Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1277 (Cy. 225)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023

Gwnaed

28 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 17 o Atodlen 2(1) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(2), ac adran 256(1) o’r Ddeddf honno ac adrannau 59(3) a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(3).

Yn unol ag adran 256(3), (4)(h)(4) a (5) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac adran 142(3)(b)(i) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(5).

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2023.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (the Act) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015(6).

Diwygio’r Ddeddf

2.—(1Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7)—

(a)yn Rhan 3 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth)—

(i)ym mharagraff 7(3)(7), ar ddiwedd paragraff (k), mewnosoder—

(l)trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).;

(ii)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

Ystyr “llety digartrefedd dros dro sector preifat”

10A.(1) Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—

(a)a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a

(b)sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1277 (W. 225)) i rym.

(2) Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).;

(b)yn Rhan 4 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd), ym mharagraff 12(1), ar ôl “llety” mewnosoder “, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(l)”.

(3Yn adran 243(3) (awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill), ar ôl “ac eithrio ym mharagraff” mewnosoder “10A a pharagraff”.

Diwygio’r Gorchymyn

3.  Yn erthygl 2 (dehongli) o’r Gorchymyn, yn lle’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast”, mewnosoder—

ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

(a)

yr amod cyntaf yw—

(i)

naill ai nad yw cegin ar gael i’r trwyddedai, neu mae cegin ar gael i’r trwyddedai ond y mae’n cael ei rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd, a

(ii)

bod y cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r trwyddedai ond mae’n bosibl eu bod yn cael eu rhannu gan bobl nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd—

(aa)

toiled;

(bb)

cyfleusterau golchi personol;

(b)

yr ail amod yw nad yw’r llety ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan landlord cymunedol (o fewn ystyr adran 9 (landlordiaid cymunedol) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)), elusen gofrestredig neu sefydliad gwirfoddol(8)..

Julie Jame

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

28 Tachwedd 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 (eithriadau i adran 7) i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”), yn gwneud diwygiad canlyniadol i adran 243(3) o’r Ddeddf ac yn diwygio’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yng Ngorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)) (“y Gorchymyn”).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio Atodlen 2 i’r Ddeddf. Mae rheoliad 2(2)(a)(i) yn mewnosod paragraff newydd 7(3)(l) yn Rhan 3 o’r Atodlen honno. Mae hyn yn darparu nad yw trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (fel y’i diffinnir) byth yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 2(2)(a)(ii) yn mewnosod paragraff newydd 10A yn Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf sy’n darparu diffiniad o lety digartrefedd dros dro sector preifat.

Mae rheoliad 2(2)(b) yn diwygio paragraff 12(1), yn Rhan 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, i’w gwneud yn eglur nad yw paragraff 12 yn gymwys i drwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(1) sydd newydd ei fewnosod yn Atodlen 2.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio adran 243(3) o’r Ddeddf i’w gwneud yn eglur nad yw’r diffiniad o “awdurdod tai lleol” a nodir yn yr adran honno yn gymwys mewn perthynas â pharagraff 7(3)(1) sydd newydd ei fewnosod yn Atodlen 2.

Cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae contractau meddiannaeth wedi eu hatal rhag codi mewn perthynas â llety digartrefedd dros dro sector preifat, yn rhinwedd rheoliad 16 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 (O.S. 2022/1172 (Cy. 242)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 o’r Gorchymyn, er mwyn adlewyrchu nodweddion y llety hwnnw yn fwy eglur.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(1)

Mae diwygiadau i Atodlen 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i baragraff 17.

(4)

Mae diwygiadau i adran 256(4) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Mae’r cyfeiriadau yn adran 142 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac adran 256(3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(7)

Diwygiwyd paragraff 7(3) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 5(2) o Atodlen 5 iddi, adran 66 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) a pharagraff 2(n) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi a rheoliad 2 o O.S. 2022/803 (Cy. 179).

(8)

Gweler y diffiniad o “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yn adran 99 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae adran 99 wedi ei diwygio ond nid yw’r un o’r diwygiadau yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill