Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Trin a chyfrifo incwm

Cyfrifo incwm

13.—(1Rhaid cyfrifo incwm A ar sail wythnosol drwy benderfynu, yn unol â’r Rhan hon, swm wythnosol cyfanswm incwm A.

(2At ddibenion paragraff (1) mae incwm yn cynnwys cyfalaf a drinnir fel incwm o dan reoliad 16 ac incwm tybiannol o dan reoliad 17.

Enillion sydd i’w diystyru

14.—(1Wrth gyfrifo incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru enillion sy’n deillio o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig neu enillydd hunangyflogedig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae i enillion mewn perthynas ag enillydd cyflogedig yr un ystyr ag—

(i)yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(1);

(ii)yn rheoliad 35 o Reoliadau Budd-dal Tai (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006 (enillion enillwyr cyflogedig)(2), pan fo’r enillydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; a

(b)mae i enillion mewn perthynas ag enillydd hunangyflogedig yr un ystyr ag yn rheoliad 37 o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (enillion enillwyr hunangyflogedig).

Symiau eraill sydd i’w diystyru

15.  Wrth gyfrifo cyfanswm incwm A at ddibenion yr asesiad ariannol, rhaid diystyru unrhyw swm, pan fo’n briodol, a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Cyfalaf a drinnir fel incwm

16.—(1Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy i A mewn rhandaliadau sydd heb eu casglu ar y dyddiad y daw A yn atebol gyntaf i dalu am y gofal a chymorth (neu pan fo, neu pan fydd, A yn cael taliadau uniongyrchol, yn atebol gyntaf i gyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gofal a chymorth), os yw agregiad y rhandaliadau sydd heb eu casglu a swm cyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â Rhan 4 yn fwy na’r swm a bennir yn rheoliad 41(1) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf a drinnir fel incwm).

(2Rhaid trin unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal fel incwm.

(3Rhaid trin unrhyw enillion, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel incwm.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(5Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o gyfalaf a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd o dan y Ddeddf.

(6Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod taliadau i’w gwneud i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol a achoswyd i A, a bod y cyfryw daliadau i’w gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff A, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, gael eu trin fel incwm.

Incwm tybiannol

17.—(1Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, neu y gallai fod yn atebol i’w dalu tuag at y gost o ddiwallu, neu sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer diwallu, anghenion A.

(2Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y byddid yn ei drin fel incwm a feddid gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 42(2) i (4A) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm tybiannol).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(4Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.

(1)

O.S. 2006/213. Diwygiwyd rheoliad 35 gan O.S. 2007/2618, 2009/2655, 2014/591 a 3255.

(2)

O.S.2006/214. Diwygiwyd rheoliad 35 gan O.S. 2009/2655, 2012/757, 2014/591 a 3255.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources