- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—
(a)rheoliad 11;
(b)rheoliad 12;
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd gan reoliad F1... 12 neu 13.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 1(3)(d) wedi ei hepgor (25.3.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
[F2ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);]
ystyr “aelod Eryri” (“the Snowdonia member”) yw’r aelod a benodir o dan [F3“reoliad 8(1)];
[F4mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ]
ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);
F5...
[F2ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri” (“the Snowdonia National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);]
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);
wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—
cyngor bwrdeistref sirol Conwy;
cyngor sir Ddinbych;
cyngor sir y Fflint;
cyngor Gwynedd;
cyngor sir Ynys Môn;
cyngor bwrdeistref sirol Wrecsam;
F4...
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;
ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—
swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(1) (gweler rheoliad 13), a
unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(3)(c)
F3Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(3)(b)
F4Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(2)
F5Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (25.3.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(3)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (“CBC y Gogledd”) wedi ei sefydlu.
(2) Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaethau—
(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3) Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Mae ardal CBC y Gogledd wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Gogledd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Aelodau CBC y Gogledd yw—
(a)y 6 aelod cyngor, F6...
(b)aelod Eryri[F7 , ac]
[F8(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Gogledd [F9, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].
F10(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Gogledd (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Eryri [F11ac unrhyw aelod cyfetholedig], oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F6Gair yn rhl. 6(1)(a) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(i)
F7Gair yn rhl. 6(1)(b) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(ii)
F8Rhl. 6(1)(c) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(a)(iii)
F9Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(b)
F10Rhl. 6(3) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(c)
F11Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Gogledd.
[F12(2) Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(2A) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Gogledd.
(2B) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(2C) Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.]
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Gogledd hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 7(2)-(2C) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 7(2) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
[F13(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno [F14yn unfrydol], neu
(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.]
[F15(3) Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.
(5) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(6) Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.]
Diwygiadau Testunol
F13Rhl. 8(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(5)(a)
F14Gair yn rhl. 8(2B)(a) wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(4)
F15Rhl. 8(3)-(6) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(3) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 6(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill [F17sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad], ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
(ii)y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.]
Diwygiadau Testunol
F16Rhl. 9 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(6)
F17Geiriau yn rhl. 9(2)(b) wedi eu mewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Gogledd os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y Gogledd;
(ii)is-bwyllgor i CBC y Gogledd;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).]
Diwygiadau Testunol
F18Rhl. 9A wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(6)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
11. Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Gogledd (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)
12.—(1) Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(2), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Gogledd, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.
(2) Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Gogledd a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)
13. Mae gan CBC y Gogledd y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Gogledd (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)
14.—(1) Caniateir i CBC y Gogledd wneud unrhyw beth—
(a)i hwyluso, neu
(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)mynd i wariant;
(b)codi ffioedd;
(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]
Diwygiadau Testunol
F19Rhl. 15 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)
I16Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)
16.—(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Gogledd gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(2) Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
(3) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Gogledd hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(4) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(5) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(6) Rhaid i CBC y Gogledd —
(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
(8) Caiff CBC y Gogledd ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Gogledd o ganlyniad i hynny.
(9) Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Gogledd.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2) Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F20yr aelodau cyngor ac aelod Eryri].
(3) Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn rhl. 17(2) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
17A.—(1) Rhaid i CBC y Gogledd sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y Gogledd.
(2) Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y Gogledd (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.
(3) Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y Gogledd gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.
(4) Rhaid i CBC y Gogledd gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.
(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).]
Diwygiadau Testunol
F21Rhl. 17A wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 15(2)
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: