- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 23 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
8 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Mai 2022
Yn dod i rym
30 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5)(1), 408(1)(2), 537(1), (4) a (7)(3), 537A(1), (2) a (3)(4) a 569(4)(5) o Ddeddf Addysg 1996(6), a pharagraff 3 o Atodlen 1(7) iddi, ac yn adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c)(8), ac yn adran 210(7)(9) o Ddeddf Addysg 2002(10), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mai 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 6 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 5 oed ynddi;
ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;
mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(11);
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(12);
mae i “dosbarth” (“class”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 82(1) o Ddeddf 2021;
mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” yn adran 337(2) o Ddeddf 1996(13).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
3. Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004(14) wedi ei ddirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
4.—(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005(15) (“Gorchymyn 2005”) yn gymwys i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a)Gorchymyn 2005, a
(b)Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011(16).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(17) (“Gorchymyn 2013”) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol ym mharagraffau (2) i (5).
(2) Mae’r darpariaethau trosiannol yn gymwys i ddisgyblion—
(a)ym mlwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(b)ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,
(c)ym mlwyddyn 7 nad ydynt ar 1 Medi 2022, o fewn is-baragraff (b), o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024,
(d)ym mlwyddyn 8 o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024, ac
(e)ym mlwyddyn 9 o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025.
(3) Yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013—
(a)mae’r diffiniadau o “y PDCCC”, “y PDCCS” ac “y PRhC” i’w darllen fel pe bai’r geiriau “Cwricwlwm Cenedlaethol” wedi eu hepgor,
(b)mae’r diffiniadau a ganlyn i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor—
(i)“y ddogfen Gymraeg”,
(ii)“rhaglen astudio Cymraeg”, a
(iii)“rhaglen astudio Cymraeg ail iaith”,
(c)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 2” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;”,
(d)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 3” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;”,
(e)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 4” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;”,
(f)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 5” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;”,
(g)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 6” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;”,
(h)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 7” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;”,
(i)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 8” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi”, a
(j)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 9” rhodder—
“ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;”.
(4) Yn lle erthygl 3(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i—
(a)disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9; a
(b)disgybl ym mlynyddoedd 2 a 3 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”
(5) Yn lle erthygl 4(1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”
(6) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—
(a)Gorchymyn 2013; a
(b)Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018(18).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014(19) (“Gorchymyn 2014”) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).
(2) Nid yw Gorchymyn 2014 yn gymwys—
(a)o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—
(i)yn y flwyddyn meithrin,
(ii)yn y flwyddyn derbyn, a
(iii)ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6,
(b)o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, ac
(c)o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8.
(3) Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
7. Caiff Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015(20) ei ddirymu ar 30 Mai 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015(21) (“Gorchymyn 2015”) hepgorer Rhannau 3 a 4.
(2) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2022—
(a)Gorchymyn 2015, a
(b)Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2016(22).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(23) wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 2 yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—
“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—
yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005(24);
yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(25);
yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014(26); a
yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015(27) ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.
(3) Yn rheoliad 4A hepgorer paragraffau (a) a (b).
(4) Yn yr Atodlen hepgorer paragraff 2 o Ran 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(28) wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—
“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—
yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005(29);
yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(30);
yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014(31); a
yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015(32) ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.
(3) Yn lle Atodlen 2 rhodder—
Rheoliadau 4, 5 a 6
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol dau a chyfnod allweddol tri, canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.
2. Pan na fo rhai neu’r cyfan o’r canlyniadau a nodir ym mharagraff 1 ar gael—
(a)a gafodd y disgybl ei esemptio rhag yr asesiadau statudol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(b)a yw canlyniadau asesiadau statudol y disgybl heb fod ar gael am resymau ac eithrio esemptio’r disgybl o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002.
3. At ddibenion rheoliadau 5 a 6, nid yw paragraff 1 yn cynnwys canlyniadau Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(33).”
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
11. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(34) hepgorer paragraff (2)(c).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm i Gymru”).
Daw’r Cwricwlwm i Gymru yn fandadol fel a ganlyn—
(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer—
(i)plant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir,
(ii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,
(iii)plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,
(b)ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei fabwysiadu neu wedi ei ddarparu fel arall yn unol â Deddf 2021,
(c)ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8,
(d)ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,
(e)ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac
(f)ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth yn barod am y cam cyntaf o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i blant a disgyblion yng Nghymru ar 1 Medi 2022 er mwyn diwygio a dirymu nifer o Orchmynion a wnaed o dan adran 108 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Mae’r Gorchmynion hynny yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r trefniadau asesu ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol presennol a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf 2002.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (“Gorchymyn 2004”) ar 30 Mai 2022. Bydd hyn yn golygu na fydd asesu o dan Orchymyn 2004 yn digwydd yn y flwyddyn ysgol 2021 i 2022. Mae Gorchymyn 2004 yn nodi’r trefniadau asesu ar gyfer blwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol. Mae hynny’n effeithio ar flwyddyn 6. Nid yw’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion yn y flwyddyn honno tan y flwyddyn ysgol 2022 i 2023.
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn 2005”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu disgyblion ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hynny’n cyfateb i flwyddyn ysgol 9. Bydd y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion sydd ym mlwyddyn ysgol 9 yn y flwyddyn ysgol 2024 i 2025. Mae rheoliad 4(1) yn datgymhwyso Gorchymyn 2005 ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022. Mae rheoliad 4(2) yn dirymu Gorchymyn 2005 ar gyfer pob ysgol arall o 1 Medi 2024.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”). Mae Gorchymyn 2013 yn gymwys i’r disgyblion hynny ym mlynyddoedd 2 i 9. Bydd y profion sy’n ofynnol gan Orchymyn 2013 yn parhau i gael eu gweinyddu gan ysgolion wrth i’r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno i’r blynyddoedd hynny. Yr enw a ddefnyddir yn eang gan ymarferwyr ar gyfer y profion hyn yw “asesiadau personol”. Mae’r darpariaethau trosiannol yn diwygio Gorchymyn 2013 fel y bydd yn parhau i weithio gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Caiff Gorchymyn 2013 ei ddirymu ar 1 Medi 2024. O 1 Medi 2024 bydd pob disgybl a asesir yn unol â Gorchymyn 2013 yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac ni fydd angen Gorchymyn 2013 mwyach. Bwriedir gwneud Rheoliadau newydd mewn perthynas â phrofion darllen a rhifedd a fydd yn gymwys o 2024 ymlaen.
Mae rheoliad 6 yn datgymhwyso Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”) i gyd-daro â chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024. O 1 Medi 2024 bydd pob disgybl a asesir yn unol â Gorchymyn 2014 yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac ni fydd angen Gorchymyn 2014 mwyach.
Mae rheoliad 7 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 o 30 Mai 2022.
Mae rheoliad 8 yn dirymu Rhan 4 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 (“Gorchymyn 2015”) ar 30 Mai 2022. Mae Rhan 4 o Orchymyn 2015 yn nodi’r trefniadau asesu ar gyfer blwyddyn olaf y cyfnod sylfaen. Mae hynny’n cyfateb i flwyddyn 2 a bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion sydd yn y flwyddyn honno yn y flwyddyn ysgol 2022 i 2023. Caiff Gorchymyn 2015 ei ddirymu’n llawn ar 1 Medi 2022.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) a Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) sy’n ganlyniadol ar ddirymu Gorchymyn 2004 a Gorchymyn 2015.
Mae’r Rheoliadau Adrodd yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Adrodd fel nad yw’n ofynnol i benaethiaid adrodd ar ganlyniadau’r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Mae rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion er mwyn dileu’r gofyniad ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu canlyniadau’r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ac i Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 10(3) yn diwygio’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ymhellach drwy roi Atodlen 2 newydd yn lle’r un bresennol. Effaith hynny yw bod canlyniadau’r profion darllen a rhifedd wedi eu heithrio o’r wybodaeth am asesiadau statudol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei hanfon i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol honno.
Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn dileu’r gofyniad i awdurdodau lleol ysgolion ddosbarthu copïau o’r prosbectws cyfansawdd yn ddi-dâl i rieni a disgyblion sydd yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol ac a allai drosglwyddo i ysgolion eraill o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1996 p. 56. Diwygiwyd adran 29(3) gan baragraff 67 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Diwygiwyd pennawd adran 29 ac is-adrannau (1), (3) a (5) gan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 1 a 57(1) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9, 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 537(1) gan baragraff 152(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraff 9(1) a (15) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 152(b) o Atodlen 30, ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraffau 1 a 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, gan baragraff 6(1) a (5) o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158.
Mewnosodwyd adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158 a chan O.S. 2012/976.
Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5) a chan adran 73 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, a pharagraffau 1 a 22(b) o Atodlen 2 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
1996 p. 56. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 1 gan O.S. 2010/1158.
Rhoddwyd y pwerau yn adran 108 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Diwygiwyd adran 108(2) a (3) er mwyn hepgor cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn eu lle gan baragraffau 11 i 13 o’r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Diddymwyd adran 108 gan baragraffau 44 a 45 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae’r diddymiad hwnnw yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth arbed a’r ddarpariaeth drosiannol yn O.S. 2022/111 (Cy. 39). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.
1996 p. 56. Diwygiwyd adran 210 gan baragraffau 44 a 46 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan baragraff 34 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).
Mewnosodwyd gan baragraff 4(1) a (10)(c) o Atodlen 1 i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).
O.S. 2004/2915 (Cy. 254), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2005/1394 (Cy. 108), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244), O.S. 2008/1899 (Cy. 181) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2013/433 (Cy. 51), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/811 (Cy. 163).
O.S. 2015/1596 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/836 (Cy. 210).
O.S. 2011/1943 (Cy. 210), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2014/1998 (Cy. 199), O.S. 2016/236 (Cy. 88), O.S. 2016/837 (Cy. 211), O.S. 2018/766 (Cy. 153), O.S. 2020/729 (Cy. 164) ac O.S. 2021/612 (Cy. 163).
O.S. 2005/1394 (Cy. 108), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244), O.S. 2008/1899 (Cy. 181) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2013/433 (Cy. 51), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/811 (Cy. 163).
O.S. 2015/1596 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/836 (Cy. 210).
O.S. 2011/1963 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/236 (Cy. 88), O.S. 2016/837 (Cy. 211), O.S. 2020/729 (Cy. 164) ac O.S. 2021/612 (Cy. 163).
O.S. 2005/1394 (Cy. 108), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3239 (Cy. 244), O.S. 2008/1899 (Cy. 181) ac O.S. 2011/1937 (Cy. 206).
O.S. 2013/433 (Cy. 51), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/811 (Cy. 163).
O.S. 2015/1596 (Cy. 195), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/836 (Cy. 210).
O.S. 2013/433 (Cy. 51), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/811 (Cy. 163).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: