Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaiddLL+C

80.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F1dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE;

(iv)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

[F2“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)]

“plentyn” (“child”);

“rhiant” (“parent”).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 80 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)