- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 16
1.—(1) Mae Rheoliadau Mabwysiadau ag Elfen Dramor 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13 (gofynion syʼn gymwys mewn cysylltiad â chymhwystra ac addasrwydd)—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) A couple or a person who wishes to adopt a child habitually resident in a Convention country outside the British Islands must notify the agency that they want to adopt a child, and give the agency any information it may require for the purposes of the pre-assessment process set out in Part 4 of the Agencies Regulations or corresponding Welsh provision.”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “in Wales” i “(as the case may be)” rhodder—
“may not proceed with the pre-assessment process referred to in paragraph (1), unless at the date of that notification—”, a
(ii)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “an application”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “a notification” ac yn lle “date of application”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “date of notification”.
(3) Yn rheoliad 15 (gweithdrefn mewn cysylltiad â chynnal asesiad), ym mharagraff (1), ar ôl “Part 4 of the Agencies Regulations” mewnosoder “or corresponding Welsh provision”.
2. Yn rheoliad 3 (pŵer i godi am gyfleusterau syʼn cael eu darparu syʼn ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005(2), ym mharagraff (5)(b)(ii), yn lle “rheoliad 28” rhodder “rheoliad 30B”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “adroddiad darpar fabwysiadydd”, yn lle “rheoliad 26” rhodder “rheoliad 30”.
(3) Yn rheoliad 3(a) (penderfyniad cymhwysol – disgrifiad penodedig at ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002)—
(a)yn is-baragraff (i), yn lle “rheoliad 28(4)” rhodder “rheoliad 30B(5)”, a
(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “reoliad 30” rhodder “reoliad 30CH(2)”.
(4) Yn rheoliad 12 (swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu)—
(a)ym mharagraff (2)(b)(i), yn lle “rheoliad 26(4), a phan foʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “rheoliad 30(2), a phan foʼn gymwys, reoliad 30(3)”,
(b)ym mharagraff (3), yn lle “reoliad 26(4), a phan foʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “reoliad 30(2), a phan fo’n gymwys, rheoliad 30(3)”,
(c)ym mharagraff (4), yn lle “rheoliad 26(4), a phan foʼn gymwys rheoliad 26(5), oʼr Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 26(4) neu, os ywʼn gymwys, rheoliad 26(5)” rhodder “rheoliad 30(4) oʼr Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 30(2), a phan fo’n gymwys, rheoliad 30(3)”, a
(d)ym mharagraff (5)(a), yn lle “rheoliad 29” rhodder “rheoliad 30C”.
4. Yn rheoliad 9 (swyddogaethau penodedig o dan Ddeddf 2002) o Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014(4), ar ôl paragraff (1)(f)(i) mewnosoder—
“(ia)Rhan 4 (dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu o ran darpar fabwysiadydd) iʼr graddau y maeʼr swyddogaethau hynnyʼn ymwneud â phenderfyniad o dan reoliad 27 (penderfyniad cyn asesu) nad yw darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn;”.
Rheoliad 17
1. Mae testun Cymraeg y Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2. Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Deddf 1989” mewnosoder—
“ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008(5);”.
3. Yn rheoliad 14 (gofyniad i ddarparu cwnsela etc.)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad y plentyn neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae’r asiantaeth fabwysiadu yn gwybod pwy yw’r person hwnnw.”, a
(b)ym mharagraff (3)—
(i)ar ôl “tad”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”,
(ii)yn is-baragraff (b)(i), yn lle “adran 4” rhodder “adran 4 neu 4ZA”, a
(iii)yn is-baragraff (b)(ii)—
(aa)yn lle “preswylio neu orchymyn cyswllt” rhodder “trefniadau plentyn”, a
(bb)yn lle “preswyliad, cyswllt” rhodder “gorchmynion trefniadau plentyn”.
4. Yn rheoliad 17(1)(ch), (d) ac (e) (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig), ar ôl “tad y plentyn” ac “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
5. Yn rheoliad 19(3) (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—
(a)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys—
(i)unrhyw berson a enwir mewn gorchymyn trefniadau plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989, fel person y mae’r plentyn i dreulio amser gydag ef neu i gael cyswllt ag ef fel arall, neu
(ii)unrhyw berson y mae gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) wedi ei wneud o’i blaid,
pan fo’r gorchymyn hwnnw mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu;”;
(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
6. Yn rheoliad 34(4)(b) (penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu o ran y lleoliad arfaethedig), ar ôl “tad y plentyn,” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008,”.
7. Yn rheoliad 39(2)(b) (tynnu cydsyniad yn ôl), ar ôl “tad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
8. Ym mharagraffau 13(a)(i) a 14 o Ran 1 o Atodlen 1 (gwybodaeth am y plentyn), ar ôl “ei dad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”.
9. Yn Rhan 3 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deulu’r plentyn ac eraill)—
(a)yn y pennawd o flaen paragraff 1, ar ôl “am y plentyn” mewnosoder “neu fenyw sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 nad oes ganddi gyfrifoldeb rhiant am y plentyn”,
(b)yn lle paragraff 16 rhodder—
“16. Os nad yw rhieni’r plentyn yn briod neu’n bartïon mewn partneriaeth sifil, a oes gan y tad neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008 gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly, sut y cafwyd ef.”,
(c)yn lle paragraff 17 rhodder—
“17. Os na wyddys pwy yw tad y plentyn neu ble y mae, neu pwy yw’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008 neu ble y mae, yr wybodaeth amdano neu amdani sy’n hysbys a phwy a’i rhoes, a’r camau a gymerwyd i ddarganfod pwy yw’r rhiant.”,
(d)yn y pennawd o flaen paragraff 24, ar ôl “tad” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 43 o Ddeddf 2008”, ac
(e)ym mharagraff 27, ar ôl “thad y plentyn” mewnosoder “neu’r fenyw sy’n rhiant i’r plentyn yn rhinwedd adran 42 neu 43 o Ddeddf 2008”.
O.S. 2005/392 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/985. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2010/746 (Cy. 75), a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/1479, O.S. 2016/211 (Cy. 84), O.S. 2017/52 (Cy. 23) ac O.S. 2019/237 (Cy. 56).
O.S. 2014/1795 (Cy. 188), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: