Search Legislation

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2929 (Cy.264)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

7 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

15 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4) a (5) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2).

Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Tachwedd 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “archwiliad swyddogol” (“official examination”) yw archwiliad neu arolygiad a gynhelir gan swyddog awdurdodedig, gan gynnwys un a gynhelir drwy sampl;

ystyr “ardystio” (“certification”) yw—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, ardystiad yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, ardystiad gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â'r Gyfarwyddeb;

a rhaid dehongli “ardystiedig” (“certified”) yn unol â hynny;

ystyr “Awdurdod Ardystio” (“Certification Authority”) yw'r awdurdod sy'n ymwneud ag ardystio tatws hadyd yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd;

ystyr “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw'r catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaeth o blanhigion amaethyddol a gyhoeddir yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd;

ystyr “categori” (“category”) yw'r categori o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig (neu, mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, y categorïau sydd ag effaith gyfatebol o dan ddeddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn unol â chytundeb masnach y Swistir);

ystyr “Cyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 12 Mawrth 2001 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau wedi eu haddasu'n enetig(3), fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at a chan gynnwys y rheini y rhoddir eu heffaith iddynt gan Reoliad (EC) Rhif 1830/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ynghylch olrheinedd a labelu organeddau a addaswyd yn enetig ac olrheinedd bwyd a chynhyrchion bwyd anifeiliaid a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig (4);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cytundeb masnach y Swistir” (“Swiss trade agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach mewn cynhyrchion amaethyddol(5), fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at ac yn cynnwys Penderfyniad y Comisiwn 2004/660/EC(6);

ystyr “dogfen swyddogol” (“official document”) yw—

(a)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n bodloni gofynion Rhan II o Atodlen 2; a

(b)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, dogfen a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cafodd y tatws hadyd eu cynhyrchu sy'n bodloni gofynion Erthygl 13(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “dosbarth” (“class”) yw—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, y dosbarth neu'r Radd Gymuned a benderfynir—

(i)

yn ystod ardystiad, neu

(ii)

o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd 1991(7), a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, y dosbarth neu'r radd, os oes un, a bennir ar y label swyddogol a osodir ar y pecyn neu'r cynhwysydd y deuir â'r tatws hadyd i mewn i Gymru ynddo neu a bennir mewn unrhyw ddogfen swyddogol sydd yn y pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw;

ac mae “dosbarthiad” (“classification”), “dosbarthu” (“classify”), “wedi'i ddosbarthu” (“classified”) ac ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964;

mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys Gradd Gymuned;

ystyr “Gradd Gymuned” (“Community Grade”) yw un o'r graddau o datws hadyd sylfaenol (gradd 1 EC, gradd 2 EC neu gradd 3 EC) a benderfynir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/17/EEC ar 30 Mawrth 1993 sy'n penderfynu graddau Cymuned tatws hadyd sylfaenol, ynghyd â'r amodau a'r dynodiadau sy'n gymwys i raddau o'r fath(8);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar farchnata tatws hadyd(9), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/66/EC dyddiedig 28 Ionawr 2003(10) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2003/61/EC dyddiedig 18 Mehefin 2003(11);

ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw—

(a)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan y Cynulliad Cenedlaethol nas defnyddiwyd o'r blaen sy'n bodloni gofynion Rhan II o Atodlen 2; a

(b)

ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, label a ddyroddir neu a gymeradwyir gan yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws hadyd sy'n bodloni gofynion, yn ôl y priodoldeb i'r tatws hadyd y mae'r label yn cyfeirio atynt, Erthygl 13(1)(a) neu Erthygl 18(f) o'r Gyfarwyddeb neu Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC dyddiedig 1 Rhagfyr 2004 ynghylch gweithredu rheolau sy'n galluogi Aelod-wladwriaethau i awdurdodi rhoi ar y farchnad had o amrywogaethau y cafodd cais i'w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol ei gyflwyno(12);

ystyr “lot” (“lot”) at ddibenion rheoliadau 6(2) a (3) a 10 yw llwyth neu ran y gellir ei adnabod o lwyth sydd wedi ei gofnodi a'i gofrestru fel eitem ar wahân mewn anfoneb, nodyn danfon neu ddogfen arall a ddarperir yn unol â rheoliad 16;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir neu adeilad, ac eithrio tŷ annedd preifat, ac unrhyw adeiledd sefydlog neu symudol, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad neu gynhwysydd llwyth;

ystyr “marchnata” (“marketing”) yw—

(a)

gwerthu, dal gafael ar gyda golwg ar werthu neu gynnig ar werth; a

(b)

unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo at ddibenion defnydd masnachol o datws hadyd gyda thrydydd partïon,

p'un ai am gydnabyddiaeth ai peidio ac at y dibenion hyn nid yw “defnydd masnachol” (“commercial exploitation”) i'w ddeall fel petai'n cynnwys cyflenwi tatws hadyd i gyrff arolygu a phrofi swyddogol, na chyflenwi tatws hadyd i unrhyw berson at ddibenion eu prosesu na'u pecynnu cyn belled ag nad yw'r person hwnnw yn ennill hawl i'r tatws hadyd a gyflenwir; ac mae “marchnata” (“marketing”), “wedi'i farchnata” (“marketed”) ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

ystyr “pecyn neu gynhwysydd” (“package or container”) yw—

(a)

unrhyw becyn na chafodd ei ddefnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben ac y mae modd ei gau a'i selio; neu

(b)

unrhyw gynhwysydd na chafodd ei ddefnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben, neu unrhyw gynhwysydd sydd, ers iddo gael ei ddefnyddio o'r blaen, wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio cyn belled a bod rhaid i ddefnyddio unrhyw gynhwysydd o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu” (“protected region”) yw sir Cumbria, heb gynnwys dosbarthiadau Barrow-in-Furness a De Lakeland, a sir Northumberland, heb gynnwys dosbarthiadau Blyth Valley a Wansbeck;

ystyr “Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“Food and Feed Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi ei addasu'n enetig(13);

ystyr “Rhestr Genedlaethol” (“National List”) yw rhestr o amrywogaethau o rywogaethau tatws sydd wedi ei pharatoi a'i chyhoeddi—

(a)

yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(14); neu

(b)

gan Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol(15) fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol neu berson a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn;

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu ran ohoni neu unrhyw blanhigyn Solanum tuberosum L. neu ran ohono neu unrhyw rywogaeth arall sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw o Solanum L.;

ystyr “tatws hadyd” (“seed potatoes”) yw—

(a)

tatws sy'n dwyn y disgrifiad hwnnw neu unrhyw ddisgrifiad sy'n dynodi eu haddasrwydd ar gyfer eu plannu a'u lluosogi ac y mae modd eu defnyddio i'w plannu a'u lluosogi; neu

(b)

unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i'w plannu a'u lluosogi;

ystyr “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru” (“seed potatoes produced outside Wales”) yw—

(a)

tatws hadyd a gynhyrchir yn unrhyw rhan o Ynysoedd Prydain ac eithrio Cymru;

(b)

tatws hadyd a gynhyrchir yn unrhyw Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig; neu

(c)

tatws hadyd a gynhyrchir yn Swistir;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws ac eithrio tatws hadyd ac a ardystiwyd fel tatws hadyd ardystiedig yn unol â rheoliad 9; ac

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sydd yn datws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd ardystiedig yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tatws hadyd cyn-sylfaenol” (“pre-basic seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd sylfaenol ac a ardystiwyd fel tatws cyn-sylfaenol yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sy'n datws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol yn unol ag Erthygl 18(f) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu” (“test and trial seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd y Cynulliad Cenedlaethol eu marchnata at ddibenion profi a threialu yn unol â rheoliad 8; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol yn unol ag Erthygl 9 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC.

ystyr “tatws hadyd sylfaenol” (“basic seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd ardystiedig ac a ardystiwyd fel tatws hadyd sylfaenol yn unol â rheoliad 9; a

(b)

o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, tatws hadyd y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru mewn pecyn neu gynhwysydd sy'n dwyn label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol yn unol ag Erthygl 13(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;

ystyr “tystysgrif cnwd sy'n tyfu” (“growing crop certificate”) yw—

(a)

tystysgrif cnwd sy'n tyfu a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 1;

(b)

tystysgrif tatws hadyd cyn-sylfaenol a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991;

(c)

tystysgrif tatws hadyd sylfaenol a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991; neu

(ch)

tystysgrif tatws hadyd ardystiedig a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau Tatws Hadyd 1991;

y mae i “wedi'i addasu'n enetig” yr un ystyr ag sydd i “genetically modified” yn y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

(2O ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Swistir, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y Gyfarwyddeb neu at Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC neu unrhyw ddarpariaeth o'u mewn i'w ddehongli fel cyfeiriad at fod deddfwriaeth Cydffederasiwn y Swistir yn cael effaith gyfatebol yn unol â chytundeb masnach y Swistir.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at oddefiant o ran tatws hadyd sy'n ffurfio sampl i gael ei ddehongli—

(a)o ran goddefiant at unrhyw glefyd, pla neu ddifrod a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad at gyfrannedd pwysau'r tatws hadyd yn y sampl yr effeithir arnynt gan y clefyd, y pla neu'r difrod, neu gan unrhyw gyfuniad o'r clefyd, y pla neu'r difrod hwnnw, mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi mewn canran;

(b)o ran goddefiant at faw neu fater allanol arall a bennir yn Atodlen 3, fel cyfeiriad a gyfrannedd pwysau mater o'r fath mewn perthynas â phwysau cyfan yr holl sampl, wedi ei fynegi mewn canran; ac

(c)o ran goddefiant at wyriad neu glefyd a bennir yn y tablau yn Atodlen 4, fel cyfeiriad at nifer y planhigion o datws hadyd yr effeithir arnynt gan y gwyriad neu'r clefyd mewn perthynas â chyfanswm nifer y planhigion yn y sampl, wedi ei fynegi mewn canran.

(4At ddibenion Atodlen 1, mae i “uned amaethyddol” yr ystyr a roddir i'r ymadrodd “agricultural unit” yn adran 109(2) o Ddeddf Amaeth 1947(16).

(5Mae i ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nas diffinnir yn y rheoliad hwn neu mewn man arall yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yn y Gyfarwyddeb neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb neu yn y Penderfyniad hwnnw.

Tatws hadyd nad yw'r rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i datws hadyd a fwriedir ar gyfer eu hallforio i unrhyw wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.

Marchnata tatws hadyd

4.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol;

(b)tatws hadyd sylfaenol;

(c)tatws hadyd ardystiedig;

(ch)tatws hadyd gwyddonol a rhai i'w dethol; neu

(d)tatws hadyd i'w profi a'u treialu.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd a gafodd eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel eli i lesteirio eginiad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “tatws hadyd gwyddonol a rhai i'w dethol” (“scientific and selection seed potatoes”) yw tatws hadyd—

(a)o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd y Cynulliad Cenedlaethol eu marchnata yn unol â rheoliad 7; a

(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, sydd yn datws hadyd yr awdurdododd yr Awdurdod Ardystio yn y wlad neu'r diriogaeth lle cynhyrchwyd y tatws eu marchnata yn unol ag Erthygl 6(1)(a) o'r Gyfarwyddeb.

Marchnata yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu

5.  Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd o fewn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu ac eithrio—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol; neu

(b)tatws hadyd sylfaenol sydd wedi cael eu graddio gyda Gradd Gymuned ac sy'n bodloni gofynion Penderfyniad y Comisiwn 2004/3/EC dyddiedig 19 Rhagfyr 2003 yn awdurdodi, o ran marchnata tatws hadyd yn y cyfan o diriogaeth Aelod-wladwriaethau penodol, neu mewn rhan ohono, fesurau llymach yn erbyn clefydau penodol nag a ddarperir ar eu cyfer yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC(17).

Maint tatws hadyd

6.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio tatws hadyd o ddosbarth TC cyn-sylfaenol onid yw lleiafswm eu maint yn eu rhwystro rhag mynd drwy rwyll sgwâr 25 o filimetrau x 25 o filimetrau.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd mewn lot pan fo mwyafswm yr amrywiad rhwng cloron yn gyfryw a bod y gwahaniaeth rhwng y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir yn fwy na 25 o filimetrau.

(3Mae gofynion paragraff (2) i gael eu trin fel petaent wedi eu bodloni cyhyd ag nad oes mwy na thri y cant o bwysau cyfan y cloron yn y lot yn cynnwys—

(a)cloron sy'n llai na'r maint lleiaf a ganiateir; neu

(b)cloron sy'n fwy na'r maint mwyaf a ganiateir.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “y maint lleiaf a ganiateir” (“the lower size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen leiaf drwyddi; ac

(b)ystyr “y maint mwyaf a ganiateir” (“the upper size limit”) yw mesuriadau sgwâr mwyaf y rhwyll nad elo'r gloronen fwyafa drwyddi;

(5Pan fo'n ofynnol datgan maint tatws hadyd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid datgan—

(a)mesuriadau sgwariau'r rhwyll nad elo'r cloron drwyddi, pan mai'r un yw'r maint lleiaf a ganiateir â'r maint mwyaf a ganiateir; neu

(b)y maint lleiaf a ganiateir a'r maint mwyaf a ganiateir pan fo'r rhain yn wahanol i'w gilydd.

(6At ddibenion paragraff (5), mae mesuriadau o fwy na 35 o filimetrau i gael eu datgan at y pum milimetr agosaf.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion gwyddonol neu waith dethol

7.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd fesul ychydig at ddibenion gwyddonol neu waith dethol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata tatws hadyd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu'n enetig oni bai bod awdurdodiad mewn grym o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(3Rhaid i gais am awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Marchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol awdurdodi marchnata tatws hadyd ar gyfer profion neu dreialon ar fentrau amaethyddol er mwyn casglu gwybodaeth ar drin neu ddefnyddio amrywogaeth o rywogaeth o datws yn unol â'r rheoliad hwn ac ag Atodlen 5.

(2Rhaid i gais am awdurdodiad neu i adnewyddu awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â pharagraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag awdurdodi marchnata—

(a)swm o datws hadyd sy'n fwy nag a ganiateir gan Erthygl 7 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC;

(b)tatws hadyd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd sydd wedi ei addasu'n enetig oni bai bod y deunydd hwnnw wedi ei awdurdodi o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid neu o dan Ran C o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(4Caiff awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1), neu adnewyddu awdurdodiad o'r fath, fod am gyfnod o flwyddyn neu am unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Wrth awdurdodi marchnata yn unol â pharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod yr amodau hynny ag y mae'n tybio eu bod yn angenrheidiol neu yn ddymunol o ystyried natur y profion neu'r treialon a natur y tatws hadyd y mae'r cais yn ymwneud â hwy gan gynnwys amod yn ymwneud â chadw cofnodion o ran marchnata'r tatws hadyd.

(6Mae awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol—

(a)pan fo'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) o Atodlen 5 yn cael ei dynnu'n ôl neu ei wrthod yn unol â'r Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001; neu

(b)bod yr amrywogaeth o rywogaeth y mae'r tatws hadyd y mae'r awdurdodiad yn ymwneud â hwy wedi ei gofnodi mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffrredin.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl unrhyw awdurdodiad a roddir yn unol â pharagraff (1) pan dorrir unrhyw amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5).

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r person a gafodd awdurdodiad yn unol â pharagraff (1) ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â—

(a)canlyniadau'r profion neu'r treialon y mae'r awdurdodiad yn ymwneud â nhw; neu

(b)symiau'r tatws hadyd a farchnatawyd yn ystod y cyfnod a awdurdodwyd ac enw'r Aelod-wladwriaeth lle bwriedir marchnata'r tatws hadyd.

Ardystio tatws hadyd

9.—(1Rhaid i ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i swyddog awdurdodedig ardystio bod tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru naill ai—

(a)yn datws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)yn datws hadyd sylfaenol, neu

(c)yn datws hadyd ardystiedig,

os yw gofnion paragraff (3) wedi'u bodloni.

(3Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod tystysgrif cnwd sy'n tyfu wedi cael ei dyroddi o ran y tatws hadyd; a

(b)o'u harchwilio'n swyddogol bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw'r tatws hadyd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn narpariaethau priodol Atodlen 3.

(4Rhaid i gais am ardystiad o datws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5At ddibenion paragraff (2), mae label swyddogol a ddyroddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn o ran tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol bod swyddog awdurdodedig wedi ardystio bod y tatws hadyd y mae'r label yn ymwneud â nhw yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol neu yn datws hadyd ardystiedig, yn ôl y digwydd.

Cyfansoddiad lotiau o datws hadyd

10.—(1Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol na thatws hadyd ardystiedig ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd—

(a)o un categori;

(b)o un amrywogaeth; ac

(c)o un dosbarth.

(2Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ac eithrio mewn lot a'i chynnwys yn gyfangwbl yn datws hadyd o un amrywogaeth;

(3At ddibenion y rheoliad hwn rhaid trin lot o datws hadyd fel petai ei chynnwys yn gyfangwbl o un amrywogaeth cyn belled â bod—

(a)o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, nad yw nifer y tatws hadyd yn y lot nad ydynt o'r wir amrywogaeth mewn perthynas â'r nifer cyfan o datws hadyd yn y lot—

(i)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol heb fod yn fwy na 0.01 y cant;

(ii)yn achos tatws hadyd sylfaenol heb fod yn fwy na 0.1 y cant; ac

(iii)yn achos tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu heb fod yn fwy na 0.2 y cant; ac

(b)o ran tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, bod y lot yn ddigon cydryw yn unol â'r safonau a osodir gan yr Awdurdod Ardystio yn unol â'r Gyfarwyddeb o ran marchnata'r tatws hynny.

Pecynnau a chynhwysyddion ar gyfer tatws hadyd

11.  Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata unrhyw datws hadyd ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd.

Labelu pecynnau a chynhwysyddion tatws hadyd

12.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)tatws hadyd sylfaenol,

(c)tatws hadyd ardystiedig, na

(ch)tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu,

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i labelu'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

(a)sydd â label swyddogol ynghlwm i'r tu allan iddo; ac

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sy'n cynnwys dogfen swyddogol.

(3Nid yw paragraff (2)(b) yn gymwys—

(a)pan fo'r manylion a bennir ym mharagraff 14 o Atodlen 2 wedi'u hargraffu'n annileadwy ar y pecyn neu'r cynhwysydd; neu

(b)pan fo'r label swyddogol o ddeunydd gludiog neu o ddeunydd sy'n gwrthsefyll traul.

(4Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am labelau swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Ar ôl iddo'i fodloni ei hun o'r canlynol yn unig y mae'r Cynulliad Cenedlaethol i ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

(a)bod y tatws hadyd yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol, yn datws hadyd ardystiedig neu'n datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu;

(b)mae'r tatws hadyd yn cydymffurfio â'r gofynion maint lleiaf a bennir yn rheoliad 6(1) ac nid yw'r amrywiad mwyaf mewn maint rhwng cloron yn fwy na'r hyn a bennir yn rheoliad 6(2);

(c)mae'r tatws hadyd wedi eu cynnwys mewn pecyn neu gynhwysydd;

(ch)nid yw'r tatws hadyd wedi cael eu trin â chynnyrch a gynhyrchir yn bennaf fel eli i lesteirio eginiad;

(d)cafodd y tatws hadyd eu cynaeafu, eu storio, eu cludo a'u trafod mewn modd sy'n lleihau hyd yr eithaf risg o halogiad drwy unrhyw un o'r clefydau neu'r plâu a bennir yn Atodlen 3;

(dd)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 18, nid yw'r tatws hadyd yn mynd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau, plâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y rhan briodol o Atodlen 3; ac

(e)ni fu unrhyw fethiant arall i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn o ran unrhyw un o'r tatws hadyd.

(6Os cafodd pecyn neu gynhwysydd ei ail selio gan swyddog awdurdodedig yn unol â rheoliad 13(4) rhaid i'r label swyddogol ddatgan—

(a)bod y pecyn neu'r cynhwysydd wedi cael ei ail selio felly;

(b)dyddiad yr ail selio; ac

(c)enw'r swyddog awdurdodedig fu'n gyfrifol am yr ail selio.

(7Pan fo unrhyw datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu wedi cael eu trin ag unrhyw gynnyrch cemegol, rhaid i fath a swyddogaeth neu enw priodol y cynnyrch hwnnw—

(a)fod wedi ei ddatgan ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn neu'r cynhwysydd; a

(b)naill ai—

(i)fod wedi ei ddatgan ar ddogfen sydd yn y pecyn neu'r cynhwysydd; neu

(ii)fod wedi ei ddatgan yn annileadwy ar y pecyn neu'r cynhwysydd;

(8At ddibenion adran 16(7)(a) o'r Ddeddf, ni ellir dal fod gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywogaeth o datws hadyd a geir mewn datganiad statudol yn gamarweiniol mewn manylyn perthnasol yn unig am ei fod yn gamarweiniol—

(a)yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, o ran dim mwy na 0.01 y cant o'r tatws hadyd;

(b)yn achos tatws hadyd sylfaenol, o ran dim mwy na 0.1 y cant o'r tatws hadyd; ac

(c)yn achos tatws hadyd ardystiedig a thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu, o ran dim mwy na 0.2 y cant o'r tatws hadyd.

(9Ac eithrio yn unol â gofynion y Ddeddf, y Rheoliadau hyn neu Orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(18), rhaid i berson beidio, mewn cysylltiad â marchnata unrhyw datws hadyd, neu mewn cysylltiad â'u paratoi at y farchnad, mynd ati'n fwriadol i atgynhyrchu, symud ymaith, altro, difwyno, cuddio neu gamdrin mewn unrhyw fodd unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu unrhyw label sydd ynghlwm neu ddogfen a gyflenwir yn unol â pharagraff (2).

Selio pecynnau a chynhwysyddion

13.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 17, rhaid i berson beidio â marchnata—

(a)tatws hadyd cyn-sylfaenol,

(b)tatws hadyd sylfaenol,

(c)tatws hadyd ardystiedig, na

(ch)tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu,

ac eithrio mewn pecyn neu gynhwysydd wedi ei selio'n briodol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr pecyn neu gynhwysydd wedi'i selio'n briodol yw pecyn neu gynhwysydd—

(a)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, pecyn neu gynhwysydd caeëdig sydd wedi cael ei selio â dyfais selio nas torrwyd, gan swyddog awdurdodedig neu dan ei oruchwyliaeth; a

(b)ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru, pecyn neu gynhwysydd caeëdig sydd wedi cael ei selio yn unol ag Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dyfais selio” (“sealing device” ) yw dyfais a gymhwyswyd i'r pecyn neu'r cynhwysydd yn y fath fodd fel y bydd yn cael ei thorri pan agorir y pecyn neu'r cynhwysydd.

(4Pan fo dyfais selio ar becyn neu gynhwysydd wedi ei thorri, rhaid peidio ag ail selio'r pecyn neu'r cynhwysydd â dyfais selio ac eithrio gan swyddog awdurdodedig neu o dan ei oruchwyliaeth.

Dull adnabod tatws hadyd sydd wedi cael eu haddasu'n enetig

14.  Rhaid i berson beidio â marchnata tatws hadyd sydd wedi eu haddasu'n enetig oni bai—

(a)y dangosir yn glir mewn unrhyw wybodaetrh farchnata, gan gynnwys unrhyw gatalog gwerthu neu sylwadau marchnata eraill a ddarperir gan y person sy'n gwerthu'r tatws hadyd, bod y tatws hadyd wedi cael eu haddasu'n enetig; a

(b)bod unrhyw label swyddogol neu ddogfen swyddogol, neu label neu ddogfen arall sydd ynghlwm wrth, sy'n mynd gyda neu sy'n ymwneud â'r tatws hadyd yn dangos yn glir eu bod wedi cael eu haddasu'n enetig.

Tatws hadyd o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd: gwybodaeth

15.  Rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata mwy na dau gilogram o datws hadyd a fewnforiwyd i Gymru o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig ac o fewn mis i farchnata'r tatws am y tro cyntaf, y manylion a bennir yn Atodlen 6.

Manylion ar wahân

16.  Yn ddarostyngedig i rheoliad 17, rhaid i berson sy'n gwerthu tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd sydd i'w profi a'u treialu ddyroddi i'r prynwr, dim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y gwerthiant, neu os nad yw'r tatws hadyd yn cael eu danfon ar adeg y gwerthiant, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl eu danfon, nodyn gwerthiant, nodyn danfon, anfoneb neu ddogfen gyffelyb yn pennu, o ran y tatws hadyd, y manylion a bennir yn Atodlen 7.

Manwerthiannau o datws hadyd

17.  Nid yw Rheoliadau 11, 12, 13 a 16 yn gymwys i werthiant o lai na 50 o gilogramau o datws hadyd—

(a)mewn amgylchiadau pan ddangosir yn amlwg ar adeg y gwerthiant ar label sydd ynghlwm wrth becyn sy'n cynnwys y tatws hadyd, neu ar ddogfen neu hysbysiad a osodir gerllaw y tatws hadyd, ddatganiad o'r manylion a bennir yn Atodlen 7; neu

(b)mewn cynhwysyddion heb gael eu defnyddio o'r blaen at unrhyw ddiben sydd â'r manylion a bennir yn Atodlen 7 wedi eu hargraffu neu wedi eu marcio yn ddealladwy ac yn annileadwy mewn modd arall arnynt neu y ceir ynghlwm wrth neu o fewn pob un ohonynt label a farciwyd â'r manylion hynny.

Samplu tatws hadyd

18.—(1Rhaid i sampl o datws hadyd a gymerir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i sampl sy'n ofynnol—

(a)at unrhyw ddiben mewn cysylltiad ag ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, neu

(b)at unrhyw ddiben arall,

gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig ac, yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo fod o'r swmp neu'r nifer a ffurfio'r cyfryw ran neu rannau o'r cnwd sy'n tyfu neu sydd wedi eu gynaeafu ag sy'n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.

(3Pan fo sampl yn ofynnol o dan baragraff (2)(b) ac mae crynswth y tatws hadyd y dyroddwyd tystysgrif cnwd sy'n tyfu iddynt yn datws hadyd—

(a)sy'n ffurfio mwy nag un llwyth, neu

(b)sy'n gysylltiedig â mwy nag un tystysgrif cnwd sy'n tyfu,

mae'n rhaid ei rannu fel bod pob llwyth neu, yn ôl y digwydd, swmp y tatws sy'n gysylltiedig â phob tystysgrif cnwd sy'n tyfu yn ffurfio lot ar wahân a rhaid, os oes angen, samplu pob lot ar wahân.

Cadw cofnodion

19.—(1Rhaid i berson sy'n cynhyrchu tatws hadyd y bwriedir eu marchnata gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o bryniant y tatws hadyd y cynhyrchwyd y tatws hadyd hynny ohonynt ac o fanylion y cnydau a dyfwyd.

(2Rhaid i berson sy'n marchnata tatws hadyd gadw cofnodion am gyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd o'i farchnata ar datws hadyd o'r fath.

Gorfodi — pwerau i archwilio ac i fynnu cyflwyno

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig gynnal archwiliad a chymryd samplau o datws hadyd ac arolygu a chymryd copïau o ddogfennau perthnasol at ddibenion sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn.

(2At ddibenion y rheoliad hwn rhaid i berson ganiatáu, ar unrhyw amser rhesymol, i swyddog awdurdodedig—

(a)archwilio a chymryd samplau o datws hadyd sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth; a

(b)archwilio a chymryd copïau o unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth;

(3At ddibenion y rheoliad hwn caiff swyddog awdurdodedig drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i berson ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)gyflwyno unrhyw datws hadyd neu unrhyw ddogfen berthnasol neu sicrhau eu bod ar gael; neu

(b)darparu gwybodaeth y mae'n ymwybodol ohoni neu'n ei chredu mewn cysylltiad â chynhyrchu, ardystio neu farchnata'r tatws hadyd.

(4Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo yn unol â pharagraff (3) gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw o fewn saith niwrnod i'w gyflwyno neu o fewn unrhyw gyfnod hwy o amser a bennir yn yr hysbysiad.

(5At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw dystysgrif cnwd yn tyfu, label swyddogol, dogfen swyddogol, dogfen neu label arall, neu gofnod neu anfoneb sy'n ymwneud â phlannu, cynhyrchu, ardystio neu farchnata tatws hadyd.

Gorfodi — pwer i dynnu'n ôl labelau swyddogol, dogfennau swyddogol a thystysgrifau cnwd yn tyfu

21.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol—

(a)pan fo wedi'i fodloni fod y tatws hadyd y mae'r label swyddogol neu'r ddogfen swyddogol yn ymwneud â nhw—

(i)heb gael eu cynaeafu, eu storio, eu cludo neu eu trafod mewn modd sy'n lleihau hyd yr eithaf y risg o halogiad gan unrhyw un o'r clefydau neu'r plâu a bennir yn Atodlen 3;

(ii)yn ôl sampl a gymerir yn unol â rheoliad 18, yn mynd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau, plâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn y rhan briodol o Atodlen 3; neu

(iii)mewn modd arall yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn; neu

(b)pan fo wedi'i fodloni bod y label swyddogol neu'r ddogfen swyddogol yn cynnwys unrhyw fanylyn sy'n anwir mewn mater perthnasol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl dystysgrif cnwd yn tyfu pan fo wedi'i fodloni—

(a)nad oes, neu nad oes bellach, gydymffurfiaeth â gofynion Atodlen 1; neu

(b)bod y dystysgrif cnwd sy'n tyfu yn cynnwys unrhyw fanylyn sy'n anwir mewn mater perthnasol.

(3Pan dynnir yn ôl label swyddogol neu ddogfen swyddogol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii), caiff y tatws hadyd y cymerwyd y sampl ohonynt fod yn ddarostyngedig i archwiliad swyddogol er mwyn penderfynu a oes unrhyw rai ohonynt nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

(4Pan gynhelir archwiliad swyddogol yn unol â pharagraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi label swyddogol neu ddogfen swyddogol mewn perthynas â'r tatws hadyd hynny y canfyddir nad ydynt yn mynd dros ben y goddefiannau a bennir yn Atodlen 3.

(5Pan dynnir yn ôl label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu yn unol â'r rheoliad hwn, caiff swyddog awdurdodedig—

(a)symud ymaith a chadw'r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd sy'n tyfu; neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'r label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd yn tyfu yn ei feddiant ei ddanfon i'r swyddog awdurdodedig o fewn amser y caiff y swyddog awdurdodedig ei bennu.

(6Rhaid i berson sydd â label swyddogol, dogfen swyddogol neu dystysgrif cnwd yn tyfu ac a gafodd ei thynnu'n ôl yn unol â'r rheoliad hwn yn ei feddiant neu dan ei reolaeth—

(a)ganiatáu i swyddog awdurdodedig symud ymaith y label swyddogol, y ddogfen swyddogol neu'r dystysgrif cnwd yn tyfu yn unol â pharagraff (5)(a); a

(b)cydymffurfio ag unrhyw beth a wnaed yn ofynnol yn unol â pharagraff (5)(b).

Cyflwyno hysbysiadau

22.—(1At ddibenion rheoliad 20(3), bernir bod hysbysiad wedi cael ei gyflwyno i unrhyw berson os caiff ei ddanfon ato'n bersonol neu os caiff ei adael iddo yn ei gartref neu yn ei fan gwaith hysbys diwethaf neu ei anfon drwy'r post mewn llythyr wedi ei gyfeirio ato yno.

(2Caiff hysbysiad ei chyflwyno—

(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw;

(b)yn achos partneriaeth gan gynnwys partneriaeth Albanaidd (ac eithrio partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd), i bartner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth; neu

(c)yn achos partneriaeth gyfyngedig ei hatebolrwydd, i aelod o'r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth honno,

ac at ddibenion y paragraff hwn prif swyddfa cwmni sy'n gofrestredig y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy'n cyflawni busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

Diwygio darpariaethau'r Ddeddf

23.—(1Mewn cysylltiad â darpariaethau'r Rheoliadau hyn addesir neu eithrir gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Addesir adran 25(19) megis at ddibenion yr adran honno bod unrhyw gyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at “premises” (“mangre”) fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn a bod unrhyw gyfeiriad at is-adran sy'n cynnwys cyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at yr is-adran honno wedi ei haddasu felly.

(3Addesir adran 25(1) megis petai'r cyfeiriad at is-adran (4) o'r adran honno yn gyfeiriad at yr is-adran fel y'i haddaswyd gan ddarpariaeth paragraff (4).

(4Yn adran 25(4) hepgorer y geiriau o “potatoes” (pan fo'n digwydd gyntaf) i'r diwedd.

(5Yn adran 26, hepgorer adrannau (2), (4), (5), (6), (7), (8) a (9) .

Dirymiadau

24.  Dirymir y rheoliadau yn Atodlen 8 o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(20).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Rheoliodau 2(1), 21(2) ac Atodlen 4

ATODLEN 1TYSTYSGRIFAU CNWD SY'N TYFU

RHAN I

Cyffredinol

1.  Pan gaiff gais i ardystio unrhyw datws hadyd, rhaid i swyddog awdurdodedig—

(a)dyrannu i'r person sy'n gwneud cais o'r fath rif sydd i'w alw yn “Rhif adnabod y cynhyrchydd” (pan na fo un eisoes yn bod i'r person hwnnw);

(b)ar ôl archwiliad swyddogol, benderfynu yn unol â'r Atodlen hon ac Atodlen 4 ym mha gategorïau y mae modd marchnata'r tatws hadyd; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 11, dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu yn unol â pharagraff 2.

2.  Rhaid i dystysgrif cnwd sy'n tyfu ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)y categorïau a'r dosbarthiadau y penderfynodd y swyddog awdurdodedig fod modd marchnata'r tatws hadyd ynddynt yn unol â pharagraff 1(b);

(c)enw'r uned amaethyddol y tyfwyd y cnwd arno;

(ch)Rhif adnabod y cynhyrchydd;

(d)y dyddiad pan gafodd y cnwd sy'n tyfu ei arolygu;

(dd)amrywogaeth y tatws hadyd;

(e)ardal y tatws hadyd;

(f)lleoliad y cae lle tyfwyd y tatws hadyd.

3.  Ni ddyroddir tystysgrif cnwd sy'n tyfu ond pan fo swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni o ran y tatws hadyd a arolygwyd ganddo ef—

(a)bod y tatws hadyd o amrywogaeth o rywogaeth o datws sydd wedi ei gofnodi mewn Rhestr Genedlaethol neu yn y Catalog Cyffredin;

(b)bod y tatws hadyd mewn unrhyw un cnwd o un amrywogaeth;

(c)bod y tatws hadyd wedi'u cymryd o gnwd sy'n iach o'r clefydau neu'r plâu a ganlyn—

(i)Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.);

(ii)Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);

(iii)Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. Sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.);

(iv)Y Gafod Lwyd (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.);

(v)Firoid y Gloronen Bigfain;

(vi)Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say)); a

(vii)Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne));

(ch)nid yw'r tir y mae'r tatws hadyd yn tyfu arno neu lle tyfwyd hwy yn dir a ddynodwyd o dan Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(21) fel tir a halogwyd gan Glefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) neu sydd o fewn parth diogelwch sydd wedi ei ddynodi o dan Gorchymyn hwnnw;

(d) nid yw neu ni fu bylchu'n eithafol yn unman yn y cnwd sy'n tyfu;

(dd)ni chafodd y cnwd sy'n tyfu ei chwynu'n ormodol; ac

(e)cymerwyd pob cam rhesymol mewn hwsmonaeth yn effeithiol er mwyn atal plâu a heintiau rhag digwydd, datblygu nac ymledu.

RHAN II

Tatws hadyd cyn-sylfaenol

4.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw dosbarth oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

(a)oni chawsant eu tyfu mewn cyfrwng di-bridd, bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd swyddogol a wnaed cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws); ac os canfyddwyd llyngyr tatws ar y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd—

(i)nad yw'r tir bellach wedi'i ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi'i heintio â llyngyr tatws;

(ii)bod chwe blynedd wedi mynd heibio ers y canfyddiad pendant diwethaf fod y tir wedi'i heintio â llyngyr tatws;

(iii)ac eithrio fel yr awdurdodir o dan baragraff 5 o Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006, na chafodd y tir ei ddefnyddio i dyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 11 o flynyddoedd yn union cyn plannu'r cnwd; a

(b)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir na chafodd ei ddefnyddio i dyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.

5.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o'r dosbarth TC cyn-sylfaenol oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni nad yw'r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)planhigion o amrywogaeth wahanol; neu

(b)planhigion sydd wedi eu heffeithio gan firws cymhedrol neu ddifrifol.

6.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn sylfaenol o ddosbarth cyn- sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 na chyn- sylfaenol 4 oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, nad yw'r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)mwy na 0.01 y cant yn ôl Rhif y planhigion sy'n tyfu yn amrywio o'u hamrywogaeth a'u math; neu

(b)mwy na 0.01 y cant yn ôl Rhif y planhigion sy'n tyfu sy'n arddangos symtomau o heintiau firws sydd naill ai'n gymhedrol neu'n ddifrifol pan fo'r symptomau hynny i'w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.

RHAN III

Tatws hadyd sylfaenol

7.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

(a)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd swyddogol a wnaed cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws); ac os canfyddwyd llyngyr tatws ar y tir hwnnw ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd—

(i)nad yw'r tir bellach wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi'i heintio â llyngyr tatws;

(ii)bod chwe blynedd wedi mynd heibio ers y canfyddiad pendant diwethaf fod y tir wedi'i heintio â llyngyr tatws; a

(iii)ac eithrio fel yr awdurdodir o dan baragraff 5 o Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006, na chafodd y tir ei ddefnyddio i dyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 11 o flynyddoedd yn union cyn plannu'r cnwd; a

(b)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir na chafodd ei ddefnyddio i dyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.

8.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)dim mwy na 0.25 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i'w hamrywogaeth a dim mwy na 0.1 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sydd o amrywogaeth wahanol; a

(b)dim mwy na 4 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n arddangos symptomau, ac eithrio symptomau ysgafn, o heintiau firws naill ai gymhedrol neu ddifrifol sydd fwyaf cyffredin yn Ewrop pan fo'r symptomau hynny i'w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.

RHAN IV

Tatws hadyd ardystiedig

9.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig yn achos tatws hadyd sydd yn tyfu neu a dyfwyd yn y rhanbarth sydd wedi'i ddiogelu.

10.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni—

(a)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd swyddogol a wnaed cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r llyngyr tatws; a

(b)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir na chafodd ei ddefnyddio i dyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o bedair blynedd yn union cyn plannu'r cnwd hwnnw.

11.  Rhaid peidio â dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws fel tatws hadyd ardystiedig oni bai, ym marn y swyddog awdurdodedig, bod y cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o'r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)dim mwy na 0.5 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i'w hamrywogaeth a dim mwy na 0.2 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sydd o amrywogaeth wahanol; a

(b)dim mwy na 10 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n tyfu sy'n dangos symptomau, ac eithrio symptomau ysgafn, o glefydau firws difrifol sy'n gyffredin yn Ewrop pan fo'r symptomau hynny i'w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol (cyn belled â bod heintiau amryliw (“mosaics”) sy'n peri bod deilen yn arddangos gwahanol liwiau ond nad yw'n peri anffurfio'r ddeilen i gael eu hanwybyddu)

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2LABEL SWYDDOGOL A DOGFEN SWYDDOGOL

RHAN ILabel Swyddogol

1.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

2.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod wedi ei liwio'n wyn.

3.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod wedi ei liwio'n las.

4.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.

5.  Rhaid i label swyddogol fesur dim llai na 110 o filimetrau x 67 o filimetrau.

6.  Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol, mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â nhw, ddatgan y manylion a ganlyn—

(a)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfodd neilltuol;

(b)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;

(c)mis a blwyddyn ei selio;

(ch)y rhywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig, o dan ei enw botanegol, y gellir ei roi mewn ffurf dalfyredig ac heb enwau'r awduron, neu o dan ei enw cyffredin, neu'r ddau;

(d)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig; a

(dd)y disgrifiad “tatws hadyd cyn-sylfaenol”.

7.  Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig—

(a)cynnwys y datganiad “Rheolau a Safonau'r UE”; a

(b)mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—

(i)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfoddau;

(ii)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;

(iii)mis a blwyddyn ei selio;

(iv)yr amrywogaeth, wedi ei ddangos o leiaf yn yr wyddor rufeinig;

(v)y wlad lle'u cynhyrchwyd;

(vi)y categori;

(vii)ar gyfer tatws hadyd sylfaenol, y Radd Gymuned (os yn briodol);

(viii)y maint; a

(ix)y pwysau net.

8.  Rhaid i label swyddogol ar gyfer tatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu—

(a)cynnwys y datganiadau “amrywogaeth nas rhestrwyd eto” ac “ar gyfer profi a threialu'n unig”; a

(b)mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan y manylion a ganlyn—

(i)yr Awdurdod Ardystio a'r Aelod-wladwriaeth neu eu byrfodd neilltuol;

(ii)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;

(iii)mis a blwyddyn ei selio;

(iv)y rhywogaeth;

(v)dynodiad yr amrywogaeth y mae'r tatws hadyd i gael eu marchnata odditano (a eill fod yn gyfeirnod y bridiwr, y dynodiad arfaethedig neu'r dynodiad a gymeradwywyd);

(vi)y cyfeirnod mewn perthynas â'r cais a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001 ar gyfer derbyn yr amrywogaeth dan sylw i Restr Genedlaethol;

(vii)y maint; a

(viii)y pwysau net.

9.  Heb iddo leihau effaith paragraffau 1 i 8, caiff label swyddogol gynnwys datganiadau pellach o'r fath—

(a)sy'n angenrheidiol neu y caniateir eu cynnwys mewn label swyddogol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau hyn neu yng Ngorchymyn Iechyd (Cymru) 2006; neu

(b)ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn briodol.

RHAN IIDogfen swyddogol

10.  Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd cyn-sylfaenol fod wedi ei lliwio'n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

11.  Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu fod wedi ei liwio'n oren.

12.  Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd sylfaenol fod yn wyn yn bennaf.

13.  Rhaid i ddogfen swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â thatws hadyd ardystiedig fod yn las yn bennaf.

14.  Rhaid i ddogfen swyddogol,mewn perthynas â'r tatws hadyd y mae'n ymwneud â hwy, ddatgan—

(a)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot;

(b)mis a blwyddyn ei selio; a

(c)y wlad lle'u cynhyrchwyd.

Rheoliad 2(3), 9(3), 12(5) a 21(1)(3) a (4)

ATODLEN 3CLEFYDAU NEU BLÅU, DIFROD A DIFFYGION A GODDEFIANNAU PENODEDIG

RHAN ITatws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth TC cyn-sylfaenol a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1Colofn 2
Clefydau neu blâu, difrod a diffygionGoddefiannau unigol
GRŵP I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.)Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.)Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.)Dim
Firoid y Gloronen BigfainDim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say))Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)Dim
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau)Dim
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)Dim
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y ManbantDim
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium )Dim
Y Madredd (rhywogaeth Phoma )Dim
Cloron a ddifrodwyd gan rewDim
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis)Dim
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn)Dim
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)Dim
GRŵP V
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.)Dim
GRŵP VI
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron heintiedig, â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth3.0%
GRŵP VII
Baw neu sylwedd estronol arall1.0%

RHAN IITatws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth cyn-sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 neu gyn-sylfaenol 4 a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygionGoddefiannau unigolGoddefiannau GrŵpGoddefiannau Grŵp Cyfunol
GRŵP I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.)Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws)Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. Sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.)Dim
Y Gafod Lwyd (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.)Dim
Firoid y Gloronen BigfainDim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say))Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)0.2%
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau)Dim))
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)0.2%))
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant0.2%) 0.2%)
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium )0.2%))
Y Madredd (rhywogaeth Phoma)0.2%))
Cloron a ddifrodwyd gan rew0.2%))
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis)0.2%)) 4.0%
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn)1.0%) 3.0%)
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)3.0%))
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.
GRŵP V
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.)1.0%))
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.
GRŵP VI
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron heintiedig, â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth1.0%
Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws YDim
GRŵP VII
Baw neu sylwedd estronol arall1.0%

RHAN IIITatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Column 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygionGoddefiannau unigolGoddefiannau GrŵpGoddefiannau Grŵp Cyfunol
GRŵP I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.)Dim
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws)Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.)Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.)Dim
Firoid y Gloronen Bigfain;Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say))Dim
GRŵP II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)1.0%))
Pydredd Du'r Coesyn (Erwinia carotovora (Jones) Bergey et al. spp. atroseptica (Hellmers & Dowson) Dye neu Erwinia chrysanthemi Burkholder et al. neu'r ddau)1.0%))
Pydreddau Meddal gan gynnwys Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)1.0%) 1.0%)
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a phydredd y Manbant1.0%))
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium)1.0%))
Y Madredd (rhywogaeth Phoma )1.0%))
Cloron a ddifrodwyd gan rew1.0%))
Cyn belled o ran tatws hadyd o Radd Gymuned ag nad yw'r goddefiannau unigol a restrir yng ngholofn 2 a'r goddefiannau grŵp a restrir yng ngholofn 3 yn fwy na 0.5%.
GRŵP III
Brychni'r Croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M. B. Ellis)0.5% ac eithrio dosbarthiadau A ac CC;))
2.0% ar gyfer dosbarthiadau A ac CC yn unig
Y Crach Llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr.) Legerh.)3.0%) 4.0%) 4.0%
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag o leiaf yr wythfed ran o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd (ac eithrio pan fo'r crach llychlyd yn ei ffurf ganseraidd).
GRŵP IV
Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn)3.0%))
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio o ran dosbarth A a dosbarth CC a llai na'r wythfed ran o ran pob dosbarth arall wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)4.0%))
Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy'n gyfangwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai na chwarter o'u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd.
GRŵP V
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws Y2.0% 0.1%2.0%)
GRŵP VI
Baw neu sylwedd estronol arall1.0%

RHAN IVTatws hadyd sydd i'w profi a'u treialu

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Clefydau neu blâu, difrod a diffygionGoddefian nau unigolGoddefian nau Cyfunol
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim
Llyngyr tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws)Dim
Pydredd y Meinwe (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al.)Dim
Y Gafod Lwyd Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.)Dim
Firoid y Gloronen Bigfain;Dim
Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say))Dim
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.)Dim
Baw neu sylwedd estronol arall2.0%
Pydredd sych a phydredd gwlyb, ac eithrio os achosir hwy gan Synchytrium endobioticum Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. Sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al. neu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.1.0%)
Diffygion allanol neu gloron, ac eithrio cloron â'u siâp heb fod yn nodweddiadol o'r rhywogaeth3.0%) 6.0%
Y Crach Cyffredin: cloron yr effeithiwyd arnynt dros fwy na thraean o'u harwynebedd5.0%)

Rheoliad 2(3) Atodlen 1

ATODLEN 4DOSBARTHIAD TATWS HADYD

RHAN ITatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd cyn-sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, caiff eu dosbarthu fel tatws hadyd o unrhyw un o'r dosbarthiadau a bennir yng ngholofn 1 o dabl 1 pan fo wedi'i fodloni yn sgil archwiliad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni.

Tabl 1

Colofn 1Colofn 2
DosbarthGofynion
TC cyn-sylfaenol

(1Rhaid i'r tatws hadyd—

(a)bod yn deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu; a

(b)bod wedi eu cadw rhag—

(i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

(ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

(iv)sgrwff yn y pridd

Cyn-sylfaenol 1

(2Rhaid i'r tatws hadyd—

(a)bod yn deillio—

(i)o stoc cenhedlol neu o gloron a gyflenwyd gan ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a gafodd eu tyfu ar uned lle nad oes deunudd o rywogaeth Solanaceae na deunydd arall, ac eithrio deunydd sy'n deillio o stoc cenhedlol neu o gloron sydd wedi cael eu profi sy'n dod o ffynhonnell sy'n dderbyniol gan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael ei dyfu;

(ii)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel TC cyn-sylfaenol yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(iii)unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

(b)bod wedi eu cadw rhag—

(i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

(ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

(iv)sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 2

(3Rhaid i'r tatws hadyd—

(a)bod yn deillio—

(i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 1 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(ii)unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

(b)bod wedi eu cadw rhag—

(i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

(ii) ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

(iv)sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 3

(4Rhaid i'r tatws hadyd—

(a)bod yn deillio—

(i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(ii)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

(b)bod wedi eu cadw rhag—

(i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

(ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

(iv)sgrwff yn y pridd.

Cyn-sylfaenol 4

(5Rhaid i'r tatws hadyd—

(a)bod yn deillio—

(i)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel cyn-sylfaenol 3 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(ii)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo; a

(b)bod wedi eu cadw rhag—

(i)firysau tatws A, M, S, X, Y, crychni'r dail, firws tatws top mop, firws trwst tybaco a marwoldeb gwythiennol tybaco neu unrhyw firws arall o bwys,

(ii)ysgub y gwrachod a phydredd du'r coesyn,

(iii)gwyriadau mewn amrywogaeth a math, a

(iv)sgrwff yn y pridd.

RHAN IITatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd sylfaenol

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol, caiff eu dosbarthu fel tatws hadyd—

(a)o unrhyw un o'r dosbarthiadau a bennir yng ngholofn 1 o dabl 2 pan fo wedi'i fodloni yn sgil archwiliad bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni ac nad aethpwyd dros ben y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 o ran y tatws hynny; neu

(b)Gradd Gymuned pan fo wedi'i fodloni yn sgil archwiliad bod gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/17/EEC dyddiedig 30 Mawrth 1993 sy'n pennu Gradd Gymuned tatws hadyd sylfaenol, ynghyd â'r amodau a'r dynodiadau sy'n gymwys i raddau o'r fath(22) wedi eu bodloni.

Tabl 2

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
DosbarthGofynionGoddefiannau
Super Elite 1 (SE1)

(6Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu o stoc dosbarthiedig o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991 fel VTSC 1 neu VTSC 2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(b)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo;

(i)amrywiad mewn amrywogaeth amath a sgrwff yn y pridd — 0.05%.

(ii) amryliw trwm — dim

(iii) crychni'r dail — 0.01%.

(iv)amryliw cymhedrol — 0.05%.

(v) pydredd du'r coesyn — 0.25%.

Super Elite 2 (SE2)

(7Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel SE1 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(b)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo;

Megis ar gyfer dosbarth SE1.
Super Elite 3 (SE3)

(8Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel SE2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(b)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

Megis ar gyfer dosbarth SE1.
Elite 1 (E1)

(9Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc a gafodd ei ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol neu datws hadyd sylfaenol (ac eithrio dosbarth E1, E2, E3 neu A) yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(b)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

(i)amrywiad mewn amrywogaeth a math asgrwff yn y pridd — 0.05%.

(ii)cyfanswm clefyd firws (crychni'r dail, amryliw trwm ac amryliw ysgafn) — 0.5% gyda dim mwy na 0.1% o'r cyfanswm yn grychni'r dail ac amryliw trwm.

(iii)pydredd du'r coesyn — 0.5%.

Elite 2 (E2)

(10Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel E1 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd;

(b)o datws hadyd sylfaenol o Radd Gymuned EC gradd 1 neu EC gradd 2; neu

(c)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

Megis ar gyfer tatws dosbarth E1.
Elite 3 (E3)

(11Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o stoc a gafodd ei ddosbarthu fel E2 yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd; neu

(b)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

Megis ar gyfer tatws dosbarth E1.
A

(12Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi deillio—

(a)o fewn y rhanbarth sydd wedi ei ddiogelu, o stoc a gafodd ei ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol neu datws hadyd sylfaenol (ac eithrio dosbarth A) yn y flwyddyn cyn plannu'r cnwd;

(b)y tu allan i'r rhanbarth a ddiogelir, o stoc o datws hadyd cyn-sylfaenol neu datws hadyd sylfaenol o Radd Gymuned EC gradd 3; neu

(c)o unrhyw datws hadyd eraill o fath y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

(i)amrywiad mewn amrywogaeth a math a sgrwff yn y pridd — 0.1%.

(ii)cyfanswm clefyd firws — 0.8% gyda dim mwy na 0.4% o'r cyfanswm yn grychni'r dail ac amryliw trwm.

(iii) pydredd du'r coesyn — 1.0%.

RHAN IIITatws hadyd y mae modd eu marchnata fel tatws hadyd ardystiedig

Wrth wneud penderfyniad at ddibenion Atodlen 1, paragraff 1(b), pan fo swyddog awdurdodedig yn penderfynu bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig, rhaid iddo eu dosbarthu fel tatws hadyd o ddosbarth a elwir yn ddosbarth CC pan fo wedi'i fodloni drwy sampl bod y gofynion a bennir yng ngholofn 2 o dabl 3 o ran y dosbarth hwnnw wedi eu bodloni ac nad aethpwyd dros ben y goddefiannau a bennir yng ngholofn 3 o ran y tatws hynny.

Tabl 3

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
DosbarthGofynionGoddefiannau
CC

Rhaid i'r tatws hadyd fod wedi eu cynhyrchu —

(a)

yn uniongyrchol o datws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol, neu datws hadyd ardystiedig; neu

(b)

o gnwd a dyfwyd gydag awdurdod y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn amgylchiadau y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn dderbyniol ganddo.

(i)crychni'r dail ac amryliw trwm —

(ii)amryliw ysgafn — 5.0%. cyn belled ag nad yw cyfanswm y crychni'r dail a'r amryliw ysgafn yn fwy na 5%

(iii)pydredd du'r coesyn — 2.0%;

(iv)gwyriadau mewn amrywogaeth a math a sgrwff yn y pridd — 0.5%, gydag 0.2% ohono yn wyriad mewn math.

Rheoliad 8

ATODLEN 5AWDURDODIAD I FARCHNATA TATWS HADYD AT DDIBENION PROFI A THREIALU

1.  Pan geir cais am awdurdodiad wedi'i wneud yn unol â rheoliad 8, rhaid i swyddog awdurdodedig—

(a)dyrannu i'r person sy'n gwneud cais o'r fath rif sydd i'w alw yn “Rhif adnabod y cynhyrchydd” (pan na fo un eisoes yn bod ar gyfer person hwnnw);

(b)cynnal archwiliad swyddogol ar y tatws hadyd er mwyn penderfynu a yw gofynion yr Atodlen hon a Rhan IV o Atodlen 3 wedi'u bodloni; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraff 3 a rheoliad 8, dyroddi awdurdodiad i farchnata tatws hadyd at ddibenion profi a threialu.

2.  Rhaid i awdurdodiad ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)Rhif adnabod y cynhyrchydd;

(c)swm y tatws hadyd y rhoddir awdurdod i'w marchnata;

(ch)y cyfnod yr awdurdodir marchnata drosto;

(d)dyddiad dyroddi'r awdurdodiad; a

(dd)enw arfaethedig amrywogaeth y tatws hadyd.

3.  Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio â dyroddi awdurdodiad onid yw wedi'i fodloni—

(a)bod y tatws hadyd o amrywogaeth y gwnaed cais, o dan rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001, i dderbyn yr amrywogaeth honno ar Restr Genedlaethol ac nad yw'r cais hwnnw wedi ei dynnu'n ôl ac na fu dyfarniad terfynol arno;

(b)nad w'r tir y mae'r tatws hadyd yn tyfu arno neu lle tyfwyd hwy yn dir a ddynodwyd o dan Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi'i halogi gan Glefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc.) neu ei fod o fewn parth diogelwch sydd wedi ei ddynodi o dan Gorchymyn hwnnw;

(c)bod y tir lle mae'r tatws yn tyfu neu lle cawsant eu tyfu yn dir nad yw wedi ei halogi gan rywogaeth Globodera sy'n heintio tatws;

(ch)bod y tatws hadyd wedi eu cymryd o gnwd o datws hadyd sy'n iach oddi wrth rywogaeth Globodera sy'n heintio tatws, Synchytrium endobioticum (Schilb.) Perc., Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieck. & Kotth.) Davis et al. a Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.);

(d)nad yw nifer y planhigion sy'n tyfu yr effeithir arnynt gan bydredd du'r coesyn yn fwy na 4 y cant;

(dd)bod y cnwd olynol uniongyrchol a gynhyrchir o'r tatws hadyd, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn debygol o gynnwys—

(i)dim mwy na 0.5 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n tyfu nad ydynt yn epilio yn driw i'w hamrywogaeth a dim mwy na 0.2 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sydd o amrywogaeth wahanol; a

(ii)dim mwy na 10 y cant yn ôl Rhif o blanhigion sy'n tyfu sy'n dangos symptomau, ac eithrio symptomau ysgafn, o glefydau firws difrifol sy'n gyffredin yn Ewrop (mae heintiau amryliw ('mosaics') ysgafn sy'n peri bod deilen yn arddangos gwahanol liwiau ond nad yw'n peri anffurfio'r ddeilen i gael eu hanwybyddu);

(e)bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw'r tatws hadyd wedi'u heffeithio gan unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau, plâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn rhan IV o Atodlen 3.

Rheoliad 15

ATODLEN 6GWYBODAETH O RAN TATWS HADYD O FWY NA DAU GILOGRAM A GYNHYRCHIR MEWN GWLAD AC EITHRIO AELOD- WLADWRIAETH

  • Rhywogaeth

  • Amrywogaeth

  • Categori

  • Gwlad lle cynhyrchir a'r Awdurdod Ardystio

  • Gwlad lle'r anfonir

  • Mewnforiwr

  • Swm y tatws hadyd

Rheoliad 16

ATODLEN 7MANYLION I'W NODI AR NODYN GWERTHIANT, ETC.

  • Enw a chyfeiriad y gwerthwr

  • Pwysau net (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol)

  • Rhywogaeth (ac eithrio tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig)

  • Amrywogaeth

  • Categori

  • Dosbarth (yn ôl priodoldeb)

  • Gradd Gymuned (os yn gymwys)

  • Maint (ac eithrio tatws hadyd cyn-sylfaenol)

  • Rhif adnabod y cynhyrchydd neu (ac eithrio ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru) Rhif cyfeirnod lot yr had

  • Manylion unrhyw driniaeth gemegol

Rheoliad 24

ATODLEN 8DIRYMIADAU

(1)(2)
Y Rheoliadau sy'n cael eu DirymuCyfeirnodau
Rheoliadau Tatws Hadyd (1991)O.S. 1991/2206
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1992O.S. 1992/1031
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1993O.S. 1993/1878
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1994O.S. 1994/2592
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1997O.S. 1997/1474
Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001O.S. 2001/3666

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Tatws Hadyd 1991 (O.S. 1991/2206), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/1031), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/1878), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/2592), Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1474) a Rheoliadau Tatws Hadyd (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3666).

Mae'r Rheoliadau yn rheoli cynhyrchu gyda'r bwriad o farchnata, ardystio a marchnata tatws hadyd yng Nghymru, ac eithrio'r rheini y bwriedir eu hallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd, ac maent yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC dyddiedig 13 Mehefin 2002 ar farchnata tatws hadyd (OJ L 193, 20.7.2002, t.60), fel y'i diwygiwyd, sy'n cydgrynhoi cyfraith flaenorol y Gymuned. Maent hefyd yn rhoi effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2004/842/EC dyddiedig 1 Rhagfyr 2004 sy'n gosod dan ba amodau y gellir marchnata, at ddibenion profi a threialu, tatws hadyd na chawsant eu hychwanegu eto at Restr Genedlaethol, sy'n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy'n perthyn i amrywogaethau y mae cais i'w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno (OJ L 362, 9.12.2004, t.21).

Mae rheoliad 4 yn gwahardd marchnata unrhyw datws hadyd onid ydynt wedi cael eu hardystio naill ai fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, neu sylfaenol neu ardystiedig, neu onid ydynt wedi cael eu hawdurdodi i'w marchnata at ddibenion gwyddonol neu at waith dethol neu at ddibenion profi a threialu. Ar gyfer tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, mae'n rhaid i ardystio, gan gynnwys penderfynu ar y categori a'r dosbarth y dylid marchnata'r tatws ynddo, ddigwydd yn unol â gofynion rheoliad 9.

Mae rheoliad 5 yn cymhwyso gofynion llymach i datws hadyd sydd i gael eu marchnata yn y “ rhanbarth sydd wedi ei ddiogelu” (“protected region”) (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1)). Mae rheoliad 6 yn darparu na ellir marchnata tatws hadyd onid ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion maint a osodir gan y rheoliad.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) awdurdodi marchnata tatws hadyd fesul ychydig at ddibenion gwyddonol neu waith dethol a thatws hadyd at ddibenion profi a threialu.

Mae rheoliad 11 yn darparu mai mewn pecynnau neu gynhwysyddion yn unig y gellir marchnata tatws hadyd (ac eithrio mân werthiannau fesul ychydig o datws hadyd sy'n cyfarfod amodau rheoliad 17). Dim ond os ydynt wedi eu labelu a'u selio (rheoliadau 12 ac 13), gyda'r labelau'n dwyn y manylion a bennir yn Atodlen 2 y gellir marchnata tatws hadyd mewn pecynnau neu gynhwysyddion (ac eithrio'r rheini yr awdurdodir eu marchnata at ddibenion gwyddonol neu waith dethol). Mae'n rhaid i ddogfennau sy'n mynd gyda thatws hadyd a gafodd eu haddasu'n enetig gynnwys cyfeiriad at y ffaith honno (rheoliad 14).

Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer cymryd samplau fel rhan o'r broses ardystio neu i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaethau'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 20 yn rhoi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i archwilio tatws hadyd a dogfennau perthnasol ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno iddo ar gyfer hynny.

Mae rheoliad 21 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu'n ôl labelau swyddogol neu ddogfennau swyddogol sy'n ymwneud â thatws hadyd y canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion a osodir gan y Rheoliadau.

Mae mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau yn dramgwydd o dan adran 16(7)(b) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 (p.14) sy'n dwyn atebolrwydd ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys diwygiadau drafftio a diwygiadau eraill o ganlyniad i ddatganoli swyddogaethau i Weinidogion yr Alban, o ran yr Alban, ac i'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran Cymru.

Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi (p.68), O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”.

(2)

O dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac atodlen 1 iddo trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)

OJ L 106, 17.4.2001, t.1.

(4)

OJ L 268, 18.10.2003, t.24.

(5)

OJ L 114, 30.4.2002, t.166. Cafodd hwn, ynghyd â chwe Chytundeb arall gyda Chydffederasiwn y Swistir, ei gymeradwyo gan y Cyngor a'r Comisiwn drwy Benderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn 2002/309/EC, Euratom, OJ L 114, 30.4.2002, t.1.

(6)

OJ L 301, 28.9.2004, t.55.

(8)

OJ L106, 30.4.1993, t.7. Cyfeirir at y graddau gradd 1 EEC, gradd 2 EEC a gradd 3 EEC a geir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 93/17/EEC bellach fel gradd 1EC, gradd 2 EC a gradd 3 EC yn eu trefn: gweler cyfeiriadau yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn ar 19 Rhagfyr 2003 yn awdurdodi, mewn perthynas â marchnata tatws hadyd yn y cyfan neu mewn rhan o Aelod-wladwriaethau penodol, mesurau llymach yn erbyn clefydau penodol nac y darperir ar eu cyfer yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC (OJ L2, 6.1.2004, t47).

(9)

OJ L 193, 20.7.2002, t.60.

(10)

OJ L 25, 30.1.2003, t.42.

(11)

OJ L 165, 3.7.2003, t.23.

(12)

OJ L 362, 9.12.2004, t.21.

(13)

OJ L 268, 18.10.2003, t.1.

(15)

OJ L 193, 20.7.2002, t.1.

(16)

1947 t.48.

(17)

OJ L 2, 6.1.2004, t.47.

(18)

1967 p.8.

(19)

Mewnosodwyd adran 25 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 3, Rhan III ac Atodlen 4, paragraff 5(2) a chan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48), Atodlen 6, paragraff 16.

(20)

1998 p.38.

(22)

OJ L106, 30.4.1993, t.7.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources