
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
2012 Rhif 2499 (Cy.274) (C.98)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 120(2) a (3) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012().
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
Y diwrnod penodedig
2.—(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod i rym ar 1 Hydref 2012.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw—
(a)Adran 56; a
(b)Atodlen 4.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.
1 Hydref 2012
Nodyn Esboniadol
Cafodd Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2012.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ar 1 Hydref 2012 i adennill taliadau parcio heb eu talu mewn cysylltiad â pharcio cerbyd ar dir perthnasol yng Nghymru.
Diffinnir “relevant land” yn Atodlen 4 i'r Ddeddf fel tir ar wahân i briffordd sydd i'w chynnal a'i chadw ar draul y cyhoedd, man parcio a ddarperir a/neu a reolir gan awdurdod traffig neu unrhyw dir arall nad yw'n ddarostyngedig i reolaeth barcio statudol.
Yn ôl i’r brig