- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
25 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R a 333(4B) o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym fel a ganlyn—
[F1(a)daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;]
(b)daw erthygl 2(2)(b), (3)(a) ac (c) ac erthygl 3(2)(b) i rym ar 24 Ionawr 2022.
(3) Pan fo—
(a)cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022; a
(b)yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2012 ond nad yw wedi gwneud hynny;
mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.
(4) Pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud cyn 25 Ebrill 2022, nid yw erthygl 14(1) o Orchymyn 2012 yn gymwys i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub.
(5) Nid yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i—
(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;
(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.
(6) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);
ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(5);
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(6).
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 1(2)(a) wedi ei amnewid (25.11.2021) gan Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.12.2021, gweler ergl. 1(2)(a)
2.—(1) Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl—
F2(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)ar ôl rhes (y) mewnosoder—
“(z) | Datblygiad sy’n ymwneud ag— (i)datblygiad gwastraff; (ii)darparu tai annedd pan fo naill ai nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor neu pan fwriedir cyflawni’r datblygiad ar safle sydd â’i arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw’n hysbys a yw nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor; (iii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; (iv)datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â’i arwynebedd yn 1 hectar neu fwy; (v)darparu 10 neu ragor o fflatiau (boed hynny drwy gynyddu nifer y fflatiau mewn adeilad presennol neu fel arall); (vi)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn tai annedd neu fflatiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas; neu (vii)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd sydd wedi eu cynnwys mewn tŷ annedd neu fflat a ddefnyddir fel tŷ amlfeddiannaeth, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas. | Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol” |
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
(a)ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer “ac”;
F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)ym mharagraff (z) nid yw “tŷ amlfeddiannaeth” yn cynnwys bloc o fflatiau wedi ei drosi y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag a roddir i “house in multiple occupation” yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004.”
Diwygiadau Testunol
F2Ergl. 2(2)(a) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(a)
F3Ergl. 2(3)(b) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2(1) mewn grym ar 1.12.2021, gweler ergl. 1(2)(a)
I3Ergl. 2(2)(b)(3)(a)(c) mewn grym ar 24.1.2022, gweler ergl. 1(2)(b)
3.—(1) Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl—
F4(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)ar ôl rhes (v) mewnosoder—
“(w) | Datblygiad sy’n ymwneud ag— (i)datblygiad gwastraff; (ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu (iii)datblygiad a gyflawnir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu ragor. | Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol” |
F5(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F4Ergl. 3(2)(a) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(c)
F5Ergl. 3(3) wedi ei hepgor (25.11.2021) yn rhinwedd Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1297), erglau. 1(2), 2(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 3(1) mewn grym ar 1.12.2021, gweler ergl. 1(2)(a)
I5Ergl. 3(2)(b) mewn grym ar 24.1.2022, gweler ergl. 1(2)(b)
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.
Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) er mwyn—
(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2)(a) a (3)(b));
(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 2(2)(b) a (3)(a) ac (c)).
Mae erthygl 1(3) yn darparu, pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022 a’i bod yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2021 ond nad yw wedi gwneud hynny, fod y ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.
Mae erthygl 1(4) yn darparu na fydd y gofyniad i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 25 Ebrill 2022.
Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd) er mwyn—
(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2)(a) a (3));
(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 3(2)(b)).
Mae erthygl 1(5) yn darparu nad yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i:
(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;
(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1990 p. 8 (“Deddf 1990”). Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi, ac adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 1(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 1 iddi. Mae diwygiadau i adran 74 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan O.S. 2000/253. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf 1990 sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu o ran Cymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 7 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: