- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, ATODLEN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 13, 15 a 30
1.—(1) Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais a gyflwynir iddo yn y modd y maeʼn meddwl ei fod yn addas.
(2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddilyn y weithdrefn yn rheoliad 15(4) mewn cysylltiad â chais a gyflwynir iddo nad ywʼn cynnwys yr holl wybodaeth y maeʼn ofynnol i geisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2.
(3) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os ywʼn meddwl ei bod yn addas, ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, ond pan foʼn bwriadu gwneud hynny rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr bwriad hwnnw iʼr canlynol—
(a)pob ceisydd unigol, a
(b)pan foʼr cais yn un y mae rhaid rhoi hysbysiad mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 8, unrhyw berson arall y mae rhaid rhoi hysbysiad oʼr cais hwnnw iddo.
(4) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag is-baragraff (3), yn ystyried dau neu ragor o geisiadau y mae rheoliad 16(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, caiff wrthod cais (er y byddai, pe baiʼn penderfynu’r cais fel cais unigol ar ei ben ei hunan, yn ei ganiatáu) pan fo nifer y ceisiadau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un, ohonynt yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
2. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymdrechu i benderfynu cais cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl ei gael.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
3.—(1) Nid yw unrhyw berson i gymryd rhan mewn penderfynu cais os yw—
(a)yn berson sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neuʼn gyflogai i berson oʼr fath,
(b)yn gyfranddaliwr, yn gyfarwyddwr neuʼn ysgrifennydd i gwmni syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,
(c)yn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,
(d)yn gontractwr GMDdA yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neuʼn swyddog, yn ymddiriedolwr neu’n berson arall syʼn ymwneud â rheoli cwmni, cymdeithas neu sefydliad gwirfoddol neu gorff arall syʼn gontractwr GMDdA, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen ymlaen gan gontractwr GMDdA oʼr fath, neu
(e)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen, gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn practis GMBILl.
(2) Nid yw unrhyw berson arall i gymryd rhan mewn penderfynu cais pe bai ei gyfranogiad, oherwydd buddiant neu gysylltiad sydd ganddo, neu oherwydd pwysau y gellid ei roi arno, yn peri amheuaeth resymol o ragfarn.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
4.—(1) Os yw Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhinwedd rheoliad 13(3) (ardaloedd syʼn ardaloedd rheoledig), yn penderfynu na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chymryd unrhyw gam gweithredu mewn perthynas âʼr cais hwnnw, ac eithrio hysbysuʼr ceisydd am y ffaith honno ac am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 14 (apelau).
(2) Ym mhob achos arall, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 13(2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi fwriad i wneud penderfyniad iʼr canlynol—
(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol yn ei ardal,
(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol yn ei ardal,
(c)[F1Corff Llais y Dinesydd], a
(d)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gall y penderfyniad effeithio arno ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.
(3) Rhaid i hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad roi gwybod iʼr person a hysbysir fod hawl ganddo i gyflwyno sylwadau (neu, os hysbysir Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol a wnaeth gais am y penderfyniad, unrhyw sylwadau pellach) yn ysgrifenedig ynglŷn âʼr penderfyniad arfaethedig, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad ato.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 para. 4(2)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2023) gan Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (O.S. 2023/299), rhlau. 1(2), 9(4)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
5. Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi dyroddi hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad, rhaid iddo ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynwyd o dan Ran 5 neu Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn ond nas penderfynwyd ganddo, os ywʼr cais yn un y gallaiʼr bwriad i wneud penderfyniad effeithio arno—
(a)hyd nes iddo benderfynu a ywʼr ardal leol yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, a bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi dod i ben, neu
(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
6. Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio—
(a)rhaid iddo ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—
(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),
(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,
(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu
(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,
o ganlyniad iʼr penderfyniad hwnnw, a
(b)caiff, pan fo oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny, osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu gan feddyg neu gontractwr GMC i gleifion ar y rhestr cleifion berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
7.—(1) Unwaith y bydd Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynuʼr cwestiwn o ran pa un a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, rhaid iddo—
(a)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr rheini a hysbyswyd o dan baragraff 4(2) i roi gwybod iddynt am y canlynol—
(i)y penderfyniad aʼr rhesymau drosto,
(ii)unrhyw amodau a osodwyd ganddo o dan baragraff 6, a
(iii)unrhyw hawliau i apelio o dan Atodlen 4, a
(b)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol—
(i)amlinellu ffiniauʼr ardal reoledig yn fanwl gywir ar fap, neu ddileu’r amlinelliad o ffin ardal leol sydd wedi peidio â bod yn ardal reoledig,
(ii)rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i feddyg yr effeithir arno ynghylch unrhyw amodau sydd wedi eu gosod o dan baragraff 6 o ganlyniad iʼr penderfyniad, a
(iii)mynd ymlaen i benderfynu unrhyw geisiadau sydd wedi eu gohirio o dan baragraff 5.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—
(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu
(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
8.—(1) Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i geisiadau i—
(a)cynnwys person yn y canlynol, neu ddiwygio’r canlynol—
(i)rhestr fferyllol a wnaed o dan Ran 5 oʼr Rheoliadau hyn, ac eithrio ceisiadau o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), a
(ii)rhestr meddygon fferyllol a wnaed o dan Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn;
(b)estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24, ac
(c)penderfyniad pellach o ran a yw mangre neu leoliad perthnasol mewn lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(2).
(2) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr cais yn unol â pharagraff 9.
(3) Caiff y rheini a hysbyswyd am gais, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo, ac eithrio ceisiadau a wnaed yn unol â rheoliad 21 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli dros dro).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
9.—(1) Y personau aʼr cyrff y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu hysbysu yw—
(a)y Pwyllgor Fferyllol Lleol,
(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol,
(c)unrhyw berson—
(i)sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir ganddo, neu
(ii)y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo iʼw gynnwys mewn rhestr fferyllol, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,
(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,
(e)[F2Corff Llais y Dinesydd],
(f)unrhyw grŵp cleifion, grŵp defnyddwyr neu grŵp cymunedol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼn ystyried ei fod â buddiant sylweddol yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn yr ardal,
(g)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan) syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,
(h)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol sydd ag unrhyw ran oʼi ardal o fewn 2 gilometr iʼr fangre, neu i leoliad y fangre, a bennir yn y cais, ac
(i)yn achos cais a wnaed o dan reoliad 20 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos), y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr ceisydd yn dymuno adleoli oʼi ardal.
(2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1)(h)—
(a)o fewn 14 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr personau aʼr cyrff a bennir yn is-baragraff (1)(a) i (g) sydd o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, neu syʼn gwasanaethu’r ardal honno, a
(b)hysbysuʼr Bwrdd Iechyd lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1) ei fod wedi darparuʼr hysbysiad syʼn ofynnol gan is-baragraff (2)(a).
(3) Caiff corff cyfatebol a hysbysir o dan is-baragraff (1)(h) ofyn iʼr Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad iʼr personau hynny, yn yr ardal y sefydlwyd y corff cyfatebol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y corff cyfatebol, effeithioʼn sylweddol ar eu buddiannau, a rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad oʼr fath.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 3 para. 9(1)(e) wedi eu hamnewid (1.4.2023) gan Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (O.S. 2023/299), rhlau. 1(2), 9(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
10. Rhaid i hysbysiad o gais o dan baragraff 8—
(a)rhoi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir—
(i)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),
(ii)am yr amgylchiadau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt o dan baragraff 11, a
(iii)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ystyried y cais ar y cyd ag unrhyw gais arall ac mewn perthynas ag unrhyw gais arall, am y bwriad hwnnw,
(b)darparu copi oʼr cais a gyflwynwyd gan y ceisydd, i alluogiʼr person neuʼr corff a hysbysir i gyflwyno sylwadau gwybodus o ran pa un a ddylid caniatáuʼr cais ai peidio, ac
(c)pan fo rheoliad 17(1) yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1)(a), roi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a ywʼr fangre neuʼr lleoliad perthnasol, a bennwyd yn y cais ac sydd mewn ardal reoledig, hefyd mewn lleoliad neilltuedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
11.—(1) Yn achos cais syʼn dod o fewn paragraff 8, caiff Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ywʼn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu cais oʼr fath.
(2) Os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddo—
(a)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr canlynol—
(i)y ceisydd, a
(ii)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),
(b)rhoi gwybod iʼr ceisydd pwy y rhoddwyd hysbysiad iddo oʼr gwrandawiad, ac
(c)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr cais.
(3) Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.
(4) Caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad llafar.
(5) Nid yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei rwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
12. Wrth benderfynu cais syʼn dod o fewn paragraff 8, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw, yn benodol, iʼr canlynol—
(a)unrhyw sylwadau a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3),
(b)unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar, os cynhelir un o dan baragraff 11,
(c)yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol aʼr ardal leol berthnasol, a
(d)unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ac sydd, yn ei farn, yn berthnasol iʼr ystyriaeth oʼr cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
13.—(1) Maeʼr is-baragraff hwn yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais syʼn dod o fewn—
(a)paragraff 8(1)(a)(i) pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, neu
(b)paragraff 8(1)(a)(ii).
(2) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—
(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),
(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,
(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu
(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,
o ganlyniad iʼw benderfyniad i ganiatáuʼr cais, a
(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny a restrir yn is-baragraff (2)(a), caiff osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) neu ddarpariaeth gyfatebol gan feddyg neu gontractwr GMC o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion ar y rhestr berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
14.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(i), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiynau o ran gosod amodau o dan baragraff 13 aʼr penderfyniad ynghylch lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(1))—
(a)i’r ceisydd, a
(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).
(2) Yn achos cais a benderfynir o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 9.
(3) Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
15.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o ran gosod amodau o dan baragraff 13)—
(a)iʼr ceisydd, a
(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).
(2) Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
16.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(b), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—
(a)i’r ceisydd, a
(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
17.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(c), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—
(a)i’r ceisydd, a
(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).
(2) Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
18.—(1) Ar ôl penderfynu cais o dan reoliad 17(2) neu wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 17(1), cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol amlinellu yn fanwl gywir ar fap ffiniau unrhyw leoliad neilltuedig a benderfynwyd ganddo, neu ddileu’r amlinelliad o ffin lleoliad sydd wedi peidio â bod yn lleoliad neilltuedig, yn ôl y digwydd.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—
(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu
(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.10.2020, gweler rhl. 1(2)(b)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: