- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
22 Tachwedd 2022
Yn dod i rym
1 Ionawr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).
2. Yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol mewn cysylltiad â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“Bailiwick of Guernsey”; a
“Malta”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Mae rheoliad 2 yn ychwanegu Beilïaeth Guernsey a Malta at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 42. Gweler adran 206(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
O.S. 1989/306, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/438; O.S. 1994/1535; O.S. 2004/614; O.S. 2004/696; O.S. 2004/1433 (Cy. 146); O.S. 2008/2364 (Cy. 203); O.S. 2009/1175 (Cy. 102); O.S. 2009/1512 (Cy. 148); O.S. 2009/1824 (Cy. 165); O.S. 2009/3005 (Cy. 264); O.S. 2010/730 (Cy. 71); O.S. 2010/927 (Cy. 94); O.S. 2011/1043; O.S. 2011/2906 (Cy. 310), O.S. 2012/1809; O.S. 2014/1622 (Cy. 166); O.S. 2020/113 (Cy. 20); O.S. 2020/1607 (Cy. 334); O.S. 2021/221 (Cy. 55); O.S. 2022/89 (Cy. 30); O.S. 2022/402 (Cy. 99); O.S. 2022/715 (Cy. 158); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: