Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2022.

Dirymu

2.  Caiff Rheoliadau Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006(1) eu dirymu ar 1 Medi 2022.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cynnal yr ysgol;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr “Cynllun Pontio” (“Transition Plan”) yw cynllun o’r math y cyfeirir ato yn adran 198(1) o Ddeddf 2002 Act a rheoliad 4(2) o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(2);

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;

mae i “dosbarth” (“class”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 82(1) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79 o Ddeddf 2021.

Cymhwyso’r Rheoliadau

4.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir y mae’n ofynnol i’r cyrff llywodraethu lunio Cynlluniau Pontio ar eu cyfer(3).

(2At ddibenion paragraff (1) mae Cynlluniau Pontio yn ofynnol ar gyfer—

(a)pob ysgol uwchradd a gynhelir gan awdurdod lleol (neu sy’n dod o fewn dosbarth penodedig o ysgol o’r fath), a

(b)pob un o’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo ac a gynhelir gan awdurdod lleol y mae Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyrff llywodraethu, o dan adran 198(1) o Ddeddf 2002, lunio cynlluniau, ar y cyd, i hwyluso’r broses bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion cynradd hynny a dderbynnir i’r ysgol uwchradd.

Anghydfodau o ran a yw ysgol yn ysgol gynradd sy’n bwydo

5.  Mae unrhyw anghydfod o ran a yw ysgol i’w hystyried yn ysgol gynradd sy’n bwydo mewn perthynas ag ysgol uwchradd benodol i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Ffurf a chynnwys Cynlluniau Pontio

6.—(1Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo lunio, ar y cyd, Gynllun Pontio unigol ar gyfer yr ysgolion hynny.

(2Caiff Cynllun Pontio unigol gynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw un neu ragor o ysgolion cynradd sy’n bwydo a honno’n wahanol i’r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgol gynradd arall, neu’r ysgolion cynradd eraill, sy’n bwydo.

(3Rhaid i Gynllun Pontio—

(a)bod yn ysgrifenedig,

(b)egluro’n gryno beth yw diben Cynllun Pontio,

(c)datgan ei fod wedi ei lunio ar y cyd gan gorff llywodraethu’r ysgol uwchradd o dan sylw a chyrff llywodraethu’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,

(d)datgan enwau’r ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,

(e)datgan y garfan gyntaf o ddisgyblion y mae’n gymwys iddi drwy gyfeirio at y flwyddyn ysgol y symudodd y disgyblion cyntaf hynny ar ei dechrau i fyny i flwyddyn 6 yn eu hysgol gynradd,

(f)datgan y dyddiad y cafodd ei gyhoeddi, ac

(g)ymdrin â’r materion a bennir yn yr Atodlen.

Cyhoeddi Cynlluniau Pontio

7.—(1Rhaid cyhoeddi’r Cynllun Pontio cyntaf ar gyfer ysgol uwchradd a phob un o’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo ar 1 Medi 2022 neu cyn hynny.

(2Y disgyblion y mae Cynllun Pontio cyntaf yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, o ddechrau’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023, ym mlwyddyn 6 pob ysgol gynradd sy’n bwydo ac sy’n disgwyl trosglwyddo o’r ysgol gynradd sy’n bwydo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol nesaf yr ysgol uwchradd.

(3Rhaid cyhoeddi Cynlluniau Pontio dilynol ar neu cyn 1 Medi o’r flwyddyn ysgol y mae’r Cynllun i gymryd effaith ynddi.

(4Y disgyblion y mae Cynllun Pontio dilynol yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, o ddechrau’r flwyddyn ysgol y mae’r Cynllun Pontio dilynol yn cymryd effaith ynddi, ym mlwyddyn 6 pob ysgol gynradd sy’n bwydo ac sy’n disgwyl trosglwyddo o’r ysgol gynradd sy’n bwydo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol nesaf yr ysgol uwchradd.

Adolygu Cynlluniau Pontio

8.  Rhaid i Gynllun Pontio gael ei adolygu—

(a)os daw ysgol gynradd (“yr ysgol gynradd newydd”) yn ysgol gynradd sy’n bwydo i ysgol uwchradd y mae ganddi eisoes un neu ragor o ysgolion cynradd sy’n ei bwydo,

(b)os bydd ysgol gynradd sy’n bwydo yn peidio â bod yn ysgol gynradd sy’n bwydo i ysgol uwchradd,

(c)os adolygir cwricwlwm naill ai’r ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd o dan adran 12 o Ddeddf 2021,

(d)os adolygir trefniadau asesu naill ai’r ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd a wneir o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022(4),

(e)os bydd cyrff llywodraethu pob un o’r ysgolion o dan sylw yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, neu

(f)ar ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun Pontio (neu’r cynllun diwygiedig).

Diben adolygiad

9.—(1Diben adolygiad o dan reoliad 8(a) yw—

(a)i gyrff llywodraethu’r ysgolion a gytunodd y Cynllun Pontio cyfredol a chorff llywodraethu’r ysgol gynradd newydd ystyried ar y cyd pa ddiwygiadau (os oes rhai) sy’n briodol, a

(b)i’r cyrff llywodraethu gytuno Cynllun Pontio newydd, ar y cyd, os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2Diben adolygiad o dan reoliad 8(b) i (e) yw i gyrff llywodraethu’r ysgolion a gytunodd y Cynllun Pontio cyfredol ystyried—

(a)a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol diwygio’r Cynllun Pontio, a

(b)llunio, ar y cyd, Gynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig, os ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol diwygio’r Cynllun Pontio.

(3Ym mhob achos rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion o dan sylw roi ystyriaeth i sut y gallai’r cyrff llywodraethu a’r penaethiaid reoli’r broses bontio yn well wrth gynnal adolygiad o dan reoliad 8.

Cyhoeddi datganiad yn dilyn adolygiad

10.—(1Os yw’r cyrff llywodraethu, yn dilyn adolygiad o dan reoliad 8, yn penderfynu peidio â diwygio’r Cynllun Pontio cyfredol, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad sy’n cofnodi’r penderfyniad hwnnw, gan roi rhesymau cryno drosto (“Datganiad”).

(2Rhaid cyhoeddi’r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a ddim hwyrach na dechrau’r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.

(3Yn achos adolygiad o dan reoliad 8(a), disgyblion cyntaf yr ysgol gynradd newydd y mae’r Cynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig yn gymwys iddynt yw’r disgyblion hynny sydd, ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, ym mlwyddyn 6 ac sy’n disgwyl trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol ganlynol yr ysgol uwchradd.

(4Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 11, mae i “Datganiad” yr ystyr a roddir ym mharagraff (1) o’r rheoliad hwn.

Cyhoeddi Cynlluniau Pontio a darparu copïau

11.—(1Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion y mae Cynllun Pontio neu Ddatganiad yn ymwneud â hwy ei roi ar gael i’r ysgolion hynny edrych arno.

(2Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol uwchradd ddarparu copi o’r Cynllun Pontio (neu’r cynllun diwygiedig) i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo neu, os cânt eu cynnal gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol gwahanol, i bob un ohonynt.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

23 Mai 2022

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill