- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 2(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I2Atod. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig | Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig |
(1) Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, etc. (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18). | |
Erthygl 1(2) (rhoi ar y farchnad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 2(1) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 1 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(2) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 2 ac Atodiad 3 |
Erthygl 2(3) (paratoi fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1), 2(1) a (2) |
Erthygl 3(1) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 1 |
Erthygl 3(2) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla ddilynol) | Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 2 |
Erthygl 4(2) (trothwy gweddillion sylwedd gweithredol) | Erthyglau 1(1) a 4(1), (3) a (5) |
Erthygl 4(3) (rhanddirymiad o drothwy gweddillion sylwedd gweithredol) | Erthyglau 1(1) a 4(1), (2) a (5) |
Erthygl 4(4) (gofynion o ran plaladdwyr) | Erthyglau 1(1) a 4(1) a (5) |
Erthygl 5(1) (enw bwyd nad yw wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) | Erthygl 1(1) a Rhan A o Atodiad 6 |
Erthygl 5(2) (enw bwyd sydd wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr) | Erthygl 1(1) a Rhan B o Atodiad 6 |
Erthygl 6 (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd) | Erthyglau 1(1) a 7(1), (2), (3), (5), (6), (7) ac (8) |
Erthygl 7(1) (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad) | Erthyglau 1(1) a 7(4), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(3) (ailadrodd gwybodaeth a gynhwysir mewn datganiad mandadol ynglŷn â maethiad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 7(4) (datganiad ynglŷn â maethiad yn fandadol ni waeth beth fo maint y pecyn neu’r cynhwysydd) | Erthyglau 1(1) a 7(1), Atodiad 1 ac Atodiad 2 |
Erthygl 7(5) (cymhwyso Erthyglau 31 i 35 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011(1)) | Erthyglau 1(1) a 7(6), (7) ac (8) |
Erthygl 7(6) (mynegi gwerth egni a symiau maetholion) | Erthyglau 1(1) a 7(5) |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 7(7) (gwaharddiad ar fynegi gwerth egni a swm maetholion fel canran o’r cymeriant cyfeirio) | Erthyglau 1(1) a 7(5) |
Erthygl 7(8) (cyflwyno manylion a gynhwysir yn y datganiad ynglŷn â maethiad) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 8 (gwaharddiad ar wneud honiadau am faethiad ac iechyd ar fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 9(1) (datganiad “lactose only”) | Erthygl 1(1) |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 9(2) (datganiad “lactose free”) | Erthygl 1(1) |
Yr ail is-baragraff o Erthygl 9(2) (datganiad nad yw fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol “lactose free” yn addas ar gyfer babanod â galactosemia) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 9(3) (gwaharddiad ar gyfeiriadau at asid docosahecsenoig pan fo fformiwla fabanod yn cael ei rhoi ar y farchnad ar 22 Chwefror 2025 neu wedi hynny) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(1) (cyfyngiad ar hysbysebu ar gyfer fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(2) (gwaharddiad ar ddulliau hyrwyddo er mwyn cymell gwerthiant o fformiwla fabanod) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(3) (gwaharddiad ar ddarparu cynhyrchion, samplau neu anrhegion hyrwyddo eraill, am ddim neu am bris isel, i’r cyhoedd, i fenywod beichiog, i famau neu i aelodau o’u teuluoedd) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 10(4) (gofynion ar gyfer rhoddion neu werthiannau am bris isel o gyflenwadau o fformiwla fabanod i sefydliadau neu gyrff) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 11(2) (gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc) | Erthygl 1(1) |
Erthygl 11(3) (gofynion o ran rhoddion o gyfarpar neu ddeunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg) | |
Erthygl 12 (gofynion hysbysu) | Erthygl 1(1) |
Rheoliad 4
1. Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—LL+C
“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU law requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the specified EU law requirement;
(b)specify the matters which constitute the failure to comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I4Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
2. Mae adran 32 o’r Ddeddf(1) (pwerau mynediad) yn gymwys fel pe bai—LL+C
(a)yn is-adran (1), y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (a) i (c)—
“(a)to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU law requirement;
(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of a specified EU law requirement; and
(c)when exercising a power of entry under this section, to exercise the associated powers in subsections (5) and (6) relating to records;”;
(b)is-adran (9) wedi ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I6Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
3. Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod o flaen is-adran (2)—LL+C
“(1B) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable on summary conviction, to a fine.”
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I8Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
4. Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys fel pe bai—LL+C
(a)“Appeals” wedi ei roi yn lle’r pennawd;
(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 4(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020 may appeal to the magistrates’ court.”;
(c)is-adran (2) wedi ei hepgor;
(d)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (5)—
“(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought must be—whichever ends the earlier—
(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or
(b)the period specified in the improvement notice
and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”
(e)yn is-adran (6)—
(i)“subsection (1)” wedi ei roi yn lle “subsection (3) or (4)”; a
(ii)ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I10Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
5. Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I12Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
6. Mae adran 3 o Ddeddf 1990 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I14Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
7. Mae adran 20 o’r Ddeddf (troseddau oherwydd bai person arall) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I16Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
8. Mae adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I18Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
9. Mae adran 22 o’r Ddeddf (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I20Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
10. Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (b)(ii), “including under section 32 as applied and modified by regulation 4(2) of, and Part 2 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 32 below”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I22Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
11. Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys fel pe bai—LL+C
(a)yn is-adran (1), “including under section 29 as applied and modified by regulation 4(6) of, and Part 6 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 29 above”; a
(b)yn is-adran (8), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I24Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
12. Mae adran 33 o’r Ddeddf (rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I26Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
13. Mae adran 36 o’r Ddeddf (troseddau gan gyrff corfforedig) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I28Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
14. Mae adran 36A o’r Ddeddf(2) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I30Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
15. Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny yn ymddangos.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I32Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
16. Mae adran 53 (dehongli cyffredinol) yn gymwys fel pe bai—LL+C
(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “the 1956 Act”—
““the 2020 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020;”;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “slaughterhouse”—
““specified EU law requirement” has the meaning given in regulation 2(1) of the 2020 Regulations;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I34Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
Rheoliad 5(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 3 mewn grym ar 22.2.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(b)
I36Atod. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Offeryn | Cyfeirnod | Graddau’r dirymu |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 | O.S. 2007/3573 (Cy. 316) | Y Rheoliadau cyfan, ac eithrio rheoliad 30 |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008 | O.S. 2008/2602 (Cy. 228) | Rheoliad 2 |
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014 | O.S. 2014/123 (Cy. 13) | Y Rheoliadau cyfan |
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014 | O.S. 2014/1102 (Cy. 110) | Rheoliad 5 |
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 | O.S. 2016/639 (Cy. 175) | Atodlen 3, paragraff 4 |
Rheoliad 5(5)
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 4 wedi ei fewnosod (16.9.2021) gan Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/955), rhl. 1(2), Atod.
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;
ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan 12 mis oed;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “fformiwla ddilynol” (“follow-on formula”) yw bwydydd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod pan gyflwynir bwydo ategol priodol ac sy’n ffurfio’r brif elfen hylif yn neiet y babanod hynny sy’n amrywio’n gynyddol;
ystyr “fformiwla fabanod” (“infant formula”) yw bwydydd a fwriedir at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd ac sydd ar eu pennau eu hunain yn bodloni gofynion maethol y babanod hynny hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC;
ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed;
ystyr “system gofal iechyd” (“health care system”) yw sefydliadau neu gyrff sy’n ymwneud, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â gofal iechyd i famau, babanod a menywod beichiog, gan gynnwys meithrinfeydd neu sefydliadau gofal plant a gweithwyr iechyd mewn practis preifat.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, ac eithrio un a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf, yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb.
(4) Yn yr Atodlen hon, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad sy’n dwyn y rhif hwnnw yn y Gyfarwyddeb.
2.—(1) Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla fabanod sy’n mynd yn groes i baragraff 4, 5, 7, 9, 10, 11, 13(1), (2) neu (3), 14, 16, 18 neu 19(1) neu sy’n methu â chydymffurfio ag ef.
(2) Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla ddilynol sy’n mynd yn groes i baragraff 4, 6, 8, 9, 10, 11, 13(1), (2) neu (3), 15, 17, 18 neu 19(2) neu sy’n methu â chydymffurfio ag ef.
3. Ni chaiff unrhyw berson farchnata neu honni fel arall fod cynnyrch yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod.
4. Ni chaiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gynnwys unrhyw feintiau o unrhyw sylwedd sy’n peryglu iechyd babanod a phlant ifanc.
5.—(1) Rhaid i fformiwla fabanod fod wedi ei gweithgynhyrchu—
(a)o hydrolysadau protein; a
(b)o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod o’u genedigaeth ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol ag is-baragraff (2).
(2) Mae addasrwydd i’w ddangos drwy adolygiad systematig o’r data sydd ar gael sy’n ymwneud â’r manteision a ddisgwylir ac ag ystyriaethau diogelwch yn ogystal â thrwy astudiaethau priodol, pan fo angen hynny, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath.
6. Rhaid i fformiwla ddilynol fod wedi ei gweithgynhyrchu—
(a)o hydrolysadau protein; a
(b)o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol neilltuol gan fabanod dros 6 mis oed ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol â pharagraff 5(2).
7.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fformiwla fabanod gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a nodir yn Atodiad I gan ystyried y manylebau yn Atodiad V.
(2) Yn achos fformiwla fabanod sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad I sydd â’u cynnwys protein rhwng yr isafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a)rhaid i addasrwydd y fformiwla fabanod at y defnydd maethol neilltuol gan fabanod gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b)rhaid i’r fformiwla fabanod fod yn unol â’r manylebau priodol a nodir yn Atodiad VI.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a nodir yn Atodiad II gan ystyried y manylebau a nodir yn Atodiad V.
(2) Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o’r hydrolysadau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II sydd â’u cynnwys protein rhwng yr isafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a)rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol ar gyfer bodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol a dderbynnir yn gyffredinol ar ddylunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b)rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a nodir yn Atodiad VI.
9. Er mwyn gwneud fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol yn barod i’w defnyddio rhaid nad oes angen gwneud dim byd mwy nag ychwanegu dŵr.
10. Rhaid cadw at y gwaharddiadau a’r terfynau ar y defnydd o gynhwysion bwyd mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol, a nodir yn y drefn honno yn Atodiadau I a II.
11.—(1) Dim ond y sylweddau a restrir yn Atodiad III y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion Atodiadau I a II yn y drefn honno—
(a)ar sylweddau mwynol;
(b)ar fitaminau;
(c)ar asidau amino a chyfansoddion nitrogen eraill; a
(d)ar sylweddau eraill sydd â diben maethol neilltuol.
(2) Rhaid i sylweddau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol yn unol ag is-baragraff (1) fodloni’r meini prawf purdeb perthnasol.
(3) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—
(a)y meini prawf purdeb ar gyfer sylweddau, fel y darperir ar eu cyfer [F2mewn cyfraith a gymathwyd] ynghylch y defnydd o sylweddau a restrir yn Atodiad III, wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion ac eithrio’r rheini a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb; a
(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o’r fath, meini prawf purdeb a dderbynnir yn gyffredinol a argymhellir gan gyrff rhyngwladol.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn Atod. 4 para. 11(3)(a) wedi ei amnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 23
12. Ni chaiff unrhyw weithredwr busnes bwyd roi fformiwla fabanod ar y farchnad yng Nghymru nad yw eto wedi ei rhoi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig oni bai bod y gweithredwr busnes bwyd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt fodel o’r label a ddefnyddir ar gyfer y cynnyrch.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefelau uwch na 0.01 mg/kg o weddillion plaladdwyr unigol.
(2) Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefel uwch na 0.003 mg/kg o unrhyw weddill plaladdwr o blaladdwr a restrir yn Nhabl 1 neu Dabl 2 o Atodiad VIII.
(3) Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefel uwch o unrhyw weddill plaladdwr o blaladdwr a restrir yn Atodiad IX nag uchafswm lefel y gweddill a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Mae’r lefelau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i’r fformiwla fabanod neu’r fformiwla ddilynol—
(a)sydd wedi ei gweithgynhyrchu ar ffurf sy’n barod i’w defnyddio; neu
(b)os nad yw wedi ei gweithgynhyrchu felly, fel y mae wedi ei hailgyfansoddi yn ôl cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr.
(5) Rhaid i ddulliau dadansoddi ar gyfer pennu lefelau gweddillion plaladdwyr at ddibenion y paragraff hwn fod yn ddulliau wedi eu safoni sy’n dderbyniol yn gyffredinol.
14. Ni chaniateir gwerthu fformiwla fabanod onis gwerthir o dan yr enw “infant formula”.
15. Ni chaniateir gwerthu fformiwla ddilynol onis gwerthir o dan yr enw “follow-on formula”.
16.—(1) Ni chaniateir gwerthu fformiwla fabanod oni bai bod y labelu yn dwyn—
(a)datganiad i’r perwyl bod y cynnyrch yn addas i’w ddefnyddio at ddiben maethol neilltuol gan fabanod o’u genedigaeth pan nad ydynt yn cael eu bwydo o’r fron;
(b)y gwerth egni sydd ar gael, wedi ei fynegi mewn kJ a kcal, a chynnwys proteinau, carbohydradau a lipidau, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(c)pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad I a, phan fo’n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(d)cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a gwaredu’r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag y peryglon i iechyd o’i baratoi a’i storio yn amhriodol; ac
(e)y geiriau “Important Notice”, neu eiriau cyfatebol iddynt yn cael eu dilyn yn union gan—
(i)datganiad ynghylch rhagoriaeth bwydo ar y fron; a
(ii)datganiad sy’n argymell mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu broffesiynolion eraill sy’n gyfrifol am ofal mamau a gofal plant y dylid defnyddio’r cynnyrch.
(2) Rhaid i labelu’r fformiwla fabanod—
(a)bod wedi ei ddylunio i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol am y defnydd priodol o’r cynnyrch mewn modd nad yw’n annog peidio â bwydo ar y fron; a
(b)peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” neu unrhyw derm tebyg.
(3) Ni chaniateir i labelu fformiwla fabanod gynnwys—
(a)unrhyw lun o faban; neu
(b)unrhyw lun arall neu destun a all ddelfrydu defnyddio’r cynnyrch,
ond caiff gynnwys delweddau graffig er mwyn adnabod y cynnyrch yn hawdd neu er mwyn dangos dulliau paratoi.
(4) Ni chaiff labelu fformiwla fabanod ddwyn honiadau o ran maethiad ac iechyd ond—
(a)pan yw’r honiad wedi ei restru yng ngholofn gyntaf Atodiad IV ac wedi ei fynegi yn y termau a nodir yno; a
(b)pan yw’r amod a bennir yn ail golofn Atodiad IV mewn perthynas â’r honiad perthnasol a wneir yn y golofn gyntaf wedi ei fodloni.
(5) Caiff labelu fformiwla fabanod ddwyn manylion ynghylch pa faint ar gyfartaledd o’r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw is-baragraff (1)(c) yn cwmpasu gwybodaeth o’r fath, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100 ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio.
17.—(1) Ni chaniateir gwerthu fformiwla ddilynol oni bai bod y labelu yn dwyn—
(a)datganiad i’r perwyl—
(i)mai dim ond i’w ddefnyddio at ddiben maethol neilltuol gan fabanod dros 6 mis oed y mae’r cynnyrch yn addas;
(ii)na ddylai fod ond yn rhan o ddeiet amrywiol;
(iii)nad yw i gael ei ddefnyddio gan fabanod yn lle llaeth y fron yn ystod 6 mis cyntaf eu bywyd; a
(iv)mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu broffesiynolion eraill sy’n gyfrifol am ofal mamau neu ofal plant y dylid gwneud y penderfyniad i ddechrau bwydo ategol, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran gwneud eithriad i’r egwyddor o beidio â defnyddio fformiwla ddilynol cyn 6 mis oed, a hynny ar sail anghenion twf a datblygiad penodol y baban unigol;
(b)y gwerth egni sydd ar gael, wedi ei fynegi mewn kJ a kcal, a chynnwys proteinau, carbohydradau a lipidau, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(c)pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad II a, phan fo’n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio;
(d)cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a gwaredu’r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag y peryglon i iechyd o’i baratoi a’i storio yn amhriodol.
(2) Rhaid i labelu fformiwla ddilynol—
(a)bod wedi ei ddylunio i ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol am y defnydd priodol o’r cynnyrch mewn modd nad yw’n annog peidio â bwydo ar y fron; a
(b)peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” neu unrhyw derm tebyg.
(3) Caiff labelu fformiwla ddilynol ddwyn manylion ynghylch—
(a)pa faint ar gyfartaledd o’r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw is-baragraff (1)(c) yn cwmpasu gwybodaeth o’r fath, wedi ei fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100 ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio; a
(b)yn ychwanegol at wybodaeth rifyddegol, gwybodaeth ar fitaminau a mwynau sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad VII, wedi ei mynegi fel canran o’r gwerthoedd cyfeiriadol a roddir yn yr Atodiad hwnnw, sydd ym mhob 100ml o’r cynnyrch sy’n barod i’w ddefnyddio.
18. Rhaid labelu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol mewn ffordd sy’n galluogi defnyddwyr i wahaniaethu’n glir rhwng y cynhyrchion hynny er mwyn osgoi unrhyw risg o ddryswch rhwng fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.
19.—(1) Rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod gydymffurfio â darpariaethau paragraffau 16(1)(e), (2), (3) a (4) a 18.
(2) Rhaid i gyflwyniad fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau paragraffau 17(2) a 18.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae “cyflwyniad” yn cynnwys siâp, gwedd neu ddull pacio’r cynhyrchion o dan sylw, y deunyddiau pacio a ddefnyddir, y ffordd y maent wedi eu trefnu a’r man lle y maent yn cael eu harddangos.
20.—(1) Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla fabanod—
(a)ac eithrio—
(i)mewn cyhoeddiad gwyddonol; neu
(ii)at ddibenion masnach cyn y cyfnod manwerthu, mewn cyhoeddiad a fwriedir ar gyfer darllenwyr ar wahân i’r cyhoedd yn gyffredinol; na
(b)oni bai bod yr hysbyseb yn cydymffurfio â darpariaethau paragraff 16(1)(e), (2), (3) a (4), paragraff 18 ac is-baragraffau (2) a (3).
(2) Ni chaiff hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod gynnwys ond gwybodaeth o natur wyddonol a ffeithiol.
(3) Ni chaiff yr wybodaeth mewn hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod awgrymu neu greu cred bod bwydo â photel yn cyfateb i fwydo ar y fron neu’n rhagori arno.
21. Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla ddilynol pan fo’r hysbyseb yn mynd yn groes i’r darpariaethau a nodir ym mharagraffau 17(2) a 18 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.
22.—(1) Mewn unrhyw fan lle y gwerthir fformiwla fabanod drwy ei manwerthu ni chaiff unrhyw berson—
(a)hysbysebu unrhyw fformiwla fabanod;
(b)gwneud unrhyw arddangosiad arbennig o fformiwla fabanod sydd wedi ei ddylunio i hyrwyddo gwerthiannau;
(c)rhoi i ffwrdd—
(i)unrhyw fformiwla fabanod fel sampl am ddim; na
(ii)unrhyw gwpon y gellir ei ddefnyddio i brynu fformiwla fabanod ar ddisgownt;
(d)hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod drwy bremiymau, gwerthiannau arbennig, gwerthiannau islaw cost neu werthiannau rhwym; nac
(e)ymgymryd ag unrhyw weithgaredd hyrwyddo arall i gymell gwerthiant o fformiwla fabanod.
(2) Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr unrhyw fformiwla fabanod ddarparu unrhyw fformiwla fabanod am ddim neu am bris gostyngol neu ar ddisgownt er mwyn ei hyrwyddo, nac unrhyw samplau neu rodd gyda’r bwriad o hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod—
(a)i’r cyhoedd yn gyffredinol;
(b)i fenywod beichiog;
(c)i famau; na
(d)i aelodau o deuluoedd personau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c),
naill ai yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy’r system gofal iechyd neu drwy weithwyr iechyd.
23.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gynhyrchu na chyhoeddi unrhyw ddeunydd gwybodaethol neu addysgol, pa un ai ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol, sy’n ymdrin â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant ifanc, onid yw’r deunydd hwnnw yn cynnwys gwybodaeth glir ar bob un o’r pwyntiau a ganlyn—
(a)manteision a rhagoriaeth bwydo ar y fron;
(b)maethiad y fam;
(c)paratoi ar gyfer bwydo ar y fron a’i gynnal;
(d)effaith negyddol bosibl cyflwyno bwydo rhannol â photel ar fwydo ar y fron;
(e)anhawster newid y penderfyniad i beidio â bwydo ar y fron; ac
(f)pan fo angen, y defnydd priodol o fformiwla fabanod.
(2) Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, rhaid iddo gynnwys gwybodaeth—
(a)am y goblygiadau cymdeithasol ac ariannol o’i ddefnyddio;
(b)am beryglon bwydydd neu ddulliau bwydo amhriodol i iechyd; ac
(c)am beryglon camddefnyddio fformiwla fabanod i iechyd.
(3) Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, ni chaiff ddefnyddio unrhyw luniau a all ddelfrydu’r defnydd o fformiwla fabanod.
(4) Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr fformiwla fabanod wneud rhodd o unrhyw gyfarpar na deunyddiau gwybodaethol neu addysgol ac eithrio yn unol â’r amodau a ganlyn—
(a)rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud ar ôl cael cais amdani gan y sawl y bwriedir iddo ei derbyn;
(b)rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud gydag awdurdod ysgrifenedig Gweinidogion Cymru neu yn unol â chanllawiau a luniwyd gan Weinidogion Cymru;
(c)rhaid peidio â marcio na labelu’r cyfarpar na’r deunyddiau gydag enw brand perchnogaethol o fformiwla fabanod; a
(d)dim ond drwy’r system gofal iechyd y mae rhaid dosbarthu’r cyfarpar neu’r deunyddiau.
24. Rhaid i sefydliad neu gorff sy’n cael unrhyw fformiwla fabanod yn ddi-dâl neu am bris gostyngol—
(a)os yw’r fformiwla fabanod honno i’w defnyddio yn y sefydliad neu’r corff, ei defnyddio yn unig ar gyfer babanod y mae rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny’n angenrheidiol i’r babanod hynny; neu
(b)os yw’r fformiwla fabanod honno i’w dosbarthu y tu allan i’r sefydliad neu’r corff, ei dosbarthu yn unig ar gyfer babanod y mae rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny’n angenrheidiol i’r babanod hynny.
25.—(1) Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sydd wedi eu cynnwys ym mharagraffau 2, 3, 12, 20(1), 21, 22, 23 a 24 neu sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor ohonynt yn euog o drosedd ac yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Atodlen hon yn ei ardal.
26.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn is-baragraff (2), at ddibenion—
(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion a bennir ym mharagraff 2; a
(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn drosedd.
(2) Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—
“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable ground for suspecting that a person is failing to comply with paragraph 2 of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for suspecting that the person is failing to comply or as the case may be, that the food does not comply with the relevant provision;
(b)specify the matters which constitute the failure to so comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”
(3) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 32(1)) a bennir yn is-baragraff (4), at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—
(a)i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff 2 yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b)i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o baragraff 2.
(4) Yn lle paragraffau (a) i (c) o adran 32(1) (pwerau mynediad) o’r Ddeddf rhodder—
“(a)to enter any premises within the authority’s area for the purposes of ascertaining whether there has been any contravention of paragraph 2 of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020; and
(b)to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of that paragraph.”
(5) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn is-baragraff (6), at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan baragraff 26(1)(b).
(6) Yn adran 35 (cosbi troseddau) o’r Ddeddf, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied and modified by paragraph 26(1) and (2) of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable, on summary conviction, to a fine.”
(7) Mae adran 37(1), (3), (5) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys at ddiben galluogi i benderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff 26(1)(a) gael ei ddiddymu, gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn lle’r pennawd rhodder “Appeals”;
(b)yn lle adran 37(1) rhodder—
“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1) as applied and modified by paragraph 26(1) and (2) of Schedule 4 to the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, may apply to the magistrates’ court.”;
(c)yn lle adran 37(5) rhodder—
“(5) The period within which such an appeal as is mentioned in sub-section (1) above may be brought must be, whichever ends the earlier—
(a)one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or
(b)the period specified in the improvement notice,
and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”;
(d)yn adran 37(6)—
(i)yn lle “subsection (3) or (4)” rhodder “subsection (1)”; a
(ii)ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.
(8) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad a bennir yn is-baragraff (9), at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff 26(1)(a).
(9) Yn adran 39(3) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella), hepgorer “for want of prosecution”.
27. Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen hon—
(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae’n gymwys at ddiben adran 14 neu 15;
(d)adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f)adran 33(2), gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i’w ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g)adran 35(1) (cosbi troseddau), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(h)adran 35(2), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (f);
(i)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(j)adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(k)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).]
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiwyd adran 32(5) a (6) gan adran 70 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (p. 16) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddi.
Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 16 o Atodlen 5 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: