- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9. At ddibenion paragraff 18(1) neu (2) o Atodlen 3, mae system ddraenio neu unrhyw ran o system ddraenio i’w thrin fel pe bai wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i eiddo unigol yn unig os yw wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i unrhyw adeiladau neu strwythurau eraill y bydd y canlynol, ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, yn berchen arnynt, yn eu rheoli neu â rheolaeth drostynt—
(a)person unigol, neu
(b)dau berson neu ragor gyda’i gilydd.
10.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau system ddraenio a adeiledir yn unol â chynigion a gymeradwywyd.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
(a)dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
(b)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
(3) Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
(a)anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
(b)talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
(c)rhyddhau’r bond methu â chyflawni.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cynigion a gymeradwywyd” (“approved proposals”) yw cynigion a gymeradwywyd o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3, gan gynnwys unrhyw amodau ynghylch y gymeradwyaeth;
mae “system ddraenio” (“drainage system”) i’w dehongli fel system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
11.—(1) Rhaid i gorff cymeradwyo roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penderfynu mabwysiadu system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
(2) Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)y rheswm dros fabwysiadu, a
(b)y dyddiad mabwysiadu.
12. O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo drefnu—
(a)i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf, a
(b)i awdurdod dynodi ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: