Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 17

ATODLEN 2Diwygiadau Amrywiol i’r Prif Reoliadau

Diwygiadau i’r Prif Reoliadau

1.  Mae testun Cymraeg y Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1989” mewnosoder—

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008(1);.

3.  Yn rheoliad 14 (gofyniad i ddarparu cwnsela etc.)—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad y plentyn neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae’r asiantaeth fabwysiadu yn gwybod pwy yw’r person hwnnw., a

(b)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “tad”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”,

(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “adran 4” rhodder “adran 4 neu 4ZA”, a

(iii)yn is-baragraff (b)(ii)—

(aa)yn lle “preswylio neu orchymyn cyswllt” rhodder “trefniadau plentyn”, a

(bb)yn lle “preswyliad, cyswllt” rhodder “gorchmynion trefniadau plentyn”.

4.  Yn rheoliad 17(1)(ch), (d) ac (e) (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig), ar ôl “tad y plentyn” ac “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.

5.  Yn rheoliad 19(3) (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—

(a)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys—

(i)unrhyw berson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989, fel person y mae’r plentyn i dreulio amser gydag ef neu i gael cyswllt ag ef fel arall, neu

(ii)unrhyw berson y mae gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) wedi ei wneud o’i blaid,

pan fo’r gorchymyn hwnnw mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu;;

(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.

6.  Yn rheoliad 34(4)(b) (penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig), ar ôl “tad y plentyn,” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008,”.

7.  Yn rheoliad 39(2)(b) (tynnu cydsyniad yn ôl), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.

8.  Ym mharagraffau 13(a)(i) a 14 o Ran 1 o Atodlen 1 (gwybodaeth am y plentyn), ar ôl “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.

9.  Yn Rhan 3 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deulu’r plentyn ac eraill)—

(a)yn y pennawd o flaen paragraff 1, ar ôl “am y plentyn” mewnosoder “neu fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 nad oes ganddi gyfrifoldeb rhiant am y plentyn”,

(b)yn lle paragraff 16 rhodder—

16.  Os nad yw rhieni’r plentyn yn briod neu’n bartïon mewn partneriaeth sifil, a oes gan y tad neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly, sut y cafwyd ef.,

(c)yn lle paragraff 17 rhodder—

17.  Os na wyddys pwy yw tad y plentyn neu ble y mae, neu pwy yw’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008 neu ble y mae, yr wybodaeth amdano neu amdani sy’n hysbys a phwy a’i rhoes, a’r camau a gymerwyd i ddarganfod pwy yw’r rhiant.,

(d)yn y pennawd o flaen paragraff 24, ar ôl “tad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”, ac

(e)ym mharagraff 27, ar ôl “thad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources