- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018.
(2) Deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Gorchymyn 2018” yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(1).
3.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwyth o drydedd wlad sydd ar ffurf planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 a restrir yn Atodlen 5 i Orchymyn 2018.
(2) Mae’r ffioedd a ganlyn yn daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad—
(a)mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth, ffi o £9.71;
(b)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1 nad yw is-baragraff (c) yn gymwys iddi, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;
(c)mewn cysylltiad â phob rhan o’r llwyth sydd ar ffurf planhigyn neu gynnyrch planhigion o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 ac sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;
(d)pan fo arolygydd yn amau bod y llwyth wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol ai peidio, ffi o £157.08 am bob sampl a brofir.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “pla planhigion a reolir” yr ystyr a roddir yn erthygl 32(7)(a) o Orchymyn 2018;
(b)ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
(c)mae i “trydedd wlad” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
4.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodiad pasbort planhigion.
(2) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad ag arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig a gynhelir—
(a)mewn cysylltiad â chais am awdurdodiad pasbort planhigion;
(b)at ddiben monitro a gydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(4) Mae ffi ychwanegol o £18.78 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) am awdurdodiad pasbort planhigion.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n gwneud cais am awdurdodiad pasbort planhigion neu gan ddeiliad awdurdodiad pasbort planhigion (yn ôl y digwydd).
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 29 o Orchymyn 2018;
(b)ystyr “mangre berthnasol”, mewn perthynas â chais am awdurdodiad pasbort planhigion neu ag awdurdodiad pasbort planhigion, yw’r fangre sy’n destun y cais neu’r awdurdodiad.
5.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 4 yn daladwy mewn cysylltiad ag—
(a)cais am drwydded;
(b)unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw a gynhelir mewn cysylltiad â thrwydded.
(2) Swm unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded neu unrhyw weithgaredd arall a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 4 yw’r swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, y’i canfyddir yn unol â’r cofnodion mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw (os oes rhai) yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â monitro telerau ac amodau’r drwydded yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre sy’n ddarostyngedig i’r drwydded, yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd a bennir.
(4) Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y person sy’n cyflwyno cais am drwydded neu ddeiliad y drwydded (yn ôl y digwydd).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwydded” yw trwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o Orchymyn 2018.
6.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi dros dro Aelod Wladwriaethau i gymryd camau brys i atal lledaeniad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft(2).
7.—(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckerann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £60.40 mewn cysylltiad â phob lot a samplir.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus(3).
8.—(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 5 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw sy’n ymwneud â chais i ardystio tatws hadyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(4).
(2) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 yn daladwy yn ddarostyngedig i’r isafswm ffioedd (os oes un) a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5 mewn cysylltiad ag arolygiad o gnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb ac arolygiad o gloron a gynaeafwyd yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol.
(4) Mae ffi ychwanegol o £14.76 yn daladwy pan fo person yn cyflwyno cais ar bapur (ac nid ar-lein) i ardystio tatws hadyd.
(5) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(6) Ym mharagraff (3), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r cnydau sy’n tyfu i’w hardystio yn radd PBTC yr Undeb neu’r cloron a gynaeafwyd sydd i’w harolygu wedi eu lleoli.
9.—(1) Mae’r ffi a bennir ym mharagraff (2) yn daladwy mewn cysylltiad â chais i ardystio planhigion ffrwythau a deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(5).
(2) Mae ffi o £72.00 yr awr (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd.
(3) Mae unrhyw ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy gan y ceisydd.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “mangre berthnasol” yw’r fangre lle y mae’r deunydd sydd i’w ardystio wedi ei leoli.
10. Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn daladwy i Weinidogion Cymru ar orchymyn.
11.—(1) Pan fo unrhyw swm sy’n daladwy drwy, neu mewn perthynas ag, unrhyw ffi neu unrhyw ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn dal heb ei dalu, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adennill y swm fel dyled sifil, neu
(b)ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr hyd nes bod y swm hwnnw wedi ei dalu.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “cofrestredig” (“registered”), “cofrestru” (“registration”) a “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yr ystyron a roddir iddynt yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018.
12. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2018
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: