Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 794 (Cy. 174)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

22 Gorffennaf 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

24 Gorffennaf 2020

Yn dod i rym

27 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Gorffennaf 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TTT” yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

(4Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf TTT.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy—

(a)sy’n drafodiad eiddo preswyl, a

(b)sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021(2).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—

(a)o ganlyniad i adran 10(4) o’r Ddeddf TTT, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2021, a

(b)y contract o dan sylw yn cael ei gwblhau drwy drosglwyddiad ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.

(3Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw adran 10(5)(b) o’r Ddeddf TTT yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw os mai’r unig reswm y byddai (oni bai am y rheoliad hwn) wedi bod yn gymwys yw nad yw’r addasiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â’r trosglwyddiad hwnnw.

Bandiau treth a chyfraddau treth canrannol

3.  Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt at ddibenion adran 24(1) o’r Ddeddf TTT.

Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

4.—(1Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

(b)ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad trethadwy sy’n ddarostyngedig i Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

22 Gorffennaf 2020

Rheoliad 3

YR ATODLEN

Tabl: Trafodiadau eiddo preswyl

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd seroNid mwy na £250,0000%
Y band treth cyntafMwy na £250,000 ond nid mwy na £400,0005%
Yr ail fand trethMwy na £400,000 ond nid mwy na £750,0007.5%
Y trydydd band trethMwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,00010%
Y pedwerydd band trethMwy na £1,500,00012%

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128 (Cy. 32)) (“Rheoliadau 2018”) i ddarparu ar gyfer amrywiad dros dro i’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol ar gyfer treth trafodiadau tir sy’n gymwys i drafodiadau eiddo preswyl penodol.

Mae rheoliad 2 yn cymhwyso’r amrywiad dros dro i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith ar 27 Gorffennaf 2020 neu ar ôl hynny, ond cyn 1 Ebrill 2021. Pan fo contract wedi ei gyflawni’n sylweddol cyn 1 Ebrill 2021, ond bod y cwblhau yn digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny, ni fydd unrhyw dreth ychwanegol i’w chodi yn rhinwedd adran 10 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”) ar yr amod mai’r unig reswm y mae treth ychwanegol i’w chodi yw oherwydd bod y cwblhau wedi digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny.

Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl os yw o fewn y disgrifiad a geir yn adran 24(6) o’r Ddeddf TTT.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol sy’n gymwys i’r trafodiadau hynny a bennir gan reoliad 2.

Mae Rheoliadau 2018 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfraddau treth a’r bandiau treth sy’n gymwys i drafodiadau trethadwy—

(a)nad ydynt o fewn y disgrifiad o drafodiad eiddo preswyl, neu

(b)sy’n digwydd cyn 27 Gorffennaf 2020 neu ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.

Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 ac 28 o’r Ddeddf TTT.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2017 dccc 1. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(2)

Gweler Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128 (Cy. 32)) ynghylch cymhwyso cyfraddau a bandiau i drafodiadau eiddo preswyl sydd â dyddiad cael effaith cyn 27 Gorffennaf 2020 neu ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill