- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, ATODLEN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 15, 18, 23, 30, 33 a 34
1. Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
2. Y math o gydsyniad y gwneir cais amdano (llawn neu ragarweiniol).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
3. Y math o gais (er enghraifft: cynnwys oʼr newydd; adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli; newid perchnogaeth; cydsyniad rhagarweiniol).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
4. Enw a chyfeiriad y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
5. Os ywʼr ceisydd yn unigolyn neuʼn bartneriaeth syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestruʼr ceisydd neu rif cofrestru pob partner yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
6. Os ywʼr ceisydd yn gorff corfforedig syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwcharolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
7. Cyfeiriad y fangre y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y maeʼr ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os ywʼr cais yn gais am gydsyniad rhagarweiniol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
8. A ywʼr fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd neu, er enghraifft, a ywʼr fangre yn cael ei hadeiladu neuʼn destun negodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
9. Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, aʼr oriau agor ar y diwrnodau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
10. Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu ac, os yw’n gymwys, pa gyfarpar y mae’r ceisydd yn ymgymryd â’i gyflenwi.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
11. Manylion y gwasanaethau cyfeiriedig y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i’w darparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
12. Os ywʼr cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol iʼr rheini a ddarperir ar hyn o bryd yn y fangre restredig, manylion y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
13. Pan fo rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried y bydd y cais yn diwallu angen a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
14. Pan foʼr prawf niweidio yn rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
15. Pan foʼr ceisydd yn gwneud cais i adleoli (pa un ai o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 19, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20 neu dros dro o dan reoliad 21), rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
16. Pan foʼr cais yn ymwneud ag adleoliad rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20, rhaid iʼr ceisydd ddatgan—LL+C
(a)enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol ynddo,
(b)bod y ceisydd yn cydsynio i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn cysylltiad âʼr fangre restredig bresennol honno, gydag effaith oʼr dyddiad y bydd darpariaeth gwasanaethau fferyllol oʼr fangre newydd yn dechrau, ac
(c)sut y maeʼr ceisydd yn bwriadu diwallu angen a nodir yn yr asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos, os ywʼr cais yn ymwneud ag adleoliad i ddiwallu angen oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
17. Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C
(a)a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion syʼn gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol,
(b)a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig, ac
(c)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
18. Os ywʼr cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid iʼr ceisydd ddatgan yr amgylchiadau syʼn gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
19. Enwʼr person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac sydd, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol oʼr fangre.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
20. Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—LL+C
(a)a barheir i ddarparuʼr un gwasanaethau fferyllol oʼr fangre, a
(b)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
21. Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol, ac yn darparu’r cyfarpar os yw’n gymwys, yn y fangre y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaethu sy’n gymwys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
22.—(1) Rhaid i geisydd (ac eithrio ceisydd syʼn gorff corfforedig) ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw llawn,
(b)rhywedd,
(c)dyddiad geni,
(d)cyfeiriad a rhif ffôn,
(e)datganiad ei fod yn fferyllydd cofrestredig, ac
(f)rhif cofrestru proffesiynol aʼr dyddiad yʼi cofrestrwyd gyntaf yn y gofrestr.
(2) Rhaid i geisydd syʼn gorff corfforedig ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw llawn,
(b)rhif cofrestru cwmni,
(c)swyddfa gofrestredig a rhif ffôn y swyddfa honno,
(d)datganiad ei fod yn berson sydd, neu a fydd, yn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968,
(e)rhif cofrestru yn y Gofrestr o Fangreoedd a gynhelir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac
(f)manylion unrhyw restr berthnasol y dilëwyd ei enw ohoni, neu yʼi dilëwyd yn ddigwyddiadol ohoni, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi, neu yʼi cynhwyswyd yn amodol ynddi, ar sail addasrwydd, ynghyd ag esboniad oʼr rhesymau dros hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
23. Rhaid i geisydd gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig o ran pa un a yw, neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, a yw unrhyw un neu ragor oʼi gyfarwyddwyr neu ei uwcharolygydd—
(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,
(b)wedi ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,
(c)wedi derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,
(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen at euogfarn),
(e)wedi derbyn cynnig amodol o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (cosb benodedig: cynnig amodol gan y procuradur ffisgal) neu wedi cytuno i dalu cosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),
(f)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, neuʼn ddarostyngedig i gosb a fyddaiʼn cyfateb i rwymo neu rybuddiad,
(g)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,
(h)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,
(i)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,
(j)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol,
(k)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu ei enw o unrhyw restr berthnasol,
(l)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,
(m)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd ac os felly, pam ac enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neuʼr corff cyfatebol hwnnw, neu
(n)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
24. Os ywʼr ceisydd (a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), neu os bu, yn y 6 mis blaenorol, neu os oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig, rhaid iddo, yn ychwanegol, gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa un a ywʼr corff corfforedig—
(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,
(b)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,
(c)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,
(d)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,
(e)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,
(f)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu o unrhyw restr berthnasol,
(g)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,
(h)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd, neu
(i)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
25. Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi manylion ei gymwysterau fferyllol (gan gynnwys lle yʼu cafwyd) a manylion cronolegol ei brofiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob penodiad), ynghyd ag esboniad am unrhyw fylchau rhwng y penodiadau a pham yʼi diswyddwyd o unrhyw swydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
26. Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwau a chyfeiriadau dau ganolwr syʼn fodlon darparu geirdaon mewn cysylltiad â dwy swydd ddiweddar (caniateir cynnwys unrhyw swydd gyfredol) fel fferyllydd, a barhaodd am 3 mis o leiaf heb doriad sylweddol, neu, pan na fo hynnyʼn bosibl, esboniad llawn a chanolwyr eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
27. Pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, rhaid cyflenwi enw a chyfeiriad pob cyfarwyddwr ac uwcharolygydd i’r corff corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
28. Rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol) y mae’r ceisydd, a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd, wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, a manylion unrhyw geisiadau yn yr arfaeth (gan gynnwys ceisiadau gohiriedig) i gynnwys ceisydd mewn unrhyw restr fferyllol sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol), neu am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer cynnwys ceisydd mewn unrhyw restr oʼr fath, ynghyd ag enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol (neuʼr corff) o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
29. Os ywʼr ceisydd yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, neu sydd â chais yn yr arfaeth (gan gynnwys cais gohiriedig) i’w gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol neuʼr corff cyfatebol o dan sylw, ac enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff corfforedig oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
30.—(1) Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod i unrhyw newidiadau perthnasol yn yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais—
(a)hyd nes y cofnodir ei enw ar y rhestr fferyllol;
(b)hyd nes y bydd y cyfnod wedi dod i ben, a bennir yn rheoliad 23(2) iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y bydd yn cychwyn darparuʼr gwasanaethau fferyllol y gwnaed y cais mewn cysylltiad â hwy,
(c)hyd nes y bydd yn tynnuʼr cais yn ôl, neu
(d)yn achos ceisydd y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18, hyd nes y bydd y cyfnod pan foʼr cydsyniad rhagarweiniol yn cael effaith yn unol â rheoliad 18(5) wedi dod i ben.
(2) Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol os caiff ei gynnwys, neu os bydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys, mewn rhestr berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
31. Rhaid iʼr ceisydd ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—
(a)enwʼr ceisydd,
(b)dyddiad caniatáu’r cais,
(c)y fangre a bennir yn y cais ac y darperir y gwasanaethau fferyllol ohoni,
(d)cadarnhad bod y fangre wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol (gan gynnwys y cyfeirnod),
(e)manylion y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu,
(f)y dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol yn cychwyn,
(g)enw a rhif cofrestruʼr fferyllydd cofrestredig a chanddo gyfrifoldeb yn y fangre, ac
(h)ymgymeriad y bydd y ceisydd, yn unol âʼr cais a ganiatawyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre yn unol âʼr telerau gwasanaethu.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
32. Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
33. Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neuʼr ddau).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
34. Enw a chyfeiriad y ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
35. Cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol y maeʼr ceisydd wedi ei gynnwys odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
36. Disgrifiad a map oʼr ardal y maeʼr ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
37. Cyfeiriad unrhyw fferyllfa yn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
38. Cyfeiriad y fangre practis y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a ywʼr fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
39. Y pellter rhwng y fangre honno aʼr fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
40. A ywʼr cais yn gais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre ychwanegol ynteu i adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter oʼr fangre newydd iʼr fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar hyn o bryd).
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
41. A ywʼr cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau wedi digwydd neu y bydd yn digwydd, ac os felly, enwauʼr meddygon neuʼr contractwyr syʼn cymryd rhan yn y cyfuno.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
42. Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map oʼr ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn cysylltiad â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
43. Manylion unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y mae cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â hi eisoes ond nad ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei benderfynu eto.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
44. Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu aʼr oriau agor aʼr diwrnodau y darperir y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
45. Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
46. Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried bod angen caniatáuʼr cais er mwyn diwallu angen a nodir mewn asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
47. Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad, os caniateir y cais a bod cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn effaith, y bydd y ceisydd yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre practis y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: