- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
1 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2018 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Gwynedd.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Gwynedd;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 11 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “11”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Sir Gwynedd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Gwynedd wedi ei rhannu’n 65 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
4. Mae ward Deiniol o gymuned Bangor, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Hendre o gymuned Bangor;
(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hirael o gymuned Bangor.
5. Yng nghymuned Bangor—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Garth yw 1;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hirael yw 3;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Marchog yw 4.
6. Yng nghymuned Bethesda—
(a)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Rachub;
(b)mae’r rhan o ward Ogwen a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Gerlan.
7. Yng nghymuned Bethesda—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gerlan yw 5;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Ogwen yw 4;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rachub yw 4.
8. Mae wardiau Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin o gymuned Caernarfon, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
9. Mae cymuned Caernarfon i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—
(a)ward Cadnant a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b)ward Canol Tref a ddangosir â llinellau ar Fap 6;
(c)ward Hendre a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(d)ward Menai a ddangosir â llinellau ar Fap 8;
(e)ward Peblig a ddangosir â llinellau ar Fap 9.
10. Yng nghymuned Caernarfon—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Cadnant yw 3;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Tref yw 3;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Hendre yw 3;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Menai yw 4;
(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Peblig yw 4.
11. Mae’r rhan o ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau.
12. Mae’r rhan o ward Congl-y-wal o gymuned Ffestiniog a ddangosir â llinellau ar Fap 11 wedi ei throsglwyddo i ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog.
13. Yng nghymuned Ffestiniog—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Congl-y-wal yw 2;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Diffwys a Maenofferen yw 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
Erthygl 3
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aberdyfi | Aberdyfi | Cymunedau Aberdyfi a Phennal | 1 |
Abererch | Abererch | Wardiau Abererch a’r Ffôr o gymuned Llannor | 1 |
Abermaw | Abermaw | Cymuned Abermaw | 1 |
Abersoch gyda Llanengan | Abersoch gyda Llanengan | Wardiau Abersoch a Llanengan o gymuned Llanengan | 1 |
Arllechwedd | Arllechwedd | Cymunedau Aber a Llanllechid, ward Llandygái o gymuned Llandygái a ward Glasinfryn o gymuned Pentir | 1 |
Arthog a Llangelynnin | Arthog a Llangelynnin | Cymunedau Arthog a Llangelynnin | 1 |
Bethel a’r Felinheli | Bethel a’r Felinheli | Cymuned y Felinheli a ward Bethel o gymuned Llanddeiniolen | 2 |
Bowydd a’r Rhiw | Bowydd a’r Rhiw | Wardiau Bowydd a’r Rhiw, a Thanygrisiau o gymuned Ffestiniog | 1 |
Brithdir and Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd | Brithdir a Llanfachreth/Y Ganllwyd/Llanelltud | Cymunedau Brithdir a Llanfachreth, y Ganllwyd a Llanelltud | 1 |
Bro Dysynni | Bro Dysynni | Cymunedau Bryn-crug, Llanegryn a Llanfihangel-y-Pennant | 1 |
Cadnant | Cadnant | Ward Cadnant o gymuned Caernarfon | 1 |
Canol Bangor | Canol Bangor | Wardiau Garth, Menai a Hendre o gymuned Bangor | 2 |
Canol Bethesda | Canol Bethesda | Ward Ogwen o gymuned Bethesda | 1 |
Canol Tref Caernarfon | Canol Tref Caernarfon | Ward Canol Tref o gymuned Caernarfon | 1 |
Clynnog | Clynnog | Cymuned Clynnog a ward Nebo o gymuned Llanllyfni | 1 |
Corris a Mawddwy | Corris a Mawddwy | Cymunedau Corris a Mawddwy | 1 |
Criccieth | Criccieth | Cymuned Criccieth | 1 |
Cwm-y-glo | Cwm-y-glo | Ward Brynrefail o gymuned Llanddeiniolen a wardiau Ceunant a Chwm-y-glo o gymuned Llanrug | 1 |
De Dolgellau | De Dolgellau | Ward De Dolgellau o gymuned Dolgellau | 1 |
De Pwllheli | De Pwllheli | Ward De Pwllheli o gymuned Pwllheli | 1 |
Deiniolen | Deiniolen | Wardiau Clwt-y-bont, Deiniolen a Dinorwig o gymuned Llanddeiniolen | 1 |
Dewi | Dewi | Ward Dewi o gymuned Bangor | 1 |
Diffwys a Maenofferen | Diffwys a Maenofferen | Ward Diffwys a Maenofferen o gymuned Ffestiniog | 1 |
Dolbenmaen | Dolbenmaen | Wardiau Bryncir, Garn, Golan, Penmorfa a Threflys o gymuned Dolbenmaen | 1 |
Dwyrain Bangor | Dwyrain Bangor | Wardiau Marchog a Hirael o gymuned Bangor | 2 |
Dwyrain Porthmadog | Dwyrain Porthmadog | Wardiau Dwyrain Porthmadog ac Ynys Galch o gymuned Porthmadog | 1 |
Dyffryn Ardudwy | Dyffryn Ardudwy | Cymuned Dyffryn Ardudwy | 1 |
Efailnewydd a Buan | Efailnewydd a Buan | Cymuned Buan a wardiau Efailnewydd a Phentre-uchaf o gymuned Llannor | 1 |
Gerlan | Gerlan | Ward Gerlan o gymuned Bethesda | 1 |
Glaslyn | Glaslyn | Cymunedau Beddgelert a Llanfrothen, ward Pren-teg o gymuned Dolbenmaen a ward Tremadog o gymuned Porthmadog | 1 |
Glyder | Glyder | Ward Glyder o gymuned Bangor | 1 |
Gogledd Dolgellau | Gogledd Dolgellau | Ward Gogledd Dolgellau o gymuned Dolgellau | 1 |
Gogledd Pwllheli | Gogledd Pwllheli | Ward Gogledd Pwllheli o gymuned Pwllheli | 1 |
Gorllewin Porthmadog | Gorllewin Porthmadog | Wardiau Gest, Morfa Bychan a Gorllewin Porthmadog o gymuned Porthmadog | 1 |
Gorllewin Tywyn | Gorllewin Tywyn | Wardiau Dwyrain Tywyn a Gorllewin Tywyn o gymuned Tywyn | 1 |
Harlech a Llanbedr | Harlech a Llanbedr | Cymunedau Harlech, Llanbedr, Llanfair a Thalsarnau | 2 |
Hendre | Hendre | Ward Hendre o gymuned Caernarfon | 1 |
Llanbedrog gyda Mynytho | Llanbedrog gyda Mynytho | Cymuned Llanbedrog a ward Llangïan o gymuned Llanengan | 1 |
Llanberis | Llanberis | Cymuned Llanberis | 1 |
Llandderfel | Llandderfel | Cymunedau Llandderfel a Llangywer | 1 |
Llanllyfni | Llanllyfni | Wardiau Llanllyfni, Nantlle a Thal-y-sarn o gymuned Llanllyfni | 1 |
Llanrug | Llanrug | Ward Llanrug o gymuned Llanrug | 1 |
Llanuwchllyn | Llanuwchllyn | Cymunedau Llanuwchllyn a Llanycil | 1 |
Llanwnda | Llanwnda | Wardiau Dinas a Rhostryfan o gymuned Llanwnda | 1 |
Llanystumdwy | Llanystumdwy | Cymuned Llanystumdwy | 1 |
Menai | Menai | Ward Menai o gymuned Caernarfon | 1 |
Morfa Nefyn a Thudweiliog | Morfa Nefyn a Thudweiliog | Cymuned Tudweiliog a wardiau Edern a Morfa Nefyn o gymuned Nefyn | 1 |
Morfa Tywyn | Morfa Tywyn | Ward Morfa o gymuned Tywyn | 1 |
Nefyn | Nefyn | Ward Nefyn o gymuned Nefyn | 1 |
Peblig | Peblig | Ward Peblig o gymuned Caernarfon | 1 |
Pen draw Llŷn | Pen draw Llŷn | Cymunedau Aberdaron a Botwnnog | 1 |
Penisa’r-waun | Penisa’r-waun | Wardiau Penisa’r-waun a Rhiwlas o gymuned Llanddeiniolen | 1 |
Penrhyndeudraeth | Penrhyndeudraeth | Cymuned Penrhyndeudraeth | 1 |
Pen-y-groes | Pen-y-groes | Ward Pen-y-groes o gymuned Llanllyfni | 1 |
Rachub | Rachub | Ward Rachub o gymuned Bethesda | 1 |
Teigl | Teigl | Wardiau Cynfal a Theigl, a Chongl-y-wal o gymuned Ffestiniog | 1 |
Trawsfynydd | Trawsfynydd | Cymunedau Maentwrog a Thrawsfynydd | 1 |
Tre-garth a Mynydd Llandygái | Tre-garth a Mynydd Llandygái | Wardiau St. Ann’s a Thregarth o gymuned Llandygái | 1 |
Tryfan | Tryfan | Wardiau Carmel a Cesarea o gymuned Llandwrog a ward Rhosgadfan o gymuned Llanwnda | 1 |
Waunfawr | Waunfawr | Cymuned Betws Garmon a ward Waunfawr o gymuned Waunfawr | 1 |
Y Bala | Y Bala | Cymuned y Bala | 1 |
Y Bontnewydd | Y Bontnewydd | Cymuned y Bontnewydd a ward Caeathro o gymuned Waunfawr | 1 |
Y Faenol | Y Faenol | Ward y Faenol o gymuned Pentir | 1 |
Y Groeslon | Y Groeslon | Wardiau Dinas Dinlle a’r Groeslon o gymuned Llandwrog | 1 |
Yr Eifl | Yr Eifl | Cymunedau Llanaelhaearn a Phistyll | 1 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Gwynedd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 71 i 65, a lleihau nifer yr aelodau o 75 i 69.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Gwynedd ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Gwynedd.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Gwynedd.
Mae erthygl 4 yn diddymu ward gymunedol Deiniol yng nghymuned Bangor ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Hendre a Hirael o gymuned Bangor. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Garth, Hendre, Hirael a Marchog o gymuned Bangor.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Ogwen, Rachub a Gerlan yng nghymuned Bethesda. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.
Mae erthygl 8 yn diddymu wardiau cymunedol Dwyrain, Gogledd, Deheuol a Gorllewin yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 9 yn creu wardiau cymunedol newydd Cadnant, Canol Tref, Hendre, Menai a Pheblig yng nghymuned Caernarfon. Mae erthygl 10 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau cymunedol newydd hyn.
Mae erthygl 11 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol De Dolgellau a Gogledd Dolgellau yng nghymuned Dolgellau.
Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Congl-y-wal, a Diffwys a Maenofferen yng nghymuned Ffestiniog. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau ffiniau a labelwyd “1” i “11” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Gwynedd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Gwynedd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: