Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”) syʼn gwneud darpariaeth ynghylch arfer gan asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau newydd 19A ac 20A yn y Prif Reoliadau. Mae rheoliad newydd 19A yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu atgyfeirio i Gofrestr Fabwysiadu Cymru (o fewn yr amserlen ofynnol) fanylion plant y maeʼr asiantaeth fabwysiadu wedi ei hawdurdodi i’w lleoli ar gyfer eu mabwysiadu. Mae rheoliad newydd 20A yn rhestru, at ddibenion y rheoliad hwnnw, y personau hynny sydd wedi eu hawdurdodi i fod yn dyst wrth i rieni a gwarcheidwaid gwblhau y tu allan i Gymru a Lloegr ffurflenni cydsynio i leoli ar gyfer mabwysiadu ac, yn ôl y digwydd, i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol.

Mae mân ddiwygiad hefyd wedi ei wneud i reoliad 20 o’r Prif Reoliadau i egluro nad oes rhaid i asiantaeth fabwysiadu ofyn am benodiad swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS i gael cydsyniad gan riant neu warcheidwad i leoli neu fabwysiadu plentyn yn ei ofal ond pan fo’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn preswylio yng Nghymru a Lloegr.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn rhoi Rhan 4 newydd yn lleʼr un bresennol (rheoliadau 21 i 30E) yn y Prif Reoliadau er mwyn darparu ar gyfer proses gymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr (y broses cyn asesu – cam 1 aʼr penderfyniad asesu – cam 2). Mae rheoliadau 21 i 27 newydd (cam 1) yn gymwys pan fo person wedi hysbysu asiantaeth fabwysiadu ei fod am fabwysiadu plentyn a boʼr asiantaeth wedi hysbysuʼr person hwnnw ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu mewn cysylltiad ag ef. Mae rheoliadau 28 i 30E newydd (cam 2) yn gymwys pan foʼr darpar fabwysiadydd, yn dilyn penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fabwysiadu, wedi hysbysuʼr asiantaeth fabwysiadu o fewn chwe mis iʼr penderfyniad hwnnw ei fod yn dymuno bwrw ymlaen i gam 2 y broses gymeradwyo.

Mae rheoliad 22 newydd yn ei gwneud yn ofynnol iʼr asiantaeth fabwysiadu lunio cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun cam un y darpar fabwysiadydd”) sydd i gynnwys gwybodaeth am rôl yr asiantaeth fabwysiadu aʼr darpar fabwysiadydd ym mroses cam un.

Mae rheoliad 25 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol manwl mewn cysylltiad â’r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy’n 18 oed neu drosodd.

Mae rheoliad 26 newydd yn nodiʼr wybodaeth cyn asesu arall y mae rhaid i asiantaeth fabwysiadu ei chael ac mae rheoliad 27 newydd yn darparu bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu benderfynu, yng ngoleuniʼr wybodaeth honno, a all y darpar fabwysiadydd fod yn addas i fabwysiadu plentyn. Rhaid iʼr penderfyniad hwnnw gael ei wneud o fewn dau fis iʼr dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth fabwysiadu y darpar fabwysiadydd ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu yn unol â rheoliad 21 newydd, ond caiff yr asiantaeth oedi gwneud y penderfyniad hwnnw pan fo wedi ei bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny neu ar gais y darpar fabwysiadydd.

Mae rheoliad 29 newydd yn ei gwneud yn ofynnol iʼr asiantaeth fabwysiadu lunio cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun asesuʼr darpar fabwysiadydd”) sydd i gynnwys gwybodaeth am y weithdrefn ar gyfer asesu addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn o dan gam 2.

Mae rheoliad newydd 30B yn darparu bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu benderfynu a yw darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu o fewn pedwar mis iʼr dyddiad y cafodd yr asiantaeth hysbysiad y darpar fabwysiadydd ei fod yn dymuno bwrw ymlaen âʼr broses asesu. Caiff yr asiantaeth oedi gwneud y penderfyniad hwnnw pan foʼr asiantaeth yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol syʼn golygu na all wneud y penderfyniad hwnnw o fewn yr amser hwnnw neu ar gais y darpar fabwysiadydd.

Mae rheoliad newydd 30DD ac Atodlen newydd 4A yn darparu bod Rhan 4 o’r Prif Reoliadau, mewn achosion penodol, yn gymwys yn ddarostyngedig iʼr addasiadau a nodir yn Atodlen 4A. Yr achosion hynny yw pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi ei bodloni bod darpar fabwysiadydd yn rhiant maeth a gymeradwywyd, neu ei fod, ar unrhyw adeg, wedi mabwysiadu plentyn oʼr blaen yng Nghymru neu Loegr neu dramor (ar ôl cael ei gymeradwyo yn unol â’r Prif Reoliadau neu Reoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005). Yn yr achosion hynny, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu benderfynu a ywʼr darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu o fewn pedwar mis iʼr dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth fabwysiadu y darpar fabwysiadydd ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu yn unol â rheoliad 21 newydd.

Mae rheoliad newydd 30E yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau mabwysiadu atgyfeirio i Gofrestr Fabwysiadu Cymru (o fewn yr amserlen ofynnol) fanylion darpar fabwysiadwyr a gymeradwywyd.

Mae rheoliad 31 newydd yn darparu bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu lunio cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori â darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd (“cynllun paruʼr darpar fabwysiadydd”) sydd i gynnwys gwybodaeth am ddyletswyddauʼr asiantaeth mewn perthynas â lleoli ac adolygiadau. Yr eithriad i hyn yw mewn achos adran 83 (pan fo person yn bwriadu dod â phlentyn, neu beri bod rhywun arall yn dod â phlentyn, i’r Deyrnas Unedig o dan amgylchiadau pan fo adran 83 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i’r Deyrnas Unedig) yn gymwys).

Maeʼr Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill i reoliadau Cymru a Lloegr a nodir yn Atodlen 1 ac syʼn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005 a mân ddiwygiadau i Reoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010, syʼn gwneud darpariaeth iʼr adolygiad o benderfyniadau penodol gan asiantaethau mabwysiadu a darparwyr gwasanaethau maethu gael ei gynnal gan banel annibynnol a benodir gan Weinidogion Cymru.

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau i destun Cymraeg y Prif Reoliadau nad oeddynt wedi eu cyflwyno yn flaenorol gan Orchymyn Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2009 a Gorchymyn Gorchymyn Trefniadau Plentyn (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources