Search Legislation

Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1223 (Cy. 307)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

1 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2018 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Gwynedd;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 11 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “11”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Gwynedd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Gwynedd wedi ei rhannu’n 65 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Cymuned Bangor: diddymu ward gymunedol Deiniol a newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.

Cymuned Bangor: newidiadau i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned Bangor—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Garth yw 1;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hirael yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Marchog yw 4.

Cymuned Bethesda: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yng nghymuned Bethesda—

(a)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rachub;

(b)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Gerlan.

Cymuned Bethesda: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yng nghymuned Bethesda—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gerlan yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Ogwen yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rachub yw 4.

Cymuned Caernarfon: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

8.  Mae wardiau Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin o gymuned Caernarfon, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

9.  Mae cymuned Caernarfon i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

(a)ward Cadnant a ddangosir â llinellau ar Fap 5;

(b)ward Canol Tref a ddangosir â llinellau ar Fap 6;

(c)ward Hendre a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(d)ward Menai a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

(e)ward Peblig a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Cymuned Caernarfon: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

10.  Yng nghymuned Caernarfon—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cadnant yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Tref yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Menai yw 4;

(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Peblig yw 4.

Cymuned Dolgellau: newidiadau i wardiau cymunedol

11.  Mae’r rhan o ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau.

Cymuned Ffestiniog: newidiadau i wardiau cymunedol

12.  Mae’r rhan o ward Congl-y-wal o gymuned Ffestiniog a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog.

Cymuned Ffestiniog: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

13.  Yng nghymuned Ffestiniog—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Congl-y-wal yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Diffwys a Maenofferen yw 5.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AberdyfiAberdyfiCymunedau Aberdyfi a Phennal1
AbererchAbererchWardiau Abererch a’r Ffôr o gymuned Llannor1
AbermawAbermawCymuned Abermaw1
Abersoch gyda LlanenganAbersoch gyda LlanenganWardiau Abersoch a Llanengan o gymuned Llanengan1
ArllechweddArllechweddCymunedau Aber a Llanllechid, ward Llandygái o gymuned Llandygái a ward Glasinfryn o gymuned Pentir1
Arthog a LlangelynninArthog a LlangelynninCymunedau Arthog a Llangelynnin1
Bethel a’r FelinheliBethel a’r FelinheliCymuned y Felinheli a ward Bethel o gymuned Llanddeiniolen2
Bowydd a’r RhiwBowydd a’r RhiwWardiau Bowydd a’r Rhiw, a Thanygrisiau o gymuned Ffestiniog1
Brithdir and Llanfachreth/Ganllwyd/LlanelltydBrithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/LlanelltudCymunedau Brithdir a Llanfachreth, y Ganllwyd a Llanelltud1
Bro DysynniBro DysynniCymunedau Bryn-crug, Llanegryn a Llanfihangel-y-Pennant1
CadnantCadnantWard Cadnant o gymuned Caernarfon1
Canol BangorCanol BangorWardiau Garth, Menai a Hendre o gymuned Bangor2
Canol BethesdaCanol BethesdaWard Ogwen o gymuned Bethesda1
Canol Tref CaernarfonCanol Tref CaernarfonWard Canol Tref o gymuned Caernarfon1
ClynnogClynnogCymuned Clynnog a ward Nebo o gymuned Llanllyfni1
Corris a MawddwyCorris a MawddwyCymunedau Corris a Mawddwy1
CricciethCricciethCymuned Criccieth1
Cwm-y-gloCwm-y-gloWard Brynrefail o gymuned Llanddeiniolen a wardiau Ceunant a Chwm-y-glo o gymuned Llanrug1
De DolgellauDe DolgellauWard De Dolgellau o gymuned Dolgellau1
De PwllheliDe PwllheliWard De Pwllheli o gymuned Pwllheli1
DeiniolenDeiniolenWardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig o gymuned Llanddeiniolen1
DewiDewiWard Dewi o gymuned Bangor1
Diffwys a MaenofferenDiffwys a MaenofferenWard Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog1
DolbenmaenDolbenmaenWardiau Bryncir, Garn, Golan, Penmorfa a Threflys o gymuned Dolbenmaen1
Dwyrain BangorDwyrain BangorWardiau Marchog a Hirael o gymuned Bangor2
Dwyrain PorthmadogDwyrain PorthmadogWardiau Dwyrain Porthmadog ac Ynys Galch o gymuned Porthmadog1
Dyffryn ArdudwyDyffryn ArdudwyCymuned Dyffryn Ardudwy1
Efailnewydd a BuanEfailnewydd a BuanCymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf o gymuned Llannor1
GerlanGerlanWard Gerlan o gymuned Bethesda1
GlaslynGlaslyn

Cymunedau Beddgelert a Llanfrothen, ward

Pren-teg o gymuned Dolbenmaen a ward Tremadog o gymuned Porthmadog

1
GlyderGlyderWard Glyder o gymuned Bangor1
Gogledd DolgellauGogledd DolgellauWard Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau1
Gogledd PwllheliGogledd PwllheliWard Gogledd Pwllheli o gymuned Pwllheli1

Gorllewin

Porthmadog

Gorllewin PorthmadogWardiau Gest, Morfa Bychan a Gorllewin Porthmadog o gymuned Porthmadog1
Gorllewin TywynGorllewin TywynWardiau Dwyrain Tywyn a Gorllewin Tywyn o gymuned Tywyn1
Harlech a LlanbedrHarlech a LlanbedrCymunedau Harlech, Llanbedr, Llanfair a Thalsarnau2
HendreHendreWard Hendre o gymuned Caernarfon1
Llanbedrog gyda MynythoLlanbedrog gyda MynythoCymuned Llanbedrog a ward Llangïan o gymuned Llanengan1
LlanberisLlanberisCymuned Llanberis1
LlandderfelLlandderfelCymunedau Llandderfel a Llangywer1
LlanllyfniLlanllyfniWardiau Llanllyfni, Nantlle a Thal-y-sarn o gymuned Llanllyfni1
LlanrugLlanrugWard Llanrug o gymuned Llanrug1
LlanuwchllynLlanuwchllynCymunedau Llanuwchllyn a Llanycil1
LlanwndaLlanwndaWardiau Dinas a Rhostryfan o gymuned Llanwnda1
LlanystumdwyLlanystumdwyCymuned Llanystumdwy1
MenaiMenaiWard Menai o gymuned Caernarfon1
Morfa Nefyn a ThudweiliogMorfa Nefyn a ThudweiliogCymuned Tudweiliog a wardiau Edern a Morfa Nefyn o gymuned Nefyn1
Morfa TywynMorfa TywynWard Morfa o gymuned Tywyn1
NefynNefynWard Nefyn o gymuned Nefyn1
PebligPebligWard Peblig o gymuned Caernarfon1
Pen draw LlŷnPen draw LlŷnCymunedau Aberdaron a Botwnnog1
Penisa’r-waunPenisa’r-waunWardiau Penisa’r-waun a Rhiwlas o gymuned Llanddeiniolen1
PenrhyndeudraethPenrhyndeudraethCymuned Penrhyndeudraeth1
Pen-y-groesPen-y-groesWard Pen-y-groes o gymuned Llanllyfni1
RachubRachubWard Rachub o gymuned Bethesda1
TeiglTeiglWardiau Cynfal a Theigl, a Chongl-y-wal o gymuned Ffestiniog1
TrawsfynyddTrawsfynyddCymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd1
Tre-garth a Mynydd LlandygáiTre-garth a Mynydd LlandygáiWardiau St. Ann’s a Thregarth o gymuned Llandygái1
TryfanTryfanWardiau Carmel a Cesarea o gymuned Llandwrog a ward Rhosgadfan o gymuned Llanwnda1
WaunfawrWaunfawrCymuned Betws Garmon a ward Waunfawr o gymuned Waunfawr1
Y BalaY BalaCymuned y Bala1
Y BontnewyddY BontnewyddCymuned y Bontnewydd a ward Caeathro o gymuned Waunfawr1
Y FaenolY FaenolWard y Faenol o gymuned Pentir1
Y GroeslonY GroeslonWardiau Dinas Dinlle a’r Groeslon o gymuned Llandwrog1
Yr EiflYr EiflCymunedau Llanaelhaearn a Phistyll1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gwynedd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 71 i 65, a lleihau nifer yr aelodau o 75 i 69.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gwynedd ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gwynedd.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Gwynedd.

Mae erthygl 4 yn diddymu ward gymunedol Deiniol yng nghymuned Bangor ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Hendre a Hirael o gymuned Bangor. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Garth, Hendre, Hirael a Marchog o gymuned Bangor.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Ogwen, Rachub a Gerlan yng nghymuned Bethesda. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 8 yn diddymu wardiau cymunedol Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 9 yn creu wardiau cymunedol newydd Cadnant, Canol Tref, Hendre, Menai a Pheblig yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 10 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau cymunedol newydd hyn.

Mae erthygl 11 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol De Dolgellau a Gogledd Dolgellau yng nghymuned Dolgellau.

Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Congl-y-wal, a Diffwys a Maenofferen yng nghymuned Ffestiniog. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau a labelwyd “1” i “11” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Gwynedd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Gwynedd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources