- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Nid oes dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o adnoddau ariannol A mewn amgylchiadau pan fo A—
(a)wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth, neu unrhyw gyfuniad o’r cyfryw, y codir ffi unffurf amdano gan yr awdurdod lleol;
(b)yn gwrthod cael asesiad ariannol;
(c)yn methu â darparu i’r awdurdod lleol yr wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol gan yr awdurdod yn unol â rheoliad 3(f), o fewn amser rhesymol neu o gwbl;
(d)yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, ac wedi cael diagnosis o’r clefyd hwnnw gan ymarferydd meddygol cofrestredig;
(e)wedi cael cynnig, neu yn cael, gofal a chymorth, cyngor neu wasanaeth, neu wedi cael cynnig taliad uniongyrchol, neu wedi cael ei ddarparu â thaliadau uniongyrchol, i sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal)(1);
(f)wedi cael cynnig neu yn cael gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, os yw’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(g)wedi ei asesu yn rhywun sydd arno angen, neu sy’n cael, gwasanaethau eiriolaeth yn unig(2).
(2) Pan fo paragraff (1)(c) yn gymwys, caiff awdurdod lleol, os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol, wneud asesiad o adnoddau ariannol A ar sail yr wybodaeth rannol neu’r ddogfennaeth rannol (neu’r ddau) sydd yn ei feddiant.
Diffinnir “gwasanaethau eirioli” yn adran 181(2) o’r Ddeddf fel “…[g]wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: