).

(4Caiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect os ydynt wedi ystyried goblygiadau’r prosiect i’r safle Ewropeaidd (gan gynnwys asesiad priodol o’r goblygiadau gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle hwnnw) a’u bod wedi eu bodloni na fydd y prosiect yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd y safle, oni bai bod paragraff (5) yn gymwys.

(5Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rhaid i’r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fod o natur cymdeithasol neu economaidd) ac nad oes unrhyw ddatrysiad amgen, cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect er bod yr asesiad o’i oblygiadau o ran safle Ewropeaidd yn negyddol.

(6Os yw’r safle Ewropeaidd yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i’r rhesymau ym mharagraff (5) fod naill ai—

(a)yn rhesymau sy’n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch y cyhoedd neu ganlyniadau buddiol o’r pwys mwyaf i’r amgylchedd, neu

(b)yn rhesymau eraill sydd, ym marn y Comisiwn Ewropeaidd, yn achos y safle dan sylw, yn rhesymau hanfodol, sef bod hynny er budd cyhoeddus tra phwysig.

(7Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect yn unol â pharagraff (5), rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000(22) yn cael ei ddiogelu.

Yr amodau cydsynio

17.—(1Bydd cydsyniad a roddir yn unol â rheoliad 15 yn ddarostyngedig i—

(a)yr amodau ym mharagraff (2); a

(b)unrhyw amodau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Yr amodau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) yw—

(a)bod y cydsyniad yn methu oni ddechreuir y prosiect o fewn 1 flwyddyn i’r dyddiad y rhoddir y cydsyniad;

(b)bod y cydsyniad yn dod i ben oni chwblheir y prosiect o fewn 3 blynedd i’r dyddiad y rhoddir y cydsyniad; ac

(c)bod y cydsyniad ond yn awdurdodi’r prosiect a ddisgrifir yn y cais am gydsyniad yn unig, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4).

(3Ar ôl i gydsyniad ddod i ben yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) gael ei wneud mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediadau pellach neu ddefnyddiau pellach sy’n rhan o’r prosiect.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i’r cydsyniad pan fo ceisydd yn gofyn amdanynt, ond bydd yn ofynnol gwneud cais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) i wneud unrhyw newid sylweddol i’r gweithrediadau awdurdodedig neu i’r defnyddiau awdurdodedig.

(5Caniateir i geisiadau pellach am gydsyniad o dan baragraffau (3) a (4) fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r gofynion yn y Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6Yn y rheoliad hwn, mae prosiect wedi ei—

“dechrau” (“commenced”) pan fo gweithred sylweddol wedi ei chyflawni mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwaith neu’r gweithiau a ganiateir gan y cydsyniad; a

“wedi ei gwblhau” (“completed”) pan fydd yr holl waith a ganiateir o dan y cydsyniad wedi ei gyflawni a bod yr holl newidiadau yn y defnydd o’r tir perthnasol, neu yn lefel y defnydd hwnnw, wedi eu rhoi ar waith.

Y weithdrefn yn dilyn penderfyniad cydsynio

18.  Ar ôl i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad cydsynio mewn cysylltiad â phrosiect, rhaid iddynt—

(a)hysbysu’r ceisydd, unrhyw gyrff ymgynghori yr anfonwyd copïau o’r cais am gydsyniad atynt o dan reoliad 11(4)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE a hysbyswyd o dan reoliad 13(2) ac unrhyw awdurdod neu berson a gyflwynodd farn o dan reoliad 13(4)(b), am—

(i)eu penderfyniad;

(ii)y rhesymau dros y penderfyniad;

(iii)unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd;

(b)cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn yr ardal leol y mae’r tir perthnasol wedi ei leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn ystyried eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac

(c)sicrhau bod datganiad ar gael i’w weld gan y cyhoedd sy’n cynnwys y canlynol—

(i)y penderfyniad;

(ii)y rhesymau dros y penderfyniad;

(iii)disgrifiad o’r prif fesurau y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol sylweddol y prosiect;

(iv)crynodeb o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd; a

(v)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio’r penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Prosiectau trawsffiniol

19.—(1Yn achos prosiect trawsffiniol pan fo’r rhan fwyaf o’r tir perthnasol wedi ei leoli yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn—

(a)gwneud penderfyniad sgrinio o dan reoliad 7;

(b)rhoi barn gwmpasu o dan reoliad 9; neu

(c)rhoi neu wrthod cydsyniad o dan reoliad 15.

(2Yn achos prosiect trawsffiniol pan fo’r rhan fwyaf o’r tir perthnasol wedi ei leoli yn Lloegr, yr unig Reoliadau y bydd y prosiect hwnnw’n ddarostyngedig iddynt yw’r Rheoliadau sy’n gymwys i’r prosiect yn Lloegr, ac eithrio pan gytunir fel arall o dan baragraff (4).

(3Yn achos cais mewn cysylltiad â phrosiect trawsffiniol y byddai’r Rheoliadau hyn fel arall yn gymwys iddynt, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff Gweinidogion Cymru gytuno i’r cais fod yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau sy’n gymwys i’r prosiect yn Lloegr yn unig.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am hynny, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno, bydd prosiect trawsffiniol y byddai paragraff (2) yn gymwys iddo fel arall yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn yn unig.

Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau

20.  Mae Atodlen 4 yn gymwys os, ar ôl dyddiad—

(a)penderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu

(b)penderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect,

daw’r tir perthnasol yn safle Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr “wedi ei gwblhau” yn rheoliad 17(6)) y prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai’n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle nac yn angenrheidiol i’w reoli.

RHAN 4Gorfodi

Trosedd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn

21.—(1Mae’n drosedd dechrau neu gyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin, neu ddechrau neu gyflawni prosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliadau 4 neu 8.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(3Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y rheoliad hwn sy’n ymwneud â phrosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin, tybir bod unrhyw ddarn o dir y mae’r erlyniad yn honni ei fod yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol, ac os felly rhaid i’r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y tir yn dir heb ei drin neu’n dir lled-naturiol.

Trosedd cyflawni gwaith yn groes i amod

22.—(1Mae’n drosedd cyflawni unrhyw weithgarwch yn groes i amod cydsyniad a roddir yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

Trosedd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth anwir

23.—(1Mae’n drosedd i unrhyw berson sydd, at ddiben sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—

(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,

(b)gyda’r bwriad o dwyllo, yn defnyddio unrhyw ddogfen sy’n ffug neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, neu

(c)gyda’r bwriad o dwyllo, yn cadw gwybodaeth berthnasol yn ôl.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na’r uchafswm statudol; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop

24.—(1Os yw person wedi dechrau prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliad 4 neu 8, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ar unwaith y cyfan neu ran o’r gwaith (“hysbysiad stop”).

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt—

(a)bod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol; neu

(b)ei fod yn cyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliad 4 neu 8.

Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop

25.—(1Mae’n drosedd i berson fynd yn groes i hysbysiad stop, neu beri neu ganiatáu i berson arall fynd yn groes i hysbysiad stop.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na’r uchafswm statudol; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau adfer

26.—(1Os yw person wedi cyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro, yn groes i reoliadau 4 neu 8, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person y mae’n ymddangos iddynt ei fod yn gyfrifol (“hysbysiad adfer”).

(2Caiff hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i’r person—

(a)adfer y tir perthnasol, er boddhad Gweinidogion Cymru, i’r un cyflwr ag yr oedd cyn dechrau’r prosiect; neu

(b)cymryd y fath gamau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol i adfer y tir i gyflwr amgylcheddol da neu i safon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(3Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan y cyfnod y mae gofynion yr hysbysiad i’w cyflawni o’i fewn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg ar ôl dyroddi hysbysiad adfer—

(a)diwygio telerau’r hysbysiad hwnnw;

(b)estyn y cyfnod o dan baragraff (3); neu

(c)terfynu’r hysbysiad hwnnw.

Y gosb am fynd yn groes i hysbysiad adfer

27.—(1Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion hysbysiad adfer yn euog o drosedd.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod—

(a)i ddirwy; a

(b)os yw’r methiant i gydymffurfio yn parhau ar ôl dyddiad yr euogfarn, i ddirwy bellach nad yw’n fwy na £100 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau.

Terfynau amser ar gyfer dwyn achosion cyfreithiol

28.—(1Caniateir dwyn achosion cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o 6 mis o’r dyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.

(2Ond ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o’r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na 2 flynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy’n datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffaith honno; a

(b)bernir bod tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Pwerau mynediad a phwerau diofyn

29.—(1Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir a’i arolygu, ar unrhyw adeg, at ddibenion—

(a)canfod pa un a yw rheoliad 4 neu 8 wedi eu torri;

(b)canfod pa un a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â’r tir hwnnw;

(c)cyflwyno hysbysiad stop neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â’r tir hwnnw; neu

(d)arfer swyddogaeth a restrir yn Atodlen 4.

(2Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ac sydd â sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 23—

(a)cael mynediad i unrhyw fangre sydd, neu y credir ei bod, wedi ei meddiannu gan, neu wedi ei feddu gan, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni’r drosedd; a

(b)cymryd copïau o unrhyw gofnodion sy’n berthnasol i gyflawni’r drosedd a amheuir.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig.

(4Os nad oes unrhyw fesurau sy’n ofynnol gan hysbysiad adfer neu gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 4 wedi eu cyflawni o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—

(a)caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael mynediad, ar adeg resymol, i’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chyflawni’r mesurau hynny; a

(b)adennill yr holl dreuliau yr aed iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person a enwir yn yr hysbysiad.

(5At ddibenion canfod pa un a gyflawnwyd trosedd ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir, caiff person sy’n gweithredu yn unol â pharagraff (1) symud ymaith—

(a)samplau pridd;

(b)sbesimenau planhigion; neu

(c)samplau a gymerir o sbesimenau planhigion.

(6Rhaid i berson a awdurdodir i gael mynediad i dir neu fangreoedd o dan y rheoliad hwn ddangos tystiolaeth ei fod wedi ei awdurdodi i gael mynediad i’r tir neu’r mangreoedd, os gofynnir iddo wneud hynny.

(7Caiff person a awdurdodir i gael mynediad i dir neu fangreoedd o dan y rheoliad hwn ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y maent yn ystyried eu bod yn angenrheidiol gyda hwy.

(8Rhaid i berson sy’n meddiannu tir neu fangre, neu sy’n meddu ar dir neu fangre, y mae person a awdurdodir o dan y rheoliad hwn wedi mynd arno neu arni, roi y fath gymorth y gall y person awdurdodedig hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bŵer a roddir iddo gan y rheoliad hwn.

(9Mae’n drosedd i berson—

(a)rhwystro neu atal yn fwriadol person sy’n gweithredu wrth arfer pŵer a roddir o dan y rheoliad hwn; neu

(b)methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, â cheisiad a wnaed o dan baragraff (8).

(10Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (9) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

RHAN 5Apelau

Apelau

30.—(1Caniateir apelio i Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn yn erbyn—

(a)hysbysiad perthnasol; neu

(b)penderfyniad perthnasol.

(2Caniateir cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad perthnasol ar y sail—

(a)nad oedd gan Weinidogion Cymru bŵer i gyflwyno’r hysbysiad perthnasol, neu nad oedd ganddynt bŵer i gynnwys amod ynddo;

(b)bod rhyw afreoleidd-dra, ddiffyg neu wall perthnasol wedi bod yn yr hysbysiad perthnasol, neu mewn cysylltiad ag ef; neu

(c)bod unrhyw un o ofynion yr hysbysiad yn afresymol.

(3Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r personau canlynol gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol—

(a)y person a wnaeth gais am benderfyniad sgrinio y mae Gweinidogion Cymru wedi ei wneud, neu y bernir eu bod wedi ei wneud, fod prosiect yn brosiect sylweddol yn unol â rheoliad 7;

(b)y person a wnaeth gais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol ac y gwrthodwyd y cais hwnnw gan Weinidogion Cymru; neu

(c)person a hysbyswyd am benderfyniad o dan baragraff 3 o Atodlen 4.

(4Rhaid i apêl a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3)—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig yn y dull a’r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac

(c)dod i law Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru yr hysbysiad perthnasol, neu’r dyddiad y gwnaeth Gweinidogion Cymru y penderfyniad perthnasol y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(5Rhaid i’r apelydd ddatgan a yw’n dymuno i’r apêl gael ei hystyried a’i phenderfynu—

(a)ar sail sylwadau ysgrifenedig;

(b)mewn gwrandawiad llafar; neu

(c)drwy ymchwiliad lleol.

(6Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, ei swyddogaeth o benderfynu ar yr apêl neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r apêl, ac mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o’r fath.

(7Yn y Rhan hon—

ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw hysbysiad stop, hysbysiad adfer neu hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff 5 o Atodlen 4;

ystyr “partïon â buddiant” (“interested parties”) yw—

(a)

y fath gyrff ymgynghori y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol;

(b)

person sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r penderfyniad perthnasol;

(c)

Gwladwriaeth AEE sy’n debygol o gael ei heffeithio yn unol â rheoliad 13(1);

(d)

awdurdod neu berson a roddodd ei farn yn unol â rheoliad 13(4)(b);

(e)

unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddo fuddiant penodol yn nhestun yr apêl;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw penderfyniad sgrinio a wnaed o dan reoliad 7, penderfyniad cydsyniad a wnaed o dan reoliad 15 a phenderfyniad a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4; ac

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 30(6).

Trafodion apêl

31.—(1Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 30 o ran yr holl fanylion perthnasol, rhaid iddynt fwrw ymlaen i benderfynu ar yr apêl.

(2Cyn penderfynu ar yr apêl rhaid i Weinidogion Cymru, gan ganiatáu’r fath gyfnod sy’n rhesymol—

(a)gwahodd yr apelydd ac unrhyw bartïon â buddiant i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;

(b)anfon at y partïon â buddiant gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynir gan yr apelydd;

(c)anfon at yr apelydd gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynir gan y partïon â buddiant;

(d)rhoi cyfle i’r apelydd a’r partïon â buddiant gyflwyno sylwadaethau ar sylwadau a dogfennau ategol ei gilydd i’r person penodedig.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu’r partïon â buddiant ar unrhyw adeg.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau a gyflwynwyd ac eithrio yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.

(5Os yw gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol i’w gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi 6 wythnos o hysbysiad i’r apelydd a’r partïon â buddiant ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol ac enw’r person a benodir i gynnal y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol (neu, fel y bo’n berthnasol, i benderfynu ar yr apêl); a

(b)rhoi’r fath hysbysiad y maent yn meddwl sy’n briodol i hysbysu’r cyhoedd nid llai na 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol.

(6Mae gan yr apelydd yr hawl i ymddangos mewn gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol, a chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu i berson â buddiant ymddangos hefyd.

(7Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu ar apêl—

(a)cânt gadarnhau, amrywio neu ddirymu hysbysiad perthnasol;

(b)cânt gadarnhau neu wrthdroi penderfyniad perthnasol neu unrhyw ran ohono;

(c)rhaid iddynt hysbysu’r apelydd ac unrhyw bartïon eraill i’r apêl.

(8Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn y’i penderfynir.

(9Y dull ar gyfer tynnu apêl yn ôl yw drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth yr apelydd i Weinidogion Cymru.

(10Os tynnir apêl yn ôl, mae Gweinidogion Cymru yn peidio â bod o dan ddyletswydd i’w hystyried a’i phenderfynu.

(11Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(23) (ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir yn unol â rheoliad 33 fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel pe bai’r cyfeiriadau at y Gweinidog yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a chan hepgor y cyfeiriadau at awdurdod lleol.

(12Mae adran 322C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(24) (Costau: Cymru) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 30 fel y mae’n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.

Effaith apelau ar hysbysiadau

32.—(1Pan fo apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd yr hysbysiad yn cael effaith tan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar yr apêl yn unol â rheoliad 31(7).

(2Pan fo apêl yn cael ei chyflwyno yn erbyn hysbysiad stop, mae’r holl ofynion sydd wedi eu cynnwys yn yr hysbysiad yn cael effaith tan fod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar yr apêl yn unol â rheoliad 31(7).

(3Mae penderfyniad gan Weinidogion Cymru i amrywio hysbysiad stop neu hysbysiad adfer yn unol â rheoliad 31(7)(a) ond yn cael effaith o ddyddiad yr hysbysiad o dan reoliad 31(7)(c) yn unig.

Cais i’r Uchel Lys gan berson a dramgwyddir

33.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru nad yw prosiect yn brosiect sylweddol neu benderfyniad i roi cydsyniad i brosiect sylweddol wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn i ddiddymu’r penderfyniad.

(2Caiff yr Uchel Lys ddiddymu penderfyniad a grybwyllir ym mharagraff (1) os yw wedi ei fodloni—

(a)nad yw’r penderfyniad wedi ei wneud yn gyfreithlon; neu

(b)bod buddiannau’r person sydd wedi gwneud cais i’r llys wedi eu rhagfarnu’n sylweddol gan fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion eraill y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid cyflwyno cais i’r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn o fewn 6 wythnos i’r dyddiad y mae’r penderfyniad—

(a)yn cael ei nodi yn y gofrestr yn unol â rheoliad 7(6)(b); neu

(b)yn cael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 18(b).

(4Caiff yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra’n disgwyl penderfyniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu ar y fath delerau y mae’n ystyried sy’n briodol.

RHAN 6Darpariaethau terfynol

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

34.  Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(25) wedi eu diwygio drwy roi’r paragraff a ganlyn yn lle paragraff 10 o Atodlen 1—

10.(1) Ni chaiff buddiolwr ddechrau neu gyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro yn groes i reoliadau 4 neu 8 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(2) Ni chaiff buddiolwr fynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddo o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(3) Ni chaiff buddiolwr, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion hysbysiad adfer a gyflwynir iddo o dan reoliad 26 o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(4) Yn y paragraff hwn, mae i “prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin” (“project on semi-natural and/or uncultivated land”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth).

(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “y Rheoliadau AEA (Amaethyddiaeth)” (“the EIA (Agriculture) Regulations”) yw Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017.

Dirymu

35.  Mae Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007(26) wedi eu dirymu.

Darpariaethau trosiannol

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer trin hysbysiadau penodol a gyflwynwyd o dan Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hysbysiad stop a gyflwynir yn unol â rheoliad 24 o Reoliadau 2007 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno yn unol â rheoliad 24 o’r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 25, 28 a 29 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerir mewn cysylltiad â thorri’r hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hysbysiad adfer a gyflwynir yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau 2007 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno yn unol â rheoliad 26 o’r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 27 i 29 yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerir mewn cysylltiad â thorri’r hysbysiad.

(4Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) yn effeithio ar unrhyw apêl a gyflwynir yn unol â rheoliad 30(2) o Reoliadau 2007 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2017

Rheoliad 5

ATODLEN 1Trothwyon

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Prosiect ailstrwythuro terfyn4 cilometr2 gilometr
Prosiect ailstrwythuro arwynebedd100 o hectarau50 o hectarau
Prosiect ailstrwythuro cyfaint10,000 o fetrau ciwbig5,000 o fetrau ciwbig

Dehongli’r Atodlen hon

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “prosiect ailstrwythuro arwynebedd” (“area restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy’n ymwneud ag arwynebedd tir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro cyfaint” (“volume restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy’n ymwneud ag ychwanegu, gwaredu neu ailddosbarthu cyfaint o bridd neu ddeunydd arall mewn perthynas â thir;

ystyr “prosiect ailstrwythuro terfyn” (“boundary restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy’n ymwneud ag ychwanegu neu waredu unrhyw derfyn cae (gan gynnwys unrhyw wal, ffens, clawdd, ffos neu gwrs dŵr).

Rheoliad 7

ATODLEN 2Y meini prawf dethol ar gyfer penderfyniad sgrinio

Nodweddion prosiectau

1.  Nodweddion prosiectau, gan roi sylw penodol i—

(a)maint a dyluniad y prosiect cyfan;

(b)sut mae’n cyfuno â phrosiectau eraill presennol a/neu a gymeradwywyd;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;

(d)y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;

(e)llygredd a niwsans;

(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol; ac

(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).

Lleoliad y prosiect

2.  Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i—

(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;

(b)digonedd, argaeledd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol; ac

(c)gallu’r amgylchedd naturiol i amsugno, gan roi sylw penodol i’r ardaloedd a ganlyn—

(i)gwlyptiroedd, glannau afonydd, aberoedd afonydd;

(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;

(iii)ardaloedd mynyddig a choedwigoedd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)ardaloedd sydd wedi eu dosbarthu neu wedi eu diogelu o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);

(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i fodloni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr UE ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;

(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth; ac

(viii)tirweddau a safleoedd sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.

Yr effaith bosibl

3.  Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol prosiectau ar yr amgylchedd, mewn perthynas â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen hon, o ran effaith y prosiect ar y ffactorau a bennir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 3, gan gymryd i ystyriaeth—

(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);

(b)natur yr effaith;

(c)natur trawsffiniol yr effaith;

(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;

(e)tebygolrwydd yr effaith;

(f)dechreuad, hyd, amlder a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;

(g)sut mae’r effaith yn cyfuno ag effaith prosiectau eraill presennol a/neu a gymeradwywyd; ac

(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.

Rheoliad 11(2)

ATODLEN 3Gwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiad amgylcheddol

1.  Disgrifiad o’r prosiect, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o leoliad y prosiect;

(b)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan gan gynnwys, pan fo hynny’n berthnasol, y gwaith dymchwel gofynnol, a’r gofynion defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol;

(c)disgrifiad o brif nodweddion cyfnod gweithredol y prosiect (yn enwedig unrhyw broses gynhyrchu), er enghraifft y galw am ynni a’r ynni a ddefnyddir, natur a swm y deunyddiau a’r adnoddau naturiol (gan gynnwys dŵr, tir a bioamrywiaeth) a ddefnyddir;

(d)amcangyfrif, yn ôl math a swm, o’r gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig (megis llygredd dŵr, aer, pridd ac isbridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) a’r symiau a’r mathau o wastraff a gynhyrchir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol.

2.  Disgrifiad o’r dewisiadau eraill rhesymol (er enghraifft o ran dyluniad, technoleg, lleoliad, maint a graddfa’r prosiect) a astudiwyd gan y ceisydd, sy’n berthnasol i’r prosiect arfaethedig a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros ddethol yr opsiwn a ddewiswyd, gan gynnwys cymhariaeth o’r effeithiau amgylcheddol.

3.  Disgrifiad o’r agweddau perthnasol ar gyflwr presennol yr amgylchedd (senario waelodlin) ac amlinelliad o esblygiad y senario honno heb weithredu’r prosiect i’r graddau y gellir asesu newidiadau naturiol o’r senario waelodlin gydag ymdrech resymol ar sail argaeledd gwybodaeth amgylcheddol a gwybodaeth wyddonol.

4.—(1Disgrifiad o’r ffactorau y mae’r prosiect arfaethedig yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt, gan ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, trawsffiniol, tymor byr, tymor canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, gan gynnwys—

(a)poblogaeth ac iechyd pobl;

(b)bioamrywiaeth gyda sylw arbennig i’r rhywogaethau a ddiogelir gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar;

(c)tir (er enghraifft meddiannu tir), pridd (er enghraifft deunydd organig, erydiad, cywasgiad, selio), dŵr (er enghraifft newidiadau hydromorffolegol, swm ac ansawdd), aer a’r hinsawdd (er enghraifft allyriadau nwyon tŷ gwydr, effeithiau sy’n berthnasol i ymaddasu);

(d)asedau materol, gan gynnwys agweddau pensaernïol ac archaeolegol a’r dirwedd.

Dylai’r disgrifiad hwn gymryd i ystyriaeth yr amcanion diogelu’r amgylchedd a bennwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu’r Aelod-wladwriaeth sy’n berthnasol i’r prosiect, gan gynnwys yn enwedig y rhai hynny a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “y Gyfarwyddeb Adar” (“the Birds Directive”) yw Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Ebrill 2009 ar gadwraeth adar gwyllt.

5.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect ar yr amgylchedd o ganlyniad i, ymhlith pethau eraill—

(a)y gwaith adeiladau a bodolaeth y prosiect gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, gwaith dymchwel;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth, gan ystyried i’r graddau y bo’n bosibl argaeledd cynaliadwy’r adnoddau hynny;

(c)allyriad llygryddion, sŵn, dirgryniad, golau, gwres ac ymbelydredd, creu niwsans a gwaredu gwastraff a’i adfer;

(d)y risgiau i iechyd pobl, treftadaeth ddiwylliannol neu’r amgylchedd (er enghraifft o ganlyniad i ddamweiniau neu drychinebau);

(e)sut mae’r effeithiau’n cyfuno â phrosiectau eraill presennol a/neu a gymeradwywyd, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy’n ymwneud ag ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig sy’n debygol o gael eu heffeithio neu’r defnydd o adnoddau naturiol;

(f)effaith y prosiect ar yr hinsawdd (er enghraifft natur a graddau allyriadau nwyon tŷ gwydr) ac i ba raddau y mae newid yn yr hinsawdd yn peryglu’r prosiect;

(g)y technolegau a’r sylweddau a ddefnyddir.

6.  Disgrifiad o’r dulliau darogan neu’r dystiolaeth a ddefnyddir i nodi ac asesu’r effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, gan gynnwys manylion anawsterau (er enghraifft anawsterau technegol neu ddiffyg gwybodaeth) a gododd wrth grynhoi’r wybodaeth ofynnol a’r prif ffactorau sy’n peri ansicrwydd.

7.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i osgoi, atal, lleihau neu, os yw’n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a nodwyd a, phan fo’n briodol, disgrifiad o unrhyw drefniadau monitro arfaethedig (er enghraifft llunio dadansoddiad ar ôl prosiect). Dylai’r disgrifiad hwnnw esbonio i ba raddau y mae effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd wedi eu hosgoi, eu hatal, eu lleihau neu eu gwrthbwyso, a dylai gynnwys y cyfnod adeiladu yn ogystal â’r cyfnod gweithredol.

8.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol disgwyliedig y prosiect ar yr amgylchedd sy’n deillio o’r graddau y mae’r prosiect yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw. Caniateir defnyddio gwybodaeth berthnasol sydd ar gael ac a gasglwyd drwy asesiadau risg yn unol â deddfwriaeth yr UE megis Cyfarwyddeb 2012/18/EU(27) Senedd Ewrop a’r Cyngor neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/71/Euratom(28) neu asesiadau perthnasol a gyflawnir yn unol â deddfwriaeth genedlaethol at y diben hwn ar yr amod y bodlonir gofynion y Gyfarwyddeb AEA. Pan fo hynny’n briodol, dylai’r disgrifiad hwn gynnwys mesurau a ragwelir i atal neu liniaru effeithiau andwyol sylweddol digwyddiadau o’r fath ar yr amgylchedd a manylion y parodrwydd ar gyfer argyfyngau o’r fath a’r ymateb arfaethedig iddynt.

9.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 8 o’r Atodlen hon.

10.  Rhestr gyfeirio sy’n nodi manylion y ffynonellau a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiadau a’r asesiadau a gynhwysir yn yr adroddiad.

Rheoliad 20

ATODLEN 4Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau

1.  Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru wneud asesiad priodol o oblygiadau’r prosiect i’r safle Ewropeaidd gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle, er mwyn dyfarnu a fydd y prosiect a ganiateir gan y penderfyniad neu’r cydsyniad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd y safle.

2.  At ddibenion yr asesiad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â buddiant yn y tir perthnasol ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried yn rhesymol sy’n angenrheidiol; a

(b)ymgynghori â’r cyhoedd, os ydynt yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol.

3.  Oni fydd Gweinidogion Cymru, yn dilyn yr asesiad, wedi eu bodloni na fydd y prosiect a ganiateir gan y penderfyniad neu’r cydsyniad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd, ac nad yw rheoliad 16(4) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)yn achos penderfyniad, dirymu’r penderfyniad; a

(b)yn achos cydsyniad, naill ai—

(i)dirymu’r cydsyniad; neu

(ii)gwneud unrhyw addasiadau i’r cydsyniad sy’n ymddangos yn angenrheidiol iddynt er mwyn sicrhau na fydd y prosiect yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd,

a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob person y mae’n ymddangos iddynt fod ganddynt fuddiant yn y tir perthnasol am eu penderfyniad (eu “penderfyniad pellach”).

4.  Nid yw penderfyniad pellach yn effeithio ar unrhyw waith sydd eisoes wedi ei wneud mewn perthynas â phenderfyniad neu gydsyniad, yn ddarostyngedig i baragraff 5.

5.—(1Os yw—

(a)prosiect sy’n ddarostyngedig i benderfyniad pellach wedi dechrau; a

(b)yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn angenrheidiol diogelu cyfanrwydd y safle Ewropeaidd,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i’r person sy’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith hwnnw, neu unrhyw berson â buddiant yn y tir perthnasol, gyflawni unrhyw waith adfer sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(2Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) ddatgan y cyfnod y mae’n rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni ynddo.

(3Mae hawlogaeth gan berson sy’n cyflawni gwaith adfer o’r fath, wedi iddo gyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8, adennill oddi wrth Weinidogion Cymru ddigollediad mewn cysylltiad ag unrhyw dreuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol wrth gyflawni’r gwaith hwnnw.

6.  Mae rheoliad 30 yn gymwys i—

(a)penderfyniad pellach a wneir o dan baragraff 3; a

(b)hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 5.

7.  Os yw person, yn dilyn penderfyniad pellach o dan baragraff 3, wedi mynd i gostau wrth wneud gwaith sydd bellach yn ddi-fudd oherwydd y penderfyniad pellach, neu os yw fel arall wedi dioddef colled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r penderfyniad pellach, mae hawlogaeth gan y person i gael digollediad ar ôl cyflwyno hawliad yn unol â pharagraff 8.

8.  Rhaid i hawliad am ddigollediad sy’n daladwy o dan baragraff 5(3) neu 7—

(a)cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad am y penderfyniad pellach; a

(b)dod gydag unrhyw dystiolaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

9.  Caniateir i anghydfod ynghylch swm y digollediad sy’n daladwy o dan baragraffau 5(3) a 7 gael ei atgyfeirio i’r Tribiwnlys Tiroedd o fewn 6 mlynedd i ddyddiad yr hysbysiad am y penderfyniad pellach y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

10.  Nid oes dim yn yr Atodlen hon yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed yn unol â phenderfyniad neu gydsyniad cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.

Rheoliad 30(6)

ATODLEN 5Dirprwyo swyddogaethau apeliadol

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir o dan reoliad 30(6) ac ystyr “penodiad” (“appointment”) yw penodiad o dan y rheoliad hwnnw.

2.  Rhaid i benodiad gael ei wneud yn ysgrifenedig ac—

(a)caiff ymwneud ag unrhyw apêl benodol neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad penodedig;

(b)caiff ddarparu bod unrhyw swyddogaeth y mae’n ymwneud â hi i fod yn arferadwy gan y person penodedig naill ai’n ddiamod neu’n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac

(c)caniateir, drwy hysbysiad a roddir i’r person penodedig, iddo gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater nas penderfynwyd gan y person penodedig cyn yr adeg honno.

3.  Mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl y mae penodiad yn ymwneud â hi neu unrhyw fater y mae’n ymwneud ag ef, yr un pwerau neu ddyletswyddau â’r rhai sydd gan Weinidogion Cymru o dan reoliadau 30 a 31, yn ôl y digwydd.

4.  Os bydd person penodedig yn cynnal gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol yn unol â’r Atodlen hon, caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i eistedd gyda’r person penodedig i’w gynghori ar unrhyw fater sy’n codi, er gwaethaf y ffaith mai’r person penodedig sydd i benderfynu ar yr apêl.

5.  Rhaid i gostau gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol a gynhelir o dan yr Atodlen hon gael eu talu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i reoliad 31(11).

6.  Ar ôl cwblhau gwrandawiad llafar neu ymchwiliad lleol, neu ar ôl ystyried sylwadau ysgrifenedig, rhaid i’r person penodedig, onid yw wedi ei benodi i benderfynu ar yr apêl, lunio adroddiad i Weinidogion Cymru y mae’n rhaid iddo gynnwys—

(a)casgliad; a

(b)argymhellion, neu’r rhesymau pam na wneir unrhyw argymhellion.

7.  Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu anghytuno â’r argymhelliad a wneir yn yr adroddiad am eu bod—

(a)yn anghytuno â’r person sy’n llunio’r adroddiad ar unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a gyrhaeddir gan y person hwnnw, neu yr ymddengys iddynt ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath; neu

(b)yn cymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd neu fater newydd o ffaith;

ni chaniateir iddynt wneud penderfyniad heb roi cyfle yn gyntaf i bob person a ymddangosodd yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol gyflwyno sylwadau o fewn cyfnod rhesymol a bennir ganddynt.

8.—(1Os caiff penodiad y person penodedig ei ddirymu o dan baragraff 2(c) mewn cysylltiad ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i Weinidogion Cymru, onid ydynt yn bwriadu penderfynu ar y mater eu hunain, benodi person arall o dan reoliad 30(6) i benderfynu ar y mater yn eu lle.

(2Os caiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i’r broses o ystyried yr apêl neu’r mater, neu unrhyw ymchwiliad lleol neu wrandawiad arall mewn cysylltiad â’r apêl neu’r mater, ddechrau o’r newydd.

(3Nid oes dim yn is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael cyfle i gyflwyno sylwadau newydd neu i addasu unrhyw sylwadau a gyflwynwyd eisoes neu eu tynnu yn eu hôl.

9.—(1Mae unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae’r penodiad yn ymwneud â hi, neu mewn cysylltiad ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, i’w drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi ei wneud neu heb ei wneud gan Weinidogion Cymru.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys—

(a)at ddibenion cymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng Gweinidogion Cymru a’r person penodedig ag sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; na

(b)at ddibenion unrhyw achos troseddol a ddygir mewn cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi ei wneud neu sydd heb ei wneud fel a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu’n bennaf Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 (OJ L 26, 28.1.2012, t. 1-21) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd (“y Gyfarwyddeb AEA”) mewn perthynas â dau fath o brosiect ym mharagraff 1 o Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno: prosiectau i ailstrwythuro daliadau tir gwledig a phrosiectau i ddefnyddio tir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys. Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer y diwygiadau i’r Gyfarwyddeb AEA y rhoddwyd effaith iddynt gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 (OJ L 124, 25.4.2014, t. 1–18).

Maent yn gweithredu hefyd Gyfarwyddeb y Cyngor 1992/43/EEC (OJ L 206, 22.7.1992, t. 7) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna gwyllt (“y Gyfarwyddeb Cynefinoedd”) i’r graddau y mae’r prosiectau hynny yn effeithio ar safleoedd a warchodir gan y Gyfarwyddeb honno.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r mathau o brosiectau a eithrir o gwmpas y Rheoliadau hyn. Maent yn cynnwys gwaith a gwmpesir gan gyfundrefnau rheoleiddio cyfatebol ar gyfer coedwigaeth, prosiectau rheoli dŵr a draenio tir, tynnu gwrychoedd (perthi) ymaith, codi adeiladau a ffensys a gwaith arall ar dir comin, a’r system gynllunio. Mae’n rhoi i Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i eithrio prosiectau penodol o gwmpas y Rheoliadau yn unol â’r Gyfarwyddeb AEA a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

Mae rheoliad 4 yn gwahardd unrhyw berson rhag dechrau neu gyflawni prosiect ar dir lled-naturiol a/neu dir heb ei drin oni fydd y person hwnnw wedi cael penderfyniad sgrinio sy’n cadarnhau a yw’r prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (“penderfyniad sgrinio”). Mae’n gwahardd dechrau neu gyflawni prosiect ailstrwythuro oni fydd naill ai penderfyniad sgrinio wedi ei gael i ganiatáu i’r prosiect fynd yn ei flaen, neu fod maint y prosiect islaw’r trothwy sy’n gymwys iddo pan y’i cyfrifir yn unol â rheoliad 5 ac Atodlen 1.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys mewn cais am benderfyniad sgrinio ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth ychwanegol os bydd angen.

Mae rheoliad 7 ac Atodlen 2 yn nodi’r ffactorau sydd i’w cymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru pan fyddant yn gwneud penderfyniad sgrinio, yn ogystal â’r broses sydd i’w dilyn. Mae Atodlen 2 yn seiliedig ar Atodiad III i’r Gyfarwyddeb AEA.

Mae rheoliad 8 yn gwahardd person rhag dechrau neu gyflawni prosiect sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (“prosiect sylweddol”) oni fydd wedi cael cydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyntaf.

Mae rheoliad 9 yn nodi’r weithdrefn y gall Gweinidogion Cymru ei defnyddio i roi i geisydd am gydsyniad farn am ba wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu mewn datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

Mae rheoliad 10 yn nodi dyletswyddau’r cyrff ymgynghori y ceisir gwybodaeth oddi wrthynt mewn cysylltiad â barn gwmpasu neu gais am gydsyniad.

Mae rheoliad 11 yn pennu bod rhaid i geisiadau am gydsyniad gynnwys datganiad amgylcheddol yn ogystal â nodi cynnwys y datganiad (gweler hefyd Atodlen 3), y mae’n rhaid iddo gael ei lunio gan rywun sy’n meddu ar arbenigedd digonol ym maes perthnasol y prosiect dan sylw (“arbenigwr cymwys”). Er mwyn sicrhau bod aelodau’r cyhoedd y mae a wnelo’r cais â hwy yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau cyn y penderfynir ar y cais, rhaid cyhoeddi hysbysiad sy’n rhoi manylion y cais ac yn nodi sut y gellir cyflwyno sylwadau. Mae rheoliad 12 yn nodi gweithdrefnau pellach sy’n ymwneud â gwybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol i’r ceisydd am gydsyniad ei rhoi.

Mae rheoliadau 13 a 14 yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall, neu pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru.

Mae rheoliadau 15 ac 16 yn nodi’r ffactorau sydd i’w cymryd i ystyriaeth pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad cydsynio, gan gynnwys y sefyllfa pan fo prosiect yn debygol o effeithio ar safle Ewropeaidd, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer amseru penderfyniadau cydsynio.

Mae rheoliad 17 yn nodi’r amodau y bydd cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt ac mae rheoliad 18 yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn unwaith y mae penderfyniad cydsynio wedi ei wneud.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y dull o drin prosiectau trawsffiniol.

Mae rheoliad 20 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer y sefyllfa pan fo’r tir perthnasol, ar ôl i gydsyniad gael ei roi, yn dod yn safle Ewropeaidd.

Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn drosedd i ddechrau neu gyflawni prosiect heb gael penderfyniad sgrinio neu benderfyniad cydsynio. Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn drosedd i dorri unrhyw un o amodau’r cydsyniad ac mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn drosedd i sicrhau penderfyniad drwy dwyll neu i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau anwir neu gamarweiniol.

Mae rheoliad 24 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi “hysbysiadau stop” yn gwahardd personau rhag parhau â gwaith a ddechreuwyd heb y cydsyniad angenrheidiol. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i hysbysiad stop.

Mae rheoliad 26 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi “hysbysiadau adfer” sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi torri’r gofyniad i gael penderfyniad sgrinio neu benderfyniad cydsynio adfer y tir perthnasol i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r prosiect gael ei ddechrau, i gyflwr amgylcheddol da neu i’r fath safon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau. Mae rheoliad 27 yn ei gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad adfer, heb esgus rhesymol.

Mae rheoliad 28 yn pennu bod erlyniadau am droseddau yn unol â rheoliadau 21, 22, 23, 25 a 27 i gael eu dwyn o fewn 6 mis i’r dyddiad y daw tystiolaeth ddigonol yn hysbys i’r erlynydd. Ond rhaid dwyn erlyniadau o fewn 2 flynedd i’r dyddiad y cyflawnwyd y drosedd.

Mae rheoliad 29 yn darparu pwerau mynediad ac arolygu sy’n gysylltiedig â gorfodi, ac yn caniatáu i ddogfennau a sbesimenau planhigion a sbesimenau pridd gael eu cymryd ymaith. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gwaith sy’n ofynnol o dan hysbysiad adfer ac nad yw wedi ei gwblhau o fewn y cyfnod gofynnol, ac i adennill y costau cysylltiedig. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau, yr eir ar eu tir ac yr arolygir eu tir, gynorthwyo personau awdurdodedig, ac mae’n ei gwneud yn drosedd i rwystro neu atal person awdurdodedig yn fwriadol, neu i fethu â rhoi cymorth iddo, heb esgus rhesymol.

Mae rheoliad 30 yn nodi darpariaethau a gweithdrefnau apelio mewn cysylltiad â hysbysiadau a phenderfyniadau perthnasol. Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau a gynhelir gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 30(6).

Mae rheoliad 33 yn darparu y caiff person wneud cais i’r Uchel Lys os yw wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu gan benderfyniad yn rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect.

Mae rheoliad 34 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3223 (Cy. 328)) o ganlyniad i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 35 yn dirymu Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2933 (Cy. 253)) ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â hysbysiadau adfer a hysbysiadau stop a gyflwynwyd o dan y rheoliadau a ddirymir.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(2)

O.S. 2001/2555 mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

(3)

O.S. 2002/248 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.

(5)

OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1–21.

(6)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7–50.

(15)

1981 p. 69. Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 79 o Atodlen 11(1) i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 172 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).

(16)

Gweler Papur Gorchymyn 9424.

(18)

2000 p. 37. Mae gorchmynion sy’n dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a wnaed cyn i adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ddod i rym yn cael eu trin fel pe bai eu bod wedi eu gwneud o dan adran 82 yn rhinwedd paragraff 16 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno.

(19)

1949 p. 97. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan baragraff 2 o Atodlen 10 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), rhan 5 o adran 59(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 10(a) o Atodlen 11 iddi, a pharagraff 16 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).

(20)

1979 p. 46, adran 1(11).

(22)

Gweler rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau Cynefinoedd am y diffiniad o “Natura 2000”.

(24)

1990 p. 8. Fel y’i diwygiwyd gan adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

(27)

Cyfarwyddeb 2012/18/EU ar reoli peryglon damweiniau difrifol sy’n ymwneud â sylweddau peryglus, gan ddiwygio a diddymu wedi hynny Gyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EU.

(28)

Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/71/Euratom dyddiedig 25 Mehefin 2009 yn sefydlu fframwaith y Gymuned ar gyfer diogelwch niwclear sefydliadau niwclear.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources