- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
22 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
24 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym
27 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Gorffennaf 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TTT” yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
(4) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf TTT.
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy—
(a)sy’n drafodiad eiddo preswyl, a
(b)sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021(2).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—
(a)o ganlyniad i adran 10(4) o’r Ddeddf TTT, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2021, a
(b)y contract o dan sylw yn cael ei gwblhau drwy drosglwyddiad ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw os mai’r unig reswm y byddai (oni bai am y rheoliad hwn) wedi bod yn gymwys yw nad yw’r addasiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw.
3. Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt at ddibenion adran 24(1) o’r Ddeddf TTT.
4.—(1) Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);
(b)ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
22 Gorffennaf 2020
Rheoliad 3
Band treth | Y gydnabyddiaeth berthnasol | Y gyfradd dreth ganrannol |
---|---|---|
Band cyfradd sero | Nid mwy na £250,000 | 0% |
Y band treth cyntaf | Mwy na £250,000 ond nid mwy na £400,000 | 5% |
Yr ail fand treth | Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 | 7.5% |
Y trydydd band treth | Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 | 10% |
Y pedwerydd band treth | Mwy na £1,500,000 | 12% |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128 (Cy. 32)) (“Rheoliadau 2018”) i ddarparu ar gyfer amrywiad dros dro i’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer treth trafodiadau tir sy’n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl penodol.
Mae rheoliad 2 yn cymhwyso’r amrywiad dros dro i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021. Pan fo contract wedi ei gyflawni’n sylweddol cyn 1 Ebrill 2021, ond bod y cwblhau yn digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny, ni fydd unrhyw dreth ychwanegol i’w chodi yn rhinwedd adran 10 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”) ar yr amod mai’r unig reswm y mae treth ychwanegol i’w chodi yw oherwydd bod y cwblhau wedi digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny.
Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl os yw o fewn y disgrifiad a geir yn adran 24(6) o’r Ddeddf TTT.
Mae rheoliad 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol sy’n gymwys i’r trafodiadau hynny a bennir gan reoliad 2.
Mae Rheoliadau 2018 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfraddau treth a’r bandiau treth sy’n gymwys i drafodiadau trethadwy—
(a)nad ydynt o fewn y disgrifiad o drafodiad eiddo preswyl, neu
(b)sy’n digwydd cyn 27 Gorffennaf 2020 neu ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 ac 28 o’r Ddeddf TTT.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2017 dccc 1. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
Gweler Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128 (Cy. 32)) ynghylch cymhwyso cyfraddau a bandiau i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith cyn 27 Gorffennaf 2020 neu ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: