Search Legislation

Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Gwynedd;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 11 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “11”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Gwynedd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Gwynedd wedi ei rhannu’n 65 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Cymuned Bangor: diddymu ward gymunedol Deiniol a newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.

Cymuned Bangor: newidiadau i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned Bangor—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Garth yw 1;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hirael yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Marchog yw 4.

Cymuned Bethesda: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yng nghymuned Bethesda—

(a)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rachub;

(b)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Gerlan.

Cymuned Bethesda: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yng nghymuned Bethesda—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gerlan yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Ogwen yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rachub yw 4.

Cymuned Caernarfon: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

8.  Mae wardiau Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin o gymuned Caernarfon, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

9.  Mae cymuned Caernarfon i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

(a)ward Cadnant a ddangosir â llinellau ar Fap 5;

(b)ward Canol Tref a ddangosir â llinellau ar Fap 6;

(c)ward Hendre a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(d)ward Menai a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

(e)ward Peblig a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Cymuned Caernarfon: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

10.  Yng nghymuned Caernarfon—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cadnant yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Tref yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Menai yw 4;

(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Peblig yw 4.

Cymuned Dolgellau: newidiadau i wardiau cymunedol

11.  Mae’r rhan o ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau.

Cymuned Ffestiniog: newidiadau i wardiau cymunedol

12.  Mae’r rhan o ward Congl-y-wal o gymuned Ffestiniog a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog.

Cymuned Ffestiniog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

13.  Yng nghymuned Ffestiniog—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Congl-y-wal yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Diffwys a Maenofferen yw 5.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources