Search Legislation

Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1281 (Cy. 225)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Addysg, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gwasanaethau Iechyd, Cymru

Hadau, Cymru

Llywodraeth Leol, Cymru

Trethi, Cymru

Y Gymraeg

Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

16 Medi 2019

Gwnaed

24 Medi 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Medi 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) ac adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd mewn perthynas â’r diwygiadau a wneir gan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu llunio.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3Daw rheoliadau 3, 4, 5 a 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â’r Gymraeg

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

2.—(1Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3 o Atodlen 5 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 6), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v)un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.

(3Ym mharagraff 2 o Atodlen 7 (y categorïau o berson y caniateir eu hychwanegu at Atodlen 8), yn y diffiniad o “arian cyhoeddus” hepgorer y geiriau a ganlyn o baragraff (a)—

neu

(v)un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd;.

RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd

Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(7), yn lle “yr awdurdodau perthnasol” rhodder “yr awdurdodau priodol”.

(3Yn rheoliad 7(5)(a), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “yr Ynysoedd Prydeinig”.

RHAN 4Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019

4.  Yn rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019(6), yn lle “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl” rhodder “Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787”.

RHAN 5Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â hadau

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

5.—(1Mae rheoliad 2 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn nhestun Cymraeg paragraff (12), hepgorer “, 8”.

(3Ar ôl paragraff (12) mewnosoder—

(12A) Yn nhestun Cymraeg paragraff 8(b) o Ran 3 o Atodlen 1—

(a)ym mharagraff (i), ar ôl “gradd S” mewnosoder “y DU”,

(b)ym mharagraff (ii), ar ôl “gradd SE” mewnosoder “y DU”, ac

(c)ym mharagraff (iii), ar ôl “gradd E” mewnosoder “y DU”.

(4Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff (17)(b)(iii) rhodder—

(iii)yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”.

RHAN 6Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyllid llywodraeth leol

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005

6.  Yn rheoliad 7(3) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005(8), hepgorer y diffiniad o “EEA State”.

RHAN 7Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â goruchwylio rheolaeth a defnydd cyffuriau a reolir a datgelu cofnodion addysgol a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelu data

Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

7.—(1Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “y GDPR”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno);.

(3Yn rheoliad 25(7) (dyletswydd i gydweithredu drwy ddatgelu gwybodaeth ynglyn â phersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

(4Yn rheoliad 26(6) (cyrff cyfrifol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei datgelu am bersonau perthnasol), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

(5Yn rheoliad 29(3) (adroddiadau ar ddigwyddiadau), yn lle “neu’r GDPR” rhodder “neu GDPR y DU”.

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

8.—(1Mae rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (5)(a) a (b), yn lle “y GDPR” rhodder “GDPR y DU”.

(3Yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “GDPR y DU” yr un ystyr ag a roddir i “the UK GDPR” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(10) a (14) o’r Ddeddf honno).

Rheoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019

9.  Yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygiadau etc) (Ymadael â’r UE) 2019(11), hepgorer paragraffau 71 i 75 a pharagraffau 90 ac 91.

RHAN 8Diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â threthu trafodiadau tir

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

10.  Yn adran 36(12) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(12), hepgorer y diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn (ar wahân i reoliad 10) wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 (yn Rhan 2) yn gwneud diwygiadau i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1) i ymdrin â chyfeiriadau at “un neu ragor o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd”. Daw’r rheoliad hwn i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 3 (yn Rhan 3) yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/732 (Cy. 137)) (“Rheoliadau Bwyd 2019”) sy’n gwneud darpariaeth sy’n cywiro diffygion mewn deddfwriaeth fwyd ddomestig sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 2(7) o Reoliadau Bwyd 2019 drwy roi “yr awdurdodau priodol” yn lle “yr awdurdodau perthnasol”. Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 7(5)(a) o Reoliadau Bwyd 2019 drwy roi “yr Ynysoedd Prydeinig” yn lle “y Deyrnas Unedig”. Mae’r diwygiadau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith arall yr UE a ddargedwir.

Mae rheoliad 4 (yn Rhan 4) yn diwygio Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/460 (Cy. 110)) (“Rheoliadau Llifogydd 2019”) sy’n gwneud darpariaeth sy’n cywiro diffygion mewn deddfwriaeth llifogydd a dŵr ddomestig sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 4(2) yn diwygio rheoliad 5(3)(a) o Reoliadau Llifogydd 2019 i ymdrin â chyfeiriad gwallus.

Mae rheoliad 5 (yn Rhan 5) yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/738 (Cy. 141)) (“Rheoliadau Tatws Hadyd 2019”). Mae Rheoliadau Tatws Hadyd 2019 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 sy’n gwneud darpariaeth sy’n llywodraethu marchnata ac ardystio tatws hadyd yng Nghymru.

Mae rheoliad 5(2) a (3) yn diwygio testun Cymraeg Rheoliadau Tatws Hadyd 2019 i ymdrin â gwallau drafftio.

Mae rheoliad 5(4) yn amnewid testun Cymraeg rheoliad 2(17)(b)(iii) o Reoliadau Tatws Hadyd 2019 i gynnwys cyfeiriad at datws gradd S yr Undeb a hepgorwyd drwy gamgymeriad yn flaenorol.

Mae rheoliad 6 (yn Rhan 6) yn gwneud diwygiad i reoliad 7 o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 (O.S. 2005/422 (Cy. 40)) (“Rheoliadau 2005”) i ddileu’r diffiniad o “EEA State”. Mae’r diffiniad hwn bellach yn ddiangen o ganlyniad i’r diwygiad a wnaed i reoliad 7 o Reoliadau 2005 gan reoliad 3 o Reoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/436 (Cy. 104)). Daw’r rheoliad hwn i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae’r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 7 ac 8 (yn Rhan 7) yn ofynnol o ganlyniad i Reoliadau Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/419) (“yr OS Diogelu Data”). Mae’r OS Diogelu Data yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad (EU) 2016/679) (“y GDPR”) gan ei fod yn rhan o gyfraith ddomestig ar ymadawiad y DU â’r UE. Gan na fydd y GDPR yn gymwys yn uniongyrchol yn y DU mwyach, mae’r OS Diogelu Data yn cyflwyno un drefn ar gyfer gweithgareddau prosesu cyffredinol o’r enw GDPR y DU. Mae angen gwneud newidiadau i Ddeddf Diogelu Data 2018 drwyddi draw, ac i ddeddfwriaeth arall, o ganlyniad i hyn.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3239 (Cy. 286)) i gywiro cyfeiriadau at y GDPR a rhoi cyfeiriadau at GDPR y DU yn eu lle.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiadau tebyg i Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1942 (Cy. 209)), eto gan gywiro cyfeiriadau at y GDPR a rhoi cyfeiriadau at GDPR y DU yn eu lle.

Daw rheoliadau 7 ac 8 i rym ar y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 9 (yn Rhan 7) yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i’r OS Diogelu Data o ganlyniad i wneud rheoliadau 7 ac 8 o’r Rheoliadau hyn. Mae’r diwygiad hwn yn dileu’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 a Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 gan y bydd y diwygiadau hyn wedi eu gwneud gan reoliadau 7 ac 8 o’r Rheoliadau hyn. Mae’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Er mwyn sicrhau na ddaw’r diwygiadau a wnaed gan yr OS Diogelu Data i rym, daw rheoliad 9 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

Mae rheoliad 10 (yn Rhan 8) wedi ei wneud drwy arfer y pŵer a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (2017 dccc 1) (“Deddf 2017”) ac mae’n gwneud diwygiad i adran 36(12) o Ddeddf 2017 i ddileu’r diffiniad o “cynllun buddsoddi torfol”. Mae’r diffiniad hwn bellach yn ddiangen o ganlyniad i ddiddymu adran 36(6) o Ddeddf 2017 gan Reoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833 (Cy. 153)) a ddaw i rym ar y diwrnod ymadael. Daw rheoliad 10 i rym ar y diwrnod ymadael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2005/422 (Cy. 40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3050, O.S. 2016/645 ac O.S. 2019/436 (Cy. 104); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2008/3239 (Cy. 286), a ddiwygiwyd gan adran 211(1)(b) o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) a pharagraff 334 o Atodlen 19 iddi. Mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan O.S. 2019/419 ond ni ddaw’r rhain i rym tan y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(10)

O.S. 2011/1942 (Cy. 209), a ddiwygiwyd gan adran 211(1)(b) o Ddeddf Diogelu Data 2018 a pharagraffau 365(1), 365(2)(a) a 365(3)(a) o Atodlen 19 iddi. Mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud gan O.S. 2019/419 ond ni ddaw’r rhain i rym tan y diwrnod ymadael. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(11)

O.S. 2019/419, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources