No versions valid at: 13/08/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/08/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Valid from 01/12/2022
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 1 wedi eu hamnewid (13.8.2022) gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), erglau. 1(2), 13
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
2. Yn y Rheoliadau hyn—
[F2mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(1));
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2);
mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(3);
mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(4) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;
mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—
a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu
sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a
pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));
mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 1(5) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(6);
nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—
unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(7), na
unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019,
ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;
mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242).]
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 2 wedi ei amnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
3.—(1) Ar ôl cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, caiff deiliad contract perthnasol wneud cais i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.
(2) Rhaid i’r cais i bwyllgor asesu rhenti gael ei wneud—
(a)ar y ffurf ragnodedig, a
(b)o fewn 2 fis ar ôl cael yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf.
(3) Mae’r ffurf ragnodedig fel y’i nodir yn yr Atodlen.
(4) Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
4. Rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais a wneir o dan reoliad 3 yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
5. Rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti, yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6, fydd y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol gydag effaith o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, oni bai bod y landlord a’r deiliad contract perthnasol yn cytuno fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
6. Wrth bennu rhent ar gyfer annedd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent y mae’n ystyried y gallai fod disgwyl i’r annedd dan sylw [F3gael ei gosod] amdano ar y farchnad agored gan landlord parod o dan [F4gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol] y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn [F5ymwneud ag ef] , gan ragdybio—
(a)bod y contract [F6meddiannaeth] yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
(b)nad yw rhoi contract i ddeiliad contract cyfredol yn cael dim effaith ar y rhent,
(c)nad yw unrhyw gynnydd yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i welliant perthnasol a wnaed gan berson a oedd y [F7tenant neu’r trwyddedai,] neu’r deiliad contract perthnasol ar yr adeg y’i gwnaed yn cael dim effaith ar y rhent, os gwnaed y gwelliant—
(i)ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol, neu
(ii)yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol nad yw’n rhwymedigaeth a oedd yn ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw ond a gododd drwy gyfeirio at gydsyniad a roddwyd i wneud y gwelliant hwnnw,
(d)nad yw unrhyw ostyngiad yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i fethiant gan y F8... deiliad contract perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o delerau’r F9... contract wedi ei drosi perthnasol [F10neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig] yn cael dim effaith ar y rhent,
(e)pan fo’r landlord neu uwchlandlord yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad â hereditament y mae’r annedd yn rhan ohono, o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod swm y dreth gyngor a bennwyd gan yr awdurdod bilio, fel ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123—
(i)ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynwyd yr hysbysiad ynddi, a
(ii)ar gyfer y categori o anheddau yr oedd yr hereditament perthnasol yn perthyn iddo ar y dyddiad hwnnw,
yn cael effaith ar y rhent, ond nad yw unrhyw ddisgownt neu ostyngiad arall sy’n effeithio ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael dim effaith ar y rhent, ac
(f)nad yw’r landlord nac uwchlandlord yn talu ardrethi mewn cysylltiad â’r annedd.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(a)(i)
F4Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(b)
F5Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(a)(ii)
F6Gair yn rhl. 6(a) wedi ei amnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(c)
F7Geiriau yn rhl. 6(c) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(d)
F8Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(i)
F9Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(ii)
F10Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu mewnosod (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
7. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor asesu rhenti barhau i bennu rhent ar gyfer annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol os yw’r landlord a’r deiliad contract perthnasol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig nad oes angen penderfyniad o’r fath arnynt mwyach neu os yw’r contract wedi ei drosi perthnasol wedi dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
8.—(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)(9)—
(a)yn y diffiniad o “reference”, ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn lle’r atalnod llawn rhodder “, or which is made under regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(10).”;
(b)yn y [F11lleoedd] priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
““dwelling” has the meaning given by section 246 of the Renting Homes (Wales) Act 2016(11);”;
““relevant contract-holder” means a contract-holder (which has the meaning given by section 7(5) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a relevant converted contract;”;
““relevant converted contract” has the meaning given by paragraph 15(3)(12) of Schedule 12 to the Renting Homes (Wales) Act 2016;”;
F12“...”;
F13“...”.
(3) Yn rheoliad 2A (atgyfeiriadau Deddfau 1988 a 1989)(13)—
(a)yn lle’r pennawd, rhodder “References”;
(b)ym mharagraff (1), ar ôl “Housing Act 1988;”, hepgorer “or”;
(c)ym mharagraff (1), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn yr ail le y mae’n digwydd, yn lle’r atalnod llawn rhodder—
“; or
regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(14).”.
(4) Yn rheoliad 3(3)(c)(15), ar ôl “tenant”, mewnosoder “F14... or relevant contract-holder”.
(5) Yn rheoliad 5(1)(b)(16)—
[F15(a)yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,]
(b)ar ôl “dwelling-houses”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “or dwellings”.
(6) Yn rheoliad 7—
(a)yn y pennawd, ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”, a
(b)ym mharagraff (1), ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”.
Diwygiadau Testunol
F11Geiriau yn rhl. 8(2)(b) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(4)(a)(iii)
F12Geiriau yn rhl. 8(2)(b) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(4)(a)(i)
F13Geiriau yn rhl. 8(2)(b) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(4)(a)(ii)
F14Geiriau yn rhl. 8(4) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(4)(b)
F15Rhl. 8(5)(a) wedi ei amnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: