- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person wneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig o hyd at £25,000 tuag at gostau ymgymryd â chwrs dynodedig.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 17(5), pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs, a
(b)£25,000.
(3) Ac eithrio pan fo rheoliad 17(5) a (6) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—
(a)nad yw cyfanred y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y gwneir cais amdano yn fwy na’r symiau cymwysadwy a nodir ym mharagraffau (1) a (2);
(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 11(2).
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 10 fod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael yn unol â rheoliad 14.
14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr yn cymhwyso i’w gael o dan y Rheoliadau hyn—
(a)naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau; a
(b)ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.
(3) Os yw’r gofyniad a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.
(4) Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, y mae carcharor cymwys yn cymhwyso i’w gael, i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.
(5) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)ni chânt wneud taliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n fwy na £10,609 mewn cysylltiad ag unrhyw un flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys;
(b)rhaid iddynt, wrth benderfynu ar swm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael, ddiystyru unrhyw flynyddoedd academaidd a gwblhawyd.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “blynyddoedd academaidd a gwblhawyd” yw blynyddoedd academaidd y cwrs dynodedig a gwblhawyd gan y myfyriwr cymwys cyn i Weinidogion Cymru gael cais y myfyriwr o dan reoliad 9(1).
(7) Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, ddarparu i Weinidogion Cymru y dyddiad—
(a)y mae cwrs dynodedig myfyriwr cymwys yn dechrau arno; a
(b)y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw yn dod i ben arno.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig myfyriwr cymwys oni bai eu bod wedi cael, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru)—
(a)nad yw’r myfyriwr, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—
(i)gan Gyngor Ymchwil;
(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;
(b)bod y myfyriwr yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu’n ymgymryd ag ef, neu ei fod yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw neu’n parhau i ymgymryd ag ef (fel sy’n gymwys);
(c)bod o leiaf hanner yr addysgu a’r oruchwyliaeth sy’n ffurfio’r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig;
(d)bod yr awdurdod academaidd yn ystyried y bydd yn bosibl i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs;
(e)na roddwyd i’r myfyriwr neu na thalwyd iddo, mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.
(9) Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd ddarparu’r cadarnhad a ddisgrifir ym mharagraff (8)(a) os nad yw’n gallu gwneud hynny.
(10) Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (11) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys (“A”), rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru; a
(b)darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad y mae’r awdurdod academaidd yn meddwl y gall fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(11) Y digwyddiadau yw—
(a)bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol bod A, mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig, yn cael unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir—
(i)gan Gyngor Ymchwil;
(ii)gan, neu ar ran, Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig;
(b)bod A yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig, neu’n cael ei atal dros dro neu ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol;
(c)nad yw’r awdurdod academaidd yn ystyried mwyach ei bod yn bosibl i A gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw;
(d)bod A yn cyflwyno ei draethawd ymchwil cychwynnol mewn cysylltiad â’i gwrs dynodedig cyn i gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw ddod i ben; ac
(e)bod yr awdurdod academaidd yn dod yn ymwybodol i unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2 gael ei roi i A neu ei dalu iddo, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig A.
(12) At ddibenion paragraffau (8)(d) ac (11)(c), rhaid i’r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a)unrhyw gynnydd yn y dwysedd astudio a fyddai’n ofynnol er mwyn i’r myfyriwr gwblhau’r cwrs o fewn cyfnod arferol y cofrestriad;
(b)unrhyw rannau o’r cwrs y bu’n ofynnol i’r myfyriwr eu hailadrodd.
15.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig fod rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 14(10) neu baragraff 2(a) i (c) o Atodlen 2 am fyfyriwr cymwys (“A”) ynglŷn â’r canlynol—
(a)absenoldeb A o’i gwrs dynodedig; neu
(b)anallu A i gwblhau ei gwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw,
ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.
(2) Caniateir gwneud taliad pellach er gwaethaf hysbysiad o’r fath os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliad yn briodol o dan yr holl amgylchiadau.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi cael hysbysiad mewn perthynas â myfyriwr cymwys (“A”) sy’n dod o fewn paragraff (1)(a); a
(b)A yn ailgychwyn ei gwrs.
(4) Rhaid i A—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi ailgychwyn ei gwrs; a
(b)darparu manylion i Weinidogion Cymru ynghylch hyd ac achos absenoldeb blaenorol A o’r cwrs hwnnw.
(5) Rhaid i’r awdurdod academaidd perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru os, yn dilyn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan reoliad 14(10) mewn cysylltiad â rheoliad 14(11)(c), nad yw’n ystyried mwyach nad yw’r myfyriwr yn gallu cwblhau’r cwrs dynodedig o fewn cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs hwnnw.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan baragraffau (4) neu (5), rhaid iddynt ailgychwyn talu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliad 14 os, ym marn Gweinidogion Cymru, ydynt yn ystyried y byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau.
17.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)addasu taliad o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol er mwyn i gyfanswm y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a ddyfernir beidio â bod yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 13(2); a
(b)talu unrhyw swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, yn unol â rheoliad 14.
(3) Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys pan fo carcharor cymwys (“A”) sy’n cael benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig, neu randaliadau o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 14.
(5) Pan fyddai A wedi cymhwyso i gael swm uwch o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oni fyddai A wedi bod yn garcharor cymwys, caiff A, yn ddarostyngedig i baragraff (6), wneud cais am i swm y benthyciad gael ei gynyddu.
(6) Yr uchafswm cynnydd ym menthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig A y caiff A wneud cais amdano o dan baragraff (5) yw’r swm a gyfrifir drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—
pan fo—
F yn gyfwerth â’r swm y byddai A wedi cymhwyso i’w gael pe na bai A wedi bod yn garcharor cymwys;
R yn gyfwerth â’r swm y mae A yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;
T yn nifer y diwrnodau o gyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs sy’n weddill pan yw A yn peidio â bod yn garcharor cymwys gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae A yn peidio â bod yn garcharor cymwys; ac
M yn gyfanswm nifer y diwrnodau y mae cyfnod arferol y cofrestriad ar gyfer y cwrs yn para.
18.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth—
(a)y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw; neu
(b)y myfyriwr a gafodd y benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig.
(2) Rhaid i fyfyriwr, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr neu a delir mewn cysylltiad â’r myfyriwr, sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y benthyciad y mae hawlogaeth gan y myfyriwr i’w gael.
(3) Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—
(a)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig sy’n weddill i’w dalu i’r myfyriwr neu mewn cysylltiad ag ef;
(b)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(d)drwy gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: