- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)] (1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 1 wedi eu hamnewid (13.8.2022) gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), erglau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 3)
2.—(1) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyfnod meddiannaeth” (“period of occupation”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r cyfnod—
sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract, a
sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 7.
Gwybodaeth Cychwyn
3. Wrth benderfynu at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, rhaid rhoi sylw i bresenoldeb neu fodolaeth, neu bresenoldeb tebygol neu fodolaeth debygol, y materion a’r amgylchiadau a restrir yn yr Atodlen.
Gwybodaeth Cychwyn
4. Nid yw rheoliadau 5 i 8 yn gymwys ond mewn perthynas ag —
(a)contract diogel,
(b)contract safonol cyfnodol, ac
(c)contract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd(2),
sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract.
Gwybodaeth Cychwyn
5.—(1) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—
(a)mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,
(b)wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac
(c)wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.
(2) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.
(3) Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan baragraff (1) neu (2).
(4) At ddibenion paragraff (3), mae landlord sydd heb gydymffurfio ag—
(a)paragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm mwg (neu larymau mwg) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw;
(b)paragraff (2) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm carbon monocsid (neu larymau carbon monocsid) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarpar nwy” (“gas appliance”) yw cyfarpar a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gan ddefnyddiwr nwy ar gyfer gwresogi, goleuo, coginio neu at ddibenion eraill y gellir defnyddio nwy ar eu cyfer, ond nid yw’n cynnwys—
cyfarpar cludadwy neu symudol a gyflenwir â nwy o silindr, na’r silindr, y pibellau a’r ffitiadau eraill a ddefnyddir i gyflenwi nwy i’r cyfarpar hwnnw, neu
cyfarpar y mae gan ddeiliad y contract yr hawl i fynd ag ef o’r annedd o dan delerau’r contract meddiannaeth;
mae i “nwy” yr ystyr a roddir i “gas” gan adran 48(1) o Ddeddf Nwy 1986(3);
mae “ystafell” (“room”) yn cynnwys cyntedd, pen grisiau neu goridor.
Gwybodaeth Cychwyn
6.—(1) Rhaid i’r landlord sicrhau bod adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mewn cysylltiad â’r annedd yn ystod pob cyfnod meddiannaeth.
(2) Mae adroddiad ar gyflwr trydanol—
(a)yn adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau archwiliad diogelwch trydanol a gynhaliwyd gan berson cymwysedig;
(b)yn ddilys—
(i)hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cynhaliwyd yr archwiliad diogelwch trydanol (“y dyddiad archwilio”), neu
(ii)os yw’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn nodi y dylid cynnal yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf lai na 5 mlynedd ar ôl y dyddiad archwilio, hyd at ddiwedd y dydd erbyn pryd y dylid cynnal, yn unol â’r adroddiad, yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf.
(3) Rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod o [F214 o ddiwrnodau] sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu—
(a)copi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar, a
(b)pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio wedi ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad hwnnw yn ymwneud ag ef (a chyn y dyddiad meddiannu), gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.
(4) Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o [F314 o ddiwrnodau] sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.
(5) Pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith cyn diwedd y cyfnod o [F414 o ddiwrnodau] gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.
(6) Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi ar adeg pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.
(7) At ddibenion paragraff (6), mae landlord—
(a)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw ar unrhyw adeg—
(i)pan fo’r landlord wedi cael adroddiad ar gyflwr trydanol, a
(ii)pan fo’r adroddiad hwnnw yn ddilys.
(b)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(a) neu (4) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mwyaf diweddar;
(c)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(b) neu (5) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.
(8) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “archwiliad diogelwch trydanol” (“electrical safety inspection”) yw archwilio a phrofi pob gosodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn unol â’r safonau diogelwch trydanol(4);
ystyr “cadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith” (“written confirmation of work”), mewn perthynas â gwaith ymchwilio neu atgyweirio, yw copi o gadarnhad ysgrifenedig gan berson cymwysedig bod y gwaith dan sylw wedi ei wneud;
ystyr “gosodiad gwasanaeth trydanol” (“electrical service installation”) yw gosodiad ar gyfer cyflenwi trydan; ac mae cyfeiriadau at osodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn cynnwys, pan fo’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, osodiad gwasanaeth trydanol sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—
yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu
yn eiddo i’r landlord neu sydd o dan reolaeth y landlord;
ystyr “person cymwysedig” (“qualified person”) yw person sy’n gymwys i wneud y gwaith arolygu a phrofi ar osodiad gwasanaeth trydanol, ac unrhyw waith archwilio neu waith atgyweirio pellach, yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;
ystyr “safonau diogelwch trydanol” (“electrical safety standards”) yw’r safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel [F5BS 7671:2018+A2:2022] (5).
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 6(3) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1076), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F3Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1076), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F4Geiriau yn rhl. 6(5) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1076), rhlau. 1(2), 2(2)(c)
F5Geiriau yn rhl. 6(8) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1076), rhlau. 1(2), 2(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi.
(2) Yn rheoliadau 5(1) a 6(1), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi, a
(b)sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.
(3) Yn rheoliad 5(2), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosi, a
(b)sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.
(4) Yn rheoliad 6(3), ystyr “dyddiad meddiannu” yw’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi.
(5) Mae rheoliad 6 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—
“(4) Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl i ddeiliad y contract gael adroddiad yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (3) (fel y’i haddaswyd gan reoliad 7(4)), rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir copi i ddeiliad y contract o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o [F614 o ddiwrnodau] sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.”
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “dyddiad trosi”, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r dyddiad y daeth y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 240 o’r Ddeddf(6).
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn rhl. 7 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1076), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
8. At ddibenion rheoliad 6(1), nid oes wahaniaeth os cafwyd yr adroddiad ar gyflwr trydanol dilys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: