- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
12 Awst 2022
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
2. 1 Rhagfyr 2022 yw’r diwrnod penodedig i’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
3. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022(3), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
4. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022(4), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
5. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022(5), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
6. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Contractau Safonol â Chymorth) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022(6), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
7. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022(7), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
8. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022(8), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
9. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022(9), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 9 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
10. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022(10), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Ergl. 10 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
11. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022(11), yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Ergl. 11 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
12. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022(12), yn lle “y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Ergl. 12 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
13. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022(13), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Ergl. 13 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
14. Yn rheoliad 1 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022(14), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Ergl. 14 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
15. Yn rheoliad 1(1) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022(15), yn lle “y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym”, rhodder “1 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Ergl. 15 mewn grym ar 13.8.2022, gweler ergl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd fel cartref, gan gynnwys darpariaeth sy’n sefydlu dau fath o gontract at ddiben rhentu cartrefi ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ar 1 Rhagfyr 2022.
Er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad gweddill y Ddeddf i rym, mae 13 o offerynnau statudol o sylwedd wedi eu gwneud o dan ddarpariaethau galluogi amrywiol o fewn y Ddeddf. Mae 12 o’r offerynnau statudol hynny wedi eu gwneud ar y sail y byddant yn dod i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
Mae adran 38(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio darpariaethau sy’n disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym, a hynny â’r gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
Drwy arfer y pŵer hwnnw, mae erthyglau 3 i 15 yn diwygio’r 12 o offerynnau statudol i roi cyfeiriad at 1 Rhagfyr 2022 yn lle cyfeiriadau at y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym yn rhannol drwy Orchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016 (O.S. 2016/813) (Cy. 203) (C. 57) at y dibenion a bennir yn y tabl isod—
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 23 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 29 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 32(4) (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 45(3) (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 94 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 112 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 116(4) (at ddiben dyroddi canllawiau) | 5 Awst 2016 |
Adran 131 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 146(1) (at ddiben dyroddi canllawiau) | 5 Awst 2016 |
Adran 203(5) a (6) (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 221 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Adran 236(3) a (4) (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 17 o Atodlen 2 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 17 o Atodlen 3 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 4(7) ac (8) o Atodlen 4 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 5(7) ac (8) o Atodlen 7 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Paragraff 33 o Atodlen 12 (at ddiben gwneud rheoliadau) | 5 Awst 2016 |
Gweler adran 257(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016.
2019 dccc 4. Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 38 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gael ei arfer i wneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: